You are on page 1of 3

Gwersylloedd a Lleoliadau

Mae Gwersylloedd y Mudiad yn cynnig pob math o bethau - cyfeillion gwych, gweithgareddau amrywiol, astudiaethau a sgyrsiau bywiog am y Beibl. Os ydych wedi bod sawl gwaith, neun meddwl dod am y tro cyntaf, cewch groeso cynnes ar Wersyll MEC.
Mae neges y Beibl yn ganolog i holl wersylloedd MEC. Mae gan bob gwersyll Gaplan a fydd yn trafod thema or Beibl gydar gwersyllwyr bob dydd, syn addas i oedran y gwersyll, boed y gwersyllwyr yn mynychu eglwys neu beidio. Caiff pob gwersyllwr ei roi mewn ystafell wely gyda thri neu bedwar o wersyllwyr eraill, gyda swyddogion ymroddgar yn gofalu amdanynt trwy arwain astudiaethau beiblaidd, bod ar gael trwy gydol yr wythnos a sicrhau bod pawb yn y grwp yn elwa o holl weithgareddaur gwersyll. Mae staff y gwersylloedd i gyd yn wirfoddolwyr Cristnogol wedi eu cyrchu o eglwysi efengylaidd. Ar gyfartaledd, bydd 1 swyddog i bob 3 gwersyllwr. Maen ofynnol ir arweinwyr ar swyddogion gyflwyno geirda gan eu heglwys a chwblhau gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol. Mae cydweithion rhan hanfodol o wersyll, yn y gemau ar tasgau ysgafn a roddir ir timau. Maen gyfle da i wneud ffrindiau ac adnewyddu cyfeillgarwch. Cyfyngir niferoedd y gwersylloedd yn fwriadol (tua 35-50 mewn gwersyll) i sicrhau bod pawb yn dod i nabod ei gilydd, hyd yn oed y gwersyllwyr swil. Yn aml caiff y gwersyllwyr yr un faint o anogaeth gan ffrindiau newydd ag a gnt gan y caplan ar swyddogion. Mae gan bob gwersyll ddewis eang o weithgareddau; mae na rywbeth i blesio pawb, hyd yn oed y gwersyllwr mwyaf diddiddordeb! Chwaraeon, celf a chrefft, cystadlaethau, canwio, teithiau ir traeth, tennis-bwrdd, nofio: dyma rai or gweithgareddau posibl. (Mae darparwyr gweithgareddau trwyddedig yn cael eu defnyddio ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.) Maer nosweithiau yn gyfle i fwynhau adloniant. Dyna sydd mor arbennig am wersylloedd MEC. Dyna pam mae cymaint o wersyllwyr yn dod nl bob blwyddyn, ar gwersylloedd yn llenwi mor gyflym. Mae Llys Andreas wedi ei leoli ym mhentref Talybont, i'r gogledd o'r Bermo, ar arfordir gorllewinol Gogledd Cymru. Mae'n safle diogel a hardd. Mae yma adnoddau coginio ac ystafell fwyta mewn adeiladau parhaol, a defnyddir 'marquee' mawr ar gyfer y cyfarfodydd a'r gweithgareddau. Bydd y gwersyllwyr yn cysgu mewn pebyll mawr cadarn, sydd wedi eu dodrefnu a gwelyau campio a golau trydan. Mae toiledau, cyfleusterau ymolchi a chawodydd poeth mewn bloc parhaol dan do yn ogystal. Felly dyma'r gorau o ddau fyd - cyffro gwersyll awyr agored a hwylustod a moethusrwydd adnoddau dan do! Mae'r safle yn agos i'r traeth a'r mynyddoedd, ac yn ganolfan gwych i fwynhau wythnos o wersyll. Mae Bryn-y-groes wedi bod yn gartref hapus i'r gwersyll ers blynyddoedd maith. Mae ei leoliad yn hwylus wrth ymyl tref y Bala ac o fewn pellter cerdded i Lyn Tegid. Mae cyfleusterau cyfforddus yno, ystafell gyfarfod ^ ac ystafell gemau amlbwrpas. Mae'r ty mewn gerddi braf ac yn gyfleus i Ganolfan Hamdden y Bala. Archebwch le mor gynnar ag syn bosib!

as dre s An Lly

Bal

Gwersylloedd
10-13 oed
13. 11-18 AWST

LLYS ANDREAS, Ger BERMO (AWYR AGORED)


Arweinydd: Steffan Elis Arweinyddes: Amanda Griffiths Cymraeg Caplan: * Dewi Tudur Lewis

125

14-18 oed

*Lle bydd brawd neu chwaer ar wersyll, maer plentyn cyntaf yn talun llawn, a phob plentyn arall yn derbyn gostyngiad o 10.

14. 11-18 AWST

BRYN-Y-GROES, Y BALA
Arweinydd: Aled Myrddin Arweinyddes: Gwenno Jones Caplan: Cymraeg Martin Williams *

195

Sut i archebu
Er mwyn archebu, llenwch y ffurflen gyferbyn ai hanfon ir cyfeiriad ar waelod y dudalen. Gofynnir am flaendal o 30, na ellir ei ad-dalu. Rhaid anfon gweddill y taliad erbyn 31 Mai 2012, er bod modd talun llawn wrth archebu. Os byddwch am dynnun l lai na phedair wythnos cyn dechraur gwersyll, dim ond hanner y taliad (heb gynnwys y blaendal) ad-delir. Derbynnir archebion o 20 Chwefror 2012.

Ymddygiad
Rydym yn edrych ymlaen at wythnos o hwyl gydan gilydd. Efallai i rai ohonoch bydd y profiad o dreulio wythnos gyda rhyw hanner cant o bobl eraill yn brofiad newydd, ond mae hyn yn un or pethau a fydd yn gwneud yr wythnos yn brofiad gwahanol. Er mwyn i bawb gael y gorau or wythnos, ac er mwyn diogelwch pawb, nodwn rai rheolau ar safonau beiblaidd sydd ynghlwm wrth wersylloedd y Mudiad. Maer rheolau ar termau isod i raddau yn adlewyrchur safonau hynny.

Ffurflen Archeb
Gwersyllwr: Enw(au) cyntaf: Cyfeiriad: Ffn: Enw eglwys neu ysgol: Dyddiad geni: Oed ar 31 Awst 2012: blwyddyn mis Cyfenw: Cd Post: e-bost: Gwersyll och dewis: A ydych eisiau lle ar y bws ir gwersyll? Rhyw: G/B

Teithio: Bydd bysiau yn cludo plant ir gwersylloedd drwy gydol yr haf, gyda swyddogion yn gofalu am ddiogelwch y gwersyllwyr. Maer daith yn costio 38 (dwy ffordd). Er mwyn sicrhau lle rhaid talu blaendal o 8 na ellir ei ad-dalu. Danfonir manylion pellach ar l derbyn eich archeb. Gostyngiad: Gallwch ofyn am ostyngiad os ydych yn derbyn
Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, neu Credyd Treth Gwaith (ddim yn cynnwys taliadau am ofal plant). Fe allwch ofyn am grant o gronfa Anti Bessie. Maen arferol rhoi grant o 50 ar gyfer gwersylloedd dan do a 30 am wersylloedd awyr agored.

Cymryd rhan: Mae na ddisgwyl y bydd pawb yn cymryd rhan yn y


gweithgareddau a fydd yn cael eu trefnu. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaeth dyddiol ac astudiaethau beiblaidd mewn grwpiau.

Diogelwch: Er mwyn eich diogelwch chi ac eraill, bydd gofyn i chi roi
sylw i gyfarwyddiadaur swyddogion yn ystod yr holl weithgareddau.

Yswiriant: Mae pob gwersyll yn dod o dan yswiriant atebolrwydd


cyhoeddus MEC, ond argymhellir i bob gwersyllwr gael yswiriant gwyliau personol.

Niwed a lladrad: Byddwn yn delio yn ddifrifol ag unrhyw niwed i eiddor Ganolfan neu eiddo rhywun arall neu unrhyw ladrad. Ystafelloedd: Nid yw bechgyn i fynd i ystafelloedd y merched na
merched i ystafelloedd y bechgyn o dan unrhyw amodau. Ni ddylech fynd i ystafell un or gwesteion eraill heb wahoddiad.

Os oes gan eich plentyn unrhyw anghenion meddygol neu ymddygiadol arwyddocaol gallai effeithio ar drefniadaur arweinydd ar gyfer y gwersyll, rhowch manylion isod:

Ar l archebu: Byddwch yn derbyn cadarhd och archeb. Yn


ddiweddarach, bydd arweinydd y gwersyll yn ysgrifennu atoch yn uniongyrchol.

Ymddygiad personol: Disgwylir safon dderbyniol o ymddygiad bob


amser. Byddwn yn llawdrwm ar unrhyw gamymddwyn.

Alcohol, smygu ac ati: Pwysig: Maen allweddol fod arweinydd y gwersyll yn deall unrhyw
anghenion addysgol, ymddygiadol neu feddygol sydd gan y gwersyllwyr. Trwy dderbyn y wybodaeth hon gydar ffurflen gais, bydd modd inni ymateb ir anghenion hyn. Oni anfonir y wybodaeth wrth archebu, maen bosibl na fyddwn yn gallu paratoi darpariaeth ar gyfer gwersyllwyr fyddai wedi gallu mynychu fel arall. Gallwch dalu gyda siec, archeb bost, cerdyn credyd/debyd neu ar-lein drwy ein gwefan. Gallwch hefyd drefnu debyd uniongyrchol misol. Os hoffech fwy o daflenni, gellir lawrlwytho taflenni or wefan www.mudiad-efengylaidd.org/gwersylloedd. Gallwch hefyd lenwi ffurflen archeb ar-lein a thalu efo cherdyn debyd/credyd. Ni chaniateir alcohol na smygu tu fewn nac ar dir unrhyw un or canolfannau. Ni chaniateir smygu nac alcohol ar fysiaur gwersyll nac yn ystod unrhyw weithgareddau. Nid oes hawl bod ag unrhyw ddeunyddiau y bernir eu bod yn anghyfreithlon yn l rheolaur Llywodraeth.

Anfonir ffurflen feddygol manwl atoch yn nes ymlaen.

Amgaeaf
Blaendal gwersyll: Blaendal bws (8 os yn briodol): Ffioedd pellach (os dymunir):
(bydd unrhyw roddion dderbynir yn cael ei ddefnyddio i helpu plant eraill fynychr gwersylloedd eleni)

Talu:

Offer sain: Yn enw diogelwch, cysylltiadau da a pheidio ag aflonyddu


eraill, ni chaniateir defnyddio unrhyw offer sain personol (teledu, gmau cyfrifiadur, MP3, radio, neu grynoddisg). Wrth lofnodir ffurflen archebu nodwch, os gwelwch yn dda, eich bod yn addo ufuddhau i reolaur gwersyll. Gobeithiwn wrth egluror pethau hyn ar y dechrau na fydd angen delio neb fydd yn torrir rheolau. Maen nhw wedi eu creu ar gyfer lles pawb, ac maer arweinwyr yn teimlo ei bod yn bwysig eu bod yn cael eu cadw. Yn dilyn unrhyw droseddu, felly, byddai canlyniadau pendant. Gallai torri rheolaun fwriadol arwain at gael eich danfon or gwersyll heb ad-daliad or ffioedd.

O dro i dro byddwn yn defnyddio lluniau a dynnwyd yn y gwersylloedd ar gyfer cyhoeddusrwydd (e.e. y daflen hon neu fideo). Nodwch os ydych yn gwrthwynebu ich plentyn ymddangos yn y rhain. Byddem yn hoffi anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau perthnasol MEC a llythyron gweddi yn achlysurol. Nodwch os nad ydych am eu derbyn. Os hoffech dderbyn manylion am ein opsiwn taliadau hawdd, sydd yn ymestyn y taliadau dros y misoedd nesaf, ticiwch y blwch os gwelwch yn dda. Does dim pris am ddefnyddior gwasanaeth yma, ond nid yw ar gael os nad ydych yn archebu lle o leiaf wyth wythnos cyn y gwersyll. Please tick this box if you would like to receive correspondence in English (Welsh Camp bookings only)

30

Rhodd Cyfanswm:

Mudiad Efengylaidd Cymru, Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX


gwersylloedd@mudiad-efengylaidd.org Elusen Gofrestredig 222407

Sieciau yn daladwy i: Mudiad Efengylaidd Cymru Llenwch y manylion ar y dde os ydych am dalu trwy gerdyn credyd/debyd.

Rhif cerdyn: Enw ar y cerdyn: Dyddiad terfyn: Rhif cyhoeddi: Arwydder: Cod diolgelwch:
(tri rhif ^ gefn y cerdyn) olaf

Gwersyllwr:

(arwydder)
Trwy arwyddo rydych yn cytuno i gydymffurfio rheolaur gwersyll.

(Switch yn unig)

(printiwch enw llawn) Rhiant/ Gwarchodwr: (arwydder)


Os yn talu cherdyn, rhaid mai deiliad y cerdyn ywr rhiant syn arwyddo.

Dylid anfon archebion ar gyfer y Gwersylloedd Cymraeg at 34 Bro Rhiwen, Rhiwlas, Bangor, LL57 4EL.
Designed by Creative Media Publishing Ltd: 01803 390569

You might also like