yw Profi, a sefydlwyd gan Pontio, sy'n rhoi sialens i bobl ifanc edrych ar faterion sy'n wynebu eu cymuned a bod yn rhagweithiol wrth ddod o hyd i atebion a all arwain at newid cadarnhaol, hyn oll tran feithrin y sgiliau a'r agweddau sydd eu hangen i lwyddo yn y byd heddiw. Ar l cymryd rhan mewn cyfres o weithdai, bydd timau ar draws Ynys Mn yn cyflwyno'u syniadau mewn digwyddiad a gynhelir gan Pontio, gan gystadlu am wobr ariannol tuag at roi eu syniad ar waith. Dewch yn Brofysgwr Gwirfoddol a:
Derbyniwch hyfforddiant i gefnogir rhaglen ach datblygiad personol
Datblygwch fedrau hwyluso, mentora a hyfforddi gwerthfawr
Cyfrannwch eich gwybodaeth arbenigol i ddatrys her bywyd go iawn
Hawliwch brofiad ymarferol o weithio gyda phobl ifanc
Ehangwch eich rhwydweithiau
Hawliwch bwyntiau XP Gwobr Cyflogadwyedd Bangor Gyda di ddordeb? I gael mwy o wybodaeth, neu i ddatgan eich diddordeb, cysylltwch ag Elen Bonner, Rheolwr Prosiect Profi: e.bonner@bangor.ac.uk / 01248 382813. Mae Profi wedi'i seilio ar raglen dysgu drwy brofiad i raddedigion Prifysgol Bangor, sef 'Menter trwy Ddylunio', a chaiff ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Esmee Fairbairn, gyda chefnogaeth gan Ymestyn yn Ehangach. Cydgynhyrchwyd y gweithgareddau gan Pontio, Chris Walker - People Systems International, myfyrwyr Prifysgol Bangor a disgyblion o Ysgol Gyfun Llangefni. Mae Pontio yn ddiolchgar i gymuned gynyddol Profi sy'n cynnwys: Ymddiriedolaeth Esmee Fairbairn, Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru, Ysgol Gyfun Llangefni, Prifysgol Bangor, Gyrfa Cymru a Phroject Teuluoedd yn Gyntaf, STEMnet Cymru, Technocamps, Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, The People and Work Unit, GISDA, Cwmnir Frn Wen, CBAC. Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?
Hwyluso gweithdai mewn ysgolion fel rhan o raglen Profi
Mentora a hyfforddi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial
Cyfrannu eich gwybodaeth arbenigol i ddatrys her bywyd go iawn
Ymroi iddi gyda datblygu eich rl a'r project yn gyffredinol * Nifer gyfyngedig o gyfleoedd sydd ar gael a bydd gofyn i chi gael cyfweliad anffurfiol. Cynhelir gweithdai mewn ysgolion ledled Mn o fis Medi Rhagfyr 2014, ac felly maer gallu i siarad Cymraeg a medru gyrru yn fantais, er anogir pawb sydd diddordeb yn y prosiect i ymgeisio. Penodir dyddiadau gweithdai yn l argaeledd cyfranogwyr a gwirfoddolwyr. Roeddwn wedi gweithio gydag oedolion ifanc or blaen ond roedd hwn yn brofiad hollol newydd, yn bennaf gan ein bod ni ynghlwm a chynllunio a rhedeg y cynllun. Roedd hin wych cyfarfod gydag amrywiaeth o bobl newydd or Brifysgol ac ar draws cyrsiau ac maei wedi fy annog i ddefnyddio fy medrau cwrs mewn cyd- destun gwahanol. Profysgwr Gwirfoddol