You are on page 1of 2

Datganiad i’r Wasg / Press Release

22 Chwefror 2011

Plaid Cymru’n sicrhau cyllid ychwanegol i Ysgolion Gwynedd


Mae Cynghorwyr Plaid Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol i ysgolion cynradd Gwynedd
sy’n wynebu dosbarthiadau mwy eu maint ym mis Medi.

Cyhoeddodd Arweinydd Portffolio Cyllid Plaid Cymru, Y Cynghorydd Siân Gwenllian, y bydd
£300,000 ar gael mewn Cronfa arbennig i gynorthwyo’r ysgolion rheiny sy’n cael trafferthion
gyda gostyngiad yn eu cyllidebau oherwydd lleihad yn niferoedd disgyblion a mesurau
effeithlonrwydd sydd wedi deillio o bolisiïau’r Llywodraeth Brydeinig.

"Mae nifer o’n hysgolion cynradd yn wynebu tasg anodd o leihau niferoedd staffio, a’r unig
ffordd ymlaen yw cynyddu maint dosbarthiadau," eglura’r Cynghorydd Gwenllian.

"Cred Cynghorwyr Plaid Cymru os yw dosbarth yn mynd yn rhy fawr neu bod nifer uchel o
amrediad oed eang o fewn un dosbarth, y gall hyn osod rhai plant dan anfantais. Profwyd
hyn mewn nifer o astudiaethau addysgol ac mae’n synnwyr cyffredin – sut all athrawon roi
cefnogaeth a sylw i bob plentyn os yw maint y dosbarth yn rhy fawr?” meddai’r Cynghorydd
Gwenllian.

"Oherwydd lleihad mewn cyllidebau ysgolion, bydd rhai plant yn methu â chyrraedd eu llawn
botensial yn y dosbarth. Bydd hyn yn deillio o’r ffaith y bydd nifer mwy o blant mewn
dosbarthiadau yn ardaloedd tlotaf y Sir, ac y bydd ysgolion canolig eu maint yn wynebu
newidiadau mawr i’w strwythur staffio. Dwi’n bryderus y bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar
lwyddiant addysgol plant yn ein hysgolion," meddai Arweinydd Portffolio Ysgolion Plaid
Cymru, Y Cynghorydd Liz Saville Roberts, wrth iddi gynnig ei chefnogaeth lawn i’r
cyhoeddiad.

"Dyma’r neges dw i’n ei chlywed wrth drafod gyda Phenaethiaid Ysgolion, Llywodraethwyr a
rhieni, ac rydw i’n falch iawn y bydd rhai ysgolion yn elwa o’r arian ychwanegol hwn i geisio
lleddfu rhywfaint ar y problemau ym mis Medi 2011.

"Fel Sir, rydym hefyd yn parchu addewid Llywodraeth y Cynulliad i amddiffyn cyllidebau
ysgolion, ond ni theimlir yr effaith yn llawn hyd 2012," meddai’r Cynghorydd Saville Roberts.
Yn ôl Y Prifathro Ywain Myfyr, Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd Gwynedd: “Mae
Cyngor Gwynedd, trwy’r awdurdod addysg, eisoes yn cyfrannu £600,000 yn flynyddol i
sicrhau bod lefel digonol o staffio yn ysgolion lleiaf y sir.

“Fel Ffederasiwn, croesawn y symudiad gan y Cyngor i gyfrannu arian ychwanegol tuag at
leihau maint dosbarthiadau yn yr ysgolion mwy eu maint, arian sy’n cael ei chyfateb gan yr
ysgolion eu hunain. Mae toriadau blynyddol i gyllidebau’r grŵp yma o ysgolion wedi arwain at
wneud dosbarthiadau mawr o blant yn beth cyffredin mewn ysgolion ar draws y sir. Mae
cyllidebau ysgolion wedi eu torri i’r bôn a bydd yr arian yma yn mynd ychydig o’r ffordd i
ysgafnhau’r baich ar ein hysgolion yn y dyddiau anodd yma.” meddai Mr Ywain Myfyr

Plant yn elwa ar draws y Sir


Yn ôl Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd.
"Fel sir, rydym eisoes yn cynnig cymorth ariannol i’n hysgolion bach a dylem gofio nad yw’r
30 o ysgolion sydd yn y categori hwnnw yn wynebu’r un problemau cyllido â’r 70 o ysgolion
cynradd eraill. Mae’r 30 o ysgolion llai yn cael gwarant i’w lefelau staffio, waeth pa mor
fychan yw’r niferoedd yn y dosbarth," meddai.

Yn ôl Y Cynghorydd Siân Gwenllian: "Y flwyddyn nesaf bydd y cymhorthdal i ysgolion bach yn
cyrraedd bron i £600,000. Mae’r anghydbwysedd cyllidol o fewn y sector ysgolion cynradd yn
anghynaladwy yn y tymor hir. Bydd Strategaeth Ad-drefnu Ysgolion Gwynedd yn mynd i’r
afael â chyllido anghyfartal gan sicrhau dyraniad mwy teg a chytbwys i bob disgybl. Yn y
tymor byr, dwi’n hyderus y bydd y Gronfa hon o fantais i nifer o’n plant o fewn ysgolion y
sir."

- diwedd –

Cyswllt i’r Wasg: Ffion Clwyd Edwards, pi-ar, ffion@pi-ar.co.uk, 01745 550123,
07702 048184

You might also like