You are on page 1of 12

GweithreduGwyrdd

Cylchgrawn Cyfeillion y Ddaear Cymru 2009

z SWYDDI GWYRDD I GYMRU


Cael yr economi i weithio eto

Beth sy’n bwydo eich bwyd?


Ffigurau allyriadau wedi’u symleiddio | Yn y Cynulliad | Ymunwch â grŵp lleol Cyfeillion y Ddaear
Mae’n dda bod yn boblogaidd am unwaith
Arferem bob amser gael ein cyhuddo o a newid hinsawdd a sicrhau byd iach y cant y flwyddyn’ , ‘80 y cant erbyn
fod yn ddigalon. Pobl yr ofn a’r braw, yr hefyd roi’r sbardun i’n heconomïau claf. 2050’, ‘1.8 y cant ers 1990’. Felly yn
amgylcheddwyr crysau gwlanen, dylai Mae llawer o arweinwyr yn sylweddoli nhudalennau canol y rhifyn cewch
pawb fyw mewn ogof a bwyta llysiau bod cael ein heconomïau allan o’r coch ganllaw cryno i rai ohonynt. Nid ydynt
llawn mwd. yn golygu troi’n wyrdd. A dyw hynny yn gwneud i Gymru ymddangos yn rhy
Ddim yn wir wrth gwrs gan ein ddim yn fwy gwir yn unman nag yng dda, ond i ddatrys y broblem mae’n
bod bob amser wedi cynnig atebion Nghymru, fel y mae Gordon James rhaid i ni wybod y ffeithiau.
ymarferol modern. Ond o’r diwedd Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Ar y dudalen gyferbyn cewch wybod
rydym ni’r amgylcheddwyr yn cael Cymru yn ei archwilio ar dudalen saith. am rai o’r ffyrdd y gallwch chi ein
ein cydnabod fel y rhai cadarnhaol. Beth bynnag yw cyflwr yr economi, cynorthwyo ni. Yn yr adegau anodd
A glywsoch chi am fancwr hapus yn mae yna un peth nad allwn ni fyth hyn rydym am gael eich cymorth yn fwy
ddiweddar? wneud hebddo - bwyd. Ac os ydym nag erioed. Diolch i chi os ydych yn ein
Rydym yn osgoi’r sylw smyg yn mynd i fynd i’r afael ag achosion cynorthwyo’n barod - mae Cyfeillion y
‘Ddwedon ni’. Yn wir mae’r anrhefn newid hinsawdd mae gwneud yn siŵr Ddaear yn dibynnu ar unigolion fel chi
economaidd rydym ni ynddo yn golygu bod ein bwyd yn cael ei gynhyrchu am dros 90% o’n hincwm. Heb ddigon
nad oes unrhyw un yn falch i fod yn mewn modd mor gynaliadwy â phosibl o arian mae’n anodd cynhyrchu’r
smyg. Ond mae’n ymddangos bod yn hollbwysig. Ar hyn o bryd mae atebion sydd eu hangen arnom a hyd
y gwersi yn dechrau cael eu dysgu. cymorthdaliadau llywodraeth yn cynnal yn oed yn fwy anodd i wneud yn siŵr
Efallai bod gan ddefnydd synhwyrol ar cadwyn gudd sy’n cysylltu ein hoffter bod ein harweinwyr yn gwrando.
adnoddau gysylltiad â thwf. Hwyrach am gig a bwydydd llaeth i ddinistriad Ac i gael hyd yn oed rhagor o
bod effeithlonrwydd ynni wedi’r cwbl fforestydd glaw yn Ne America. ddewisiadau ar gyfer cyfranogi, trowch
yn effeithlon. Efallai bod economïau Trowch i dudalen 10 i ddarllen am ein i dudalen wyth i gael syniad o’r hyn
cynaliadwy yn fwy cynaliadwy wedi’r cwbl. hymgyrch newydd i gywiro’r gadwyn y mae ein grwpiau lleol wrthi’n ei
Ond yr hyn sy’n ein gwneud yn fwyd a sut y gall ffermwyr Cymru elwa o wneud ledled Cymru. Efallai y cewch
smyg yw gwybod bod gennym rai hyn hefyd. eich ysbrydoli i ymuno a gwneud eich
atebion eithaf da. Oherwydd gallai’r un Mae llawer o ffigurau yn gysylltiedig gwahaniaeth eich hun yn lleol.
mesurau sydd eu hangen i fynd i’r afael â mynd i’r afael â newid hinsawdd – ‘tri Simon Williams, Golygydd

cynnwys
3 O ddifri yn lleol 5 Ynni Gwyrddach? 8 Gweithredu’n lleol
Ymgyrch newydd yn targedu cynghorau Gwynt, llanw, CHP – a yw ynni yng Cymerwch ran yng ngwaith eich grŵp
Nghymru yn dod yn wyrddach o gwbl? Cyfeillion y Ddaear lleol
4 Nid yw Cymru yn dwp
Ffilm hinsawdd newydd gref 5 Yn y Cynulliad 10 Cywiro’r gadwyn fwyd
Llawer o siarad gwyrdd, nawr lle Helpwch ni i dorri’r cysylltiad rhwng
4 Diogelu Sir Benfro mae’r gweithredu ffermio cig a llaeth a dinistriad
21 mlynedd o ymgyrchu amgylcheddol fforestydd glaw sy’n newid yr hinsawdd
yng ngorllewin Cymru 7 Swyddi gwyrdd
‘Nawr yw’r amser i weithredu ar 12 Allyriadau Cymru
4 Yn gryno swyddi gwyrdd’, meddai Llywodraeth Graffeg cryno sy’n gwneud synnwyr
Newyddion Amgylcheddol yng Nghymru Cynulliad Cymru o’r ffigurau

8
7
6
5
4
3
2
1

10 . Cywiro’r
0

7 . Swyddi gwyrdd gadwyn fwyd 12 . Allyriadau Cymru


 GweithreduGwyrdd
O ddifri yn lleol RHIFYN 2
2009
Bydd ymgyrch newydd Cyfeillion y Ddaear Cymru,
O ddifri ynghylch CO2, yn gofyn i awdurdodau lleol ymrwymo i
wneud toriadau gwirioneddol mewn allyriadau carbon deuocsid

Chwaraeodd grwpiau lleol Cyfeillion Byddwn yn ymgyrchu ar y lefelau Cyhoeddir GweithreduGwyrdd gan
y Ddaear ran fawr yn ein hymgyrch lleol, cenedlaethol a DU i gyd ar yr un Cyfeillion y Ddaear Cymru
lwyddiannus a welodd gyflwyno deddf pryd. Byddwn am weld gweithredu 33 Oriel Arcêd y Castell
newid hinsawdd gyntaf y byd. Mae’r yn ein hardaloedd lleol i leihau Caerdydd CF10 1BY
Ddeddf Newid Hinsawdd yn ymrwymo’r allyriadau carbon, bydd angen i ffôn: 029 2022 9577
DU i dorri ei allyriadau nwyon tŷ gwydr Lywodraeth Cymru gytuno ar dargedau ffacs: 029 2022 8775
gan 80 y cant erbyn 2050 - ond bydd gyda’r cynghorau, a bydd yn rhaid i e-bost: cymru@foe.co.uk
cyflawni hyn yn amhosibl heb weithredu Lywodraeth y DU gynorthwyo gydag gwefan: www.cyddcymru.co.uk
gan gynghorau. ariannu’r gweithredu sydd ei angen.
Mae llywodraeth leol yn gyfrifol am Byddwn yn ymgyrchu am Golygydd a chynllunydd:
lawer o feysydd yn ein bywyd ac yn ymrwymiad gan bob cyngor i dorri Simon Williams
rheoli cyllideb o £4 biliwn y flwyddyn allyriadau carbon gan 40% erbyn 2020. Is-olygydd:
yng Nghymru. Trafnidiaeth gyhoeddus, Bydd ein grwpiau lleol yn gweithio’n Ceri Parsons
addysg ein plant, beth sy’n digwydd i’n gyda chynghorau unigol ac yn cynnig Cyfranwyr:
gwastraff, beth adeiladir ble a chyflwr cyngor iddynt ar sut gellir gwneud hyn. Neil Crumpton, Haf Elgar, Jennifer
ein parciau a’n strydoedd - caiff y rhain Os bydd cynghorau o ddifri ynglŷn â Geddes, Gordon James, Bleddyn Lake
i gyd eu rheoli gan ein cynghorau lleol. mynd yn wyrdd - gwneud cartrefi yn fwy
Ac eto nid oes targed na ynni effeithlon, gwella trafnidiaeth leol Clawr: Delwedd © Ian Homer
chymhelliant yng Nghymru i gynghorau ac annog busnesau i fuddsoddi mewn
i dorri allyriadau carbon. Dyma’r bwlch technolegau gwyrdd newydd - gall fod Rhif Cwmni Cyfeillion y Ddaear
yn y cynllun cyfan - ac mae’n ddifrifol. manteision economaidd a chyfleoedd Cyfyngedig 1012357
Felly mae ein grwpiau lleol yn swyddi ar ein cyfer ni oll.
dechrau bwrw ati i ymgyrchu eto. Y tro Er mwyn cyfranogi yn yr ymgyrch,
hwn eu nod yw gwneud yn siŵr nad cysylltwch ag ymgyrchydd Cyfeillion
yw’r targedau allyriadau yn stopio gyda y Ddaear Cymru Haf Elgar ar 029 20 Cyfeillion y Ddaear Cymru:
llywodraeth ganolog. 229577 neu haf.elgar@foe.co.uk
yn ymroddedig i ddiogelu’r

Cefnogwch ni...
amgylchedd a hyrwyddo dyfodol
cynaliadwy ar gyfer Cymru

yn rhan o fudiad ymgyrchu


Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn Gosodwch her i’ch hunan i drefnu
amgylcheddol mwyaf dylanwado y DG
rhan o Gyfeillion y Ddaear Lloegr, neu gymryd rhan mewn digwyddiad
Cymru a Gogledd Iwerddon. codi arian ar gyfer Cyfeillion y Ddaear.
yn rhan o’r rhwydwaith
Mae llawer o ffyrdd hawdd i chi Ewch i https://www.foe.co.uk/events.
amgylcheddol mwyaf eang yn
gyfranu - o godi arian wrth chwilio’r html neu ffoniwch 020 7490 1555 i
y byd, gyda dros 75 o fudiadau
rhyngrwyd i gymryd rhan mewn ddarganfod sut mae gwneud
cenedlaethol ar draws pum cyfandir
digwyddiad codi arian
Newidiwch eich trydan i ffynhonnell
yn cefnogi rhwydwaith unigryw
Os nad ydych eisoes yn gefnogwr sy’n 100% adnewyddadwy gan Good
o grwpiau sy’n ymgyrchu mewn
Cyfeillion y Ddaear beth am ymuno Energy a byddwn yn derbyn cyfraniad
cymunedau ledled Cymru
a ni heddiw? Bydd eich cyfraniad gwerth £50. Ewch i www.good-energy.
yn ein helpu i ddod o hyd i atebion i co.uk/foe neu ffoniwch 0845 456
yn dibynnu ar unigolion am dros
ddiogelu’r blaned a’i phobl yn awr ac 1640, gan son am Gyfeillion y Ddaear
90% o’i incwm
i’r dyfodol. Ewch i www.foe.co.uk/
cymru neu ffoniwch 0800 581 0510. Os ydych yn poeni am y byd y
Byddem yn ddiolchgar iawn i chi am bydd cenedlaethau’r dyfodol yn
eich cefnogaeth ei etifeddu, gadael rhodd yn eich
Argraffwyd ar bapur a wnaed 100 y cant
Ewyllys i Gyfeillion y Ddaear yw un
o wastraff ôl-ddefnyddiwr, gan
Codwch arian ychwanegol ar ein o’r pethau gorau gallwch ei wneud.
ddefnyddio inciau llysiau ac yn gwbl
cyfer drwy ddefnyddio peiriant Cewch wybod mwy yn www.foe.
rydd o alcohol, gan argraffwr a chanddo
chwilio’r rhyngrwyd Everyclick. co.uk/legacies neu ffoniwch Maria ein
achrediad amgylcheddol rhyngwladol ISO
Cofrestrwch yn www.everyclick.com/ Swyddog Gwybodaeth Cymynroddion
14001
friendsoftheearthtrust ar 020 7566 1646

GweithreduGwyrdd 
Nid yw Cymru yn dwp
Mae ffilm newydd rymus
wedi lansio ymgyrch i greu
miliynau o ymgyrchwyr
newid hinsawdd
Mae The Age of Stupid yn dangos
cymeriad a chwaraeir gan Pete
Postlethewaite ym myd diffeithiedig
2055, yn edrych yn ôl ac yn gofyn,
“Pam na wnaethom ni atal newid
hinsawdd pan gawsom ni’r cyfle?”
Anogir cynulleidfaoedd i ymuno
yn yr ymgyrch ‘Not Stupid’, sy’n
cyfri’r dyddiau hyd nes y cynhelir
Uwchgynhadledd Hinsawdd y Hola Pete Postlethewaite, fel y dyn olaf ar y Ddaear, ‘Pam na wnaethom ni achub ein hunain?’
Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen
ym mis Rhagfyr (gweler Yn Gryno t.5). mewn lleoliadau ar draws Cymru.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi Ewch i www.ageofstupid.net neu
gweithio gyda gwneuthurwyr y ffilm i cysylltwch â’ch grŵp lleol Cyfeillion
gynnal sgriniad i ACau yn y Senedd, y Ddaear (gweler t.9). Ymunwch â’r
ac mae ein grwpiau lleol yn ei ddangos ymgyrch: www.notstupid.org

21 mlynedd o amddiffyn yr amgylchedd


Ers 1988, a’i lwyddiant cyntaf yn ennill ymgyrch chwe blynedd i atal tanwydd
banc poteli i Arberth, mae Cyfeillion orimwlsion budr rhag cael ei losgi yng
y Ddaear Sir Benfro wedi bod yn Ngorsaf Bŵer Penfro.
gyfrifol am gyfres o ymgyrchoedd Pan drawodd trychineb
amgylcheddol o nod. amgylcheddol Sir Benfro gydag
Mae’r llwyddiannau nodedig yn arllwysiad olew y Sea Empress ym
cynnwys gweithio gyda’r bobl leol i atal 1996, gweithiodd y grŵp yn ddiflino yn
safle tirlenwi yn Creseli, cynorthwyo helpu i achub adar a orchuddiwyd gan
Ymgyrch Moroedd Glân Dinbych-y- olew a chynhyrchu’r adroddiad cyntaf ar
pysgod i sicrhau system carthffosiaeth y trychineb. Paratowyd achos ar gyfer
newydd o ansawdd uchel yn y dref, a erlyniad gan dîm Cyfreithiol Cyfeillion y
gwrthwynebu safle gwastraff niwclear Ddaear Llundain a gafodd ei ddatblygu
yn Nhrecŵn. gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Diolch i weithredu cyfreithiol y grŵp Yn awr, gyda newid hinsawdd a
yn erbyn y llywodraeth, mae’n rhaid buddsoddi mewn swyddi gwyrdd yn
i gwmnïau olew a nwy roi asesiadau uchel ar yr agenda, mae Cyfeillion y
Ian Homer

effaith amgylcheddol ar gyfer drilio oddi Ddaear Sir Benfro yn edrych ymlaen at
ar arfordir Sir Benfro. Mae ei gynigion 21 mlynedd arall o weithredu.
Gerald Miles, ymgyrchydd Gwrth-GM a ar gyfer yr A40 wedi dylanwadu ar bolisi Gweler tud 9 er mwyn cyfranogi yn
ffermwr organig o Sir Benfro Llywodraeth y Cynulliad, ac fe gymrodd eich grŵp lleol Cyfeillion y Ddaear.

YN GRYNO DOES DIM ANGEN NIWCLEAR


Nid oes angen pŵer niwclear ar gyfer
DIWRNOD DI-GAR
Ar 22 Medi bob blwyddyn caiff traffig
dyfodol carbon isel, eto mae cynlluniau ei wahardd o drefi ledled Ewrop.
Newyddion amgylcheddol o ar y gweill i amnewid hen orsaf Am y diwrnod, mae’r strydoedd ar
bob rhan o Gymru niwclear Wylfa o ar Ynys Môn. Mae’r gael ar gyfer cerdded, beicio, theatr,
cwmni ynni RWE wedi prynu tir nesaf cerddoriaeth, dawnsio a chelf. Yng
at yr orsaf bresennol a chael cytundeb Nghymru, mae Cyfeillion y Ddaear
cysylltu gyda’r Grid Cenedlaethol. Trefynwy yn helpu sicrhau bod y dref
Mae’r addewid o swyddi wedi sicrhau yn mwynhau diwrnod di-gar, gyda
cefnogaeth y rhan fwyaf o’r cyngor digwyddiadau a fydd yn cynnwys
- er bod mwy o swyddi i’w cael mewn teithiau beic a gweithgareddau plant.
dulliau adnewyddol, effeithlonrwydd I wybod rhagor, neu i drefnu diwrnod
ynni a dal a storio carbon, heb adael di-gar yn eich tref, ewch i www.dft.gov.
etifeddiaeth angheuol. uk/pgr/sustainable/awareness/itwmc/

 GweithreduGwyrdd
A yw ynni yng Nghymru yn mynd yn fwy gwyrdd?
Mae cynhyrchu trydan yn ffynhonnell fawr allyriadau carbon sy’n newid
hinsawdd yng Nghymru. Os ydym i fynd i’r afael â’n hallyriadau cynyddol, rhaid
i ni ganfod ffyrdd i gynhyrchu pŵer glanach, a’i ddefnyddio yn fwy effeithlon
Gwynt ar y môr
Mae cymeradwyo fferm wynt Gwynt
y Môr, wyth milltir oddi ar arfordir
Gogledd Cymru, wedi bod yn gam
mawr ymlaen. Mae’r prosiect anferth Effeithlonrwydd Ynni
hwn, a fydd yn darparu 10 y cant o’r Cymru sydd â’r ‘parth carbon
trydan a ddefnyddir yng Nghymru, isel’ mwyaf yn Ewrop, wedi ei
wedi wynebu gwrthwynebiadau ganolbwyntio ar wella effeithlonrwydd
uchel eu cloch. Ond mae Cyfeillion ynni 40,000 o gartrefi ar draws
y Ddaear Cymru a’r Gynghrair Ynni Blaenau’r Cymoedd. Parthau carbon
Adnewyddadwy wedi casglu dros isel oedd prif argymhelliad adroddiad
2,000 o lythyrau’n cefnogi, ac mae’r ‘Home Truths’ Cyfeillion y Ddaear, a
prosiect yn mynd yn ei flaen gyflwynwyd i Lywodraeth Cynulliad
Cymru yn 2007
Gwynt ar y tir
Mae rhai ffermydd gwynt ar y tir wedi
cael caniatâd eleni, ond gyda llawer
gormod yn cael gwrthwynebiad yn Housing
lleol, mae targedau Llywodraeth y ‘Zero Carbon Hub Wales’ yw grŵp
Cynulliad ddwy flynedd y tu ôl i’r amserlen newydd o aelodau allweddol o’r
diwydiant adeiladu, sector tai a sector
Ynni llanwol gwirfoddol. Nod yr Hub yw rhoi’r
Mae astudiaeth pŵer llanwol Afon arweiniad sydd ei angen i gyrraedd
Hafren yn rhygnu ymlaen. Mae targed uchelgeisiol Cymru i sicrhau
nifer o ddewisiadau llawer gwell na bod holl dai newydd yng Nghymru yn
morglawdd Caerdydd-Weston yn cael cael eu hadeiladu i safon ‘dim carbon’
eu hystyried, ond hyd yma nid yw erbyn 2011
pŵer llanwol wedi cyfrannu’r un wat i
gynhyrchiant ynni Cymru

Gwres a Phŵer Cyfun nawr, mawr


os gwelwch
o ddŵr twym,yn
gandda
wneud niwed
Tra bod pawb ohonom yn gwneud i bwysigrwydd ecolegol dyfrffordd
ein rhan dros effeithlonrwydd ynni, Aberdaugleddau. Eto, mae defnyddio
mae Llywodraeth y DU yn dal yn gwres gwastraff o’r fath drwy wres a
fodlon taflu ymaith gwerth 40 y cant phŵer cyfun (CHP) yn arfer cyffredin
o’r galw am drydan yng Nghymru mewn nifer o wledydd, a dylai fod yn
mewn un penderfyniad. Bydd gorsaf arfer awtomatig ar gyfer pob dull o
bŵer nwy anferthol yn dympio symiau gynhyrchu ynni yng Nghymru a’r DU

DYFARNIAD: A yw ynni yng Nghymru yn mynd yn fwy gwyrdd? Yn araf - ond mae ffordd bell i fynd eto
LLOSGYDDION ANFERTHOL COPENHAGEN ‘09 GWERSYLL HINSAWDD CYMRU
Mae llosgyddion anferthol ar gyfer Ym mis Rhagfyr 2009 cynhelir Gallai Cymru weld rhagor o’r
llosgi sbwriel wedi eu cynnig ar gyfer Cynhadledd Newid Hinsawdd y gwrthdystiadau hinsawdd a welwyd ar
Caerdydd a Merthyr Tudful. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen safle glo brig Ffos-y-Fran a gorsaf bŵer
llyncwyr gwastraff hyn angen cyflenwad i drafod cytundeb hinsawdd byd-eang Aberddawan yn 2008. Bydd gwersyll
gwarantedig o wastraff am tua 25 newydd. Bydd Cyfeillion y Ddaear yn hinsawdd, tebyg i’r rheini yn Heathrow
mlynedd, er gwaethaf y targed ailgylchu Ymgyrchu am doriadau o 40% erbyn a gorsaf bŵer Kingsnorth, yn cael ei
70% a’r angen cynyddol i leihau ac 2020 heb wrthbwyso, a chymorth ariannol gynnal yng Nghymru yr haf hwn. Mae
ailddefnyddio adnoddau. Mae pryderon ar gyfer gwledydd sy’n datblygu. Yn dilyn un o brif wyddonwyr hinsawdd y byd,
ynglŷn ag effaith newid hinsawdd wythnos o baratoi ym mis Tachwedd, James Hansen o NASA, wedi dweud
yr allyriadau, a llygredd posibl o’r bydd diwrnod o weithredu ledled y byd ar fod gwrthdystiadau heddychlon a
gweithfeydd ac wrth gludo’r gwastraff. 5 Rhagfyr, a bydd Atal Anrhefn Hinsawdd gweithredu uniongyrchol yn ymatebion
Mae grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear Cymru yn trefnu digwyddiad. cyfreithlon i newid hinsawdd, oherwydd
yn ymgyrchu yn erbyn y cynigion. www.stopclimatechaos.org/tags/Wales gweithredu annigonol llywodraethau.

GweithreduGwyrdd 
Yn y Cynulliad
Dim ond geiriau a dim gweithredu? Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi
gweld rhai addewidion gwyrdd mawr gan Lywodraeth y Cynulliad.
A allwn ni nawr ddisgwyl peth gweithredu, yw cwestiwn Haf Elgar

M ae adran yr Amgylchedd,
Cynaliadwyedd a Thai
yn boenus o araf.
Ond mae Llywodraeth y Cynulliad

Simon Williams
gynhyrchiol a blaengar, a arweinir gan wedi gwneud ymrwymiadau pendant i
Jane Davidson, wedi cyhoeddi papurau greu Parth Carbon Isel ar gyfer 400,000
ymgynghori diddiwedd yn y flwyddyn o gartrefi, y mwyaf yn Ewrop ym
ddiwethaf. Mae strategaethau ar Mlaenau’r Cymoedd, i gyflwyno treth
ddatblygu cynaliadwy, newid hinsawdd, bagiau plastig, ac i roi cyngor busnes Haf Elgar, ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear
effeithlonrwydd ynni, swyddi gwastraff ar gynaliadwyedd. Ac mae rhagor o Cymru yn y Senedd
a gwyrdd i gyd wedi gosod targedau ddiogelu’r amgylchedd gyda rheolau
uchelgeisiol ar gyfer Cymru wyrddach. newydd cryf ar dyfu cnydau GM a’r i ddwy flynedd, chwech o bynciau ac
Ond a yw hyn yn ddim byd perygl i niwed amgylcheddol. Gyda ymgynghoriadau ar wahân a degau o


ond rhywbeth ar bapur? Er bod sesiynau tystiolaeth. Cafodd pedair set
ymrwymiadau i bolisïau cynaliadwy Mae rhai Gweinidogion o argymhellion eu cyhoeddi, a disgwylir
ar draws llywodraeth, nid yw traffordd
ar Wastadeddau Gwent wedi’i wrthod,
yn brwydro i gytuno gyda’r yr adroddiad terfynol erbyn hydref ‘09.
Mae wedi bod yn ddarn sylweddol ac
cynigir llosgydd anferth ar gyfer toriadau 3% tra bod y ymarferol ac wedi dangos gwerth y
Merthyr Tudful, ac mae’r cymhorthdal
ar deithiau awyr Ynys Môn i Gaerdydd
wyddoniaeth yn dweud strwythur pwyllgor newydd.
Bydd gwleidyddiaeth y Cynulliad yn
yn parhau. Mae rhai Gweinidogion wrthym fod o leiaf 9% newid yn fawr yn y flwyddyn sydd i ddod


yn brwydro i gytuno ar doriadau gyda Rhodri Morgan yn dwyn ei gyfnod
blynyddol o 3% yn flynyddol tra bod yn angenrheidiol fel Prif Weinidog i ben ar ôl 10 mlynedd
y wyddoniaeth ar newid hinsawdd Chynllun Gweithredu Newid Hinsawdd yn y swydd. Ac yntau wedi arwain y
yn dweud wrthym fod o leiaf 9% yn ac ymgyrch i ddilyn yn yr hydref mae Cynulliad am bron ei holl hyd, bydd ei
angenrheidiol, ac mae cynnydd y gobaith y byddwn yn y diwedd yn gweld olynydd am roi ei stamp ei hunan ar
Comisiwn ar Newid Hinsawdd wedi bod peth gweithredu gwirioneddol. gyfeiriad y llywodraeth i’r dyfodol.
Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd yr Mae’n ymddangos hefyd y bydd
Darren Millar (Ceidwadawyr), Mike German Amgylchedd, dan gadeiryddiaeth egnïol rhagor o achosion Cynulliad yn erbyn y
(Democratiaid Rhyddfrydol), Alun Ffred Mick Bates, yn dod at ddiwedd ei Llywodraeth yn digwydd yn y flwyddyn
Jones (Plaid Cymru) a Lesley Griffiths
(Llafur) yn pori drwy ‘Sut gallaf atal newid ymchwiliad mawr ar leihau carbon yng sydd i ddod. Penderfyniad allweddol
hinsawdd’ Cyfeillion y Ddaear. Nghymru, sydd wedi parhau am bron fydd a oes gorsaf bŵer niwclear
newydd i’w chodi ar Ynys Môn, sydd
eisoes wedi ei gosod ar restr safleoedd
addas gan Lywodraeth y DU. Er
gwaethaf gwrthwynebiad y Cynulliad ar
fater pŵer niwclear, gallai Llywodraeth
y DU roi sêl ei bendith ar y cynllun. Ac
achosir rhagor o ddrwgdeimlad gan
weithdrefn y ‘Gorchymyn Cymhwysedd
Deddfwriaethol’ (LCO) drwy ba
un y datganolir pwerau newydd o
San Steffan i’r Cynulliad. Roedd
un o’r cynigion cyntaf ar Ddiogelu’r
Amgylchedd a Rheoli Gwastraff, mewn
tagfa yn y Senedd am dros 18 mis cyn
ei gyhoeddi yn derfynol ar ddechrau
mis Mai. Ac mae’r LCO syml ddigon i
drosglwyddo pwerau ar lwybrau beicio
a cherdded di-draffig wedi dod ar draws
rhwystrau niferus. I sefydliad sydd yn
frwd dros dryloywder nid yw’r broses
gymylog hon wedi rhoi fawr o gymorth
i’r Cynulliad.
Felly ai dim ond geiriau yn unig yw
hyn gan Lywodraeth Cymru neu a oes
gweithredu gwyrdd gwirioneddol ar fin
digwydd? Rydym yn dal yn obeithiol

 GweithreduGwyrdd
Y golau gwyrdd i swyddi gwyrdd
Wrth i arweinwyr byd alw am fargen newydd werdd newydd i achub
yr economi byd-eang, mae Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, BETH YW SWYDD WERDD?
Gordon James, yn bwrw golwg ar beth all hyn olygu yng Nghymru

M ae wedi bod yn gyhuddiad cyffredin ac uchel ei phroffil, yn dal Nid dim ond ffermio organig a
cyfarwydd, er yn anghywir, sydd yn dameidiog ac yn ddibynnol ar thwristiaeth eco sy;n creu swyddi
wedi ei anelu at amgylcheddwyr ers ymrwymiad busnesau unigol. gwyrdd. Mae gweithgynhyrchu,
blynyddoedd - bod helpu’r amgylchedd Ond mae’r symud dramatig ym technoleg ac adeiladu i gyd yn
yn dinistrio swyddi. Ond erbyn hyn mlaenoriaethau’r Llywodraeth ar lefel elwa o fod yn wyrdd hefyd
mae nifer y bobl sy’n deffro i fanteision Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, yn
economaidd posibl buddsoddiad dangos bod ewyllys gwleidyddol o’r Excel
gwyrdd yn fwy nac erioed. diwedd mewn cytgord â’r hyn y mae Rhymni, Tredegar
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi dadlau Cyfeillion y Ddaear a’i gefnogwyr Cyflogedig: 58
ers amser maith y gall troi’n wyrdd greu wedi bod yn gweithio tuag ato ers Cynhyrchu ffeibr inswleiddio
swyddi. Dangosodd ein hadroddiad blynyddoedd. gan ddefnyddio papur newydd a
ym 1994 ‘Jobs and the Environment’ Yn fwy nag erioed, mae’r aligylchwyd, a chynhyrchion adeiladu
bod gwario arian ar adeiladu rheilffyrdd amgylchiadau’n ymddangos yn ffafriol eraill o ddeunyddiau cynaliadwy neu
yn creu mwy o swyddi na’r gwariant ar gyfer trawsnewid i economi werdd sydd wedi eu hailgylchu
cymharol ar adeiladu ffyrdd, bod ynni fyd-eang. Gallai hyn greu miliynau o
gwynt yn creu mwy o swyddi am bob swyddi, tra’n torri allyriadau carbon a Filsol Solar
uned o drydan gaiff ei chynhyrchu na gwella sicrwydd ynni. Mewn ymateb Pont-henri, Sir Gaerfyrddin
gorsafoedd pŵer niwclear na glo, a bod i’r ymgynghoriad ‘Swyddi gwyrdd yng Cyflogedig: 13, 70 o isgontractwyr
ffermio organig a rheoli coedwigoedd Nghymru’ mae Cyfeilion y Ddaear Cynllunio, cynhyrchu, cyflenwi
yn grewyr swyddi rhagorol. Cymru yn pwysleisio’r angen am newid a gosod offer cynhesu dŵr a
Nawr, gyda’r dirwasgiad byd- radical i wneud yn siŵr fod Cymru ffotofoltäig solar
eang yn gwasgu, mae awdurdodau yn chwarae ei rhan mewn taclo’r


ledled y byd yn edrych i’r economi Crest Co-operative
Nawr yw’r amser iawn i Cyffordd Llandudno


werdd fel ffordd allan o’r argyfwng
Cyflogedig: 35-40
ariannol. Mae’r Arglwydd Stern, cyn weithredu ar swyddi gwyrdd Prosiectau yn cynnwys ‘Yn Groes
brif economegydd Banc y Byd, wedi
galw ar arweinwyr byd i roi cannoedd dirwasgiad presennol a bygythiad i’r Graen’, yn adennill pren gan y
o biliynau o bunnoedd i fuddsoddiadau newid hinsawdd. diwydiant adeiladau a ‘Trash and
gwyrdd. Mae arweinydd yr UN, Ban Ki- Mae’r argymhellion yn cynnwys Carry’, yn darparu deunydd ar gyfer
moon, wedi galw am ‘Fargen Newydd’ gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer celf a achubwyd o wastraff busnes
werdd byd-eang i fynd i’r afael â newid creu swyddi gwyrdd, mwy o bwyslais
hinsawdd a’r dirwasgiad. Yn yr UDA ar addysg a hyfforddiant ar gyfer y Sharp UK
mae’r Arlywydd Obama yn bwriadu sector gwyrdd, sefydlu cynllun adferiad Wrecsam
creu pum miliwn o swyddi gwyrdd, tra tebyg i’r un sy’n cael ei ddatblygu yn Cyflogedig: 400 - 500
bo’r UE yn buddsoddi dros 100 biliwn UDA, ac i newid hinsawdd i fod yn brif Ffatri yn cynhyrchu 4,000 o baneli
ewro mewn swyddi a thwf gwyrdd. gyfrifoldeb polisi economaidd. solar bob dydd. Yn datblygu
Cred Gordon Brown y gall y DU greu Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes goleuadau amwynder pŵer solar fel
hyd at 400,000 o swyddi gwyrdd mewn wedi gosod ei ‘safbwynt gwyrdd’, gyda cynnyrch newydd posibl
wyth mlynedd, ac yma yng Nghymru, thargedau uchelgeisiol i ailgylchu 70
mae ein Llywodraeth wedi ymgynghori y cant o wastraff a chynhyrchu trydan Durisol
ar strategaeth swyddi gwyrdd. Ynddo, Cymru yn gyfangwbl o ffynonellau Crymlyn, Gwent
dywed y Gweinidogion Jane Davidson adnewyddadwy erbyn 2025. Mae Cyflogedig: 11
ac Ieuan Wyn Jones, “Nawr yw’r amser hefyd wedi dangos arweiniad mewn Cynllunio a chynhyrchu deunydd
iawn i weithredu ar swyddi gwyrdd.” sefydlu polisi adeiladau di-garbon, bum adeiladu arloesol, gydag 80% ohono
Mae cyfle gwych i Gymru chwarae mlynedd o flaen Lloegr, a’i nod yw torri wedi ei wneud o bren a ailgylchwyd.
rôl flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol allyriadau nwyon tŷ gwydr gan dri y Mae perfformiad insiwleiddio thermal
gwyrdd, ond mae llawer o waith i’w cant y flwyddyn o 2011 mewn meysydd y deunydd yn ardderchog
wneud. Mae gormod o gartrefi a lle mae grym wedi ei ddatganoli.
swyddfeydd yng Nghymru ddim yn Mae’r rhain yn arwyddion calonogol Anthony A Davies
ynni effeithlon, gan gostio arian i y bydd argymhellion Cyfeillion y Y Fenni
fusnesau a chyfrannu at dlodi tanwydd. Ddaear yn ddylanwadol mewn llunio’r Cyflogedig: 50
Mae gennym sector organig sy’n strategaeth derfynol. Cwmni gwaith coed ac adeiladau.
ffynnu yng Nghymru, ond mae ein Yng nghanol yr holl dywyllwch Gweithio gyda chynnyrch calch,
hamaethyddiaeth yn parhau i fod yn economaidd, mae’n ymddangos y gallai cynhyrchu ffenestri a drysau pren
ddwys ar y cyfan. Mae twristiaeth fod golau ar ben arall y twnnel - ac wedi’i lamineiddio yn amgylcheddol
werdd, er ei bod erbyn hyn yn fwy mae’r golau hwnnw’n wyrdd. gyfeillgar.

GweithreduGwyrdd 
act local
Ym mhob rhan o Gymru mae pobl yn gwneud eu
byd yn lle gwyrddach. Lle bynnag yr ydych yn byw,
gallwch gyfranogi mewn grŵp lleol Cyfeillion y Ddaear

Bod yn weithredol
Mae Sam Rex wedi bod yn aelod o grŵp lleol
Cyfeillion y Ddaear Llangollen ers ei ffurfio

Simon Williams
yn 2007. Felly, beth yw’r ymgyrchoedd a’r
materion sy’n ei hysbrydoli hi a beth fydd y
grŵp yn ei wneud nesaf?
Bleddyn Lake


Beth wnaeth i chi ymuno i ddechrau? ysbrydolodd filoedd o bobl eraill - Swyddog Datblygu Grwpiau Lleol
Meddyliais y byddai aelodau’r grŵp profodd beth allwn ni ei gyflawni. Os ydych yn ystyried
yn wirioneddol ddiddorol i weithio Y broblem amgylcheddol fwyaf sy’n cychwyn grŵp newydd,
gyda nhw. Ac mae Llangollen yn dref wynebu Cymru heddiw? cysylltwch â mi ac fe’ch
mor hardd, ymddangosai yn ffordd Yr ymateb annigonol i newid hinsawdd. cynorthwyaf i drefnu cyfarfod gyda


dda i weithio ar faterion yn lleol a Ac mae canlyniadau amgylcheddol bod phentwr o gyhoeddusrwydd. Yr oll
chenedlaethol. ag isadeiledd trafnidiaeth mor wael yn sydd ei angen arnoch yw digonedd
Yr ymgyrch leol fwyaf llwyddiannus? fater anferth i Gymru. o frwdfrydedd a’r ysfa i
Roedd ymgyrch Llangollen di-fagiau Eich cyngor gwyrdd gorau? droi’ch byd yn lle ychydig
plastig yn ymgyrch y bu pawb yn y Siarad am faterion yr ydych yn frwd gwyrddach.
grŵp yn rhan ohoni, roedd yn ymarferol amdanynt mewn modd sy’n cysylltu â
ac fe ddatblygodd gysylltiadau phobl sydd â gwahanol safbwyntiau.
cadarnhaol gyda siopau lleol, ysgolion Mae’n beth anodd ei wneud, ond mae’n Sut i gymryd rhan
a chynghorwyr. Efallai bod rhai yn rhaid i ni, neu byddwn dim ond yn Mae’r rhan fwyaf o grwpiau’n
amheus am werth ymgyrch mor fach tramgwyddo pobl. cwrdd unwaith y mis ac yn gweithio
ond roedd yn gymorth gwirioneddol i’n Felly beth nesaf i Langollen? ar amryw o ymgyrchoedd lleol,
sefydlu ni fel grŵp. Rydym newydd gytuno i weithio ar yr cenedlaethol a byd-eang - cewch
Yr Ymgyrch genedlaethol fwyaf ymgyrch O Ddifri ynghylch CO2 (gweler hyd i’r cyswllt perthnasol ar gyfer
ysbrydoledig? tud 3). Mae rhai o’r grŵp wedi hyfforddi eich grŵp lleol ar y map gyferbyn.
Yr Her Fawr, a arweiniodd at i i wneud arolygon ynni cartrefi, mae Os hoffech gychwyn grŵp newydd,
Lywodraeth y DU gyflwyno’r ddeddf grŵp arall yn gweithio ar ymgyrch siopa cysylltwch â Bleddyn ar 02920 229
577, neu ar bleddyn.lake@foe.co.uk
newid hinsawdd gyntaf yn y byd. Yn leol, ac mae’r gwaith hepgor bagiau
fwy na thebyg am yr un rheswm fe plastig yn parhau.

“Onid chi yw’r rhai sy’n dweud na wrth bopeth?”


Wel, na fel mae’n digwydd. Mae bod yn warchodwyr amgylcheddol
grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear
bob amser wedi hyrwyddo atebion,
Cymru. O safleoedd gwastraff tocsig
i ddatblygu amhriodol, maent wedi
Dywedwch Ie
Bu grwpiau lleol Cyfeillion y
nid dim ond gwrthwynebu distryw ymladd yn llwyddiannus yn erbyn
Ddaear y tu cefn i bob math
amgylcheddol. Daw ein llwyddiant fel cynigion yn eu hardaloedd a fyddai
o weithredu cadarnhaol yng
mudiad o’n hymrwymiad i faterion lleol, wedi bygwth yr amgylchedd i bawb.
Nghymru yn cynnwys:
ynghyd â’n hymgyrchoedd cenedlaethol Nid dim ond meddwl am gardd
Marchnadoedd ffermwyr
a rhyngwladol. Yr egwyddor ‘Meddwl yn gefn eu hunain, mae’r grwpiau
Fyd-eang, Gweithredu’n Lleol’ sy’n ein lleol wedi chwarae rhan anferth Ardaloedd Di-GM
gosod ar wahân. mewn ymgyrchoedd cenedlaethol a Cynlluniau ailgylchu
Mae grwpiau lleol yng Nghymru wedi rhyngwladol. Bu ein grwpiau yn rhan Llwybrau diogel i’r ysgol
sefydlu a chefnogi amrywiaeth eang o o gadw Cymru yn ddi-GM a sicrhau Prosiectau ynni
brosiectau a gweithgareddau gwyrdd. bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r adnewyddadwy
O hyrwyddo cynnyrch lleol ac organig, ddeddf newid hinsawdd gyntaf. Ac Mentrau siopa’n lleol
i ailgylchu ac ynni adnewyddadwy mae grwpiau lleol yn rhan hollbwysig Gwyliau bwyd organig
- prosiectau sydd wedi gwneud gwir o’n mudiad rhyngwladol, gan weithio’n Cyfeirlyfrau gwyrdd lleol
wahaniaeth yn ein cymunedau. galed i hyrwyddo cytundeb byd- Addysg effeithlonrwydd ynni
Ond nid oes amheuaeth fod grwpiau eang effeithiol i fynd i’r afael â newid
Cyfnewid hadau
lleol Cyfeillion y Ddaear hefyd wedi hinsawdd yn Copenhagen fis Rhagfyr.

 GweithreduGwyrdd
Grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru
1 Abertawe 10 Dyffryn Clwyd 19 Y Barri
Roy Jones 01792 813 600 Ursel Luhde 01745 550 426 Keith Stockdale 01446 734368
Roy@gellideg.demon.co.uk ursel@cadarn.demon.co.uk k.stockdale@homecall.co.uk
www.wildlifewebsite.com/foe www.foe.co.uk/clwyd www.foe.co.uk/barry
11 Llangollen 20 Y Fenni a Chrucywel
2 Aberystwyth
John Crocker 01974 272218 Sam Rex 01978 862 913 Barry Greenwood 01873 852245
aberystwythfoe@yahoo.co.uk extinct_rex@hotmail.com bandjgreenwood@talktalk.net
www.foe.co.uk/aberystwyth www.foe.co.uk/llangollen www.foe.co.uk/abergavenny
12 Llanidloes 21 Y Gelli Gandryll
3 Caerdydd
Raoul Bhambral 0750 492 8248 Frances Browne 01686 412 788 Gareth Howell-Jones
info@foecardiff.co.uk info@earthlightcrystals.co.uk administrator@cyrusgardendesign.co.uk
www.foecardiff.co.uk www.foe.co.uk/llanidloes www.foe.co.uk/hayonwye
13 Môn a Gwynedd
4 Caerffili David Stephenson 01248 810236
Bleddyn Lake 029 2022 9577
rick.mills@btinternet.com
bleddyn.lake@foe.co.uk 8
www.foe.co.uk/monagwynedd 13
www.foe.co.uk/caerphilly 21
14 Pontypridd a’r cylch
5 Caerfyrddin Kat Nicholson, Richard Reast
Steve Hack steve@carmarthenfoe.org 10
01443 402 317
Chris Corcoran 01267 223023
pontypriddfoe@googlemail.com
www.foe.co.uk/carmarthen
www.foe.co.uk/pontypridd
6 Calon Cymru 15 Sir Benfro
Janine Wilbraham 01597 870039
Ellie Clegg 07800 789 930
janinewilbraham@googlemail.com
silhouette@cooptel.net
www.foe.co.uk/heartofwales
www.foepembrokeshire.co.uk
12
7 Cas-gwent 2
16 Sir y Fflint
Janet Rawlings 01291 625 977 Rob Owen 01352 710 714 10
janet@alg.myzen.co.uk glynowen@holywellcomputers.co.uk
www.chepstowfoe.org.uk www.foe.co.uk/flintshire
9
8 Casnewydd 17 Trefynwy
David Yates dave.yates3@btinternet.com Sue Parkinson
17 6 1 14
www.foe.co.uk/newport sueparkinson@phonecoop.coop
www.monmouthshiregreenweb.co.uk/ 20
9 Castell Nedd Port Talbot madfoe/ 16
Tina Richards 01639 771 183 19 18 7
4 15
tina_761@hotmail.com 18 Torfaen
www.foe.co.uk/neath Carole Jacob 01633 875627 5
carole.jacob48flc@ntlworld.com 3
www.torfaenfoe.org.uk

Ewch â hen fag i siopa


Caiff bag plastig ei ddefnyddio ar bagiau jiwt a bagiau starts corn
gyfartaledd am 15 munud, gyda biobydradwy; a chwaraeodd plant ysgol
phawb yn defnyddio tua 300 ohonynt eu rhan drwy ddylunio logos.
y flwyddyn. Nid dim ond gwastraff ar Ers hynny mae Cyfeillion y Ddaear
adnoddau yw hyn - mae bagiau a deflir Pontypridd wedi trefnu diwrnod dim
yn lladd hyd at 1 miliwn o adar y môr a bagiau plastig anferthol cyn Nadolig
100,000 o famaliaid y môr y flwyddyn. 08, gyda chefnogaeth yr AC lleol, a
Mae grwpiau lleol yng Nghymru Gweinidog Amgylchedd y Cynulliad,
wedi bod wrthi’n frwd yn annog siopwyr Jane Davidson. Mae grŵp Caerffili
i gael gwared ar fagiau plastig tila o wedi llwyddo i gael cymorthdal ar gyfer
blaid bagiau defnydd neu hesian sy’n dros 10,000 o fagiau defnydd Masnach
gadarnach ac y gellir eu hailddefnyddio. Deg, wedi eu dylunio gan blant lleol, i’w plastig. Gyda threfi, dinasoedd a hyd
Cyfeillion y Ddaear Llangollen dosbarthu yn ysgolion yr ardal. yn oed gwledydd cyfan ledled y byd yn
ddechreuodd arni gydag wythnos Mae grwpiau Y Fenni a Chrucywel, gwahardd bagiau plastig, ni fu erioed
dim bagiau plastig lwyddiannus iawn Calon Cymru a Chas-gwent hefyd wedi amser gwell i weithredu a gwneud eich
pan oedd masnachwyr lleol yn cynnig arwain y ffordd i gael gwared ar fagiau cymuned chi yn un di-fagiau plastig.

GweithreduGwyrdd 
Cywiro’r gadwyn fwyd

Efallai y gallech feddwl bod yr olygfa nodweddiadol


o gefn gwlad Cymru gyda gwartheg yn pori mewn
caeau gwyrdd ddim yn cyfrannu i newid hinsawdd.
Ond beth sy’n bwydo’r gwartheg hyn drwy’r gaeaf?

A wyddech chi fod y diwydiant cig a llaeth yn achosi mwy


o allyriadau newid hinsawdd na phob awyren, trên a
char ar y blaned? Ac yma yng Nghymru mae bwyd yn cyfrif
Mae’n rhaid iddi fod yn haws ac yn fwy fforddiadwy i
ffermwyr naill ai dyfu eu bwydydd anifeiliaid eu hunain, neu
i brynu’r hyn a gynhyrchir yn lleol. Gallai hyn hefyd wneud
am 20% o’n hôl troed ecolegol - ac nid yw hyn hyd yn oed yn amaethyddiaeth Cymru yn fwy cadarn i wrthsefyll ffactorau
cynnwys yr ynni a ddefnyddir i goginio a theithio i siopau. allanol ansefydlog, megis prisiau soia byd-eang a gwerth y bunt.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ffermwyr Cymru wedi Rhan o’r mater yw gadael i ddefnyddwyr wybod o ble y
gwneud yn dda i hyrwyddo delwedd o gynnyrch naturiol o daw eu bwyd fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau
safon uchel. Dyma pam mae Llywodraeth Cynulliad Cymru gwybodus. Nid yw’r rhan fwyaf o’r bwyd sydd ar werth yn
yn cefnogi newid i ffermio organig, yn gwrthwynebu cnydau yr archfarchnadoedd yn dod o Gymru, ac anaml y bydd
GM, yn torri’r cyswllt rhwng y nifer o anifeiliaid a gynhyrchir yn cynnwys gwybodaeth lawn am y gadwyn fwyd yn ei
a’r cymorthdaliadau a gaiff ffermwyr ac yn defnyddio chyfanrwydd. A dim ond 22% o ddiodydd a bwydydd a
cronfeydd y GE i gefnogi cynlluniau amaeth-amgylcheddol. brynir gan y sector cyhoeddus yn 2007 ddaeth o Gymru,
Ond mae llawer iawn eto i’w wneud. Mae’r rhan fwyaf o gostyngiad o gymharu â 2005.
gynhyrchwyr da byw yn Ewrop, a rhai ffermwyr da byw yng Bydd Cyfeillion y Ddaear yn ymgyrchu am gyfraith yn y
Nghymru, yn dibynnu ar fewnforio bwydydd anifeiliaid, fel DU i gefnogi’r weledigaeth o ffermio sydd ddim yn golygu
arfer soia o blanhigfeydd yn Ne America. Mae cnydau soia rheibio’r fforestydd glaw. Mae hynny yn cynnwys newid
a dyfir i fwydo ieir, gwartheg a moch yn Ewrop yn defnyddio mewn cymorthdaliadau’r DU i ffwrdd o gynhyrchu da byw
ardal yn Ne America sy’n barod yn fwy ei maint na’r DU ac dwys i ffermio ac amaethu cynaliadwy, gan gynorthwyo
mae’n tyfu’n gyflym. Mae’r torri a’r clirio yma ar Fforestydd ffermwyr i dyfu eu bwydydd anifeiliaid eu hunain a gwneud
Glaw’r Iwerydd yn bygwth bywyd gwyllt ac yn gwaethygu yn siŵr bod y bwyd a brynir gydag arian cyhoeddus, megis
newid hinsawdd. Os bydd y patrymau presennol yn parhau mewn ysgolion ac ysbytai yn gynaliadwy.
caiff ardal enfawr, 40 y cant o ddyffryn afon Amazon, ei cholli Er mwyn cyfranogi yn yr ymgyrch, cysylltwch ag ymgyrchydd
i ffermio soia a bridio gwartheg ar ffermydd enfawr erbyn 2050. Cyfeillion y Ddaear Cymru Haf Elgar ar 029 20 229577 neu
Dyma ran gudd y gadwyn fwyd sy’n rhaid i ni ei chywiro. haf.elgar@foe.co.uk

10 GweithreduGwyrdd
Mae nifer o brosiectau bwyd da eisoes yn digwydd o amgylch Cymru.
Helpwch ni i’w gwneud yn bethau arferol nid yn eithriadau
Fferm Tyn-Y-Fron, Powys Bwydydd Cymunedol Cydweithredol
Mae Tyn-Y-Fron, ym Mochdre, ger y Drenewydd, yn un Mae Richard Reast, cydlynydd Cyfeillion y Ddaear
o’r llwyddiannau yn hanes ffermio organig Cymru. Mae Pontypridd, yn gweithio gyda’r Uned Adfywio Gwledig,
Jonathan a Sally Rees yn cyflenwi prif dai bwyta ledled sefydliad dim er elw sydd wedi derbyn arian gan
Cymru a Lloegr gyda’i cig eidion a’i porc organig o safon, Lywodraeth y Cynulliad i sefydlu rhwydwaith o fentrau
sydd wedi ei gynhyrchu ar fwyd a gynhyrchir ar y fferm. bwyd cydweithredol yng Nghymru.
Yn ystod misoedd yr haf mae eu hanifeiliaid yn pori’n Gwaith Richard yw cysylltu gwirfoddolwyr gyda
rhydd ar y caeau tra yn y gaeaf mae eu bwyd yn cynnwys chyflenwyr lleol i ddarparu ffrwythau a llysiau fforddiadwy
llystyfiant a dyfir ar y fferm megis kale i’r gwartheg ac erfin o ansawdd i gymunedau difreintiedig.
i’r moch. Mae’r system hon hefyd yn arbed llawer o arian “Ar hyn o bryd mae tua 200 o fentrau bwyd
i’r fferm gan leihau’r angen i brynu bwydydd a fewnforir cydweithredol yng Nghymru sy’n cyflenwi rhagor na
sy’n ddrud. 6,000 o deuluoedd ac sydd â throsiant o tua £1 miliwn y
“O ganlyniad i dyfu’r rhan fwyaf o’n bwydydd gaeaf flwyddyn,” meddai Richard.
ein hunain rydym mor agos ag y gellir bod at fod yn “Mae’r manteision yn eang iawn i gwsmeriaid a
hunangynhaliol. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth chyflenwyr. Mae pobl yn bwyta rhagor o ffrwythau a
gwirioneddol i ni yn ariannol, ac mae hyn mor bwysig llysiau sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd, tra
mewn ffermio heddiw,” meddai Jonathan. bod ffermwyr a chynhyrchwyr yn cael ffynhonnell incwm
ychwanegol a sicr.”
Fferm Clynfyw, Sir Benfro
Mae fferm Clynfyw ger Castellnewydd Emlyn wedi bod
yn fferm deuluol teulu Lewis- Bowen ers 1750, ac mae’n
enghraifft arall o ffermio cynaliadwy llwyddiannus. Cedwir
yr anifeiliaid ar ddwyster stoc isel er mwyn caniatáu
rhagor o le i gynhyrchu bwydydd anifeiliaid ar y safle.
“Mae gennym fwy na digon o borfa i bori ac rydym yn
gwneud yr holl wair a’r silwair sydd ei angen arnom ar
agkl;ak;’l;k;’k
gyfer bwyd i’r gaeaf ar ein tir ein hunain,” meddai Tom
Lewis-Bowen, sy’n rhedeg gwaith o ddydd i ddydd y fferm.
“Nid ydym yn prynu unrhyw fwydydd anifeiliaid i mewn
o gwbl. Mae’r gwartheg yn derbyn symiau bach o farlys a
rowliwyd yr ydym yn ei dyfu’n hunain ac rydym hefyd yn Disgyblion o Ysgol Gynradd Catwg Castell-nedd yn ymweld
gwerthu grawnfwyd i ffermwyr organig eraill.” â fferm yn Llanrhidian sy’n cyflenwi llysiau i’w siop fwyd

GweithreduGwyrdd 11
Allyriadau yng Nghymru
15 14.33
Allyriadau CO2 y pen (’06)
12
Mae allyriadau yng Nghymru yn uwch 9.22 9.36
9 8.53
nag yng ngwledydd eraill y DU yn bennaf

Tonnes per capita


oherwydd:
- sector gweithgynhyrchu fwy ei maint 6

Iwerddon
o gymharu â’r boblogaeth

Yr Alban

Gogledd
Lloeger
Cymru
- stoc tai waeth 3
- caiff 11% o’r trydan a gynhyrchir yng
Nghymru ei allforio i weddill y DU

Trefn yn ôl gwledydd y byd, Cymru...................18th Yr Alban......................47th


allyriadau CO2 uchaf y pen Lloeger.................56th Gogledd Iwerddon..43rd

Nwyon Tŷ gwydr 8 7.7%


Nwyon a fesurwyd ers Protocol Kyoto Gostyngiad 6.8%
(dengys y ffigurau ganran cyfanswm y DU):
allyriadau CO2
Percentage decrease

Iwerddon
6
Carbon Dioxide 85%
(1990-2006):

Yr Alban

Gogledd
Methane 7.5%

Lloeger
Cymru

Nitrous Oxide 5.8% 4

}
Hydrofluorocarbons
1.8% 1.5%
Perfluorocarbons 1.6% 2
Sulphur hexafluoride

Targedau lleihau allyriadau


Cymru DU
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi Mae’r Ddeddf Newid Hinsawdd (Tachwedd ‘08) yn
ymrwymo i leihau nwyon tŷ gwydr erbyn awr yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Lywodraeth y
2011, gan 3% y flwyddyn mewn ‘meysydd DU i sicrhau bod allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y DU
lle mae pwerau wedi eu datganoli’ ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf yn 80% yn is na
gwaelodlin 1990

Prif ffynonellau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru (’06)


Ffynonellau Gorsafoedd pŵer 27%

‘Greenhouse Gas Inventories for Haearn a Dur 13%


England, Scotland, Wales and Northern Trafnidiaeth ffyrdd 12%
Ireland: 1990-2006’
DEFRA, The Scottish Government, WAG Amaethyddiaeth 11%
and the Northern Ireland Department of Preswyliol 9%
Environment
Diwydiannol eraill 8%
‘Carbon Dioxide Emissions in Wales’
Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau / Purfeydd olew 6%
Members Research Service (2009) Tirlenwi 2%
Eraill 12%

12 GweithreduGwyrdd

You might also like