Professional Documents
Culture Documents
Ncvys Pcc-Youth-Charter WELSH FINAL
Ncvys Pcc-Youth-Charter WELSH FINAL
Bydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd wedi tyngu llw teyrngarwch, i: ...wasanaethu pobl Ardal yr Heddlu, ...rhoi llais ir cyhoedd, yn enwedig dioddefwyr trosedd... ac i gymryd camau o fewn fy mher i sicrhau tryloywder fy mhenderfyniadau, fel bod y cyhoedd yn gallu fy nal yn gyfrifol am fy ngweithrediadau. Bydd hefyd gofyn iddynt ddilyn termau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliaur Plentyn dywed Erthygl 12: Mae gan Bobl Ifanc yr hawl i ddweud yr hyn maen nhwn ei gredu dylid digwydd mewn penderfyniadau syn effeithio arnynt, a bod eu barn yn cael ei ystyried. Yn l Deddf Diwygior Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 mae hefyd gofyn bod gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd: ...drefniadau i gael barn pobl yn eu hardal ar y Cynllun Heddlu a Throsedd au cyllideb. Gall weithio gyda phobl ifanc helpu Comisiynwyr Heddlu a Throsedd lleihau trosedd; mae gan bobl ifanc ddiddordeb mewn creu cymunedau diogelach ac maen nhwn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr o drosedd na grwpiau hn. Gall ymgysylltun effeithiol gyda phobl ifanc helpu leihau nifer y bobl ifanc syn cyflawni troseddau. Bydd ymrwymiad gweledol i bobl ifanc yn helpu Comisiynwyr Heddlu a Throsedd i ddechrau ar delerau da gydag aelodau iau eu cymunedau. Mae pobl ifanc eisiau i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ymgysylltu gyda nhw a bod yn weithredol wrth geisiou barn ar sut i wneud eu cymunedaun ddiogelach.
Gwneud fy hun yn fwy hygyrch i bobl ifanc a darparu dulliau addas i bobl ifanc allu mynegiu pryderon i mi (e.e. sesiynau wyneb yn wyneb, cyfryngau cymdeithasol, e-ddeisebau).
Trin pob person ifanc fel dinesydd, gan werthfawrogiu diddordebau au barn cymaint ag unrhyw grp arall yn y gymuned.
Darparu platfform cyfartal i bob aelod or cyhoedd, gan gynnwys lleiafrifoedd ar sawl syn cael eu hymyleiddio.
Sefydlu dull o gynrychioli safbwyntiau pobl ifanc yn ystyrlon trwy greu, er enghraifft, rl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Ieuenctid neu Banel cynghori ieuenctid.
Defnyddio fy nylanwad fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gefnogir heddlu i ymrwymo mewn modd positif gyda phobl ifanc.
Gofynnir ichi addo dilyn yr addunedau hyn a dangos eich ymrwymiad i bobl ifanc ar: www.pccyouthcharter.wordpress.com
User Voice: Caiff User Voice ei arwain gan bobl gyda phrofiad or problemau rydyn yn ceisiou datrys, gyda ffocws ar ddiwygior System Cyfiawnder Troseddol a gwasanaethau cysylltiedig. www.uservoice.org Cyngor Ieuenctid Kirklees: Maer Cyngor Ieuenctid yn rhoi llais i bobl ifanc Kirklees iw galluogi i ddylanwadu a hysbysu penderfyniadau syn effeithio ar eu bywydau ac i gael dweud eu dweud, cael eu clywed a chael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad positif i gymdeithas. www.kirkleesyc.org.uk
Ariannir Cymunedau Diogelach ir Dyfodol gan y Swyddfa Gartref ai rheolir gan Clinks, elusen gofrestredig gydar rhif 1074546 a chwmni cyfyngedig trwy warant, cofrestrwyd yn Lloegr gydar rhif 3562176. Swyddfa gofrestredig: 59 Carter Lane, Llundain EC4V 5AQ www.clinks.org/services/sfc