You are on page 1of 11

Trefniadau Amlasiantaethol

ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd


Adroddiad Blynyddol
2005-2006

SOUTH WALES POLICE GWASANAETH PRAWF CENEDLAETHOL


HEDDLU DE CYMRU Dros Loegr a Chymru
Cyflwyniad

Bu'n flwyddyn anodd i bawb sy'n gweithio gyda throseddwyr peryglus. Mae nifer o droseddau difrifol
trasig a gyflawnwyd gan droseddwyr ar drwydded o'r carchar wedi golygu lefel gynyddol o graffu gan y
cyfryngau ynglŷn â gwaith diogelu'r cyhoedd.

Bu'n her i reoli hyn. Mae pob asiantaeth a fu ynghlwm wedi gweithio'n galed i ddarparu gwybodaeth i'r
cyfryngau a'r cyhoedd i esbonio'r ffordd y mae MAPPA yn gweithio ac, yn weithredol, wedi parhau i
ymrwymo ymdrechion yn y maes gwaith hollbwysig hwn.

Yn arwyddocaol, mae sefydlu'r Uned MAPPA yng Nghaerdydd, sy'n dwyn ynghyd staff gweithredol o bob
un o'r asiantaethau sy'n rhan yn y broses, yn enghraifft o'r ymrwymiad hwn. Gobeithiwn y bydd y model
hwn o weithio mewn partneriaeth yn cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o Dde Cymru yn y dyfodol
agos.

Yn lleol, mae'n bwysig ein bod yn dysgu o'r profiad a gafwyd yn y misoedd diwethaf a pharhau i ddatblygu
ein harfer a'n cysylltiad a chefnogaeth amlasiantaethol i sicrhau fod gan bobl De Cymru hyder yn ein gallu
i ddiogelu'r cyhoedd yn y dyfodol.

Ian Lankshear
Prif Swyddog Gwasanaeth Prawf De Cymru

Barbara Wilding, CBE, QPM, CCMI


Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru

John May
Rheolwr Ardal, Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi

Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006 1


Persbectif Cenedlaethol

Gerry Sutcliffe MP
Is-ysgrifennydd Seneddol dros Gyfiawnder Troseddol a Rheoli Troseddwyr

Gwneud ein cymunedau yn ddiogelach a lleihau Yn ogystal â hyn, fodd bynnag, mae'n bwysig na
ail-droseddu yw ein prif flaenoriaeth ac un o'n chaiff yr un cyfle ei golli i ystyried mesurau eraill a
heriau mwyaf. Dyna pam fod y gwaith a wneir fydd yn gwella ymhellach ddiogelwch y cyhoedd.
drwy'r trefniadau amlasiantaethol diogelu'r Dyna pam ein bod yn cynnal ein Hadolygiad o
cyhoedd (MAPPA) mor bwysig. Mae goruchwylio Droseddwyr Rhyw Plant, i edrych ar sut y caiff
a rheoli troseddwyr rhyw a threisiol sy'n peri'r risg grŵp penodol o droseddwyr, sy'n peri pryder i
mwyaf o niwed difrifol, boed hynny yn y gymuned nifer, ei reoli orau yn y gymuned. Mae'r adolygiad
neu mewn cadwraeth, yn gymhleth ac yn llawn yn ymgynghori ag ystod eang o ymarferwyr a
her ac mae'n agwedd o wasanaeth cyhoeddus lle y rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys
bo'n iawn i’r cyhoedd ddisgwyl i bob gweithredu ymgynghorwyr lleyg MAPPA, a bydd yn adrodd
rhesymol gael ei wneud. tua diwedd y flwyddyn.

Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn Yn olaf, drwy gymeradwyo'r adroddiad hwn i chi,
ystod y pum mlynedd diwethaf gyda datblygiad hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb sydd
MAPPA ar draws Cymru a Lloegr, bu i adolygiad wedi chwarae rhan yn lleol mewn gweithio gyda
eleni o nifer o ddigwyddiadau trasig lle cafodd throseddwyr rhyw a threisiol, neu mewn sicrhau
pobl eu llofruddio neu eu hanafu'n ddifrifol ein bod y trefniadau hyn yn addas at y diben. Lle bo
hatgoffa o bwysigrwydd adolygu perfformiad, MAPPA yn gweithio’n dda mae wedi ei seilio ar
gwella arfer a dysgu gwersi. Mae'n hollbwysig gynnal safonau proffesiynol uchel a chydweithredu
bod y tasgau hyn yn cael eu gwneud gan y amlasiantaethol effeithiol mewn cyflwyno
gwasanaeth prawf, yr heddlu a'r gwasanaeth cynlluniau rheoli risg cadarn. Er nad yw'n bosibl
carchardai, yn ogystal â chan yr asiantaethau eraill dileu risg yn llwyr, lle y cymerir yr holl gamau
hynny sy'n cyfrannu at asesiad a rheolaeth rhesymol gall y perygl o niwed difrifol pellach gael
troseddwyr. Mae cyhoeddiad Cynlluniau Busnes ei leihau i'r lleiaf posibl a chaiff llai o ddioddefwyr
MAPPA gan bob Ardal yn adroddiadau blynyddol eu gwneud yn agored i ail-droseddu.
eleni yn cynnig rhaglen ddefnyddiol ac
angenrheidiol o ddatblygiad ac adolygiad lleol a
rhaid iddi arwain at well arfer. Bydd yn hanfodol
bod y cynnydd hwn yn dryloyw ac yn cael ei
rannu gyda chymunedau lleol.

2 Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006


Cyflawniadau

Uned Trefniadau Uned Amlasiantaethol


Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd (MAPPU)
Diogelu'r Cyhoedd (MAPPA)
Sefydlwyd Uned Amlasiantaethol Diogelu'r
Crëwyd Uned MAPPA ym mis Medi 2005 ac Cyhoedd (MAPPU) yng Nghaerdydd yn y
mae'n darparu adnodd pwrpasol ac arbenigol ar flwyddyn 2005 a hi yw'r cyntaf o'i bath yn Ne
gyfer y gwaith hollbwysig hwn. Cymru. Mae'n dwyn ynghyd yr heddlu, y
gwasanaeth prawf, tai a nyrs seiciatrig gymunedol i
Bydd Rheolwr MAPPA, Nigel Rees, yn mynychu gyd mewn un swyddfa i gydlynu gwaith gyda
cyfarfodydd MAPPP Lefel 3, sef y cyfarfodydd a throseddwyr risg uchel.
gynhelir ar yr 'ychydig critigol' o droseddwyr sy'n
perir risg uchaf, i gymryd y cofnodion a sicrhau Rheolwr Prawf yr Uned yw Eirian Evans. Dywed:
bod y cyfarfod yn cael ei gefnogi i reoli'r risg a "Y peth gwych ynglŷn â'r Uned yw ei bod yn
berir gan y troseddwyr hyn. galluogi'r asiantaethau i greu perthynas weithio
gref sy'n golygu bod cydweithio yn effeithiol ac yn
Ynghyd â Rheolwr MAPPA, bydd Gweinyddwr ystyrlon, gan olygu gwell gwasanaeth i'r gymuned.
MAPPA, Katie Francis, yn sicrhau bod cofnodion O fewn yr Uned mae gennym fynediad at
MAPPP yn cael eu dosbarthu yn fuan a bod y systemau gan bob asiantaeth sydd eu hangen
rheini sydd â'r wybodaeth hollbwysig sydd ei arnom i rannu gwybodaeth yn gyflym ac
hangen i reoli'r troseddwr yn effeithiol yn cael eu effeithlon.
gwahodd i'r cyfarfodydd ac yn eu mynychu.
"Y fantais fwyaf yr ydym wedi ei chael o'r Uned
Hefyd mae llawer iawn o waith wedi ei wneud i yw y gall y tîm, oherwydd ei fod yn yr un swyddfa,
sicrhau ansawdd y gwaith a wneir ac i wella safon drafod achosion a gwneud dewisiadau
yr ystadegau a ddarperir i Fwrdd Rheoli Strategol amlasiantaethol ynglŷn ag asesu risg ac ymyriadau
(SMB) MAPPA ac eraill. Mae hyn yn bwysig priodol a fydd yn briodol i ddiogelu'r cyhoedd.
oherwydd cysylltiad yr SMB â'r gymuned ehangach
drwy Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol a "Oherwydd llwyddiant yr Uned yng Nghaerdydd y
phenodiad ymgynghorwyr lleyg. gobaith nawr yw y gellir ei ailadrodd mewn
rhannau eraill o Dde Cymru."
Mae'r ystadegau allweddol a ddarperir yn cynnwys
nifer y Gorchmynion Atal Troseddwyr Rhyw, nifer MAPPA ar waith
sydd wedi codi'n gyflym yn y flwyddyn ddiwethaf,
yn ogystal â niferoedd y troseddwyr Lefel 1, 2 a 3 Y ddau fforwm allweddol o fewn y broses MAPPA
sydd wedi bod yn destun MAPPA. Mae'r ffigurau yw:
hyn yn dangos bod MAPPA yn ymdrin â mwy na • Paneli Amlasiantaethol Diogelu'r Cyhoedd
dim ond troseddwyr rhyw, mae'n ymwneud hefyd (MAPPP)
â rheoli nifer fawr o droseddwyr treisiol difrifol, • Cynhadledd Amlasiantaethol Asesu Risg
sy'n peri heriau'r un mor anodd. (MARAC)

Mae'r Uned hefyd yn cyfrannu at ddiweddaru Mae tair lefel o risg o ran MAPPA - 1, 2 a 3.
cronfa ddata genedlaethol yr Heddlu - ViSOR - Cynhelir cyfarfodydd MAPPP i reoli’r risg a berir
sy'n sicrhau bod yr Heddlu drwy'r wlad yn gallu gan y troseddwyr mwyaf peryglus, y rheini a asesir
rhannu gwybodaeth am droseddwyr peryglus ac ar Lefel 3 neu'r 'ychydig critigol'. MARAC sy'n
felly lleihau’r risg o niwed i'r cyhoedd. rheoli troseddwyr ar Lefel 2 a chaiff troseddwyr
ar Lefel 1 eu rheoli gan yr Heddlu a'r Gwasanaeth
Prawf sy'n cydweithio heb fewnbwn gan
asiantaethau eraill.

Caiff y broses hon ei hailadrodd ar draws saith


ardal awdurdod lleol De Cymru.

Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006 3


Cyflawniadau

Golwg ar Ferthyr Tudful a Tracey Girton


Rhondda Cynon Taf Rheolwr Tîm Rhondda Cynon Taf

IYn ei swydd fel Rheolwr Tîm Prawf mae gan


Merthyr
Tracey gyfrifoldeb am ddiogelu’r cyhoedd.
RHONDDA Mae'n Cadeirio MARAC ar gyfer troseddwyr
CYNON TAF
A sydd angen ymyrraeth amlasiantaethol, ond
Castell MERTHYR
Nedd TUDFUL nid i'r un lefel o ddwyster â'r rheini ar
Lefel 3.
Abertawe Port Pontypridd
Talbot
Meddai: "Rwy'n mynychu
Pen-y-bont cyfarfodydd MAPPP fel fy mod yn
ar Ogwr Caerdydd
Liz Rijnenberg gwybod am y peryglon y mae'r
Prif Swyddog Cynorthwyol ar troseddwyr hyn yn eu peri i'r
gyfer Rhondda Cynon Taf a Y Barri gymuned ond mae fy mhrif gyfrifoldeb i
Merthyr Tudful broses MARAC. Byddwn yn cyfarfod
bob mis ac mae pob cyfarfod yn ymdrin â thua
Steve Cooke 12 troseddwr. O'r rhain bydd rhai yn adolygiadau,
Ditectif Brif Arolygydd Rhanbarth Rhondda sy'n golygu y byddwn yn gwirio ein bod wedi
Cynon Taf cwblhau'r camau y cytunwyd arnynt, a bydd rhai
yn atgyfeiriadau newydd.
Mae Liz a Steve yn Cyd-gadeirio cyfarfodydd
MAPPP. Maent yn esbonio eu rôl: Fel Cadeirydd, fy mhrif gyfrifoldeb yw hwyluso'r
broses a gwneud yn siŵr bod y cyfarfod yn derbyn
"Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i reoli y wybodaeth sydd ei hangen arno i ddatblygu
troseddwyr risg uchel, yr 'ychydig critigol', ar sail cynlluniau gweithredu a fydd yn rheoli risg yn
achos wrth achos. effeithiol.

Y nod yw asesu'r achos gan ddefnyddio'r Mae'n hollbwysig fy mod yn gallu datblygu
gwahanol sgiliau a gwybodaeth a rennir gan yr perthynas weithio effeithiol gyda'r asiantaethau
asiantaethau partner. Mae hyn yn gwella'r broses sy'n rhan o'r broses. Rwy'n gweithio'n arbennig o
asesu risg ac yn ein galluogi ni i ddatblygu agos gydag Uned Diogelu'r Cyhoedd yr Heddlu ac
cynlluniau rheoli sy'n diogelu'r cyhoedd a rydym yn gwneud yn siŵr bod y bobl briodol yn
dioddefwyr posibl. Rydym yn sicrhau bod mynychu cyfarfodydd.
ymyriadau'n cael eu targedu i risg benodol ac
anghenion y troseddwyr er mwyn gwella'r Wrth gwrs, mae gwaith proses MARAC yn
tebygrwydd o ailsefydlu llwyddiannus. dechrau go iawn yn dilyn y cyfarfod cychwynnol
pryd y bydd camau wedi eu clustnodi i unigolion a
Ar lefel ehangach mae'n bwysig i ni adeiladu enwir. Caiff y camau eu cyflawni ac adroddir yn ôl
perthynas weithio agos gyda phob asiantaeth arall arnynt yn y cyfarfod dilynol. Y nod yw lleihau
sy'n ffurfio rhan o'r broses MAPPA. Rydym yn gymaint â phosibl y risg a berir gan y grŵp hwn o
cydweithio i gael y gynrychiolaeth orau bosibl o droseddwyr a'r unig ffordd y gellir cyflawni hyn yw
asiantaethau partner a hefyd i sicrhau ein bod yn drwy fod asiantaethau yn gweithio'n effeithiol
datblygu cysylltiadau agosach gyda'n cydweithwyr gyda'i gilydd."
yn y Gwasanaeth Carchardai.

Un mater penodol ar ein cyfer ni fu sicrhau bod


digon o lety priodol ar gyfer troseddwyr pan gânt
eu rhyddhau i'r gymuned. Rydym wedi bod yn
gweithio'n brysur gydag adran tai yr awdurdod
lleol i geisio gwneud yn siŵr y gallwn ddatblygu
hyn yn y dyfodol."

4 Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006


Cyflawniadau

Approved Mae Beverley Brooks tasgau angenrheidiol. Dywed Denise Thomas, un


Cydlynydd Diogelu'r Cyhoedd Bwrdd Iechyd o'r Gweithwyr Diogelwch Menywod sydd wedi ei
adeiladau Lleol Rhondda Cynon Taf lleoli ym Mhontypridd: "Fy mhrif waith yw cyswllt.
cymeradwyedig yn Rhaid i mi gael perthynas weithio dda gyda phawb
cynnig lefel well o Mae Beverley yn rhan yn y broses MAPPA fel sy'n rhan o'r broses gan gynnwys y Rheolwr Prawf
oruchwyliaeth cynrychiolydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Troseddwyr, yr Heddlu, Uned Rhaglenni,
drwy: partneriaid yn y sector gwirfoddol ac, wrth gwrs,
Meddai: "Mae'n bwysig bod gennym ran yn y dioddefwr.
• Osod cyrffiw gyda'r hwyr rheolaeth y grŵp hwn o droseddwyr peryglus.
Rydym yn deall bod troseddwyr yn rhan o'r Mae adeiladu’r cysylltiadau hyn yn caniatáu i mi
• Darparu staffio 24 awr gymuned ac y bydd arnynt angen mynediad at werthuso'r risg o bersbectif y dioddefwr yn
wasanaethau Gofal Sylfaenol megis meddygon ogystal â rhannu gwybodaeth a ddarperir gan y
• Cynnal asesiadau parhaus o dioddefwr y gellir ei defnyddio i helpu eraill i reoli
teulu ac ysbytai. Mae proses MAPPA yn darparu
agweddau ac ymddygiad llawer iawn o wybodaeth y gallaf ei rhannu, o risg y troseddwr.
fewn y canllawiau cyfrinachedd, i wneud yn siŵr
• Sicrhau modelu Byddwn ond yn gweithio gyda phartneriaid
bod y bobl iawn yn cael eu hysbysu.
cymdeithasol parhaus troseddwyr sydd ar hyn o bryd ar raglen IDAP, er
Ym maes Iechyd rydym yn datblygu'r mewnbwn y gallant fod yn bartneriaid presennol, newydd
• Darparu rhaglen o neu'n gynbartneriaid. Gwyddom y gall y rhaglen
yr ydym yn ei wneud i'r broses MAPPA lleol ac
oruchwyliaeth, cefnogaeth arwain ar gynnydd yn y risg o drais gan fod yn
rydym yn edrych i wella'r cyfraniad a wneir gan
a monitro rheolaidd weithwyr proffesiynol iechyd meddwl gan ein bod rhaid i'r troseddwr dderbyn, a chymryd
yn teimlo fod hyn yn hollbwysig." cyfrifoldeb dros, ei weithredoedd a dyna pam fod
• Gwyliadwriaeth a chyswllt rôl y WSW mor bwysig."
parhaus gyda'r heddlu Joanne Hourihan
Seicolegydd Fforensig Siartredig Mae Denise yn dangos sut y gall ymglymiad gyda'r
• Atgyfnerthu cydymffurfiad MARAC gynorthwyo dioddefwyr trais teuluol yn
gydag amodau mechnïaeth Mae Joanne yn gweithio yn y Gwasanaeth Prawf, uniongyrchol: "Roedd gan un dioddefwr yr
neu drwydded ar secondiad o'r Gwasanaeth Carchardai, i oeddwn yn gweithio â hi blant ifanc ac nid
ddarparu cefnogaeth a chymorth arbenigol ar reoli oeddem yn cael cyfweld â'r dioddefwr o flaen y
• Annog presenoldeb, a troseddwyr rhyw a threisiol risg uchel ac uchel plant, am resymau amlwg.
chefnogi dysgu a geir drwy iawn i swyddogion prawf ar draws De Cymru.
raglenni achrededig Mae hi ynghlwm yn y broses MAPPA ac yn Nid oedd ganddi gefnogaeth deuluol ac roedd yn
darparu asesiadau seicolegol i gynorthwyo'r brwydro gydag iselder pan fu i mi ei chyfarfod,
• Cadw cysylltiad gyda staff broses o ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer felly bûm yn trafod ei hachos gyda fy
goruchwylio yn nhimau troseddwyr Lefel 3. nghysylltiadau ar y MARAC a llwyddom i drefnu
maes y Gwasanaeth Prawf bod gweinyddes feithrin yn dod yn gwmni i mi.
Dywed: "Pan fydd achos yn cael ei gyfeirio ataf, Oherwydd hyn hwyluswyd y cyfweliad ac roedd
boed hwnnw wedi dod yn wreiddiol oddi wrth hefyd yn golygu bod y dioddefwraig yn cael egwyl
Swyddog Prawf neu’n uniongyrchol o drafodaeth fer oddi wrth y plant."
mewn MAPPP, os yn briodol, byddaf yn darllen
gwybodaeth am yr achos ac yna'n penderfynu ar Adeiladau Cymeradwyedig
yr asesiad mwyaf priodol. Byddaf yn cyfarfod De Cymru
gyda'r troseddwr, os bydd am wneud hynny a
defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiad. Mae gan hosteli prawf yng Nghaerdydd ac
Abertawe rôl bwysig i'w chwarae mewn rheoli
Caiff yr adroddiad hwn ei fwydo yn ôl i'r MAPPP troseddwyr a allai fod yn beryglus yn y gymuned.
yn tynnu sylw at y ffactorau o ran risg, ynghyd ag
argymhellion ynglŷn â thriniaeth bosibl ac, yn fwy Mae'r hosteli yn lletya dros 50 o drigolion. Caiff
cyffredinol, ynglŷn â'r ffordd fwyaf effeithiol o nifer o'r rhain eu lletya yn yr hostel fel amod eu
reoli'r troseddwr yn y gymuned. Yna caiff yr trwydded yn dilyn rhyddhau o garchar, er y gallai
argymhellion hyn eu hadeiladu i’r cynllun preswylwyr hefyd fod ar fechnïaeth neu gyfnod
gweithredu ar gyfer yr unigolyn hwnnw. prawf. Mae gan yr hosteli reolau llym ac maent yn
cynnig amgylchedd â strwythur iddo i droseddwyr.
Denise Thomas
Gweithiwr Diogelwch Menywod Mae nifer o weithgareddau y gall preswylwyr
ymgymryd â hwy yn ystod eu cyfnod preswyl.
Mae rôl y Gweithiwr Diogelwch Menywod Mae ffocws ar ddatblygu sgiliau sylfaenol, megis
(WSW) yn rhan o gyflwyniad diweddar y Rhaglen llythrennedd a rhifedd, a'u cynorthwyo i wella eu
Camdriniaeth Deuluol Integredig (IDAP) ac maent hamgylchiadau personol drwy, er enghraifft, reoli
yn rhan yn fforwm trais teuluol MARAC i sicrhau arian yn well. Mae gweithgareddau yn
bod persbectif y dioddefwr yn cael ei glywed. canolbwyntio ar ddatblygu'r hunan barch a
dealltwriaeth y dioddefwr o droseddwyr a sicrhau
Mae'r staff a benodir i'r rôl hon wedi derbyn eu bod yn cael eu hailintegreiddio'n ddiogel i'r
hyfforddiant arbenigol i'w galluogi i wneud y gymuned.

Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006 5


Bwrdd Rheoli'r Strategol Aelodau'r Bwrdd
Rheoli Strategol
Kevin Gibbs
Rheolwr Gwasanaethau Plant
Janet Chaplin Yn ein barn ni, bu sefydlu Uned MAPPA yn gam
Ardal, NSPCC
Prif Swyddog Cynorthwyol, Gwasanaeth mawr ymlaen. Rydym yn falch bod yr arian ar
Christine Davies
Prawf a gyfer hyn wedi ei gytuno am y ddwy flynedd nesaf
Canolfan Byd Gwaith
a hyderwn na fydd unrhyw anawsterau yn ei
Giles York Dick Geen
barhau." Partneriaeth Diogelwch
Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Heddlu De
Cymru Cyd-gadeiryddion yr SMB Cymunedol Caerdydd
Helen Bennett Robert Rees
Pennaeth Nyrsio Iechyd Meddwl, Pennaeth Gwasanaethau Tai,
Mae'r Bwrdd Rheoli Strategol (SMB) yn cynnwys
Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro CBS Castell-nedd Port Talbot
ystod eang o asiantaethau sy'n rhan o'r broses
John Davies
MAPPA. Mae'r Bwrdd, a gadeirir gan Brif
Gwnstabl Cynorthwyol a Phrif Swyddog
Gwen Roberts Cydlynydd Partneriaeth
Pennaeth Cynllunio, Ymddiriedolaeth GIG Diogelwch Cymunedol
Cynorthwyol o'r Gwasanaeth Prawf, yn cynnal yr Tegwyn Williams
Pontypridd a'r Rhondda
adolygiad ffurfiol o'r trefniadau sydd ar waith a Seiciatrydd Fforensig
ddefnyddir i asesu a rheoli risg troseddwyr sy'n Ymgynghorol, Clinig Caswell
"Mae ymglymiad Iechyd ym mhroses MAPPA ac ar
destun trefniadau MAPPA. Mae iddo hefyd rôl Alison Lewis
y Bwrdd Rheoli Strategol wedi cynyddu yn ystod G4S, Carchar EM y Parc
mewn sicrhau ansawdd ac adolygiadau achosion
y flwyddyn. Mae hyn wedi rhoi rhagor o werth i Jeff Davison
difrifol.
weithio mewn partneriaeth, dealltwriaeth Partneriaeth Diogelwch
ehangach o waith MAPPA a chyfleoedd i Cymunedol Abertawe
Rhan allweddol o'r SMB yw cyfraniad
ddylanwadu ar y broses o ddiogelu’r cyhoedd. Sean Sullivan
Ymgynghorwyr Lleyg, sy'n aelodau o'r gymuned
Prif Seicolegydd, Pennaeth Uned
heb ran ffurfiol yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae gan sefydliadau Iechyd erbyn hyn well Lleihau Troseddu, Carchar EM
Eu rôl hwy yw bod yn "gyfaill beirniadol". Caerdydd
dealltwriaeth o'r prosesau diogelu'r cyhoedd ac ar
hyn o bryd rydym yn cytuno i Femorandwm o Ditectif Uwcharolygydd
John Dale and Sharon Dixon Simon Clarke
Ddealltwriaeth gyda dyletswydd i gydweithredu
Ymgynghorwyr Lleyg Heddlu De Cymru
mewn diogelu'r cyhoedd.
Tony Young
"Rydym yn hoffi'r disgrifiad o Ymgynghorwyr Lleyg Pennaeth Gwasanaethau Plant a
Mae'n rhaid mai un o fanteision gweithio mewn Theuluoedd, CBS Bro
fel 'cyfeillion beirniadol' i MAPPA. Credwn ei fod
partneriaeth ym maes diogelu’r cyhoedd yw gwell Morgannwg
yn adlewyrchiad cywir o'r rôl sy'n casglu a
cyfathrebu a gweithio amlasiantaethol wrth Pam Harding
chynnwys barn aelodau cyffredin o'r cyhoedd.
ymdrin â digwyddiadau amhriodol difrifol lle y Rheolwr Ardal, Cymorth i
mae iechyd wedi bod â rhan lawn ynddo. Ddioddefwyr
Rydym wedi cael ein hannog i gyfrannu ein barn, Andy Homer
herio barn gweithwyr proffesiynol a chyfrannu at Cyfarwyddwr Cynorthwyol,
Mae datblygiadau pellach yn cynnwys sefydlu
gyfeiriad a'r penderfyniadau a wneir o ran Cefnogaeth Weithredol, Serco
timau diogelu'r cyhoedd eraill ar draws De Cymru
diogelu'r cyhoedd. Monitoring
a bydd iechyd yn gyfranogwr gweithredol
Chris Pike
ynddynt." Tai a Diogelwch Cymunedol,
Rydym yn teimlo'n eithaf annibynnol ar yr
asiantaethau statudol, eto rydym yn falch eu bod CBS Bro Morgannwg
yn ein derbyn ac yn ein croesawu. Yn ystod y
Linda Badman Mal Gay
Cyfarwyddwr Dros Dro, Canolfan Byd Tîm Troseddu Ieuenctid Pen-y-
flwyddyn rydym wedi ymweld â Charchardai,
Gwaith Cymru bont ar Ogwr
Adeiladau Cymeradwyedig, Uned Trais Teuluol
Helen Bennett
yng Nghaerdydd, Swyddfa Diogelu'r Cyhoedd ym Pennaeth Gwasanaethau Iechyd
"Mae Canolfan Byd Gwaith Cymru yn parhau i
Mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr Meddwl, Ymddiriedolaeth GIG
ddatblygu'r berthynas gydag asiantaethau
a gwahanol gyfarfodydd MAPPP, lle yr ydym wedi Caerdydd a'r Fro
perthnasol eraill er mwyn cefnogi diogelu'r
gweld lefel uchel o gyfnewid gwybodaeth fanwl Susan Cousins
cyhoedd a rheoli'r risg a berir gan droseddwyr Cyfarwyddwr Gweithredol,
rhwng asiantaethau a hefyd cadeirio medrus a
peryglus. Merthyr Tudful Ddiogelach
chadarn.
Gwenan Roberts
Yn ystod y flwyddyn rydym wedi bod yn brysur yn Pennaeth Cynllunio, Ysbyty
Rydym wrth gwrs hefyd wedi mynychu
cyflwyno a chefnogi hyfforddiant ymwybyddiaeth Dewi Sant
cyfarfodydd SMB a gwneud gwahanol gyfraniadau
ymgynghorwyr mewn perthynas â throseddwyr Parchedig John Dale
drwy ofyn y cwestiwn 'syml' a thrwy wneud
peryglus a'r broses MAPPA. Ymgynghorydd Lleyg
awgrymiadau cadarnhaol - gweithredwyd ar rai
Ms. Sharon Dixon
ohonynt ac mae eraill angen rhagor o waith Ymgynghorydd Lleyg
Yr wyf wedi ymrwymo i barhau i ddarparu
arnynt. Rydym wedi bod yn falch i gymryd rhan yn Linda Badman
cynrychiolaeth ar Fwrdd Rheoli Strategol MAPPA
y broses archwilio ac wedi ein calonogi gan safon Cyfarwyddwr Dros Dro,
ac felly sicrhau cefnogaeth Canolfan Byd Gwaith
y gwaith a ddatgelwyd. Canolfan Byd Gwaith
ar lefel strategol a lefel ymarferwyr."
Nigel Rees
Rheolwr MAPPA

6 Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006


Bwrdd Rheoli'r Strategol

Paul Tidball,
Janet Wallsgrove, Kevin Gibbs
Andrea Whitfield Rheolwr Gwasanaethau Plant Ardal, NSPCC
Llywodraethwyr Carchardai Ei Mawrhydi Is-gadeirydd Fforwm Amddiffyn Plant De
Caerdydd, Y Parc ac Abertawe Cymru

"Mae diogelu'r cyhoedd drwy drefniadau MAPPA "Partneriaeth yw'r elfen allweddol mewn cadw
yn parhau'n flaenoriaeth uchel ar gyfer y aelodau agored i niwed o'r gymuned yn ddiogel.
Gwasanaeth Carchardai. Caiff hyn ei gyflawni Mae asiantaethau ac unigolion yn cydnabod y
drwy weithio mewn partneriaeth effeithiol gyda'r gallwn ddiogelu ac amddiffyn ein plant yn llawer
Awdurdodau Cyfrifol eraill a'r asiantaethau mwy effeithiol pan fyddwn yn gweithio gyda'n
Dyletswydd i Gydweithredu. gilydd.

Mae gan yr holl garchardai yn Ne Cymru brosesau Rydym yn croesawu'r arweiniad strategol yn ardal
ar waith i ddynodi, asesu, adolygu a rheoli risg De Cymru sy'n gweld ymagwedd cyd-gysylltiedig
carcharorion a gwmpesir gan MAPPA. Mae'r tuag at reoli troseddwyr, diogelu plant a phobl
Gwasanaeth Carchardai yn cyfrannu'n weithredol ifanc, amddiffyn oedolion agored i niwed a gwaith
at ddatblygu cynlluniau rheoli risg ar gyfer effeithiol gyda'r gymuned, fel y ffordd orau i
carcharorion a gedwir mewn, neu a ryddheir o'n ddiogelu'r cyhoedd.
sefydliadau. Gall y Gwasanaeth Carchardai
ddarparu gwybodaeth a chudd-wybodaeth yn Mae gan Fwrdd Rheoli Strategol MAPPA De
ymwneud â risg nad sydd fel arfer yn amlwg neu'n Cymru rôl hollbwysig mewn sicrhau bod arfer yn
hawdd ei gweld mewn cyd-destunau eraill, parhau i ddatblygu, bod asiantaethau yn dysgu gan
persbectif all gael effaith sylweddol ar ei gilydd a bod mesurau cadarn yn cael eu cynnal i
strategaethau rheoli risg. reoli risg yn yr ardal hon. Mae'r NSPCC a
Fforwm Amddiffyn Plant De Cymru yn falch i
Mae'r gwaith partneriaeth hwn erbyn hyn yn barhau i chwarae rôl weithredol mewn amddiffyn
ganolog i’n holl ymdrechion i ddiogelu'r cyhoedd. plant a phobl ifanc drwy ein hymrwymiad i Fwrdd
Bydd y Model Rheoli Troseddwyr sydd i'w Rheoli Strategol MAPPA."
gyflwyno'n fuan ar gyfer carcharorion sy'n dod o
dan drefniadau MAPPA yn hysbysu cyflwyniad
ymyriadau wedi eu targedu i leihau ail-droseddu,
fydd yn eu tro yn cyfrannu at reolaeth effeithiol
troseddwyr MAPPA yn y gymuned.

Mae'r ymagwedd hon o gydweithredu er mwyn


diogelu'r cyhoedd yn parhau'n brif flaenoriaeth ar
gyfer Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi yng
Nghymru."

Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006 7


Astudiaethau achos MAPPA

Astudiaeth achos 1 Astudiaeth achos 2

Cysylltwyd ag Uned MAPPA gan Swyddog Cyfeiriwyd at MAPPP cyn rhyddhau troseddwr
Meddygol, oedd yn goruchwylio claf oedd yn treisiol difrifol. Dynododd yr atgyfeiriad hwn nifer
destun gorchymyn ysbyty. Roedd yn poeni bod y o ddioddefwyr a pheryglon eraill pe bai'r
claf yn peri lefel uchel o risg ac y byddai Tribiwnlys troseddwr yn cael ei ryddhau i'r ardal leol.
Iechyd Meddwl oedd i'w gynnal yn fuan yn
cyfarwyddo dychwelyd i'r gymuned o lety cadarn. Cyfarfu'r MAPPP nifer o weithiau dros gyfnod o
naw mis a bu'n goruchwylio dychweliad y
Trefnwyd MAPPP ac, er nad oedd goruchwyliaeth troseddwr yn y pen draw i’r gymuned. Roedd
prawf o'r achos, gwyddid bod y troseddwr wedi hyn yn cynnwys cyfnod o fyw mewn Adeilad
ceisio lladd plant gwahanol ddwywaith ac roedd yr Cymeradwyedig y tu allan i'r ardal, gan symud
heddlu yn gallu dod â gwybodaeth gynhwysfawr i'r wedyn i Adeilad Cymeradwyedig yn Ne Cymru,
cyfarfod. hyn oll i brofi ei gymhelliant i gydymffurfio gyda
goruchwyliaeth.
O ganlyniad, cafodd y Swyddog Meddygol
wybodaeth arwyddocaol nad oedd yn hysbys i Yn ystod y broses, cadwyd cysylltiad agos rhwng
staff meddygol cyn hyn. Cafodd ei hysbysu hefyd yr Adeilad Cymeradwyedig, Rheolwr Troseddwyr
ynghylch nifer o faterion yn ymwneud â y Gwasanaeth Prawf, Uned Dioddefwyr, Uned
dioddefwyr a bod y claf mewn perygl mawr pe Camdriniaeth Deuluol a'r heddlu. Hefyd, yng
byddai'n dychwelyd i'r un ardal. Byddai hon yn ngoleuni ymholiadau a wnaed gan y MAPPP,
wybodaeth hollbwysig i'r tribiwnlys ac y byddai'n cyfeiriwyd at y Gwasanaethau Cymdeithasol i reoli
cefnogi penderfyniad rhyddhau priodol, ynghyd ag materion amddiffyn plant. Cafodd y dioddefwyr
amodau fyddai eu hangen i reoli unrhyw risg a eu diweddaru'n llawn a chymerwyd camau
fyddai. diogeliad gan yr heddlu i leihau'r perygl.

Datgelodd y Swyddog Meddygol hefyd bod y claf Mae'r cyfnod o oruchwyliaeth trwydded nawr
yn cael ymweld â threfi mewn ardal arall a wedi dod i ben ac, hyd yma, ni fu'r un digwyddiad
chododd hyn bryderon y cyfarfod a'r staff o drais ac nid oes yr un dioddefwr wedi ei ail
meddygol. Anfonwyd y cofnodion i gydlynydd erlid.
MAPPA yn yr ardal arall ac mae camau yn cael eu
cymryd nawr i asesu'r risg a berir i'r gymdogaeth a
pharatoi ar gyfer ailsefydliad posibl y claf i'r ardal.
Mae heddlu yn yr ardal hon hefyd wedi cymryd
camau i leihau'r risg presennol i ddioddefwyr.

Heb MAPPA mae'n annhebygol y byddai gwir lefel


y risg wedi cael ei chanfod, gan arwain ar risgiau
uwch ar gyfer y cyhoedd a'r claf.

8 Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006


Gwybodaeth ystadegol

Rhestr Termau Troseddwyr MAPPA Categori 1: Troseddwyr Rhyw Cofrestredig (RSO)

• MAPPA Nifer yr RSO yn byw yn Ne Cymru ar 31/3/06 680


Trefniadau Aml-asiantaeth
URhS:
er Diogelu’r Cyhoedd
Rhanbarth A (Rhondda Cynon Taf / Merthyr Tudful) 149
• MAPPP Rhanbarth C (Caerdydd) 211
Panel Aml-asiantaeth er Rhanbarth E (Bro Morgannwg) 72
Diogelu’r Cyhoedd Rhanbarth F (Pen-y-bont ar Ogwr) 61
Rhanbarth G (Castell-nedd Port Talbot) 60
I reoli’r ychydig Rhanbarth H (Abertawe) 127
droseddwyr sy’n peri’r risg
mwyaf i’r gymuned – caiff Nifer yr RSO yn ôl 100,000 o'r boblogaeth 63
y rhain eu categoreiddio fel
Nifer yr RSO naill ai wedi eu rhybuddio neu eu dedfrydu am
troseddwyr Lefel 3
dorri gofyniad rhwng 1.4.05 a 31.03.06 22
• ‘Ychydig critigol’
Nifer y:
Caiff y troseddwyr hyn eu
Gorchmynion Atal Troseddau Rhyw (SOPSO) y gwnaed cais amdanynt 10
rheoli drwy broses MAPPP
SOPO Interim a roddwyd 1
• MARAC SOPO llawn a osodwyd gan y llysoedd 10
Cynhadledd Aml-
Gorchmynion Rhybudd y gwnaed cais amdanynt 0
asiantaeth Asesu Risg
Gorchmynion Rhybudd Interim a roddwyd 0
I reoli’r troseddwyr sy’n Gorchmynion Rhybudd llawn a osodwyd gan y llysoedd 0
peri risg i’r gymuned – caiff
Gorchmynion Teithio Tramor y gwnaed cais amdanynt 0
y rhain eu categoreiddio fel
Gorchmynion Teithio Tramor a osodwyd gan y llysoedd 0
troseddwyr Lefel 2

• Bwrdd Reoli Strategol


Categori 2 - Troseddwyr Treisiol a Throseddwyr Rhyw eraill
Mae’r Bwrdd yn rheoli
proses MAPPA ac mae’n Nifer y troseddwyr treisiol a throseddwyr rhyw eraill (a ddiffinnir gan Adran 327 (3)(4)(5)
gyfrifol am sicrhau ei bod Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003) yn byw yn Ne Cymru rhwng 1.4.05 a 31.3.06 437
yn cael ei chymhwyso’n
gyson ar draws De Cymru
Troseddwyr MAPPA Categori 3: Troseddwyr eraill
• Awdurdod Cyfrifol
Yr asiantaethau hynny sy’n Nifer y troseddwyr (a ddiffinnir gan Adran 325 (2)(b) Deddf Cyfiawnder
gyfrifol yn statudol am y Troseddol 2003) rhwng 1.4.05 a 31.3.06 35
Trefniadau er Diogelu’r
Cyhoedd sef: yr Heddlu, y
Gwasanaeth Prawf a’r Troseddwr a reolwyd drwy Lefel 3 a Lefel 2
Gwasanaeth Carchar
Nifer yr RSO a reolwyd ar: Lefel 3 – 44
• Troseddwyr Categori 1 Lefel 2 - 244
Troseddwyr rhyw
Nifer y troseddwyr treisiol a throseddwyr rhyw eraill a reolwyd ar: Lefel 3 – 56
cofrestredig
Lefel 2 – 297
• Troseddwyr Categori 2 Nifer y troseddwyr eraill a reolwyd ar: Lefel 3 – 0
Troseddwyr treisgar a
Lefel 2 – 66
throseddwyr rhyw eraill
Achosion lle y cafodd troseddwyr eu: Lefel 3 – 12
• Troseddwyr Categori 3 Dychwelyd i gadwraeth am dorri trwydded Lefel 2 – 51
Troseddwyr eraill a
ddiffinnir gan Adran 325 Dychwelyd i gadwraeth am dorri gorchymyn cyfyngiadau neu SOPO Lefel 3 – 0
(2) (b) o Ddeddf Lefel 2 – 6
Cyfiawnder Troseddol
2003 Cyhuddo gyda throsedd rhyw neu dreisiol ddifrifol Lefel 3 – 1
Lefel 2 - 4

Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006 9


Esboniad ar yr ystadegau

Troseddau difrifol pellach


Achos pedwar
Bu i bump o'r 707 o droseddwyr a reolwyd
drwy'r broses MAPPA gyflawni trosedd ddifrifol Rhyddhawyd troseddwr rhyw o ddedfryd o
pellach yn ystod y flwyddyn hon. garchar estynedig o wyth mlynedd.
Cyfarwyddwyd y troseddwr i fyw mewn adeilad
Achos un cymeradwyedig ac fe'i galwyd yn ôl i'r carchar pan
y'i cyhuddwyd o ymosodiad anweddus oedd wedi
Roedd y troseddwr yn preswylio mewn Adeilad digwydd rhyw bedwar mis cyn hynny.
Cymeradwyedig tra ar drwydded estynedig yn
dilyn dedfryd am bedair blynedd am Glwyfo. Cydweithredodd partneriaid MAPPA yn agos i
Roedd yn destun cynllun rheoli risg manwl a warchod diogelwch y cyhoedd nes y llwyddwyd i
gafodd ei gymhwyso'n llawn. gymryd camau galw yn ôl i wneud yn siwr na
allai’r troseddwr ffoi cyn cael ei gyhuddo. Mae'r
Dihangodd y troseddwr wythnos wedi ei ryddhau, troseddwr nawr yn treulio dedfryd o fywyd am y
ac yntau wedi methu â dychwelyd i'r hostel erbyn drosedd newydd.
y cyrffiw. Cymerwyd camau tor-cyrffiw ar
unwaith, gyda Heddlu De Cymru yn chwilio’r Achos pump
ardal ac yn ymweld â phawb y gwyddid oedd yn
gysylltiedig ag ef. Hysbyswyd dioddefwyr y Cafodd troseddwr rhyw oedd ar Raglen Trin
drosedd fod y troseddwr ar goll. Ychydig Troseddwyr Rhyw ei fonitro'n agos yn y gymuned.
ddyddiau'n ddiweddarach defnyddiodd y Roedd partneriaid MAPPA yn ymwybodol o’r risg
troseddwr botel i ymosod ar bartner ei gyn wraig a berwyd gan y troseddwr a'r posibilrwydd y câi
a chafodd ei arestio yn lleoliad y drosedd. troseddau hanesyddol eraill eu dwyn i'r llys. Heddlu De Cymru
Sicrhaodd partneriaid MAPPA bod teulu'r Pencadlys yr Heddlu
O ganlyniad dyfarnwyd y troseddwr yn euog o dioddefwr yn gwybod am y perygl a berwyd gan y Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU
Glwyfo Adran 18 a'i ddedfrydu i bum mlynedd o troseddwr ond ni ellid eu hargyhoeddi i dorri Ffôn: 01656 655555
garchar, gyda goruchwyliaeth estynedig. cysylltiad. Yn y pen draw ail-droseddodd y
troseddwr. Daeth adolygiad llawn o'r achos i’r Simon Clarke
Gwelwyd cyfathrebu da rhwng gwahanol canlyniad ei fod wedi ei reoli'n dda. Ditectif Uwcharolygydd
ardaloedd o fewn De Cymru pan yn chwilio am y Diogelu'r Cyhoedd
troseddwr ac ymatebwyd i gynllun clir a luniwyd Ym mob achos pan fydd troseddwr yn cyflawni Heddlu De Cymru
drwy MAPPA i'w ddefnyddio pe byddai'r Trosedd Ddifrifol Pellach cynhelir adolygiad llawn a
troseddwr yn methu â chydymffurfio gyda chaiff unrhyw argymhellion, newid mewn polisi
goruchwyliaeth lem. Cyfrannodd hyn at neu bwyntiau i ddysgu oddi wrthynt eu rhoi ar
ddiogelwch dioddefwyr ac yn y diwedd arestio'r waith ar unwaith.
troseddwr.
Rhaid i'r Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a'r
Achos dau Carchardai, yn ogystal â holl bartneriaid MAPPA,
reoli nifer o droseddwyr risg uchel yn y gymuned
Rhyddhawyd troseddwr rhyw o garchar wedi ac, er nad yw'n bosibl i ddileu y perygl yn llwyr,
dedfryd o naw mlynedd. Fe'i rheolwyd yn agos a'i gallant sicrhau bod ymdrech 100% yn cael ei
gyfarwyddo i fyw mewn adeilad cymeradwyedig. gwneud i leihau'r perygl o ail-droseddu. GWASANAETH
Fe'i galwyd yn ei ôl ar unwaith pan y'i cyhuddwyd PRAWF CENEDLAETHOL
gydag ymosodiad rhywiol ar breswylydd arall. Dros Loegr a Chymru

Achos tri Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol


Ardal Prawf De Cymru
Galwyd troseddwr ar drwydded bywyd yn ei ôl yn Tŷ Tremains
dilyn trosedd o Glwyfo. Yn dilyn honiadau o Heol Tremains CF31 1TZ
droseddau eraill cydweithiodd partneriaid MAPPA Ffôn: 01656 674820
i sicrhau bod y troseddwr yn cael ei arestio gyda'r
lleiaf posibl o berygl i'r cyhoedd. Gosododd yr Janet Chaplin
Heddlu rybudd ar eu system gyfrifiadurol Prif Swyddog Cynorthwyol
genedlaethol ynglŷn â char cariad y troseddwr.
Gwnaeth hyn yn siwr bod y car yn cael ei stopio
pan welwyd ef ac arweiniodd hyn at arestio’r Dyluniwyd ac Argraffwyd gan
Adran Argraffu Heddlu De Cymru
troseddwr. Ffôn: 01656 869264

10 Trefniadau Aml-asiantaeth er Diogelu’r Cyhoedd Adroddiad Blynyddol 2005-2006

You might also like