You are on page 1of 1

Cynorthwywr Cefnogaeth Ryngwladol

Cyflog: 8/awr Oriau: Rhan-amser Parhad: Dros dro Lleoliad: Prifysgol Bangor Dyddiad Cau: 23/03/2014 Disgrifiad Swydd: Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal pum ysgol haf i fyfyrwyr rhyngwladol newydd yn 2014. Y Swyddfa Cefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol fydd yn cydlynur holl weithgareddau allgyrsiol. Rydym yn chwilio am unigolyn a all gynorthwyo gydar canlynol: - Rhedeg y rhaglen gymdeithasol - Cydlynu a goruchwylio gwirfoddolwyr - Cynhyrchu a dosbarthu taflenni a phosteri - Gwerthu tocynnau ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau - Cyfarfod a chyfarch myfyrwyr yn y maes awyr ac ar y campws - Cynorthwyo ac arwain myfyrwyr ar dir y brifysgol - Gweinyddu cyffredinol Manyldeb Person: Hanfodol: - Rhaid i chi fod yn amyneddgar, yn gyfeillgar a gallu gweithion dda gydag eraill - Sgiliau TG (a rhifedd) da iawn, yn arbennig Word/Publisher/Excel - Gallu gweithio gydar nosau ac ar benwythnosau - Meddu ar wybodaeth leol dda iawn a dealltwriaeth or ardal - Rhaid wrth sgiliau trefnu ar gallu i roi sylw i fanylion. - Rhaid i chi fod yn greadigol a gallu gweithion annibynnol - Rhugl yn y Saesneg Eraill: - Nid oes angen cymwysterau ond byddai profiad o weithio neu wirfoddoli mewn amgylchedd amlddiwylliannol yn fuddiol. - Byddem hefyd yn hoffi clywed gan unigolion syn rhugl mewn un iaith dramor neu ragor (yn arbennig Mandarin neu Arabeg) ac wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf. Gwneud Cais: Gwnewch gais drwy anfon CV a llythyr eglurhaol yn nodi pam rydych eisiaur swydd i internationalsupport@bangor.ac.uk Dim ond ag ymgeiswyr llwyddiannus y byddem yn cysylltu ar l y dyddiad cau a dim ond ymgeiswyr llwyddiannus fydd yn cael cyfweliad pellach.

You might also like