Cynnwys

Tudalen
Beth yw Ffederasiwn? 1

Pa ysgolion a fydd yn rhan o’r Ffederasiwn? 1

Beth yw’r agweddau allweddol ar Ffederasiwn? 1

Cefndir y cynnig dan sylw 1

Y weledigaeth a'r buddion 2

Trefniadau llywodraethu 3

Trefniadau arweinyddiaeth 4

Trefniadau derbyn 4

Y broses o Ffedereiddio 5

Dweud eich dweud 6

Cwestiynau cyffredin 7
Beth yw Ffederasiwn?
Mae Ffederasiwn yn gytundeb ffurfiol a chyfreithiol rhwng ysgolion i gydweithio mewn partneriaeth
ffurfiol. Pennir un Corff Llywodraethu, a hwnnw sy’n goruchwylio pob ysgol yn y ffederasiwn.

Pa ysgolion a fydd yn rhan o’r Ffederasiwn?
Mae Cyrff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Tongwynlais ac Ysgol Gynradd Coryton wedi
cyfarfod ac maen nhw wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar gynnig i ffedereiddio. Mae Awdurdod Lleol
Caerdydd yn cefnogi hyn ac mae wedi rhoi cyngor yn rhan o’r cynnig hwn a arweinir gan lywodraethwyr.

Mae’r cynnig yn cynnwys sefydlu ffederasiwn ysgolion cymunedol dan Rheoliadau Ffedereiddio
Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (Offeryn Statudol Cymru 2014 Rhif. 1132 (W.111) o 5 Mawrth
2018 neu cyn gynted ag y bo modd yn dilyn cyflawni’r gweithdrefnau priodol.

Beth yw'r agweddau allweddol ar Ffederasiwn?
• Caiff cyrff llywodraethu’r ddwy ysgol eu diddymu os yw’r cynigion i sefydlu Ffederasiwn yn cael eu
rhoi ar waith, yn dilyn ymgynghoriad. Bydd un Corff Llywodraethu newydd yn disodli’r Cyrff
Llywodraethu unigol a bydd gyfrifol am drosolwg strategol y ddwy ysgol yn y Ffederasiwn.

• Bydd pob ysgol yn cadw ei henw, ei chategori, ei chyllideb a'i staff. Os caiff yr ysgolion eu
ffedereiddio, byddant yn gallu ystyried y manteision o rannu adnoddau. Nid yw’r ddwy ysgol yn
cyfuno.

• Bydd pob ysgol yn destun ei harolwg Estyn ei hun.

Cefndir y cynnig dan sylw
Mae’r ddwy ysgol o fewn milltir i’w gilydd ac
maent wedi bod yn cydweithio’n
llwyddiannus ers mis Medi 2016.

Mae’r ddwy ysgol wedi bod yn rhannu
Pennaeth Gweithredol ac, yn ystod y cyfnod
hwn, rydym wedi gweld y buddion cadarnhaol
sy'n deillio o gydweithio gyda safonau'n
gwella a chyfleoedd i rannu arfer gorau yn y
ddwy ysgol.

Mae hyn hefyd wedi galluogi’r ddwy ysgol i
feithrin y cysylltiadau a threfniadau rhannu
sydd ohoni megis ein Gofalwr, Cadeirydd
Llywodraethwyr a chysylltiadau gweinyddol.

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 1
Gweledigaeth, buddion a manteision eraill
Y nod yw sbarduno’r gwaith o ddatblygu cynlluniau gwella’r ysgolion unigol a gwella’r canlyniadau a'r
ddarpariaeth ar gyfer holl ddisgyblion, a chydnabod y cyfleoedd helaethaf posibl yn sgil trefniadau
ffedereiddio ffurfiol.

• Bydd pob ysgol yn elw o gryfder y 'ffederasiwn' ond eto'n dal gafael yn ei hunaniaeth unigryw, ei
henw, ei gwisg ysgol, ethos ac ati.

• Y buddion a geir o ‘ddatblygu arferion ar y cyd’ o ran gwella'r safonau a'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion

• Cyfle cyffrous i greu canolfan ragoriaeth ddeinamig ac arloesol o ran addysgu a dysgu sy'n
gwasanaethu dwy gymuned ysgol leol gyfagos

• Rhannu arbenigedd a phrofiad proffesiynol yn y ddwy ysgol

• Sicrwydd ariannol ar gyfer dwy ysgol un dosbarth mynediad yn erbyn cyllidebau a ddirprwyir sy’n
gostwng

• Mwy o gyfleoedd datblygu proffesiynol i'r holl staff

• Denu rhagor o ddarpar staff i’r ddwy ysgol

• Ehangu cwmpas yr ysgolion o ran pontio i ysgol uwchradd – cysylltiadau gydag Ysgol Uwchradd yr
Eglwys Newydd ac Ysgol Gyfun Radur

• Cyfle i rannu adnoddau, polisi a gweithdrefnau

• Cyfle i arwain y ffordd gyda’r dull newydd hwn

• Bydd ffedereiddio yn galluogi’r ddwy ysgol i adeiladu ar lwyddiant y bartneriaeth bresennol rhwng y
ddwy ysgol

2
Trefniadau Llywodraethu
Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn nodi na ddylai fod mewn corff
llywodraethu ffederal lai na 15 llywodraethwr a, na mwy na 27.

Trefniadau Llywodraethu Presennol
Dyma'r trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer y ddau gorff llywodraethu:

Math o Lywodraethwr Coryton Tongwynlais
Cymunedol 3 4*
Awdurdod Lleol 3 3
Rhiant 4 4
Pennaeth 1 1
Athro 1 1
Staff 1 1
Cyfanswm 13 14
* Swydd llywodraethwr cymunedol ychwanegol ar gyfer Tongwynlais gan fod yr ysgol mewn ardal cyngor cymuned.

Modelau Llywodraethu Posibl yn dilyn Ffedereiddio
Dyma'r opsiynau ar gyfer corff llywodraethu Ffederal fel y nodir yn y rheoliadau isod:

Math o Lywodraethwr Lleiafswm Uchafswm
Cymunedol 2 4
Awdurdod Lleol 2 4
Rhiant 1 ar gyfer pob ysgol 2 ar gyfer pob ysgol
Pennaeth 1 (neu 1 ar gyfer pob ysgol) 1 (neu 1 ar gyfer pob ysgol)
Athro 1 2
Staff 1 2

Y Corff Llywodraethu Ffederal a Gynigir

Math o Lywodraethwr
Cymunedol 5*
Awdurdod Lleol 4
Rhiant (hyd at 2 o bob ysgol) 4 (2 ar gyfer pob ysgol)
Pennaeth 1
Athro 2 (1 ar gyfer pob ysgol)
Staff 2 (1 ar gyfer pob ysgol)
Cyfanswm 18

* Mae hwn yn cynnwys swydd llywodraethwr cymunedol ychwanegol ar gyfer Tongwynlais gan fod yr ysgol mewn ardal cyngor cymuned.

Bydd pob llywodraethwr yn gwasanaethu am bedair blynedd, ac eithrio’r pennaeth a staff-lywodraethwyr
a fydd yn gwasanaethu am ddwy flynedd.

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 3
Trefniadau arweinyddiaeth
Bydd y Corff Llywodraethu Ffederal yn rhoi arweiniad strategol i’r ddwy ysgol.

Petai’r cynnig hwn i ffedereiddio yn mynd rhagddo, bydd y strwythur presennol yn cael ei ffurfioli. Bydd
Pennaeth Gweithredol yn arwain y ddwy ysgol a bydd gan bob ysgol swydd Pennaeth Ysgol yn ogystal fel
y sefydlwyd yn 2016/17. Bydd y Corff Llywodraethu Ffederal yn gyfrifol am reoli perfformiad y Pennaeth
Gweithredol.

Cytunir ar yr uwch dim rheoli yn y ddwy ysgol, caiff ei ddatblygu a chaiff ei ffurfioli, er mwyn sicrhau
cysondeb ac i gefnogi'r Pennaeth Gweithredol.

Trefniadau Derbyn
Ni fydd y trefniadau derbyn yn newid. Nid yw’r ysgolion yn cyfuno. Byddant yn parhau i weithredu fel dwy
ysgol ar wahân gyda meini prawf derbyn unigol, fel y cytunir gyda’r awdurdod lleol. Bydd pob plentyn yn
parhau i fod yn ddisgybl cofrestredig mewn un ysgol o fewn y Ffederasiwn.

4
Y broses o Ffedereiddio
Er mwyn sefydlu Ffederasiwn, rhaid dilyn rhai camau penodol:

Cam 1: Ystyried potensial y Ffederasiwn
• Cytundeb rhwng cyrff llywodraethu’r ddwy ysgol dan sylw a’r Awdurdod Lleol eu bod yn dymuno
ystyried y dewisiadau o ran sefydlu Ffederasiwn
• Cyd-greu cynnig ffurfiol a fydd yn destun ymgynghoriad gyda'r holl randdeiliaid
• Rhoi gwybod i staff ac unrhyw ran ddeiliaid allweddol yn y ddwy ysgol am y broses a'r cynnydd
• Gosod dyddiad posib ar gyfer rhoi’r Ffederasiwn ar waith

Cam 2: Paratoi’r Ymgynghoriad ar y Cynnig
• Bydd y Cyrff Llywodraethu yn cwblhau’r cynnig gyda chefnogaeth yr Awdurdod Lleol
• Cyhoeddi’r ymgynghoriad ar y cynnig i'r holl randdeiliaid gan gynnwys disgyblion, staff, rhieni, y
gymuned leol a'r gymuned ehangach
• Rhaid i gynnig cynnwys:
• Y rhesymau dros ffedereiddio a’r buddion ohono
• Maint a chyfansoddiad Corff Llywodraethu Unigol
• Trefniadau Staff Uwch
• Derbyniadau
• Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau
• Dyddiad arfaethedig ar gyfer sefydlu'r ffederasiwn
• Trefniadau ymgynghori

Cam 3: Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben
• Cyfarfod rhwng y Cyrff Llywodraethu a’r Awdurdod i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad
• Paratoi adroddiad cryno ar gyfer pob Corff Llywodraethu i'w ystyried

Cam 4: Penderfynu a Gweithredu
• Cyfarfod rhwng y Cyrff Llywodraethu a’r Awdurdod Lleol i wneud y penderfyniad terfynol ar p’un ai i
barhau â sefydlu'r Ffederasiwn
• Rhoi gwybod i randdeiliaid am y penderfyniad
• Os yw’n berthnasol, bydd yr Awdurdod Lleol yn gweithio gyda’r Cyrff Llywodraethu i ffurfio a
phenodi'r Corff Llywodraethu unigol

Cam 5: Datblygu
• Cyfarfod rhwng y Corff Llywodraethu sengl i ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Ffederasiwn
• Ystyried unrhyw strwythurau is-bwyllgor newydd, a’u ffurfio lle bo angen
• Cadarnhau Uwch Dimau Arweinyddiaeth
• Adolygu systemau, polisïau ac arferion

Cam 6: Symud Ymlaen
• Sefydlu unrhyw bolisïau, arferion a systemau newydd
• Rhoi gweithdrefnau monitro a gwerthuso ar waith

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 5
Dweud eich dweud
Hoffai’r Cyrff Llywodraethu glywed barn cymaint o randdeiliaid â phosib yn ystod y broses ymgynghori. Er
mwyn cynnig cymaint o gyfleoedd â phosib i randdeiliaid gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cynhelir y
digwyddiadau canlynol yn yr ysgolion.

Beth? Ymhle? Pryd? Ar gyfer pwy?

Sesiwn Holi ac Ateb Holiday Inn Express Dyddiad i’w gadarnhaol Pob Rhanddeiliad
Tongwynlais (i’w gadarnhau) ar ddechrau mis Medi

Digwyddiad Ffurfiol Ysgol Gynradd Coryton Dydd Mawrth 19 Staff
Medi 2017
3:45pm tan 6pm

Digwyddiad Ffurfiol Ysgol Gynradd Coryton Dydd Mawrth 19 Rhieni a
Medi 2017 rhanddeiliaid eraill
6pm tan 7:30pm

Digwyddiad Ffurfiol Ysgol Gynradd Tongwynlais Dydd Mercher 20 Staff
Medi 2017
3:45pm tan 6pm

Digwyddiad Ffurfiol Ysgol Gynradd Tongwynlais Dydd Mercher 20 Rhieni a
Medi 2017 rhanddeiliaid eraill
6pm tan 7:30pm

Gallwch hefyd anfon sylwadau ysgrifenedig dros e-bost at Ruth Lock, Gwasanaethau Llywodraethwyr
Caerdydd: rlock@caerdydd.gov.uk Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 6 Hydref 2017.

6
Cwestiynau Cyffredin am Ffedereiddio

C1. Beth yw Ffedereiddio?
Mae ffedereiddio yn disgrifio ‘partneriaeth ffurfiol’ rhwng ysgolion (rhwng dwy a chwe ysgol) ac mae’n
gytundeb cyfreithiol a ffurfiol pan fo ysgolion yn rhannu corff llywodraethu unigol. Gall ysgolion mewn
ffederasiwn fod yn gymysgedd o ysgolion meithrin a gynhelir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac
ysgolion uwchradd. Fodd bynnag, gall ysgolion ffydd ond ffedereiddio gydag ysgolion ffydd eraill.
Caiff y penderfyniad i ffedereiddio ei wneud gan un ai cyrff llywodraethu’r ysgolion dan sylw neu gan yr
Awdurdod Lleol. Bydd pob ysgol mewn ffederasiwn yn parhau i fod ar agor yn ei chymuned a bydd yn
cadw ei chyllideb, ei chymeriad, ei gwisg ysgol, ei threfniadau derbyn a’i hethos ei hun. Bydd hefyd yn cael
ei harolygu gan Estyn yn unigol.
Mae’n bosib pennu pennaeth ym mhob ysgol yn y ffederasiwn, a/neu mae modd iddynt rannu un
pennaeth – cyfrifoldeb y corff llywodraethu yw gwneud y penderfyniad hwnnw.
Nid oes un dull cywir o weithredu ffederasiwn. Caiff pob un ei deilwra i ddiwallu anghenion y gwahanol
ysgolion a chymunedau. Bydd ffederasiwn llwyddiannus yn galluogi’r plant i fanteisio ar gwricwlwm
ehangach i ymgyfoethogi eu profiadau a chynnig addysg o safon uchel i helpu i wella eu cyflawniad.

C2. Pam fod ffederasiwn yn ddewis ar gyfer eich ysgol chi?
Mae llawer o resymau pam fod ysgolion o bob maint a math yn dymuno ffedereiddio neu bod yr ALl yn dymuno
iddynt wneud. Rhannu adnoddau megis cyllidebau, athrawon ac arbenigedd addysgu, arweiniad ac adnoddau
ysgol a dysgu gan ei gilydd a rhannu arfer da yw rhai o’r ysgogiadau i ffedereiddio.
I ambell ysgol, gall cydweithio’n agosach mewn ffederasiwn olygu rhannu baich gwaith trwm ymhlith y staff
tra’n caniatáu i ysgolion gynnig cwricwlwm eang sy’n cynnig dewisiadau go iawn i ddisgyblion, na allai ysgolion
llai â llai o staff ei wneud.
Gall ffederasiwn hefyd gynnig cyfleoedd gyrfa i staff na fyddai ar gael iddynt fel rheol, er enghraifft gweithio i
ysgol arall yn y ffederasiwn. Gall hyn helpu i recriwtio athrawon cymwys newydd da i’r ysgol. Mae rhai ysgolion
hefyd yn wynebu anawsterau i recriwtio penaethiaid da ac mae ffederasiwn yn galluogi ysgolion i fabwysiadu
datrysiadau mwy creadigol i benodi arweinwyr.

C3. Pa fanteision y mae ffedereiddio yn ei gynnig i ddisgyblion?
Gall ffedereiddio ddod â llawer o fuddion, ond bydd y rhain yn dibynnu ar ffocws a diben y ffederasiwn.
Yn gyffredinol, dylai ffederasiwn gynnig cyfleoedd i ddisgyblion o bob oed a galluoedd i gwrdd a gweithio
fel un grŵp mawr, all fod yn hynod fuddiol i ddisgyblion hŷn. Mae buddion eraill yn cynnwys gallu cyrchu
addysgu arbennig, cyfleoedd addysgol a chymdeithasol mwy cynaliadwy wedi eu strwythuro’n well,
chwaraeon tîm, arbenigedd cwricwlwm lletach a dewis ehangach o weithgareddau allgyrsiol neu allan o'r
ysgol a chlybiau.

C4. Sut bydd ffedereiddio yn gweithio?
Bydd ffederasiynau yn gweithio mewn amryw ffyrdd. Bydd y modd y caiff ffederasiwn ei strwythuro ac y bydd yn
gweithredu ei bennu gan gorff llywodraethu a phenaethiaid neu bennaeth sengl. Y bobl hyn sydd yn y lle gorau i
sicrhau bod gweithrediadau a threfniadau’r ffederasiwn yn cyfateb ag anghenion yr holl ysgolion dan sylw. Dylai
bob ffederasiwn fod â chynllun gweithredu manwl a strwythur staffio a gytunwyd sy’n gosod y fframwaith ar
gyfer cynllunio mwy manwl a threfniadaeth a rheolaeth feunyddiol yr ysgolion.

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 7
C5. A fydd llywodraethwyr neu’r ALl yn gwrando ar farn y rhieni pan fyddant yn
ymgynghori ar gynigion ffederasiwn?
Mae gofyn yn ôl y gyfraith ar i Lywodraethwyr ac ALl i gyrchu barn rhanddeiliaid ar y cynigion i
ffedereiddio. Y rhanddeiliaid yw rhieni, staff, undebau, disgyblion a phartneriaid eraill megis awdurdodau
esgobaethol. Gellir cyrchu barn mewn amryw ffyrdd, all gynnwys ymatebion ysgrifenedig, holiaduron,
sesiynau gwybodaeth a chyfarfodydd ffurfiol. Unwaith y cyflwynir yr holl sylwadau, rhaid i’r corff
llywodraethu ystyried y pwyntiau gaiff eu codi a gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar fwyafrif y
pleidleisiau a gaiff eu cyfrif mewn cyfarfod o gorff llywodraethu. Mewn achos pan fo ALl yn sefydlu
ffederasiwn, bydd yn ystyried yr ymatebion gaiff eu derbyn a gwneud penderfyniad.

C6. Ai arbedion ariannol sydd wrth wraidd ffedereiddio?
Na. Mae’n ymwneud ag ysgolion yn cronni adnoddau i wella perfformiad, codi safonau cyrhaeddiad a
chyflawni mwy ar gyfer y plant boed hynny’n darparu cyfleoedd ac adnoddau na fyddai plant fel rheol yn
gallu eu cyrchu, neu gydariannu, er enghraifft, athro drama neu athrawon cyflenwi.

C7. O ganlyniad i ffedereiddio, a fydd ein hysgol yn cael llai o arian gan yr ALl?
Na fydd. Nid yw ffedereiddio yn effeithio ar y modd y caiff cyllideb ysgol ei phennu – dylai pob ysgol
mewn ffederasiwn barhau i gael ei chyllideb ei hun yn seiliedig ar niferoedd y disgyblion cofrestredig yn yr
ysgol ynghyd ag unrhyw ffactorau eraill. Fodd bynnag, bydd ysgolion yn gallu cronni neu rannu eu
cyllidebau. Er enghraifft, pe bai’r ysgolion yn dymuno cyflogi athro drama neu brynu neu uwchraddio
offer chwaraeon byddai pob un yn cyfrannu cyfran o’r gost o’u cyllidebau.

Dylai corff llywodraethu ffederasiwn fod mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau strategol o ran y ffordd y
maent yn defnyddio’u hadnoddau gan gynnwys cyllidebau, staff a chyfleusterau. Bydd gofyn i bob ysgol
gadw cofnod archwilio clir a chyfrifon ar eu gwariant cyllidebol.

C8. Beth yw buddion ariannol ffederasiwn?
Gall ffederasiwn ehangu gallu ysgolion i sicrhau gwerth am arian a gwella safonau a’r ddarpariaeth. Mae
rhai o’r buddion yn cynnwys: dull mwy cost-effeithiol o gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer addysgu arbenigol (os
bydd angen hynny); dewis cwricwlwm ehangach; ymestyn gweithgareddau cwricwlaidd ar ôl ysgol; rhannu’r
costau o brynu nwyddau a chyfleusterau ar gyfer
clybiau ar ôl ysgol ac ati; prynu gyda golwg ar
sicrhau arbedion maint ac osgoi dyblygu; arbed
arian ar y cwricwlwm; cynllunio strategol ac amser
gweinyddol; y gallu i gronni arian er mwyn cynnig
cyflogau uwch a recriwtio staff mwy profiadol.

C9. A fydd fy ysgol yn colli ei
hunaniaeth o fewn Ffederasiwn?
Ni fydd ysgolion mewn ffederasiwn yn colli eu
hunaniaeth er y byddant yn rhannu corff
llywodraethu sengl. Mae'r ysgolion yn cadw eu
statws cyfreithiol ar wahân ac mae ganddynt eu
dyraniadau cyllidebol eu hunain a bydd pob ysgol
unigol yn cael ei harolygu gan ESTYN. Bydd yr
ysgolion hefyd yn aros yn eu cymuned ac yn cadw
eu cymeriad, eu henw, eu hethos a'u gwisg ysgol
eu hunain. Er bod pob ysgol yn cael ei chyllideb

8
unigol ei hun a bod yn rhaid iddi roi cyfrif amdani, mae cyfle, drwy'r corff llywodraethu sengl, i ddefnyddio
cyllidebau a rennir ymhlith yr ysgolion yn y ffederasiwn. Mae ffedereiddio yn gweithio ar y sail bod gan bob
ysgol ei chryfderau a'i manteision penodol ei hun, boed yn gyfleusterau, yn staff neu'n adnoddau.

C10. Beth yw’r gwahaniaethau rhwng ffedereiddio ysgolion a chyfuno ysgolion?
Os bydd dwy ysgol yn uno, gallant barhau'n agored yn eu cymuned ond byddant wedyn yn un ysgol aml-
safle, gydag un enw, un ethos, un gyllideb, un cymeriad ac un wisg ysgol. Un pennaeth fyddai gan yr ysgol
ac y mae'n debyg y câi staff eu diswyddo neu y byddai angen iddynt ailymgeisio am swyddi yn yr ysgol
newydd. Mewn ysgolion aml-safle, gallai'r ALl gau un o safleoedd yr ysgol a throsglwyddo'r disgyblion i'r
safleoedd eraill, heb fynd trwy unrhyw broses statudol o gyhoeddi cynigion.

Mewn Ffederasiwn, bydd yr ysgolion yn parhau'n agored yn eu cymunedau ond byddant hefyd yn cadw
eu hunaniaeth, eu henw, eu hethos, eu cymeriad, eu cyllideb a'u gwisg ysgol eu hunain. Byddai'r staff
hefyd yn cadw eu swyddi a hwyrach yn cael cyfleoedd ehangach i ddatblygu yn broffesiynol drwy weithio
ym mhob un o ysgolion y ffederasiwn Gall penaethiaid aros yn eu swyddi hefyd, er mai un pennaeth yn
unig sydd gan rai ffederasiynau. Gellir cau ysgolion mewn ffederasiwn fel rhan o gynigion i ad-drefnu
ysgolion, ond byddai'n rhaid i'r ALl ddilyn proses statudol o gyflwyno cynigion er mwyn gwneud hynny.

C11. Beth yw’r trefniadau Arolygu ar gyfer Ysgolion Ffederal?
Mae dogfen Estyn ‘Pryd fydd yr arolwg ysgol nesaf yn cael ei gynnal?’ yn rhoi canllaw ar arolygu ysgolion
a ffedereiddiwyd. Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 yn mynnu bod Estyn yn
arolygu ysgolion a gynhelir bob chwe blynedd ac yn cynhyrchu adroddiad unigol ar gyfer pob ysgol.
Byddai hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer yr ysgolion yn y ffederasiwn. Ni all Estyn symud arolwg ysgol yn
hwyrach na chwe blynedd ond gall gwblhau arolwg mewn modd sy’n golygu y caiff ysgolion mewn
ffederasiwn eu harolygu yn ystod yr un tymor, yn enwedig pan fo’r un pennaeth gan yr ysgolion. Byddai
Estyn hefyd yn ystyried ceisiadau gan gorff llywodraethu neu ALl i arolygu ysgol yn ystod yr un tymor.
Byddai Estyn hefyd yn ceisio sicrhau fod y timoedd arolygu ar gyfer ysgolion y ffederasiwn yn rhannu
rhywfaint o'r un aelodau.

C12. Beth sy’n digwydd i staff mewn ffederasiwn? A fydd eu Hamodau Gwasanaeth
yn newid?
Mewn ffederasiwn, byddai pob aelod o staff wedi'i gyflogi ar yr un amodau gwasanaeth â'r rhai
presennol a chan yr un cyflogwr. Pwy bynnag yw'r cyflogwr staff presennol fydd y cyflogwr newydd o dan
y contract cyflogaeth. Yn achos ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig
cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir, yr awdurdod lleol yw'r cyflogwr o dan y contract cyflogaeth. Y
corff llywodraethu yw'r cyflogwr o dan y contract cyflogaeth yn achos staff mewn ysgolion gwirfoddol a
gynorthwyir ac ysgolion sefydledig.

Dylai gwaith cynllunio strategol ac ariannol ar y cyd olygu y gellir diogelu swyddi yn well mewn unrhyw
gyfnod o gywasgu cyfunol ac y gellir gwneud y defnydd gorau o staff arbenigol, gan gydnabod pob gan
bob aelod o staff cymorth ac addysgu sgiliau a gwybodaeth arbenigol. Byddai staff yn gallu dysgu oddi
wrth ei gilydd o fewn ymagwedd gydlynol er mwyn sicrhau cymunedau dysgu proffesiynol sy'n defnyddio
data a'r Model cenedlaethol er mwyn canolbwyntio ar welliannau i ysgolion sy'n cysylltu â
blaenoriaethau cenedlaethol a chynlluniau datblygu eu hysgolion.

Gall corff llywodraethu'r ysgolion ffederal benodi aelodau newydd o staff i weithio ym mhob ysgol yn y
ffederasiwn. Gallai hyn gynnwys penodi pennaeth sengl i fod yn gyfrifol am yr holl ysgolion yn y
ffederasiwn, neu benodi Bwrsar neu berson sydd â sgiliau rheolaeth ariannol a/neu sgiliau rheoli busnes, i
oruchwylio agweddau ar fusnes y ffederasiwn heblaw addysgu.

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 9
C13. A yw rhiant lywodraethwyr wedi eu hethol gan rieni eu hysgol yn unig neu gan
rieni pob ysgol yn y ffederasiwn?
Dylai’r cynnig i ffedereiddio nodi nifer y rhiant lywodraethwyr o bob ysgol, yn ôl y gyfraith sy’n golygu bod
yn rhaid i bob ysgol gael o leiaf un rhiant lywodraethwr wedi ei ethol gan y rhieni (neu wedi eu penodi gan
gorff llywodraethu os nad oes rhiant yn sefyll) yn yr ysgol honno ond dim mwy na dau riant lywodraethwr
fesul ysgol. Mae’n rhesymol felly, unwaith i benderfyniad ar nifer y rhiant lywodraethwr i bob ysgol gael ei
wneud, mai dim ond rhieni yr ysgol honno ddylai bleidleisio yn yr etholiadau rhiant lywodraethwr.
Os mai’r penderfyniad yw y dylai ysgol gael dau riant lywodraethwr bob un, ac nad oes rhieni ysgol
benodol yn sefyll neu dim ond un, gall y corff llywodraethu ffederal benodi rhiant lywodraethwyr yn unol
ag Atodlen 2 Rheoliadau Ffedereiddio 2014. Golyga hyn y gallai'r corff llywodraethu benodi rhiant disgybl
sydd wedi ei gofrestru yn yr ysgol; neu riant disgybl o ysgol arall o fewn y ffederasiwn; neu riant plentyn o
oed ysgol (neu o dan oed ysgol ar gyfer meithrinfa).

C14. eA yw’r athrawon a’r plant yn symud o un ysgol i un arall?
Efallai y bydd rhai cyfleoedd i staff ysgolion symud rhwng safleoedd gan ddibynnu ar eu contractau. Fodd
bynnag, efallai y bydd cyfleoedd i blant o ysgolion gwahanol gydweithio ar brojectau a thrwy
ddigwyddiadau arbennig, a allai gynnwys defnyddio technoleg, cyfleusterau (fel offer chwaraeon a
labordai gwyddoniaeth) a fideo gynadledda.

C15. A oes cyfyngiad amser ar ffederasiwn?
Dylid edrych ar ffederasiwn fel ymrwymiad hir dymor ac nid fel ateb dros dro. Bydd yr ALl neu’r cyrff
llywodraethu perthnasol wedi ystyried yn fanwl fuddion a pheryglon sefydlu ffederasiwn o safbwynt yr
effaith ar gyrhaeddiad plant a phobl ifanc. Byddai ffederasiwn yn rhoi cynlluniau strategol a gweithredol ar
waith er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad yr ysgolion. Bydd hynny’n golygu cynllunio yn y tymor
canol i hir. Serch hynny, mae Rheoliadau Ffedereiddio 2014 yn caniatáu i ysgolion unigol adael ffederasiwn
ac i ffederasiwn gael ei diddymu.

Cylchlythyr Proses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru rhif: 011/2014

10