Professional Documents
Culture Documents
Pan gyflwynwyd y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol gyntaf ym mis Ebrill 1999, fei gosodwyd yn bwyllog ar 3.60 yr awr er mwyn peidio thanseilio gallu cwmnau i gystadlu. Disgwyliwyd ir newid fod o fudd i ddwy filiwn o bobl mwy na hanner ohonynt yn y sector gwasanaethau. Cafwyd cynnydd o hyd at draean yn eu cyflogau. Ym mis Chwefror 2000 nododd adroddiad gan yr arbenigwyr cyflogau Income Data Services nad oedd cyflwynor lleiafswm cyflog wedi achosi colledion swyddi nac wedi tarfu ar strwythurau cyflogau diwydiannau. Yn 2002 roedd y lleiafswm cyflog wedi cyrraedd 4.10 yr awr i oedolion a 3.50 i bobl dan 22 oed. Fodd bynnag, ym mis Medi y flwyddyn honno nododd astudiaeth gan y llywodraeth fod rhai cyflogwyr yn dal i beidio thalu cyfraddaur lleiafswm cyflog. Nododd fod gweithwyr yn genedlaethol wedi cael eu talu 10 miliwn yn llai nag y dylent fod wedii gael oddi ar Ebrill 1999. Yn 2003 derbyniodd y Llywodraeth argymhelliad y Comisiwn Cyflogau Isel y dylai fod cynnydd ychwanegol i 4.85 a 4.10 o 1 Hydref 2004. Awgrymwyd cael lleiafswm cyflog o 3.00 ar gyfer pobl 16 ac 17 oed hefyd. Rhoddir isod fanylion llawn am y Lleiafswm Cyflog ar gyfer pob grp o weithwyr (Tachwedd 2005). Y brif gyfradd (oedolion) ar gyfer gweithwyr 22 oed a mwy - 5.05 yr awr o 1 Hydref 2005. Y gyfradd ddatblygu ar gyfer gweithwyr 18-21 oed - 4.25 yr awr o 1 Hydref 2005 (wedi cynyddu o 4.10 yr awr) Cyfradd newydd o 3.00 yr awr o 1 Hydref 2005 ar gyfer pobl 16 ac 17 oed. Mae undebau llafur wedi pwyso yn gyson i gael cynnydd blynyddol uwch yn y lleiafswm cyflog a chyfradd o 5 yr awr o leiaf i bob gweithiwr.
A Level of Achievement
Y gweithwyr sydd wedi elwafwyaf yw gweithwyr ifanc mewn diwydiannau syn talu cyflogau isel gwasanaethau gofal, gwasanaethau swyddfa fel glanhau, arlwyo, bwyd cyflym ayb. Ir bobl r tl isaf, maer lleiafswm cyflog wedi caniatu symudiad i ffwrdd o dlodi ac mae wedi cael gwared rhai agweddau ar y fagl dlodi. Parhaodd cyflogaeth i dyfu mewn sectorau thl isel yn y chwarter yn dilyn cyflwynor lleiafswm cyflog, ac ni welwyd unrhyw effaith sylweddol ar y ffigurau diweithdra o ganlyniad ir lleiafswm cyflog. Mewn gwirionedd yn y sectorau r cyflogau isaf fel y diwydiant gwestai, arlwyo, gwasanaethau gofal, mae lefelau cyflogaeth wedi cynyddun gadarn dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
A Level of Achievement