You are on page 1of 2

[scroll down for English]

Helo,

Bydd Noson Wobrwyo’r Cymdeithasau eleni’n cael ei chynnal ar nos Wener 30 Ebrill
- ‘Hendre Hall’ Talybont. Mae’r Gwobrau’n ddathliad o’r gwaith sydd wedi cael ei
gyflawni eleni gan ein gwahanol gymdeithasau ac maent wedi’u rhannu’n ddau
gategori: gwobrau unigol a gwobrau grŵp.

Mae’r Gwobrau wedi’u seilio’n llwyr ar eich enwebiadau chi, felly os nad yw
cymdeithas neu unigolyn yn cael eu henwebu ar gyfer unrhyw beth ni fyddant yn
ennill unrhyw wobrau. Ni allwch enwebu eich hun ar gyfer gwobr unigol ond fe allwch
enwebu eich cymdeithas eich hun ar gyfer gwobr grŵp.

Mae yna ddau fath o wobr unigol, aur ac arian (yn debyg o ran syniad i’r lliwiau llawn
a hanner lliwiau gan yr Undeb Athletau). Caiff Gwobrau Aur eu cyflwyno i
enwebeion sydd wedi

 arddangos gwaith a chyfraniad nodedig i’r gymdeithas


 arddangos ymroddiad eithriadol i’r gymdeithas

Caiff Gwobrau Arian eu cyflwyno i enwebeion sydd wedi

 gwneud cyfraniad teilwng i’r gymdeithas sy’n haeddu cydnabyddiaeth ond i


raddau llai na’r Wobr Aur.

Rhaid i enwebeion gael eu cynnig a’u heilio ar y ffurflen enwebu gysylltiedig, gydag
esboniad manwl ynghylch pam fod yr enwebai’n haeddu’r wobr. Eleni Pwyllgor
Gwobrwyo’r Cymdeithasau fydd yn penderfynu p’un ai i draddodi aur neu arian i
enwebai.

Mae yna ddeg gwobr grŵp i ddewis ohonynt (gwelwch y daflen gysylltiedig am
fanylion). Unwaith eto, rhaid i’r gymdeithas enwebedig gael ei chynnig a’i heilio ar y
ffurflen enwebu grŵp gysylltiedig, gan nodi’n glir pa wobr mae’r gymdeithas yn cael ei
hargymell ar ei chyfer. Gellir cynnig cymdeithasau am gymaint o wobrau ag y
mynnwch, er bod angen cwblhau ffurflenni enwebu ar wahân ar gyfer pob categori.

Mae’n hollbwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen enwebu’n fanwl: mewn llawer o
achosion ni fydd gan aelodau Pwyllgor Gwobrwyo’r Cymdeithasau unrhyw
wybodaeth flaenorol am yr unigolyn neu’r grŵp y byddwch yn eu henwebu, felly
byddwch mor fanwl â phosib.

Dosberthwch y ffurflenni hyn i’ch aelodau os gwelwch yn dda, nid dim ond i’r
aelodau pwyllgor, er mwyn rhoi’r cyfle i bawb enwebu’r unigolyn neu’r grŵp
maent yn teimlo sy’n haeddu gwobr.

Rhaid i enwebiadau gael eu dychwelyd drwy e-bost neu’n bersonol cyn 11:59yh ar
ddydd Mawrth 27 Ebrill.

Pob lwc!

Tom
Hi,

This year’s Societies Awards take place on Friday 30 April at Hendre Hall in Talybont. The Awards
celebrate the work done this year in our various societies and are split into two categories: individual
awards and group awards.

The Awards are based entirely on your nominations, so if a society or individual is not nominated for
anything they will not win any awards. You cannot nominate yourself for an individual award but you
can nominate your own society for a group award.

There are two types of individual awards, gold and silver (similar in concept to the full and half colours
awarded by the Athletic Union). Gold Awards shall be granted to nominees who have

 shown outstanding involvement and contribution to the society


 shown exceptional dedication to the society

Silver Awards shall be granted to nominees who have

 made a worthy contribution to the society meriting recognition but to a lesser extent than a
Gold Award.

Nominees must be proposed and seconded on the attached individual nomination form, with a detailed
explanation of why the nominee deserves an award. This year the decision on whether to give gold or
silver to a nominee will rest with the Societies Awards Committee.

There are ten group awards to choose from (see attached sheet for details). Again, the nominated
society must be proposed and seconded on the attached group nomination form, marking clearly which
award the society is being recommended for. Societies can be entered for as many awards as you like,
although separate nomination forms must be completed for each category.

I cannot stress how important it is that you fill in the nomination form thoroughly: in many cases
members of the Societies Awards Committee will have no prior knowledge of the individual or group
you are nominating, so be as detailed as possible.

Please distribute these forms to your members, not just your committee, to give everyone the
chance to nominate the individual or group they feel deserves an award.

Nominations must be returned to me by email or in person before 11:59pm on Tuesday 27th April.

Good luck!

Tom

You might also like