You are on page 1of 2

41

haf y gwyr yn kyuaruot ac wynt, ac yn uudugawl orawenus goruot a oruc Gereint


ar y pumwyr. A'r pump arueu a rodes yn y pump kyvrwy, a ffrwynglymu y deudeg
meirch a oruc y gyt ac eu gorchymun y Enit a wnaeth.

'Ac ny wnn i,' heb ef, 'pa da yw y mi dy orchymun di, a'r unweith honn ar
ureint rybud itt mi a'e gorchymynnaf.'

A cherdet racdi y'r coet a oruc y uorwyn. A ragor a erchis Gereint idi y
gadw hi a'e kedwis. A thost oed gantaw edrych ar drallawt kymeint a hwnnw ar
uorwyn kystal a hi gan y meirch, pei as gattei lit idaw. A'r y coet a gyrchassant. A
dwvyn oed y coet a mawr. A'r nos a doeth arnunt yn y coet.

'A uorwyn,' heb ef, 'ny thykya y ni keissaw kerdet.'

'Ie, arglwyd,' heb hi. 'A uynnych di, ni a'e gwnawn.'

'Iawnaf yw y ni,' heb ef, 'trossi y'r coet y orffowys ac aros dyd y gerdet.'

'Gwnawn ninneu yn llawen,' heb hi.

A hynny a orugant. A diskynnu a oruc ef, a'e chymryt hitheu y'r llawr.

'Ny allaf i,' heb ef, 'yr dim rac blinder na chysgwyf. A gwylha ditheu y
meirch ac na chwsc.'

'Mi a wnaf, arglwyd,' heb hi.

A chyscu a oruc ynteu yn y arueu a threulaw y nos. Ac nyt oed hit yn yr


amser hwnnw. A phan welas hi awr1 dyd yn ymdangos y lleuver, edrych yn y
chylch a oruc a yttoed ef yn deffroi. Ac ar hynny yd yttoed ef yn deffroi.

'Arglwyd,' heb hi, 'mi a uynasswn dy duhunaw yr meitin.'

Kynhewi a oruc ynteu o ulinder wrthi hi am nat archyssei idi dywedut. A


chyuodi a oruc ynteu a dywedut wrthi:

'Kymer y meirch,' heb ef, 'a cherda ragot. A chynnal dy ragor ual y
kynheleist doy.'

Ac ar dalym o'r dyd adaw y koet a orgunant. A dyuot y uaestir goamnoeth


a gweirglodyeu oed o'r neill tu udunt a phaladurwyr yn llad y gweirglodyeu. Ac y
auon yn eu blaen y doethant. A gestwng a oruc y meirch ac yuet y dwuyr a
wnaethant. A dyrchauel a orugant o'r auon y riw aruchel, ac yno y kyuaruu ac
wynt glasswas goaduein a thwel am y vynwgyl, a bwrnn a welynt yn y twel, ac ny

1 Both RB and WB have awr here, but wawr from gwawr (dawn, sunrise) is
more likely.
40
wydynt hwy beth. A phisser glas bychan yn y law, a a ffiol ar wyneb y pisser. A
chyuarch gwell a oruc y gwas y Ereint.

'Duw a rodho da itt,' heb y Gereint, 'ac o ba le pan deuy di?'

'Pan deuaf,' heb ynteu, 'o'r dinas yssyd y'th ulaen yna. Arglwyd,' heb yt
ynteu, 'ae drwc gennyt ti ouyn pa le pan deuy ditheu?'

'Na drwc. Drwy y coet racko.'

'Nyt hediw y deuthost di drwy y coet?'

'Nac ef,' heb ynteu. 'Yn y coet y buum neithwyr.'

'Mi a debygaf,' heb y gwas yna, 'na bu da dy ansawd yno neithwyr, ac na


cheueist na bwyt na diawt.'

'Nado, y rof a Duw,' heb ynteu.

'A wney di vyg kygor i,' heb y gwas, 'kymryt y gennyf i dy ginnaw?'

'Pa ryw ginnyaw?' heb ynteu.

'Borevwyt yd oed un yn y anuon y'r paladurwyr racco. Nyt amgen no bara


a chic a gwin. Ac o's mynny di, wrda, ny chaddant wy dim.'

'Mynnaf,' heb ynteu, 'a Duw a dalo itt.'

A disgynnu a oruc Gerein. A chymryt a oruc y gwas y uorwyn y'r llawr. Ac


ymolchi a orugant a chymryt eu kinyaw. A'r gwas a dauellawd y bara ac a rodes
diawt udunt, ac a'e gwassanaethawd o gwbyl. A gwedy daruot udunt hynny, y
kyuodes y gwas ac y dywawt wrth Ereint:

You might also like