You are on page 1of 16

De Cymru ● South Wales

Deddf Cyfiawnder am Droseddau

A Gwasanaethau Llys 2000

Adroddiad Blynyddol

1af Ebrill 2001 – 31ain Mawrth 2002

Datganiad Cenhadaeth
‘Mae gan y cyhoedd yn Ne Cymru yr hawl i ddisgwyl Asiantaethau
Cyfiawnder am Droseddau a Sefydliadau Cyhoeddus a Gwirfoddol
i gydweithio i sicrhau eu diogelwch. Mae’r Heddlu a’r
Gwasanaethau Prawf yn Ne Cymru yn cydnabod y gellir ond cael
diogelwch o’r fath drwy ymateb cydweithrediadol i asesiad risg a
datblygiad a gweithrediad cynllun rheoli ar gyfer arolygu
troseddwyr sydd â’r potensial i fod yn beryglus a throseddwyr
rhyw.’

1
1. Cyflwyniad
1.1 Dechreuodd trefniadau lleol yn Ne Cymru fel ymateb i Ddeddf
Troseddwyr Rhyw 1997 pan ddechreuodd yr Heddlu a’r Gwasanaeth
Prawf wneud trefniadau ar y cyd ar gyfer asesu a rheoli troseddwyr
rhyw cofrestredig. Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi adeiladu
ar y trefniadau hynny ac erbyn hyn mae gennym brotocolau aml
asiantaeth sydd wedi eu cytuno gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf,
Carchardai, Iechyd, Tai Awdurdod Lleol, Cymdeithasau Tai a’r
Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer asesu a rheoli troseddwyr rhyw a
throseddwyr eraill all fod yn beryglus. Bydd y ddogfen hon yn rhoi
rhagor o fanylion am y trefniadau a wnaed yn Ne Cymru a rhoi
mannau cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau pellach drwy’r Heddlu
a’r Gwasanaeth Prawf.

2. Crynodeb o Rolau a Chyfrifoldebau


2.1 Yn 1998 daeth Heddlu De Cymru a’r hyn oedd bryd hynny’n
Wasanaethau Prawf Morgannwg Ganol, De a Gorllewin Morgannwg
yn gydlofnodwyr i’r protocol yn dwyn y teitl “Strategaeth Diogelu’r
Cyhoedd ar Asesiad Risg a Rheoli Troseddwyr Peryglus”.

2.2 Yn 1999 daeth Heddlu De Cymru, Gwasanaethau Prawf Morgannwg


Ganol, De a Gorllewin Morgannwg mewn cydweithrediad â’r saith
awdurdod lleol sy’n gwneud Ardal De Cymru sef:

- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr


- Cyngor Dinas a Sir Caerdydd
- Cyngor Dinas a Sir Abertawe
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Bro Morgannwg

yn gydlofnodwyr i Femorandwm o Ddealltwriaeth yn ymwneud ag


“Asesiad Risg a Rheoli Troseddwyr Rhyw yn ardal Heddlu De Cymru
yn unol â Deddf Troseddwyr Rhyw 1997”. Tanysgrifiodd pedwar ar
bymtheg o Gymdeithasau Tai yn ffurfiol i’r Memorandwm o
ddealltwriaeth hwn sef:

- Cymdeithas Tai Morgannwg a Gwent Cyfyngedig


- Cymdeithas Tai Merthyr Tudful Cyfyngedig
- Cymdeithas Tai Hafod Cyfyngedig
- Cymdeithas Tai Hafod
- Taff Housing
- Cymdeithas Tai Pontypridd a’r Ardal
2
- Cymdeithas Tai Rhondda
- Cymdeithas Tai Gwalia Cyfyngedig
- Cymdeithas Tai Cadwyn
- Cymdeithas Tai Dewi Sant
- Cymdeithas Tai Teulu (Cymru) Cyfyngedig
- Cymdeithas Tai Newydd
- Cymdeithas Tai Abertawe
- Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd Cyfyngedig
- Consortiwm Tai Gorllewin Morgannwg
- Cymdeithas Tai Cynon-Taf Cyfyngedig
- Cymdeithas Tai Wales and West Cyfyngedig
- Tai Trothwy
- Cymdeithas Tai United Welsh Cyfyngedig

2.3 Yn 1999 cydweithredodd Heddlu De Cymru gyda:

- Awdurdod Iechyd Bro Taf


- Awdurdod Iechyd Morgannwg
- Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg
- Ymddiriedolaeth GIG Cymunedol Caerdydd a’r Ardal
- Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Prifysgol Cymru a Llandochau
- Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg
- Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda
- Ymddiriedolaeth GIG Abertawe
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre

a dod yn gydlofnodwyr i Femorandwm o Ddealltwriaeth yn ymwneud


â “Asesiad Risg a Rheoli Troseddwyr Rhyw Dryslyd eu Meddwl yn
unol â Deddf Troseddwyr Rhyw 1997”.

2.4 Mae Memoranda o Ddealltwriaeth pellach wedi ei lunio mewn


partneriaeth â Heddlu De Cymru, Gwasanaethau Prawf Morgannwg,
De a Gorllewin Morgannwg, Carchar Brynbuga a Sefydliad Troseddau
Ieuenctid Parc, Carchar Caerdydd a Charchar Abertawe yn ymwneud â
“Rhyddhau Carcharorion Peryglus”.

2.5 Mae’r cydlofnodwyr i bob un o’r Memoranda a ddisgrifir uchod wedi


ymgymryd i:

- Rannu gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â throseddwyr rhyw ac


felly’n cyfrannu i asesiad risg y troseddwyr hynny.
- Cyfrannu i fonitro a rheoli troseddwr o’r fath drwy weithio ar y
cyd.
3
- Lleihau’r bygythiad posib o ail droseddu drwy drefniadau
cydweithrediadol, ac felly lleihau nifer dioddefwyr camdriniaeth
rhywiol yn ardal De Cymru.

2.6 Awdurdodau Unedig – Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a


Tai
Mae gan y saith Awdurdod Unedol yn Ne Cymru ystod eang o
gyfrifoldebau statudol. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau i
grwpiau sy’n agored i niwed, yn oedolion a phlant. Mae’r
gwasanaethau yn hyrwyddo diogelwch a lles, sy’n cydbwyso
anghenion a dymuniadau yr unigolyn gyda diogelwch y gymuned
ehangach. Mae pob adran yn cydnabod gwerth gwaith cydweithredol
ac yn ymroddedig i gydweithio er mwyn rheoli risg a diogelwch y
cyhoedd.

2.7 Cymdeithasau Tai


Mae’r Cymdeithasau Tai a restrwyd yn gynharach yn yr adroddiad yn
cydnabod yr angen i gydweithio gyda’r asiantaethau statudol i sicrhau
diogelwch y cyhoedd. Felly mae pob un o’r Asiantaethau yn
ymroddedig i gefnogi Fframwaith Strategol De Cymru ar gyfer asesu a
rheoli troseddwyr sydd â’r potensial i fod yn beryglus.

2.8 Iechyd
Mae’r Awdurdodau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau GIG a restrwyd ym
mharagraff 2.3 yn darparu amrediad o wasanaethau iechyd meddwl.
Maent yn ymwybodol o’r cyfraniad mawr y gallant ei wneud er mwyn
rhwystro niwed a hunan niwed ac felly’n ymroddedig i weithio mewn
partneriaeth gyda sefydliadau eraill.

2.9 Carchardai
Mae’r pedwar Carchar yng Nghymru a restrir uchod yn cydnabod
pwysigrwydd eu rôl o ran diogelwch y cyhoedd. Mae pob un yn
ymroddedig i sicrhau bod carcharorion yn destun asesiad risg priodol
cyn eu rhyddhau i’r gymuned. Cynhelir asesiad mewn cydweithrediad
ag asiantaethau statudol ac asiantaethau perthnasol eraill.

2.10 Mewn perthynas â’r Memorandwm o Ddealltwriaeth a ddatblygwyd


mewn partneriaeth gan Heddlu De Cymru a’r saith Awdurdod Unedol
sy’n ffurfio ardal De Cymru, cododd anhawster arbennig yn 1999.
Roedd yr anhawster yn ymwneud â’r pedoffilydd anrheithgar peryglus,
a’r canlyniad oedd bod un awdurdod Unedig wedi eithrio o’r
cytundeb. Dilynodd safiad yr Awdurdod Leol hwnnw benderfyniad
cyngor, oedd yn datgan:
4
“1) Mae’r cyngor hwn yn ei ystyried yn holl-bwysig bod y gymuned
yn cael eu hysbysu pan fo unigolyn a ystyrir yn risg hysbys i blant am
drigo yn y gymuned ac yn penderfynu gwneud yn gyhoeddus y
wybodaeth sydd ar gael i’r cyngor, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau
cyfreithiol.

2) Gofynnir i’r Heddlu hysbysu’r cyngor o unrhyw enghreifftiau o hyn


fel bod y gymuned ac yn arbennig ysgolion, yn cael gwybodaeth o’r
risg bosib i blant.”

2.11 O ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw ni chymerodd cynrychiolwyr o’r


Awdurdod Lleol hwnnw ran yng Nghynadleddau MARAC (gweler
paragraff 3.3) a MAPPP (gweler paragraff 3.5) ble roedd yr unigolion
yn peri perygl i blant. Fodd bynnag, fel fynychodd cynrychiolwyr
Gynadleddau MARAC a MAPPP mewn perthynas â throseddwyr nad
oedd yn rhan o amodau’r penderfyniad.

2.12 Fodd bynnag, parhaodd trafodaethau rhwng Personél Uwch Heddlu, y


Gwasanaeth Prawf ac Awdurdod Lleol gyda’r bwriad i annog yr
Awdurdod hwnnw i ail-edrych ar eu penderfyniad. Ym mis Mawrth
2002 cytunodd y cyngor i ail-edrych ar eu safiad mewn perthynas â
gweithio partneriaeth aml asiantaeth. O ganlyniad mae’r awdurdod
hwnnw nawr yn llwyr ymroddedig i’r broses asesu risg a rhannu
gwybodaeth.

2.13 Mae Heddlu De Cymru a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (Ardal De


Cymru) wedi nodi bod y memoranda uchod wedi eu datblygu mewn
ymateb i Ddeddf Troseddwyr Rhyw 1997 ac felly canolbwyntiodd yn
benodol ar droseddwyr rhyw. Mewn ymateb i Ddeddf Cyfiawnder am
Droseddau a Gwasanaethau Llys 2000, sefydlwyd grŵp aml asiantaeth
gyda’r bwriad o lunio dogfen ‘Fframwaith Strategol Diogelu’r
Cyhoedd De Cymru’ fydd yn cwmpasu pob un o’r memoranda y
soniwyd amdanynt uchod. Bydd dogfen ‘Fframwaith Strategol
Diogelu Cyhoedd De Cymru’ yn ehangu’r ffocws i bob troseddwr
sydd â’r potensial i fod yn beryglus. Bydd hefyd yn cymryd i
ystyriaeth faterion y tynnwyd sylw atynt yng Nghynhadledd
Ranbarthol Diogelwch y Cyhoedd megis Cynrychiolaeth Leyg,
ymglymiad Troseddwr yn ogystal ag mewn digwyddiadau
hyfforddiant/codi ymwybyddiaeth ddiweddar megis cysondeb mewn
cyfarfodydd MARAC a MAPPP ac asesiad risg. Gwahoddir pob
asiantaeth i fod yn gydlofnodwr i’r ddogfen adolygedig newydd, y
bwriedir ei lansio yn gyhoeddus yn ddiweddarach eleni.

5
3. Amlinelliad o’r Trefniadau a Wnaed
3.1 Mae Heddlu De Cymru a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (ardal De
Cymru) wedi datblygu system dwy haen ar gyfer Asesu a Rheoli
Troseddwyr Rhywiol Treisiol a throseddwyr peryglus eraill.
(Gweler Ffigwr 1)
- Lefel 1 – Cynhadledd Asesu Risg Aml Asiantaeth (MARAC)
- Lefel 2 – Panel Diogelu’r Cyhoedd Aml Asiantaeth (MAPPP)

ACC (Awdurdod Datgelu)

Rhybudd cynnar I uned y


Swyddfa Gartref

Cam 3
DCI (Diodelu’r Cyhoedd) Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu
(Troseddwr Treisiol)
M.A.P.P.P
Ffacs wedi ei gyd-arwyddo
.Cais am M.A.P.P.P? Ffacs wedi ei gyd-arwyddo

Cam 2 M.A.R.A.C.
(May include AL1/GIG/ Carchar/
DI Rhanbarthol Mudiad gwirfoddol/TTI) Uwch Swyddog Prawf
(Troseddwyr Rhyw) (Troseddwer Treisiol)
Mor beryglus? A yw’r DI a’r SPO yn
cynto gyda’r asesiad gwreiddiol?

HEDDLU CARCHARDAI PRAWF


Cam 1 Asesu risg pob troseddwr Asesu risg pob toroseddwr
sydd â’r potensial i fod yn (Matrics Risg 2000 ar droseddwyr rhyw)
Trosglwyddiad beryglus Trosglwyddiad
Mewnol Mewnol
(Matrics Risg 2000 ar droseddwyr rhyw)

Hysbysiad
Pob carcharor wedi ei sgrinio/asesu cyn ei ryddhau
Troseddwr Rhyw Adroddiad Cyn dedfrydu
(Memorandwm o Ddealltwriaeth Carcher ei Mawrhydi Usk/Parc)
Matrics Risg 2000 Cyfrifoldeb wedi ei Rannu

Ffigwr1

3.2 Pryd bynnag y byddai ymdriniaeth ar y cyd neu aml asiantaeth yn


gwella Diogelwch y Cyhoedd, bydd yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf
ac unrhyw asiantaeth berthnasol arall e.e. Tai, Carchardai,
Gwasanaethau Cymdeithasol ayb yn rhannu gwybodaeth ac yn
gwneud cynlluniau ar y cyd os bydd angen. Ar gyfer troseddwyr risg
uchaf (yr ychydig rai difrifol) fe gynullir MAPPP.

3.3 Mae’r ‘Gynhadledd Asesu Risg Aml Asiantaeth’ (MARAC) yn


gynhadledd aml asiantaeth ffurfiol y gellid ei defnyddio i hwyluso’r
broses asesu risg gan droseddwyr nad sy’n rhai rhywiol neu
droseddwyr treisiol difrifol sydd â’r potensial i fod yn beryglus. Yn y
mwyafrif o achosion defnyddir y broses MARAC fel rhagarweiniad i
Gynhadledd MAPPP, fodd bynnag pan fod tystiolaeth sylweddol yn

6
cefnogi’r farn fod y troseddwr yn hynod beryglus yna gellir galw am
broses MAPPP ar unwaith.

3.4 Mae gan y Rheolwr Trosedd Rhanbarthol mewn cydweithrediad a’r


Uwch Reolwr Prawf perthnasol, y dewis i gynnal MARAC neu beidio.
Wrth wneud y penderfyniad hwn dylai ef neu hi ystyried pob achos ar
ei haeddiant. Os teimlir bod y dystiolaeth yn sylweddol ac yn dynodi
bod y troseddwr yn cynrychioli risg sylweddol i’r cyhoedd, yna dylid
ystyried o ddifrif cynnal MARAC fel y gall asiantaethau eraill sy’n
debygol o gyfrannu i’r broses asesu risg gymryd rhan. Os yw’r
Heddlu yn penderfynu cynnal MARAC, yna cyfrifoldeb y Rheolwr
Troseddau Rhanbarthol perthnasol fydd trefnu/cadeirio a chadw
cofnodion.

3.5 Os bydd MARAC yn penderfynu bod troseddwr yn cynrychioli


graddau uchel o risg i’r cyhoedd gall y gynhadledd argymell bod yr
achos yn cael ei gyfeirio i ‘Banel Diogelu’r Cyhoedd Aml Asiantaeth’
(MAPPP). Neu mewn achosion eithriadol ble mae tystiolaeth ysgubol
yn cefnogi’r farn bod y troseddwr yn cynrychioli risg eithriadol o
uchel i’r cyhoedd gall y Rheolwr Trosedd Rhanbarthol a’r Uwch
Reolwr Prawf gytuno i wneud cais ffurfiol i gynnal Cynhadledd
MAPPP cyn galw proses MARAC yn gyntaf.

3.6 Os mai’r Heddlu sy’n gyfrifol am gychwyn y penderfyniad hwn,


dylai’r Rheolwr Trosedd Rhanbarthol wneud y cais hwn i’r Ditectif
Prif Arolygydd (DCI), Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd. Bydd y cais
hwn yn cynnwys holl fanylion perthnasol yr achos a’r rhesymau dros
wneud y cais hwn. Bydd y DCI (Diogelwch y Cyhoedd) yn ystyried y
cais ac yn cysylltu gyda’r Prif Swyddog Cynorthwyol (Prawf)
perthnasol y mae’r troseddwr yn trigo yn ei ardal. Os yw’r ddwy
asiantaeth yn cytuno yna fe wneir trefniadau i gynnal Cynhadledd
MAPPP cyn gynted â bo hynny’n ymarferol. Bydd unai’r DCI
(Diogelwch y Cyhoedd) neu Prif Swyddog Cynorthwyol (Prawf) ar
gyfer y rhanbarth hwnnw yn cadeirio’r Gynhadledd MAPPP. Caiff y
penderfyniad ynghylch pwy fydd yn cadeirio’r gynhadledd ei wneud
gan amlaf ar sail pa asiantaeth wnaeth gais am y MAPPP. Fodd
bynnag mae’r trefniant yma’n un y gellir ei drafod a dylid cael
cytundeb gan yr uwch swyddogion penodedig perthnasol cyn y
cynhelir y MAPPP.

7
3.7 Amcanion Cynadleddau MARAC a MAPPP yw:
- i rannu gwybodaeth
- i asesu lefelau o risg a’u goblygiadau
- i lunio cynlluniau gweithredu unigol, i leihau risg
- i gytuno ar weithrediad

3.8 Yn ychwanegol i’r swyddogaethau hyn bydd Cynhadledd MAPPP yn


- ystyried neu’n adolygu’r angen i gofrestru’r person ar gofrestr o
droseddwyr sydd â’r potensial i fod yn beryglus
- ystyried unrhyw fater yn ymwneud â datgeliad sydd o fudd i’r
cyhoedd

3.9 Gelwir MARAC yn ôl doethineb y Rheolwr Trosedd Rhanbarthol


mewn cydweithrediad a’r Uwch Reolwr Prawf a gall ganolbwyntio ar
un o nifer o droseddwyr.

3.10 Gelwir MARAC yn ôl doethineb y Ditectif Prif Arolygydd (Diogelwch


y Cyhoedd) mewn cydweithrediad â’r Prif Swyddog Cynorthwyol
(Prawf) ac yn canolbwyntio’n llwyr ar un troseddwr.

3.11 Cedwir cofnodion mewn Cynadleddau MARAC a MAPPP a gynhelir


rhwng yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf ac unrhyw asiantaeth arall sy’n
bresennol. Yr asiantaeth sy’n cadeirio’r gynhadledd sy’n gyfrifol am
baratoi’r cofnodion hyn. Rhennir copïau o’r munudau rhwng yr
Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf. Ni ddosbarthir hwy i asiantaeth neu
berson arall o dan unrhyw amgylchiadau. Mae’r cofnodion yn
parhau’n gyfrinachol ac fe’u cedwir yn ddiogel bob amser.

3.12 Os yw’r asesiad risg wedi ei hyrwyddo drwy broses MAPPP neu
MARAC, unwaith y bydd penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â lefel
y risg sydd perthyn i’r troseddwr llunnir cynllun rheoli gyda’r nod o
leihau’r risg o’r troseddwr yn aildroseddu. Bydd y cynllun rheoli yn
cynnwys nifer o dasgau cyfreithiadwy. O ran perchnogaeth a
chyfrifoldeb, mae hi’n hanfodol bod yr asiantaeth sydd â’r prif
gyfrifioldeb ar gyfer gweithredu’r ‘pwyntiau gweithredu’ hyn yn cael
ei nodi’n glir.

3.13 Bydd rhaglenni troseddwyr yn Ne Cymru yn dilyn y Strategaeth


Genedlaethol i sicrhau mai dim ond rhaglenni achrededig a ddefnyddir
i gyfeirio at ymddygiad troseddol. Golyga hyn bod y rhaglenni wedi
bod yn destun i beilot, ymchwil a gwerthusiad eang ac yn gallu dangos
eu bod yn llwyddiannus.

8
3.14 Ar hyn o bryd mae’r Rhesymau a’r Adfer (R&R) yn gweithredu ar
draws De Cymru ac yng Ngharchar y Parc. Mae’r carchar hefyd yn
safle arloesol ar gyfer Ffocws ar Ailsefydlu (F.O.R) sy’n cael ei brofi
ar gyfer gwaith gyda charcharorion tymor byr. Gwell Sgiliau Meddwl
(ETS) yw’r rhaglen a ddefnyddir yng Ngharchar Caerdydd ac
Abertawe. Mae’r Gorchymyn Triniaeth a Phrofi Cyffuriau (DTTO) ar
gael i bob llys yn Ne Cymru ac mae’r Rhaglen Waith Grŵp
Troseddwyr Rhyw (C-SOP) yn cael ei defnyddio yng Nghaerdydd ac
yn raddol caiff ei hymestyn i’r Ardal gyfan. Mae De Cymru yn Ardal
Arloesol ar gyfer Rhaglen Troseddau Meddiangar Merched (WACP) a
gynhelir yng Nghaerdydd ac Abertawe o fis Mai 2002 a’r Rhaglen
Gyrwyr a Amharwyd gan Ddiod (DID), sy’n achredig, fydd ar gael ar
gyfer haf 2002.

4. Trefniadau Rheoli Strategol


4.1 Bu grŵp llywio strategol trosfwaol mewn bodolaeth ers mis Ionawr
2001. Mae’r grŵp yn cynnwys y Ditectif Prif Uwch Arolygydd,
Pennaeth CID yn Heddlu De Cymru, Prif Swyddog Strategol
Cynorthwyol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (ardal De Cymru, a’r
Ditectif Prif Arolygydd, Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd, Heddlu De
Cymru.

4.2 Bydd y grŵp yn cyfarfod yn chwarterol. Ei rôl yw monitro arferion


gwaith a gweithdrefnau yn ymwneud ag asesu risg a rheoli troseddwyr
rhyw a throseddwyr eraill sydd â’r potensial i fod yn beryglus.
4.3 Ym mis Ionawr 2002 ffurfiwyd y Bwrdd Prosiect Diogelwch y
Cyhoedd. Cadeirir y bwrdd gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol
(Gweithredoedd) ac yn cynnwys prif bersonél heddlu yn ogystal ag
uwch gynrychiolydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (ardal De
Cymru) a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cylch gwaith Bwrdd
Diogelwch y Cyhoedd yw:

- Arolygu datblygiad a gweithrediad effeithiol polisïau, strwythurau


a gweithdrefnau yn ymwneud â:
- Diogelu Plant
- Rheoli Troseddwyr Peryglus a Throseddwyr Rhyw
- Trais yn y Cartref
- Personau Agored i Niwed

- I lwyddo yn yr uchod o fewn fframwaith aml asiantaeth gyda


chydweithio a chydweithrediad priodol

9
- I sefydlu Cynlluniau Gweithredu mewn perthynas â phob un o’r
pedwar categori uchod ac i sicrhau cydymffurfiad gyda’r
cynlluniau hynny.

- I sefydlu ac arolygu gwaith tîm gweithredu aml asiantaeth gyda’r


dasg o gyflenwi’r gofynion uchod

- Monitro’n effeithiol y perfformiad yn erbyn cynlluniau, a sicrhau


cydymffurfiad gyda pholisïau a gweithdrefnau

- Adnabod a lledaenu arfer orau

5. Datgelu
5.1 Mae gwahanol lefelau o ddatgelu y gall yr Heddlu eu cychwyn yn
amrywio o ryddhau gwybodaeth gyfrinachol i drydydd person sydd yn
eiddo i’r cyhoedd i ddatgeliad cymunedol llawn. Rhaid i unrhyw
ddatgeliad fod yn rhan o’r cynllun cyffredinol ar gyfer rheoli risg a
beri’r gan droseddwr posib. Rhaid mai diogelu plentyn unigol, grŵp o
blant neu oedolion eraill sy’n agored i niwed yw nod terfynol unrhyw
ddatgeliad a wneir.

5.2 Cyn unrhyw benderfyniad gan yr Heddlu i wneud unrhyw fath o


ddatgeliad sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, rhaid cynnal cyfarfod
MAPPP er mwyn trafod lefel y risg ac i gytuno ar strategaeth at gyfer
rheoli’r risg honno.

5.3 Os argymhellir datgeliad i drydydd person gan y Panel Diogelwch y


Cyhoedd Aml Asiantaeth, rhaid cael awdurdod gan Brif Gwnstabl
Cynorthwyol cyn y gall yr Heddlu wneud unrhyw ddatgeliad. Dylid
nodi y cedwir yr hawl gan Heddlu De Cymru i ohirio unrhyw
argymhellion cynhadledd yn unol â Chylchlythyr 39/1997 y Swyddfa
Gartref ynghylch Deddf Troseddwyr Rhyw 1997 ynglŷn â datgeliad
trydydd person.

5.4 Bydd datgeliad i drydydd person sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd yn


eithriad i reol gyffredinol cyfrinachedd. Mae’r prif gyfrifoldeb a’r
awdurdod ar gyfer gwneud y math hwn o ddatgeliad gan y Prif
Gwnstabl sydd wedi cytuno i ystyried unrhyw argymhelliad y gall
panel asesu risg y Panel Diogelwch y Cyhoedd Aml Asiantaeth
(MAPPP) wneud mewn perthynas â datgeliad o’r fath. (Yn ymarferol,
mae’r Prif Gwnstabl wedi dirprwyo yr awdurdod angenrheidiol i
wneud unrhyw ddatgeliad yn eiddo i’r cyhoedd, i’w Brif Gwnstabliaid
Cynorthwyol).
10
5.5 Cyn y gwneir unrhyw ddatgeliad, rhaid i’r Heddlu fodloni eu hunain
bod y ffactorau canlynol wedi eu hystyried yn ofalus:

a) I bwy y gwneir y datgeliad.

b) Beth gaiff ei ddatgelu.

c) Beth yw diben y datgeliad a beth ddisgwylir i dderbynnydd y


datgeliad ei wneud gyda’r wybodaeth.

d) Pa ddiogelwch cyfrinachedd gaiff eu hadeiladu i mewn i’r


broses.

e) A gaiff y troseddwr ei rybuddio am y datgeliad?

Enghreifftiau
5.6 Enghraifft 1 – Galwyd cyfarfod MAPPP i drafod y risgiau a berwyd
gan ddyn oedd wedi ei ryddhau o garchar yn ddiweddar. Roedd wedi
ei asesu fel un oedd yn “peri risg sylweddol i’r cyhoedd ac yn arbennig
risg uchel i unrhyw fenyw”. Ceisiodd yr unigolyn gael mynediad i
gwrs coleg lleol ble y gwyddir y byddai menywod ifanc agored i
niwed yn bresennol. Argymhellodd cyfarfod MAPPP hysbysu prif
weinyddwr y coleg o’r risg a berir. O ganlyniad gwrthodwyd
mynediad ar y cwrs i’r unigolyn.

5.7 Enghraifft 2 – Galwyd nifer o gyfarfodydd MAPPP i drafod y risg a


berwyd gan ŵr ifanc gydag euogfarnau blaenorol am droseddau rhyw
difrifol yn erbyn gwŷr ifanc. Dynododd gwybodaeth a rannwyd yn y
cyfarfodydd ei fod yn ffurfio perthynas gyda menyw ifanc yn byw yn
agos iddo oedd â phlant bach. Argymhelliad MAPPP oedd i ddatgelu
gwybodaeth i’r fenyw am y peryglon yr oedd yn ei beri. O ganlyniad,
gorffennodd ei pherthynas gydag ef ac ni chafodd unrhyw gysylltiad
pellach gyda’i phlant.

5.8 Enghraifft 3 – Galwyd sawl cyfarfod MAPPP i drafod y peryglon a


berwyd gan ŵr gydag euogfarnau blaenorol am droseddau rhyw
difrifol yn erbyn plant yn fechgyn a merched. Dynododd gwybodaeth
a rannwyd yn y cyfarfodydd ei fod yn loetran gyda bwriad ger
ardaloedd a fynychir yn aml gan blant yn arbennig parciau gydag
ardaloedd chwarae plant. Argymhelliad cyfarfod MAPPP oedd
datgelu gwybodaeth gyfyngedig i uwch aelod o’r cyngor lleol gyda
chyfrifoldeb am barciau gyda’r bwriad o hysbysu gofalwyr parciau
dethol a gweithredwyr teledu cylch cyfyng ynglŷn â’r peryglon a berir
ganddo. Casglwyd cudd wybodaeth i gefnogi cais am Orchymyn

11
Troseddwr Rhyw. Bu’r cais yn llwyddiannus; ers hynny torrodd yr
unigolyn y gorchymyn ac mae ar hyn o bryd yn y ddalfa yn aros achos.

5. 9 Enghraifft 4 – Galwyd nifer o gyfarfodydd MAPPP i drafod y risgiau


a berwyd gan ŵr gydag euogfarnau blaenorol am droseddau rhyw yn
erbyn menywod ifanc. Datgelodd gwybodaeth a rannwyd yn y
cyfarfodydd ei fod yn cyfathrebu gyda menyw oedd â dwy ferch ifanc.
Roedd hefyd yn hysbys ei fod wedi anfon anrhegion iddynt. Hefyd
roedd wedi chwilio am waith di-dâl yn cynorthwyo personau digartref
agored i niwed. Argymhelliad cyfarfod MAPPP oedd datgelu i fam y
merched ac i uwch berson yn y gweithle y risgiau a berwyd gan y
troseddwr. O ganlyniad dywedwyd wrth fam y ddwy ferch am ei
hanes o droseddu a gorffennodd ei pherthynas ag ef ar unwaith. Mae’r
cyflogwr yn gwneud yn sïwr nad oes ganddo hygyrchedd heb
arolygaeth i bersonau agored i niwed.

6. Gwaith gyda Dioddefwr


6.1 Mae Adran 69 o Ddeddf Cyfiawnder am Droseddau a Gwasanaethau
Llys 2000 yn rhoi dyletswydd statudol ar y Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol i gysylltu â dioddefwyr troseddau treisgar neu rywiol pan
fo’r troseddwr wedi eu dedfrydu i garchariad o 12 mis neu hirach.
Gwneir y cysylltiad hwn i ofyn os yw dioddefwyr am gael eu hysbysu
ynghylch trefniadau rhyddhau’r troseddwyr.

6.2 Ym mis Ebrill 2001, fel rhan o Foderneiddiad y Gwasanaethau Prawf,


daeth y tri Gwasanaeth Morgannwg yn Ardal De Cymru y Gwasanaeth
Prawf Cenedlaethol. Ers hynny gwnaethpwyd gwaith i sicrhau
cysondeb gwasanaeth i ddioddefwyr ar draws De Cymru. Mae’r Ardal
wedi ceisio adeiladu ar arfer orau sydd wedi ei seilio ar yr
egwyddorion canlynol:

 Ffocws clir sy’n cydnabod mai rôl y Gwasanaeth Prawf yw darparu


gwybodaeth ac nid i gynghori
 Staff arbenigol gyda’r wybodaeth a’r arbenigedd i ddelio â
dioddefwyr gyda sensitifrwydd ac empathi.
 Ymdriniaeth ragweithiol sy’n sicrhau y gwneir ymdrechion eang i
leoli dioddefwyr.
 Cysylltiad gyda dioddefwyr sy’n annog eu hymglymiad ond yn
parchu eu penderfyniad os ydynt yn dewis gwrthod y cyfle hwn.
 Cysylltiad ffurfiol ac anffurfiol ardderchog gyda staff cyswllt yr
heddlu a gweithwyr Cefnogaeth Dioddefwyr.

12
6.3 “ ‘Victim Support’ yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl sydd wedi
eu heffeithio gan drosedd. Mae’n sefydliad annibynnol yn cynnig
gwasanaeth cyfrinachol a rhad ac am ddim os adroddwyd ar drosedd
neu beidio. Bydd staff wedi eu hyfforddi a gwirfoddolwyr mewn
canghennau lleol yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr,
tystion, eu teuluoedd a’u cyfeillion.
6.4 Mae ‘Victim Support’ yn darparu Gwasanaeth Tystion, wedi ei leoli
ymhob llys yng Nghymru a Lloegr, i gynnig cymorth cyn, yn ystod ac
wedi achos. Gallwch hefyd ffonio ‘Victim Supportline’ – 0845 30 30
900 – am wybodaeth, cefnogaeth a manylion am wasanaeth lleol a
mudiadau perthnasol eraill.”
6.5 Mae’r Ardal yn cydnabod pwysigrwydd persbectif y dioddefwr ymhob
asesiad risg. Felly mae staff dioddefwyr yn cael eu gwahodd i bob
MAPPP a MARAC. Yn yr un modd mae gweithwyr gyda dioddefwyr
yn cysylltu’n agos gyda’r swyddog sy’n arolygu’r troseddwr. Bydd
hyn gwneud yn sïwr bod persbectif y dioddefwr bob amser yn
flaenllaw a, pan fo’r dioddefwr wedi dewis hynny, caiff ei hysbysu o
drefniadau rhyddhau (mis, blwyddyn a lleoliad cartref cyffredinol).
Bydd hefyd yn galluogi’r dioddefwr i gael ei hysbysu am unrhyw
amodau trwydded ychwanegol fydd yn cyfyngu ar symudiadau’r
troseddwr.
6.6 Gellir gweld rhif cyswllt ar gyfer gwasanaethau eraill ar dudalen 14
o’r adroddiad hwn

6.7 Yn ystod y flwyddyn nesaf gwneir gwaith pellach i ddatblygu


Protocolau ychwanegol gyda Chynlluniau ‘Victim Support’ a Heddlu
De Cymru. Bydd hyn yn gwneud yn sïwr bod y gwaith yma’n parhau
i ddatblygu ac yn derbyn y pwysigrwydd y mae’n ei haeddu.

6.8 Mae gan ardal De Cymru 10 cynllun ‘Victim Support’ sy’n rhedeg ar
hyd ffiniau saith awdurdod unedig. Dyma’r cynlluniau

Merthyr
– yn cwmpasu Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Taf Elai, Rhondda a Chwm Cynon
– yn cwmpasu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Caerdydd
– yn cwmpasu Dinas a Sir Caerdydd

13
Bro Morgannwg
– yn cwmpasu Cyngor Bro Morgannwg

Ogwr
– yn cwmpasu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Castell Nedd/Port Talbot


– yn cwmpasu Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd/Port Talbot

Abertawe
– yn cwmpasu Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Mae manylion enwau a rhifau ffôn fel a ganlyn:-

‘Victim Support’ Caerdydd


Ffôn 02920–578408 Ffacs 02920-577048
Cymoedd Cynon
Ffôn 01685-879663 Ffacs 01685-879663

‘Victim Support’ Merthyr Tudful


Ffôn 01685-334405 Ffacs 01685-723250

‘Victim Support’ Castell Nedd


Ffôn 01639-639179 Ffacs 01639-639176

‘Victim Support’ Port Talbot


Ffôn 01639-886045 Ffacs 01639-884284

‘Victim Support’ Rhondda


Ffôn 01443-433641 Ffacs 01443-432488

‘Victim Support’ Abertawe


Ffôn 01792-543654 Ffacs 01792-543655

‘Victim Support’ Bro Morgannwg


Ffôn 01446-746049 Ffacs 01446-746409

‘Victim Support’ Taf Elai


Ffôn 01443-485202 Ffacs 01443-485659

‘Victim Support’ Pen-y-bont ar Ogwr


Ffôn 01656-679552 Ffacs 01656-679552

14
7. Gwybodaeth Ystadegol

Nifer y
Troseddwyr
i Nifer y Troseddwyr Rhyw Cofrestredig (RSO) yn y 475
Gymuned ar 31.03.02 (a68 (2) Deddf Cyfiawnder am
Droseddau a Gwasanaethau Llys 2000)

Nifer yr RSO i bob 100,000 o’r boblogaeth 38

ii Nifer yr RSO a rybuddiwyd/euogfarnwyd am dorri 7


gofynion cofrestru 01.04.01 – 31.03.02

iiiNifer Gorchmynion Troseddwyr Rhyw 01.04.01 –


31.03.02
(a) cyfanswm y ceisiadau 3
(b) caniatawyd 2
(c) ni chaniatawyd 0
(d) ceisiadau sy’n dal ar y gweill 1
iv Nifer y troseddwyr treisiol a throseddwyr rhyw eraill 1098
01.04.01 – 31.03.02 (a68 (3)(4)&(5) Deddf Cyfiawnder
am Droseddau a Gwasanaethau Llys 2000)
Nifer y troseddwyr eraill 01.04.01 – 31.03.02 (a67 0
(2) (b) Deddf Cyfiawnder am Droseddau a Gwasanaethau
Llys 2000)

7.1 Costau

Cyfieithu i’r Gymraeg £315.00

Argraffu a rhwymo 23000 o gopïau £1500.00

Costau staff sy’n gysylltiedig gyda pharatoi a chasglu gwybodaeth a


data ystadegol ar gyfer yr adroddiad blynyddol:

- Gwasanaeth Prawf
Prif Swyddog Cynorthwyol, = £216.00

- Heddlu
Ditectif Brif Arolygydd, = £156.32

Ditectif Gwnstabl, = £198.72

Cyfanswm = £2446.04

15
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
( Ardal De Cymru) Cyfeiriad Ffôn

………………………………………………………………………………………….……………………..

Phil L Jones Pearl Assurance House 01639-639934


Cyfarwyddwr Gweithredoedd 119 London Road
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Castell Nedd
SA11 1HL

Jan Chaplin Pearl Assurance House 01639-639934


Prif Swyddog Prawf Cynorthwyol 119 London Road
Janet.chaplin@south-wales.probation.gsx.gov.uk Castell Nedd
SA11 1HL

Heddlu De Cymru Cyfeiriad Ffôn


………………………………………………………………………….……………………………………..

D W Phillips Heddlu de Cymru 01656-655555


Pennaeth Archwiliadau a Throseddau Arbenigol Pencadlys yr Heddlu Est: 20400
Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr. CF31 3SU

Ditectif Prif Arolygydd S P James Heddlu De Cymru 01656-655555


Pennaeth Swyddfa Diogelwch y Cyhoedd Pencadlys yr Heddlu Est: 20420
s.p.james@cwcom.net Heol y Bont-faen
Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU

16