You are on page 1of 86

Llyfryn Gramadeg Sbaeneg

gan

Meic Haines a Geraldine Lublin

Cynhyrchwyd y gyfrol hon diolch i gymorth ariannol Pwyllgor Defnyddio'r


Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Lluniwyd y gwaith i gyd-fynd ag A new reference
grammar of modern Spanish, gan Carmen Benjamin a John Butt, 5ed argraffiad
(Rhydychen: Oxford University Press, 2011).
CYNNWYS

Y fannod bendant ac amhendant........................................................................................................................................ 3

Bod: SER neu ESTAR? 1 ....................................................................................................................................................... 7

POR a PARA ....................................................................................................................................................................... 10

Rhagenwau personol/ meddiannol/ gofynnol/ amhendant ............................................................................................. 14

Cyfuno rhagenwau gwrthrychol uniongyrchol (O.D.) ac anuniongyrchol (O.I.) ............................................................... 19

Berfau cyffredinol yn amser presennol y modd mynegol (rheolaidd ac afreolaidd) ........................................................ 21

Y berfenw a’r gerwnd........................................................................................................................................................ 24

Amseroedd y gorffennol: yr amser perffaith .................................................................................................................... 28

Amseroedd y gorffennol: y gorffennol syml ..................................................................................................................... 30

Amseroedd y gorffennol: yr amser amherffaith ............................................................................................................... 33

Amseroedd y gorffennol – gorffennol syml neu amherffaith? ......................................................................................... 34

Amseroedd y gorffennol: y gorberffaith ........................................................................................................................... 36

Cyfieithu ymadroddion ya, ya no, todavía, todavía no ..................................................................................................... 37

Y goddefol ......................................................................................................................................................................... 39

Bod: SER neu ESTAR? 2 ..................................................................................................................................................... 44

Y modd dibynnol ............................................................................................................................................................... 47

Y gorchmynnol (cadarnhaol a negyddol) .......................................................................................................................... 59

Yr amodol .......................................................................................................................................................................... 66

Ymadroddion amodol Sbaeneg ......................................................................................................................................... 68

Ymadroddion sy’n defnyddio ‘se’ ..................................................................................................................................... 70

Cyfieithu ymadroddion negyddol yn Sbaeneg .................................................................................................................. 75

Tablau amseroedd berfau cyffredinol............................................................................................................................... 81

Geirfa termau gramadegol................................................................................................................................................ 83

2 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Y fannod bendant ac amhendant
(Butt & Benjamin, pennod 3)

Y fannod bendant

Enwau dosbarth/generig

Defnyddir y fannod bendant fel rheol wrth sôn yn gyffredinol am gysyniadau, sylweddau, gweithgareddau,
categorïau o bobl a phethau:

Rydyn ni’n credu mewn democratiaeth : Creemos en la democracia

Mae Rhys yn chwarae rygbi : Rhys juega al rugby

Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer bywyd : El agua es imprescindible para la vida

Mae’n well gen i gerddoriaeth draddodiadol : Prefiero la música tradicional

Traddodiadau gwerinol Cymreig : Las tradiciones folclóricas galesas

Mae enw drwg gan yrwyr Eidalaidd : Los conductores italianos tienen mala fama

Wyt ti’n hoffi cocos? : ¿Te gustan los berberechos?

Mae Gwyddelesau’n hoffus iawn : Las irlandesas son muy simpáticas

Mae nionod yn rhoi diffyg traul imi : Las cebollas me producen indigestión

Eithriadau: gweler B&B, 3.2.6.

Yn debyg i’r arfer Gymraeg ond yn wahanol i’r Saesneg, defnyddir y fannod bendant mewn llawer o
ymadroddion sy’n cyfeirio at leoedd, e.e.:

Saesneg Cymraeg Sbaeneg

I’m going to work Rwy’n mynd i’r gwaith Voy al trabajo

She’s in school Mae hi yn yr ysgol Está en la escuela

He didn’t come to work Ddaeth e ddim i’r gwaith No vino al trabajo

3 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


I took her to hospital Es i â hi i’r ysbyty La llevé al hospital

We saw them on TV Gwelon ni nhw ar y teledu Los vimos en la tele

He was in jail for twenty years Roedd e yn y carchar am ugain Estuvo veinte años en la cárcel
mlynedd

To get married in church Priodi yn yr eglwys Casarse por la iglesia

To go to chapel Mynd i’r capel Asistir a la capilla

Lost in space Ar goll yn y gofod Perdidos en el espacio

Are you still in bed? Wyt ti’n dal yn y gwely? ¿Sigues en la cama?

(Gweler B&B, 3.2.27)

Enwau gwledydd ayyb (B&B, 3.2.16, 17, 18)

Cymru : Gales / el País de Gales

Rwy’n byw yng Nghymru : Vivo en Gales / Vivo en el País de Gales

Mae hi’n dod i Gymru : Viene a Gales / Viene al País de Gales

Mae’n dod o Gymru : Es de Gales / Es del País de Gales

Fel yn y Gymraeg, ceir amrywiaeth yn Sbaeneg wrth ddefnyddio’r fannod bendant gydag enwau gwledydd. Lle
dangosir y fannod mewn cromfachau yn yr enghreifftiau isod mae’n ddewisol:

Yr Almaen : Alemania

Yr Eidal : Italia

Yr Alban : Escocia

(Yr) Ariannin : (la) Argentina

(Yr) India : (la) India

Brasil : (el) Brasil

Canada : (el) Canadá

Yr Unol Daleithiau : (los) Estados Unidos

4 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Y fannod bendant gyda theitlau personol (B&B, 3.2.24) – mae’r arfer yn Sbaeneg yn debyg i’r Gymraeg, ond
yn wahanol i’r Saesneg:

Yr arlywydd Higgins : El presidente Higgins

Y frenhines Elizabeth : La reina Isabel

Y ddoctores González : La doctora González

Y tad Fitzgerald : El padre Fitzgerald

Cystrawennau meddiannol

diwedd y byd : el fin del mundo

canol y ddinas : el centro de la ciudad

cynffon y crocodeil : la cola del cocodrilo

tŷ’r athrawes : la casa de la maestra

llyfr Siân : el libro de Siân

cyfrifiadur Rhisiart : el ordenador de Rhisiart

cerddi fy mam : los poemas de mi mamá

chwiorydd Pedr : las hermanas de Pedr

trigolion yr Iseldiroedd : los habitantes de los Países Bajos

prifddinas Iwerddon : la capital de Irlanda

Arlywyddes yr Ariannin : la presidenta de Argentina

arferion yr Almaenwyr : las costumbres de los alemanes

5 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Y fannod amhendant

Ni ddefnyddir y fannod amhendant yn Sbaeneg wrth ddiffinio pobl yn nhermau eu swydd, eu statws
cymdeithasol, eu cenedl/rhyw na’u cenedligrwydd (B&B, 3.3.6):

Athro ydw i : Soy profesor

Llawfeddyges oedd hi : Era cirujana

Daeth yn gadfridog : Llegó a general

Benyw briod â phlant yw hi : Es casada y madre

Ffrancwr yw e : Es francés

Almaenwr ydych chi? : ¿Vd es alemán?

Mae’n gallu gwnïo er mai bachgen yw e : Sabe coser aunque es varón

Ni ddefnyddir y fannod amhendant o flaen enwau rhifadwy unigol os mai eu rhinweddau cyffredinol sydd dan
sylw (B&B, 3.3.5, 8):

Oes gent ti allwedd? : ¿Tienes llave?

Mae car gynnon nhw : Tienen coche

Dw i ddim yn gwybod a oes cariad ganddo fe : No sé si tiene novia

Oes pwll nofio yn y gwesty? : ¿Hay piscina en el hotel?

Mae’na barti yfory : Hay fiesta mañana

Mae’n gwisgo crys T bob amser : Siempre lleva camiseta

Ond, wrth ddiffinio’r enw’n fanylach, defnyddir y fannod:

Mae car Almaenaidd anferth gynnon nhw : Tienen un coche alemán enorme

Mae ganddo gariad sy’n siarad Hindi : Tiene una novia que habla hindi

Roedd yna barti gyda chlowns a phopeth : Hubo una fiesta con payasos y todo

Ni ddefnyddir y fannod amhendant fel arfer pan ddaw’r arddodiad ‘sin’ (heb) o flaen enw unigol (B&B, 3.3.12):

Llwyddais i i agor y drws heb allwedd : Logré abrir la puerta sin llave

Aeth hi allan heb gôt : Salió sin abrigo


6 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).
Eithriad: os dymunir pwysleisio absenoldeb llwyr rhywbeth, defnyddir y fannod:

Cyrhaeddais i yma heb yr un ddimai goch : Llegué aquí sin un centavo

Bu farw heb ffrind yn y byd : Murió sin un mísero amigo

Un ystyr i’r fannod amhendant yn y lluosog (unos/unas) yw ‘rhai’, ‘nifer o’ (B&B, 3.4.1):

Rhoddodd hi rai llyfrau ar fenthyg imi : Me prestó unos libros

Mae nifer o ffrindiau gen i yn Jaén : Tengo unos amigos en Jaén

O flaen rhifolion, mae unos/unas yn golygu ‘mwy neu lai’ / ‘tua’:

tua phump awr : unas cinco horas

Dw i yma ers rhyw chwe blynedd : Llevo unos seis años aquí

Bod: SER neu ESTAR? 1


(Butt & Benjamin, pennod 29)

Wrth benderfynu ai ser neu estar sydd angen, rhaid ystyried yn gyntaf os yw ystyr y ferf yn cyfeirio at leoliad.
Os felly, estar fydd hi yn 90% o’r achosion. Y rheol gyffredin yw:

estar ar gyfer lleoliad pobl a phethau

ser ar gyfer lleoliad digwyddiadau YN UNIG

Er enghraifft, er mai lleoliad parhaus a drafodir yn y brawddegau canlynol, defnyddir estar, nid ser:

Mae’r eglwys 50 metr o’r sgwâr : La iglesia está a 50 metros de la plaza

’Dyw Glasgow ddim yn Iwerddon : Glasgow no está en Irlanda

Ble mae Bosnia? : ¿Dónde está Bosnia?

Mae’r Ynysoedd Dedwydd yn bell : Las Islas Canarias están lejos

Ond wrth drafod y man lle y cynhelir digwyddiad, defnyddir ser, nid estar (B&B, 29.2.8):

7 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Yma mae’r cyngerdd : El concierto es aquí

Ble mae’r cyfarfod? : ¿Dónde es la reunión?

Bydd y gêm derfynol yn Stadiwm y Bernabeu : La final será en el Bernabéu

Unwaith y sicrheir nad lleoliad yw’r ystyr dan sylw, gellir ystyried posibiliadau eraill. Yn gyffredinol, defnyddir
ser i fynegi pwy neu beth yw rhywun/rhywbeth (cyflwr parhaol):

Cyfreithwraig yw hi : Es abogada

Carlos ydw i : Soy Carlos

Hon yw fy chwaer i : Esta es mi hermana

Caerdydd yw prifddinas Cymru : Caerdydd es la capital de Gales

Roedd hi’n dewach na fi : Era más gorda que yo

Pwy yw hi? : ¿Quién es (ella)?

Mae’n goch a melyn : Es rojo y amarillo

Helo, fi sydd yma : Hola, soy yo

Heddiw yw fy mhenblwydd i! : ¡Hoy es mi cumpleaños!

Hir yw’r ffordd : Es largo el camino

Serch hynny, yn ymarferol ceir nifer fawr o eithriadau i’r ‘rheol’ ser – parhaol / estar – dros dro, e.e. er bod
amser yn rhywbeth sydd yn newid yn ei hanfod, ser a ddefnyddir wrth gyfeirio ato:

Faint o’r gloch yw hi? : ¿Qué hora es?

Mae hi’n dri o’r gloch ar ei ben : Son las tres en punto

Hefyd, ser a ddefnyddir gyda nifer o ansoddeiriau penodol, megis feliz neu pobre, er eu bod yn dynodi cyflwr
y gellid ei ystyried yn rhywbeth byrhoedlog (B&B, 29.2.3):

Dw i mor hapus! : ¡Soy tan feliz!

Maen nhw’n dlawd ers i’w tad farw : Son pobres desde que murió el padre

Mae ser de + ansoddair yn disgrifio natur barhaol, hunaniaeth neu darddiad pethau/pobl (B&B, 29.2.4):

Mae’r crys yma wedi’i wneud o sidan : Esta camisa es de seda

Un o Zaragoza oedd hi : Era de Zaragoza

8 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


O Abertawe rwy’n dod : Soy de Abertawe

Ar wahân i ddisgrifio ble, mae estar hefyd yn mynegi sut neu ym mha gyflwr y mae rhywun/rhywbeth, a hynny
yn aml dros dro, heb fod yn barhaol:

Ble mae Eleri? : ¿Dónde está Eleri?

Mae fy rhieni yn y Wladfa : Mis padres están en la Patagonia

Mae hi’n drist heddiw : Está triste hoy

Mae annwyd arna i : Estoy resfriado

Wyt ti’n feichiog? : ¿Estás embarazada?

Rydyn ni wedi drysu : Estamos confundidos

Maen nhw ar goll : Están perdidos

Gellir gweld y gwahaniaeth yn glir mewn parau o frawddegau fel y rhain:

Sut un yw dy frawd di? : ¿Cómo es tu hermano?

Sut mae dy frawd di? : ¿Cómo está tu hermano?

Un tawel yw e : Es callado

Mae’n dawel : Está callado (h.y. ar hyn o bryd)

Mae dy chwaer di’n bert : Tu hermana es guapa

Dyna bert wyt ti! : ¡Qué guapa estás! (h.y. ar y foment hon)

Rwyt ti’n dalach na dy frawd : Eres más alto que tu hermano

Dyna dal wyt ti, ’achan! : ¡Qué alto estás, muchacho! (h.y. rwyt ti wedi tyfu ers imi dy weld di)

Y rheol yw nad oes rheol heb ei heithriadau. Er bod chwilio am resymeg y gwrthgyferbyniad parhaol/dros dro
yn gallu helpu, y peth gorau y gellir ei wneud yw dysgu enghreifftiau ymarferol.

9 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


POR a PARA
(Butt & Benjamin, pennod 34)

Mae ystyr por a para yn gorgyffwrdd yn aml iawn, ond deellir y prif wahaniaethau’n well wrth ystyried y ddau
trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ambell i enghraifft:

Mae para yn mynegi pwrpas, bwriad neu gyfeiriad, tra bod por yn mynegi cymhelliad, ysgogiad neu achos:

Gwnes i hyn i ti / i’w roi iti : Lo hice para ti

OND

Gwnes i hyn er dy fwyn di / : Lo hice por ti

ar dy ran di / o’th herwydd di

PARA

Dyma anrheg iti : Toma, un regalo para ti

Oes digon i bawb? : ¿Hay suficiente para todos?

Mae’r llythyr yma i chi : Esta carta es para usted

Bwrdd i dri, os gwelwch yn dda : Una mesa para tres, por favor

Mae angen hwn arna i ar gyfer fy ngwaith : Necesito esto para mi trabajo

Mae’n rhy oer imi : Hace demasiado frío para mí

Cafodd e hwn i ni : Consiguió esto para nosotros

Mae ysmygu’n ddrwg ichi : Fumar es malo para la salud

Ar gyfer yfory mae’r gwin : El vino es para mañana

sebon ar gyfer menywod : jabón para damas

moddion at y ffliw : medicina para la gripe

Cymru yw’r lle ar gyfer rygbi : Para rugby, Gales

digon o fwyd am fis : comida suficiente para un mes

I beth mae hwn yn dda? : ¿Para qué sirve esto?

’Does dim angen bod yn fenyw i wybod hynny : No hay que ser mujer para saber eso

Eisteddwch yma i glywed yn well : Sentaos aquí para oír mejor

10 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


para = i gyfeiriad....

Aeth e i ffwrdd i Ffrainc : Se fue para Francia

Dyn ni’n gadael am Ibiza yfory : Salimos mañana para Ibiza

Mae’r trên i Madrid wedi cyrraedd : Ha llegado el tren para Madrid

Er mwyn cyrraedd Parc Güell ar y : Para llegar al Parque Güell en metro,

metro, mae’n rhaid ichi gymryd hay que tomar la línea L3 que va

lein L3 sy’n mynd i gyfeiriad Canyelles para Canyelles.

para = ym marn rhywun

Yn fy marn i, ’dyw e ddim yn bwysig : Para mí, no tiene importancia

Athrylith yw e ym marn ei fam : Para su mamá es un genio

para = erbyn

Erbyn pryd mae’n rhaid ei orffen? : ¿Para cuándo hay que terminarlo?

Fe fydd yn barod erbyn dydd Gwener : Estará listo para el viernes

para = o ystyried....

Mae hi’n dal o’i hoedran : Es alta para su edad

’Dyw e ddim yn chwarae’n wael o Sais : No juega mal para ser inglés

O ystyried faint mae hi’n fwyta, : Para lo que come, no es tan gorda

’dyw hi ddim mor dew â hynny

no estar para = peidio â bod mewn hwyliau ar gyfer

Dw i ddim mewn hwyliau ar gyfer lol : No estoy para bromas

para que + modd dibynnol = er mwyn sicrhau...

Er mwyn i hyn lwyddo.... : Para que esto salga bien....

Des i â hon iti ei gweld : Traje ésta para que la vieras

11 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


POR

Cafodd e hwn diolch i ni : Consiguió esto por nosotros

Prynais i nhw am ugain punt : Los compré por veinte libras

fy nghariad tuag ati hi : mi amor por ella

ei theimladau tuag atat ti : sus sentimientos por ti

er mwyn Duw : por el amor de Dios

Faint wyt ti’n ofyn am y rhain? : ¿Cuánto quieres por éstos?

Gofynnodd hi amdanat ti : Preguntó por ti

Defnyddir por yn aml iawn i ddynodi symudiad trwy rywbeth neu leoliad (B&B, 34.14.6). Gall olygu e.e. trwy, ar
hyd, o gwmpas, hyd at, allan o, ar draws, yn (gydag awgrym yn aml o amhendantrwydd):

Aethon ni am dro o gwmpas y ddinas : Paseamos por la ciudad

Hedfanodd i mewn trwy’r ffenest : Entró volando por la ventana

Roedd dŵr yn gollwng o’r biben : Salía agua por la tubería

trwy’r twnnel : por el túnel

Dewch i mewn y ffordd yma : Entren por aquí

Gwelais i hi allan ar y stryd : La vi por la calle

ar hyd a lled Sbaen : por toda España

Mae e mas yno’n rhywle, dw i’n meddwl : Creo que anda por ahí

Defnyddir por hefyd i ddynodi cyfnod o amser yn gyffredinol; mae’n llai pendant, yn fwy amwys nag en (B&B,
34.14.5):

Gwelais i hi ym mis Mai : La vi en mayo

Ro’n nhw i fod i gyrraedd rywbryd ym mis Mai : Debían llegar por mayo

Cafodd e ei eni ym mis Ebrill 1982 : Nació en abril del 1982

Cafodd hi ei geni rywbryd tua 1940 : Nació por allá por 1940

Serch hynny, ceir yn Sbaen defnydd para yn erbyn y rheol er mwyn cyfeirio at y dyfodol yn y cyd-destun hwn:

Rydyn ni’n mynd i Ibiza am bythefnos : Nos vamos a Ibiza para dos semanas
12 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).
Mae angen gwesty arnaf am ddwy noson : Necesito un hotel para dos noches

por = gan (y goddefol)

Cafodd ei adeiladu gan y Mwriaid : Fue construido por los moros

Dw i’n dwlu ar gyfresi Bach i’r sielo : Me encantan las suites para violonchelo de

(wedi’u chwarae) gan Pablo Casals Bach por Pablo Casals.

por = oherwydd

Arhosodd e gartref oherwydd yr eira : Se quedó en casa por la nieve

Dewisais i’r tŷ yma oherwydd ei leoliad : Elegí esta casa por su ubicación

Codais i’r ffens oherwydd y defaid : Puse el cerco por las ovejas

Oni bai amdanat ti.... : Si no fuera por ti....

por = ar sail

Yn ôl pob sôn mae hi wedi ymddeol : Por lo que parece, se ha jubilado

O’m rhan i, fe gei di ei gadw : Por lo que me importa, puedes quedártelo

Yn ôl yr hyn glywais i.... : Por lo que he oído,....

por yn mynegi cyfrannedd

can milltir yr awr : cien millas por hora

pum punt y pen : cinco libras por persona/por cabeza

un ferch i bob dau fachgen : una chica por cada dos chicos

Ewch allan bob yn un : Vayan saliendo uno por uno

Agorais i nhw fesul un : Las abrí una por una

por = yn lle, ar ran

Fe af i yn dy le di : Iré por ti

Cewch chi siarad ar fy rhan : Pueden hablar por mí

13 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


estar por = bod o blaid

Dw i o blaid mynd yn ôl : Estoy por regresar

Hefyd, defnyddir POR gyda llu o ferfau cyffredin (B&B, 34.14.4(m)), e.e. luchar por, votar por, interesarse por,
ac ati.

Rhai enghreifftiau lle NA ddefnyddir por na para (B&B, 34.14.9):

mynd am dro : ir de paseo, (ir a) dar un paseo

Siaradodd hi am ugain munud : Habló (durante) veinte minutos

Fe fydd hi yno am ddau fis : Va a estar dos meses allí

Dw i yma ers pythefnos : Llevo quince días aquí

‘A’ am Aberystwyth : “A” de Aberystwyth

Ces i oren yn bwdin : De postre, comí una naranja

Beth dych chi’n gael i ginio? : ¿Qué van a cenar?

Perffaith Nam gan Menna Elfyn : Mancha perfecta, de Menna Elfyn

Rhagenwau personol/ meddiannol/ gofynnol/ amhendant

Rhagenwau personol goddrychol


(Butt & Benjamin, pennod 11.2, 3)

Mewn Sbaeneg ysgrifenedig a llafar tueddir i hepgor y rhagenw personol goddrychol


(yo/tú/él/ella/usted/nosotros-as/vosotros-as/ustedes) yn amlach o lawer nag yn Gymraeg anffurfiol a Saesneg,
gan mai terfyniad y ferf sy’n arfer rhoi’r wybodaeth angenrheidiol am hunaniaeth goddrych y ferf:

Catalan yw Joan. Mae e’n byw yn Sitges. : Joan es catalán. Vive en Sitges.

O ble rwyt ti’n galw? : ¿De dónde llamas?

Doeddwn i ddim eisiau mynd yn ôl : No quería volver

Bu (e/hi) farw y llynedd : Murió el año pasado

14 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Yn Gymraeg mae hepgor y rhagenw goddrychol yn arfer dynodi cywair llenyddol neu ffurfiol – ond nid felly yn
Sbaeneg, lle’r arferir peidio â’i gynnwys onid oes perygl o amwysedd ynghylch hunaniaeth goddrych y ferf.

Ond nid yw’r cyd-destun yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol bob amser, yn enwedig mewn brawddegau lle
defnyddir ffurfiau trydydd person y ferf, e.e.:

Gall Se va mañana olygu: Mae e/ Mae hi/ Rydych chi (usted) yn gadael yfory

Gall Saben donde estoy olygu: Maen nhw / Rydych chi (ustedes) yn gwybod ble rydw i

Mewn achosion tebyg, cynhwysir y rhagenw goddrychol er mwyn osgoi amwysedd:

Ella se va mañana : Mae hi’n gadael yfory

Él se va mañana : Mae e’n gadael yfory

Usted se va mañana : Rydych chi’n gadael yfory

Ellas saben donde estoy : Maen nhw (b.) yn gwybod ble rydw i

(pero él no) (ond ’dyw ef dddim)

Ustedes saben donde estoy : Dych chi’n gwybod ble rydw i

(pero ellos no) (ond ’dydyn nhwythau dddim)

Cynhwysir y rhagenw goddrychol i fynegi gwrthgyferbyniad (cf minnau, tithau ayyb yn Gymraeg) neu i
bwysleisio hunaniaeth y goddrych sydd dan sylw:

Mae e/yntau’n gyfoethog, ond rydyn ninnau’n dlawd : Él es rico, pero nosotros somos pobres

Gwna di fel y mynni di : Haz tú lo que quieras

Wel dw i ddim eisiau’r un frenhines, diolch! : ¡Pues yo no quiero ninguna reina!

Agor y drws. Fi sydd yma! : Abre la puerta. ¡Soy yo!

Hi wnaeth e! : ¡Lo hizo ella!

(Sylwer mai ar ddiwedd y frawddeg y gosodir yr elfen y dymunir ei phwysleisio yn Sbaeneg, nid ar y dechrau
fel yn Gymraeg)

15 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Tú neu usted? (B&B, 11.3.2)

Yn draddodiadol roedd tú yn cyfateb yn fras i ti yn Gymraeg (cywair anffurfiol, cyfeillgar), ond mae tueddiad
cynyddol yn Sbaen (ond nid yn America Ladin) i tú gael ei ddefnyddio mewn sgyrsiau rhwng dieithriaid, yn
enwedig ymhlith pobl dan 40 oed.

Rhaid cofio mai trydydd person (unigol) y ferf a ddefnyddir bob amser gydag usted, ac mai su/sus yw’r
ansoddair meddiannol cyfatebol:

Ydych chi’n chwilio am eich mam? : ¿Usted busca a su madre?

Vosotros-as neu ustedes?

Yn Sbaen (ond nid yn América Ladin) defnyddir vosotros-as (a’r ansoddair meddiannol cyfatebol vuestro-a-
os-as) mewn modd tebyg i tú (cywair anffurfiol, cyfeillgar) wrth siarad â mwy nag un person:

Dych chi eisiau dod ’nôl gyda ni i gael diod? : ¿Queréis volver con nosotras a tomar algo?

Yn America Ladin cyfyngir y defnydd a wneir o vosotros-as i gyd-destunau tra ffurfiol neu hynafol: areithiau,
pregethau, barddoniaeth, anerchiadau blodeuog ayyb.

Lo habéis sacrificado todo por la Patria, dejando atrás a vuestras familias....

Aberthu’r cyfan dros eich gwlad a wnaethoch, gan adael eich teuluoedd....

Rhaid cofio mai trydydd person (lluosog) y ferf a ddefnyddir bob amser gydag ustedes ac mai su/sus yw’r
ansoddair meddiannol cyfatebol:

Nad ydych chi wedi dod â’ch merch? : Pero ¿ustedes no han traído a su hija?

Cytundeb rhwng y rhagenw a pherson y ferf

Yn wahanol i’r Gymraeg lle tueddir defnyddio’r trydydd person unigol, mewn brawddegau lle dymunir
pwysleisio hunaniaeth y goddrych, mae Sbaeneg yn mynnu cytundeb rhwng y rhagenw goddrychol a’r ferf:

Fi wnaeth e : Lo hice yo

Ti yw’r fwyaf hyll ohonon ni : Tú eres la más fea de nosotras


16 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).
Chi drefnodd y parti? : ¿Ustedes son quienes organizaron la fiesta?

Rhagenwau personol gwrthrychol


(Butt & Benjamin, pennod 11)

Dylid cofio bod y rhagenw goddrychol atblygol se yn gallu golygu pethau gwahanol os yw goddrych y ferf yn
lluosog:

a) ysytyr atblygol: eu hunain:

Bob tro maen nhw’n gweld eu hunain yn y drych.... : Cada vez que se ven en el espejo....

b) ystyr cilyddol: ei gilydd:

Maen nhw’n gweld ei gilydd yn aml : Se ven a menudo

Maen nhw’n siarad Sbaeneg â’i gilydd : Se hablan castellano (= entre sí)

c) y goddefol â se (gweler uned ‘Y goddefol’):

Ni welir cotiau ffwr mor aml y dyddiau yma : Por estos días, ya no se ven tantos abrigos de piel
como antes (= son vistos)

Rhagenwau ac ansoddeiriau meddiannol


(Butt & Benjamin, pennod 8)

Defnyddir yr ansoddeiriau meddiannol su/sus i fynegi meddiant gan él/ella, ellos/ellas:

su casa = ei dŷ e / ei thŷ hi / eu tŷ nhw.

Ond defnyddir su/sus hefyd ar gyfer usted/ustedes:

Ydych chi’n chwilio am eich mam? : ¿Usted busca a su madre?

Nad ydych chi wedi dod â’ch merch? : Pero ¿ustedes no han traído a su hija?

17 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Gall hyn beri ansicrwydd ynghylch perchnogaeth pethau. Os nad yw’r cyd-destun yn dangos hunaniaeth y
perchennog yn glir felly, mae’n rhaid egluro trwy ddefnyddio de + rhagenw goddrychol neu ffurf feddiannol
ragenwol:

Mae ei thŷ hi’n well na’ch un chi : La casa de ella es mejor que la de usted/ustedes

Ond mewn brawddeg debyg i hon lle nad oes perygl o fethu â gwahaniaethu rhwng dau berchennog 3ydd
person, gellir defnyddio rhagenw meddiannol (mío/tuyo/nuestro/vuestro) + y fannod bendant:

Mae ei thŷ hi’n well na f’un i : La casa de ella es mejor que la mía

Achlysuron lle na ddefnyddir ansoddeiriau meddiannol

I ddisgrifio gweithrediadau sydd â rhannau o’r corff neu eitemau personol yn wrthrych, yr arfer yw defnyddio’r
fannod yn hytrach nag ansoddair meddiannol:

Coda dy goes : Levanta la pierna

Wyt ti wedi golchi dy ddwylo? : ¿Te has lavado las manos?

Torrodd hi ei choes : Se rompió la pierna

Eich pasbort, os gwelwch yn dda : El pasaporte, por favor

Rhagenwau gofynnol

Defnyddir ffurf luosog y rhagenw gofynnol quién wrth gyfeirio at fwy nag un person:

Pwy ydyn nhw? : ¿Quiénes son?

Gyda phwy daethoch chi? : ¿Con quiénes vinisteis?

cuántos/-as

Faint ohonon ni sy’n mynd? : ¿Cuántos vamos?

Mae hi’n gofyn faint sydd ohonon ni : Pregunta (que) cuántos somos

18 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Rhagenwau amhendant

alguien

Fel rheol, defnyddir yr a personol o flaen alguien fel goddrych uniongyrchol berf:

Gwelais i rywun y tu ôl i’r tŷ : Vi a alguien detrás de la casa

Ond os mai person damcaniaethol (nad yw o angenrhaid yn bodoli) a olygir, yna ni ddefnyddir a. Mewn
achosion o’r fath, bydd y ferf Sbaeneg yn y modd dibynnol:

Rwy eisiau rhywun i beintio’r waliau imi : Necesito alguien que me pinte las paredes

Mae hi’n chwilio am rywun i’w helpu : Busca alguien que la ayude

(cf: Mae hi’n chwilio am rywun a’i helpodd : Busca a alguien que la ayudó la semana

hi yr wythnos ddiwethaf pasada.)

algo, alguien

Yn wahanol i’r arfer Saesneg, mae’r Sbaeneg (fel y Gymraeg) yn defnyddio’r rhagenw negyddol mewn
brawddegau negyddol eu hystyr:

Saesneg Cymraeg Sbaeneg

I didn’t see anybody (Ni) Welais i neb No vi a nadie

We couldn’t hear anything (Ni) Chlywon ni ddim byd No oímos nada

without anyone noticing heb i neb sylweddoli sin que nadie se diera cuenta

Cyfuno rhagenwau gwrthrychol uniongyrchol (O.D.) ac anuniongyrchol (O.I.)


(Butt & Benjamin, pennod 11)

Pan fydd dau neu fwy o ragenwau gwrthrychol yn ymddangos yng nghyswllt yr un ferf, rhaid dilyn y drefn ddi-
eithriad hon (B&B, 11.12):

1 2 3 4

se te/os me/nos le/lo/la/les/los/las

19 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Dywedodd María (hynny) wrthyt ti : María te lo dijo

*Anfona i hi i chi yfory : Os la enviaré mañana

Mae hi wedi ein gadael ni : Se nos ha ido

Dw i am iti olchi’r dwylo brwnt’na i fi : Quiero que te me laves esas manos sucias

Gwrthododd hi ei roi yn ôl i ni : No quiso devolvérnoslo

Roedd hi am ei roi i ni yfory : Quería regalárnoslo mañana

Rhowch nhw i fi : Démelas / Dádmelas / Dénmelas

Peidiwch rhoi nhw i fi : No me las dé / No me las deis / No me las den

(Sylwer: yn aml ’does dim rhagenw gwrthrychol yn y frawddeg Gymraeg a fyddai’n cyfateb i’r rhagenw atblygol
me/te/se/nos/os mewn berfau megis lavarse, irse)

Os yw ystyr y frawddeg yn mynnu bod lo/la/los/las (gwrthrych uniongyrchol) yn dilyn le/les (gwrthrych
uniongyrchol), yna bydd y rhagenw uniongyrchol le/les yn newid i se (B&B, 11.13):

Rhois i nhw iddi hi : *Le los di → Se los di

Anfonaist ti e iddyn nhw? : ¿Se lo enviaste?

*Anfona i hi i chi yfory : Se la enviaré mañana

Rho nhw iddo fe/iddi hi/iddyn nhw : Dáselos / Dáselas

Paid rhoi nhw iddo fe/iddi hi/iddyn nhw: No se los des / No se las des

Os atodir un neu fwy o ragenwau gwrthrychol ar ddiwedd y ferfenw (e.e. enviar, contar, escribir) neu’r gerwnd
(e.e. enviando, contando, escribiendo), mae’n rhaid ychwanegu acen ysgrifenedig er mwyn cynnal y pwyslais
ar y sillaf gywir:

Dw i’n dweud (hynny) wrthyt ti : Estoy contándotelo (Neu: Te lo estoy contando)

Mae hi’n mynd o gwmpas yn : Va contándoselo a todos (Neu: Se lo va contando a todos)

clebran i bawb am hynny

Daliodd e i syllu arna i : Se quedó mirándome (Neu: Se me quedó mirando)

20 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Berfau cyffredinol yn amser presennol y modd mynegol (rheolaidd ac afreolaidd)
(Butt& Benjamin, pennod 13)

Ceir astudiaeth drylwyr o ffurfiau amser presennol berfau rheolaidd ac afreolaidd yn B&B, pennod 13.

Y tri rhediad : berfau rheolaidd

Gellir dosbarthu berfau rheolaidd yn dri rhediad (sef berfenwau â’r terfyniadau -ar, -er ac -ir), a gynrychiolir
gan hablar, comer a vivir.

-ar -er -ir

hablo como vivo


hablas comes vives
habla come vive
hablamos comemos vivimos
habláis coméis vivís
hablan comen viven

Berfau afreolaidd

Rhoddir rhestrau o’r prif ferfau sy’n afreolaidd eu rhediad mewn gwahanol amserau yn B&B 13.1.3 a 13.4.

Berfau â newid ym môn y berfenw

Ceir disgrifiad yn B&B 13.1.4 o’r llu o ferfau cyffredin lle mae’r llafariad ym môn y berfenw’n newid i ddeusain
neu i lafariad arall yn yr amser presennol, e.e.

cerrar > cierro sentir > siento

contar > cuento dormir > duermo

perder > pierdo pedir > pido

volver > vuelvo

Yr amser presennol syml a’r amser presennol parhaol (B&B, pennod 14)

I ba amserau yn Gymraeg y mae’r amser presennol syml (hablo, como, vivo) yn cyfateb?

21 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Fel rheol, defnyddir yr amser presennol syml mewn mwyafrif llethol o achosion lle rydym yn arfer defnyddio
ffurfiau bod + yn + berfenw mewn Cymraeg llafar cyfoes, h.y. i ddisgrifio gweithrediadau neu gyflyrau
arferiadol, sefyllfaoedd di-newid, pethau sy’n dal i ddigwydd:

Mae’n bwrw’n aml yng Nghymru : Llueve mucho en Gales

Dw i’n ei weld e bob Dydd Sul : Lo veo todos los domingos

Mae hi’n smygu gormod : Fuma demasiado

Ydych chi’n siarad Basgeg? : ¿Habla usted euskera?

Mewn cywair mwy ffurfiol, mae’r Gymraeg yn debycach o ddefnyddio amser arferiadol y ferf bod + yn +
berfenw ar gyfer digwyddiadau neu weithrediadau rheolaidd:

Byddaf yn ei weld bob Dydd Sul : Lo veo / Suelo verlo todos los domingos

Fel yn y Gymraeg anffurfiol, mae’n bosibl i’r amser presennol syml hwn gyfeirio at weithrediadau yn y dyfodol
agos hefyd (B&B, 14.6.3):

Dw i’n mynd yno yr wythnos nesaf : Voy allí la semana que viene

Ond mewn achosion o’r fath mae’r Gymraeg yn debycach o ddefnyddio’r amser dyfodol:

Gwela i ti yfory : Te veo mañana / Nos vemos mañana

Gwnaf i fe mewn munud : Lo hago en un momento

Os daw hi ’nôl, beth ddyweda i? : Si vuelve, ¿qué le digo?

Os gwnei di hwnna’to, fe ladda i di! : ¡Hazlo de nuevo y te mato!

Yr amser presennol traethiadol/hanesiol (B&B, 14.3.3)

Defnyddir y presennol syml yn aml mewn Sbaeneg llafar a ffurfiol i danlinellu natur syfrdanol y digwyddiadau a
ddisgrifir:

O’r diwedd, dyma hi’n clywed sŵn od : Por fin, oye un ruido extraño

Defnyddio’r amser presennol i ofyn caniatâd (B&B, 14.3.5)

Wyt ti am imi ei anfon atat? : ¿Te lo mando?

Ddylwn i esbonio i Mami? : ¿Se lo explico a Mamá?

Gawn i ddechrau? : ¿Empezamos?

22 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


I ba amserau yn y Gymraeg y mae’r amser presennol parhaol, sef amser presennol estar + gerwnd
(estoy hablando, estoy comiendo, estoy viviendo) yn cyfateb? (B&B, 15.1,2; 15.2.4)

Defnyddir estar + gerwnd i ddisgrifio gweithrediadau sydd wedi dechrau ac sy’n parhau:

Dw i’n cael brecwast ar hyn o bryd : Estoy desayunando en este momento

Mae hi’n methu dod i’r ffôn ar hyn : Ahora no se puede poner, está cortando

o bryd – mae hi’n torri’r lawnt el césped

Gall gynnwys hefyd y syniad o weithrediadau sy’n digwydd dro ar ôl tro:

Mae e’n siarad byth a beunydd am y teulu : Siempre está hablando de la familia

Mae hi wedi bod yn oer yn ddiweddar : Está haciendo frío

Gall fynegi natur anghyffredin, annisgwyl y gweithrediad:

Beth yn y byd mae e’n ddweud? : ¿Qué está contando?

Tybir (B&B, 15.1.1) mai dylanwad y Saesneg sy’n cyfrif am y cynnydd yn y defnydd o estar + gerwnd dros y
degawdau diwethaf yn Sbaeneg. Yn aml felly heddiw gellir clywed:

O na, mae’r selsig yn llosgi! : ¡Ay, que se queman las salchichas!

NEU:

: ¡Ay, que se están quemando las salchichas!

Serch hynny, mae

-¿Qué haces? - Leo esta revista.

(- Beth wyt ti’n wneud? - Rwy’n darllen y cylchgrawn yma.)

yn dal i swnio’n fwy naturiol na:

-¿Qué estás haciendo? - Estoy leyendo esta revista.

Anaml y defnyddir yr amser presennol parhaol gyda’r berfau ir, venir, volver er bod y gweithrediad a ddisgrifir
yn digwydd “ar hyn o bryd” (B&B,15.1.2(b)):

Ble rwyt ti’n mynd? : ¿Adónde vas?

23 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Wyt ti’n dod gyda fi? : ¿Vienes conmigo? / ¿Me acompañas?

Sylwer: Wrth ateb rhywun sy’n galw arnoch chi i ddod, defnyddir amser presennol syml y ferf ir (nid venir):

- Siôn, ble rwyt ti? - Rwy’n dod! : - Siôn, ¿dónde estás? - ¡Voy!

Y berfenw a’r gerwnd


(Butt & Benjamin, penodau 18 & 20)

Y berfenw (B&B, pennod 18)

Ffurf y ferf sy’n terfynu yn ddieithriad gydag -ar, -er neu -ir (e.e., hablar, comer, vivir) yw’r berfenw (infinitivo
yn Sbaeneg), ac mae’n cyfateb o ran ei ystyr i’r berfenw Cymraeg:

siarad : hablar

bwyta : comer

byw : vivir

mynd : ir

bod : ser / estar

Yn wahanol i ferfau cyfyngedig (= wedi eu rhedeg), nodweddir y berfenw gan y ffaith nad yw’n dangos yn ei
hun pwy yw’r goddrych na phryd digwyddir y gweithrediad a ddisgrifir:

amo → ¿quién? yo; ¿cuándo? presente

amar → ¿quién? ¿cuándo?

Ydy hi eisiau dweud rhywbeth? : ¿Quiere decir algo?

Ro’n i eisiau ei weld : Quería verlo

’Dyw hi ddim yn hoffi dawnsio : No le gusta bailar

’Doedd e ddim yn gallu nofio : No sabía nadar

24 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Rhaid cofio, hyd yn oed mewn cystrawennau lle mae’r Saesneg yn tueddu i ddefnyddio ffurf enwol sy’n terfynu
gydag -ing yn lle’r berfenw (h.y., I like to fish) wrth sôn am weithgarwch, mai’r berfenw sy’n gywir yn Sbaeneg,
yn yr un modd ag y defnyddir y berfenw yn y Gymraeg:

Saesneg Cymraeg Sbaeneg

I like fishing Dw i’n hoffi pysgota Me gusta pescar

We prefer sailing to cycling Gwell gennym hwylio na beicio Preferimos ir a navegar a salir en
bicicleta

Smoking is bad for you Mae ysmygu’n wael iti El fumar te hace mal

Ond wrth gyfieithu rhwng Cymraeg a Sbaeneg, fe geir cystrawennau yn aml lle bydd y naill iaith yn defnyddio’r
berfenw, tra bod y llall yn defnyddio ffurf gyfyngedig ar y ferf i fynegi’r un syniad.

Os mai’r un yw goddrych y ferf yn y prif gymal a’r is-gymal(au), yna bydd y Sbaeneg fel y Gymraeg yn cadw’r
berfenw:

Mae hi eisiau mynd i’r sinema : (Ella) Quiere ir al cine

Mae e eisiau ei wneud : (Él) Quiere hacerlo

Mae’n well gen i ei agor fy hun : Prefiero abrirlo yo mismo

Ond os yw’r ddau oddrych yn wahanol, nid oes sicrwydd y bydd y naill iaith na’r llall yn cadw’r berfenw:

Mae hi eisiau i ti fynd i’r sinema : (Ella) Quiere que vayas al cine

Mae e eisiau iddo fe/iddi hi ei wneud : (Él) Quiere que lo haga él/ella

Mae’n well gen i dy fod fi’n ei agor : Prefiero que tú lo abras

Wrth ddefnyddio berfau penodol sy’n cyfleu’r syniad o ddatgan, mynnu, credu ayyb mewn brawddegau lle mai’r
un yw’r goddrych yn y prif gymal a chymalau eraill, mae’r Sbaeneg yn cadw’r berfenw tra bydd y Gymraeg yn
defnyddio cystrawen wahanol:

Dywedodd mai Simón oedd ei enw : Dijo llamarse Simón

Dw i’n credu fy mod i’n iawn : Creo tener razón

Cyfaddefodd ei bod hi wedi ei ddwyn : Confesó haberlo robado

25 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Mewn brawddegau o’r math hwn lle nad yw’r Sbaeneg yn defnyddio’r berfenw, cynigir y posibilrwydd neu’r
tebygrwydd mai person arall (nid goddrych berf y prif gymal) sydd dan sylw:

Mynnodd mai Ffrancwr oedd e : Afirmaba ser francés (ef ei hun)

OND:

Mynnodd mai Ffrancwr oedd e : Afirmaba que era francés (ef ei hun neu berson arall)

Mae llu o ferfau sy’n mynegi dymuniad, gorchymyn, ymateb emosiynol ayyb yn Sbaeneg lle mae’n rhaid
defnyddio que + y modd dibynnol, tra bydd y Gymraeg yn cadw at y berfenw:

Dywedodd e wrthi am ei alw : Le dijo que lo llamara

Gofynnais i i Siân ysgrifennu iti : Le pedí a Siân que te escribiera

Rydyn ni am ichi weld hyn : Queremos que vea usted esto

Mae hi’n falch dy fod di wedi dod yn ôl : Se alegra de que hayas regresado

al + berfenw (B&B, 18.3.3)

Cystrawen a ddefnyddir yn aml iawn yw hon; mae’n cyfateb yn fras i wrth + berfenw, ar ôl + berfenw neu pan
+ berf gyfyngedig yn Gymraeg:

Wrth gyrraedd adre.... : Al llegar a casa....

Wrth adael y gwesty, trois i i’r dde : Giré a la derecha al salir del hotel

Digiodd hi pan gafodd hi wybod am hynny : Se enfadó al enterarse de eso

Ar ôl ymddeol mi ymroddais i gerddoriaeth : Al jubilarme me dediqué a la música

sin + berfenw

Mae’r arfer yn debyg yn Gymraeg a Sbaeneg: os mai’r un yw’r goddrych ym mhob gweithrediad yn y frawddeg,
cedwir y berfenw. Os yw’r goddrych yn wahanol, mae’r Sbaeneg yn defnyddio’r modd dibynnol:

Aethon ni allan heb siarad : Salimos sin hablar

Aethon ni allan heb iddi siarad : Salimos sin que ella hablara

Aeth e i ffwrdd heb ei gweld hi : Se fue sin verla

Aeth e i ffwrdd heb iddi ei weld : Se fue sin que ella lo viera

26 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


cyn / ar ôl + berfenw

Os yw goddrych y gweithrediad a lywodraethir gan cyn / ar ôl + berfenw yn yr is-gymal Cymraeg yr un ag yn y


prif gymal, bydd y Sbaeneg yn defnyddio antes de / después de + berfenw:

Darllenais i bennod cyn codi : Leí un capítulo antes de levantarme

Siarada i â hi cyn mynd allan : Hablaré con ella antes de salir

Galwodd e fi ar ôl cyrraedd adref : Me llamó al llegar/después de llegar a casa

OND os cyfeirir at weithrediad yn y dyfodol sydd heb ei gyflawni eto, neu os yw’r goddrych yn wahanol yn y prif
gymal a’r is-gymal(au), yna mae’n rhaid i’r Sbaeneg ddefnyddio berf gyfyngedig:

Galwch ni ar ôl ichi orffen : Llámenos cuando haya terminado

Darllenais i bennod cyn iti godi : Leí un capítulo antes de que te levantaras

Dwi am ddarllen pennod cyn iti godi : Quiero leer un capítulo antes de que te levantes

Siarada i â hi cyn iddi fynd allan : Hablaré con ella antes de que salga

Galwodd e fi ar ôl imi gyrraedd adref : Me llamó después de que llegara a casa

Y gerwnd (B&B, pennod 20)

Y gerwnd Sbaeneg yw’r ffurf ar y ferf sy’n terfynu gydag -ando neu -iendo: e.e., hablando, comiendo,
viviendo. (Sylwer: gerwnd y ferf ir yw yendo).

Mae’n cyfateb o ran ei ystyr i wrth / gan / dan / yn / tra’n + berfenw yn Gymraeg.

Defnyddir estar + gerwnd i ffurfio amserau parhaol:

Mae hi’n siarad ar y ffôn : Está hablando por teléfono

Maen nhw’n cael swper (ar hyn o bryd) : Están cenando

Roedden ni’n gwylio ffilm : Estábamos viendo una película

Mae’r terfyniad yn ddigyfnewid, er y gellir ôl-ddodi rhagenwau gwrthrychol:

Atebodd hi gan chwerthin : Contestó riéndose

Defnyddir y gerwnd yn aml iawn gyda berf gyfyngedig i fynegi natur gydamserol gweithrediad:

27 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Aeth hi i ffwrdd gan ganu : Su fue cantando

A minnau ar fy ngwyliau, ces i lythyr : Estando de vacaciones recibí una carta

Roedd tri ohonom, gan gynnwys Trini : Éramos tres, incluyendo a Trini

Defnyddir y gerwnd hefyd gyda berf gyfyngedig i fynegi dull gweithredu:

Gwnaeth ei ffortiwn trwy werthu hen bethau : Hizo su fortuna vendiendo antigüedades

Gellir ei agor trwy wasgu’r botwm yma : Se abre apretando este botón

Trwy gynilo y mae dod yn gyfoethog : Ahorrando se llega a rico

seguir / continuar + gerwnd = dal i / parhau i + berfenw:

Daliwch i weithio : Seguid trabajando

Parhaodd i ddarllen ei nofel : Continuó leyendo su novela

Amseroedd y gorffennol: yr amser perffaith


(Butt & Benjamin, penodau 13 & 14)

Ffurfiau

Defnyddir amser presennol y ferf afreolaidd haber + rhangymeriad gorfennol i ffurfio’r amser perffaith. Ffurfir
rhangymeriad gorfennol y rhan fwyaf o ferfau trwy ddisodli -ar neu -er/-ir y berfenw ag -ado neu -ido:

hablar > hablado leer > leído

jugar > jugado vivir > vivido

comer > comido dormir > dormido

Trafodir rhangymeriadau gorfennol afreolaidd yn B&B, 19.2.1 (he dicho, he hecho, he visto ayyb).

Ystyr yr amser perffaith

O ran ystyr mae’r amser perffaith yn Sbaeneg (fel y’i defnyddir yn Sbaen, ond nid felly bob tro yn America
Ladin*) yn cyfateb i’r gystrawen Gymraeg:

28 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


amser presennol bod + wedi + berfenw amser presennol haber + rhangymeriad gorfennol

Mae hi wedi siarad â nhw : Ha hablado con ellos

Dw i wedi gweld ei gar : He visto su coche

Wyt ti wedi dod ar y bws? : ¿Has venido en el autobús?

Mae ffurf y rhangymeriad gorffennol yn ddigyfnewid yn y gystrawen Sbaeneg hon:

Dw i wedi eu gweld nhw yn yr ardd : Las/Los he visto en el jardín

Maen nhw wedi ein gadael ni yma : Nos han dejado aquí

Ydych chi wedi ei chlywed? : ¿La ha oído usted? / ¿La habéis oído? / ¿La han oído ustedes?

Mae’r amser perffaith Sbaeneg yn cyfeirio at weithrediadau a ddigwyddodd mewn cyfnod sy’n cynnwys y
presennol, neu rai y mae eu heffeithiau’n berthnasol o hyd (B&B, 14.9.1, 14.9.2):

Dw i wedi mynd yno ddwywaith y mis yma : He ido dos veces este mes

Maen nhw wedi cyrraedd yn barod : Ya han llegado

Pwy sydd wedi torri’r ffenest? : ¿Quién ha roto la ventana?

*NB: Mae tueddiad yn America Ladin a rhai ardaloedd yng ngogledd Sbaen i ddefnyddio’r amser gorffennol
syml yn hytrach na’r amser perffaith, hyd yn oed os yw’r gweithrediad a ddisgrifir wedi digwydd yn gymharol
ddiweddar:

Maen nhw wedi cyrraedd yn barod : Ya llegaron

Pwy sydd wedi torri’r ffenest? : ¿Quién rompió la ventana?

Dw i wedi ei gweld hi y bore’ma : La vi hoy por la mañana

Wyt ti wedi anfon y llythyr eto? : ¿Ya enviaste la carta?

I’r gwrthwyneb, clywir yn Sbaen yr amser perffaith yn aml i ddisgrifio gweithrediad diweddar iawn, hyd yn oed
pan fydd y Gymraeg yn tueddu i droi at yr amser gorffennol syml:

Glywaist ti’r sgrech’na? : ¿Has oído ese grito?

Gwelais i fe ddoe ddiwethaf : Lo he visto ayer mismo

29 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Amseroedd y gorffennol: y gorffennol syml
(Butt & Benjamin, penodau 13 & 14)

Ffurfiau’r gorffennol syml

Dangosir ffurfiau berfau rheolaidd y gorffennol syml yn B&B 13.5.2 (tud. 196), ac yn 13.1.3 (tud. 166) rhoddir
manylion y berfau afreolaidd. Gelwir y rhain yn ‘pretéritos graves’ yn aml am fod y pwyslais yn y ffurfiau a
ddefnyddir ar gyfer y person cyntaf unigol (yo) a’r trydydd person unigol (él, ella, usted) ar y goben, h.y. y sillaf
gynderfynol:

Berfau rheolaidd Pretéritos graves

hablar > hablé, habló decir > dije, dijo

comer > comí, comió hacer > hice, hizo

vivir > viví, vivió poner > puse, puso

Cynhwysir hefyd ymhlith y berfau afreolaidd yn 13.1.3 nifer o ferfau cyffredin iawn â berfenw unsill, megis dar,
ir, ser sydd yn afreolaidd yn eu ffordd eu hunain.

Yn ogystal â’r berfau afreolaidd uchod, mae nifer o ferfau y mae eu berfenw yn terfynu gydag -ir (megis
dormir, pedir, sentir), lle ceir newid llafariad yn y trydydd person (unigol a lluosog) yn y gorffennol syml:

dormir > (él/ella/usted) durmió (ellos/ellas/ustedes) durmieron

pedir > (él/ella/usted) pidió (ellos/ellas/ustedes) pidieron

sentir > (él/ella/usted) sintió (ellos/ellas/ustedes) sintieron

Ystyr y gorffennol syml

Yn Sbaen mae’r gorffennol syml yn cyfateb o ran ystyr i’r amser gorffennol perffeithiol yn Gymraeg (gwelais i,
aeth hi ayyb) – mae’n disgrifio gweithrediadau a digwyddiadau a gwblhawyd yn y gorffennol, nad ydynt yn dal i
ddigwydd:

Siaradais i â hi ddoe : Hablé con ella ayer

Pam est ti yno? : ¿Por qué fuiste allí?

Treuliodd e fis yn Nulyn : Pasó un mes en Dublín

Bwyton ni gaws o La Mancha : Comimos queso manchego

30 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Beth wnaethoch chi yn Y Bala? : ¿Qué hicisteis en Bala?

Welson nhw mohono i : No me vieron

Pryd cyrhaeddoch chi? : ¿Cuándo llegaron ustedes?

Yn America Ladin a rhai ardaloedd yng ngogledd Sbaen defnyddir y gorffennol syml i ddisgrifio gweithrediadau
sydd wedi digwydd yn gymharol ddiweddar, tra byddai’r rhan fwyaf o siaradwyr Sbaeneg yn Sbaen yn
defnyddio’r amser perffaith ac y byddai siaradwyr Cymraeg yn tueddu i ddefnyddio’r gystrawen amser
presennol bod + wedi + berfenw:

Maen nhw wedi cyrraedd yn barod : Ya llegaron

Pwy sydd wedi torri’r ffenest? : ¿Quién rompió la ventana?

Mewn egwyddor dylai fod yn haws i siaradwyr Cymraeg na siaradwyr Saesneg uniaith wybod pryd i
ddefnyddio’r gorffennol syml yn hytrach na’r amser amherffaith, gan fod y Saesneg yn tueddu i ddefnyddio
ffurfiau’r amser gorffennol (simple past: I saw, he did, they went) i ddisgrifio gweithrediadau sydd wedi dod i
ben yn ogystal â rhai a ddigwyddai dro ar ôl tro yn y gorffennol. Mae’r Gymraeg a’r Sbaeneg yn tueddu i
wahaniaethu’n fwy pendant rhwng digwyddiadau gorffenedig a digwyddiadau mynych neu barhaus trwy
ddefnyddio’r gorffennol syml:

Saesneg Cymraeg Sbaeneg

I saw him yesterday Gwelais i fe ddoe Lo vi ayer

I saw him often Ro’n i’n (arfer) ei weld yn aml Lo veía a menudo

Gwelwn / Fe welwn i fe yn aml

(Arferwn ei weld bob mis)

I saw him every month Ro’n i’n (arfer) ei weld / Byddwn yn ei Lo veía / Solía verlo todos los
weld bob mis meses

(Arferwn ei weld bob mis)

NB: Os yw’r cyfnod y siaredir amdano’n un gorffenedig, bydd y Gymraeg yn defnyddio’r amherffaith ond bydd y
Sbaeneg yn defnyddio’r gorffennol syml:

He was in jail for twenty years Roedd e yn y carchar am ugain Estuvo veinte años en la cárcel
mlynedd

I lived in London for years and Roeddwn i’n byw yn Llundain am Viví en Londres durante muchos

31 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


years flynyddoedd maith años

Ystyr arbennig saber a conocer yn y gorffennol syml

Fel arfer mae ystyr saber a conocer yn cyfateb i’r berfau gwybod ac adnabod yn Gymraeg:

Wyt ti’n gwybod ble maen nhw? : ¿Sabes dónde están?

Do’n ni ddim yn gwybod sut i’w agor : No sabíamos cómo abrirlo

Dw i ddim yn ’nabod Eleri Haf : No conozco a Eleri Haf

Oedd e’n ’nabod dy fam? : ¿Conocía a tu mamá?

Ond mae ystyr saber, conocer, poder a querer a nifer o ferfau eraill yn newid o’u defnyddio yn yr amser
gorffennol syml (B&B, 14.4.10, 21.2.2):

saber cael gwybod, darganfod yn sydyn, sylweddoli

conocer a alguien cwrdd â / dod i adnabod rhywun am y tro cyntaf

poder hacer algo llwyddo i wneud rhywbeth

no poder hacer algo methu â gwneud rhywbeth

querer hacer algo mynnu gwneud rhywbeth

no querer hacer algo gwrthod / nacau gwneud rhywbeth

Ro’n i’n gwybod yn barod pwy oedd hi : Yo ya sabía quién era

Sylweddolais i pwy oedd hi : Supe quién era

Ro’n ni’n ’nabod ein gilydd yn barod : Ya nos conocíamos

Cwrddon ni yn Fenis : Nos conocimos en Venecia

Oedd hi’n bosibl iti ei helpu? : ¿Podías ayudarlo?

Lwyddaist ti i’w helpu? : ¿Pudiste ayudarlo?

Doedd dim modd iddi ddianc o’r twnnel : No podía escaparse del túnel

Methodd hi â dianc o’r twnnel : No pudo salir del túnel

32 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Roedd hi eisiau ei roi imi : Quería dármelo

Mynnodd hi ei roi imi : Quiso dármelo

Doedd e ddim yn awyddus i ddod yn ôl : No quería regresar

Gwrthododd e ddod yn ôl : No quiso regresar

Amseroedd y gorffennol: yr amser amherffaith


(Butt & Benjamin, pennod 14)

Ffurfiau’r amherffaith

Dangosir y terfyniadau ar gyfer berfau rheolaidd yn yr amser amherffaith yn B&B (13.5.2, tud. 196), sef -aba,
-abas ayyb yn achos berfau -ar megis hablar; -ía, -ías ayyb yn achos berfau -er, -ir megis comer, vivir:

Ro’n i eisiau eu gweld nhw : Quería verlos

Beth o’t ti’n wneud yno? : ¿Qué hacías allí?

Roedd hi’n siarad deg o ieithoedd : Hablaba diez idiomas

Dim ond dŵr roedd e’n ei yfed : Sólo bebía agua

Roedd e’n byw mewn ogof : Vivía en una cueva

Do’n ni ddim yn ei ’nabod hi : No la conocíamos

O’ch chi’n gwybod ei fod e yno? : ¿Sabíais que estaba allí?

Dim ond tair ferf sy’n afreolaidd yn yr amherffaith. Rhoddir ffurfiau eu terfyniadau (ir, ser, ver) yn B&B 13.1.6
(tud. 168).

Ble roedd Dewi’n mynd? : ¿Adónde iba Dewi?

Pwy oedd hi? : ¿Quién era?

Ro’n ni’n arfer gweld ein gilydd bob dydd Sul: Nos veíamos todos los domingos

Ystyr yr amser amherffaith (B&B, 14.5)

Mae’r amser amherffaith yn disgrifio gweithrediadau a digwyddiadau yn y gorffennol yr ystyrir nad ydynt wedi
dod i ben eto yn ystod yr adeg y cyfeirir ati. Fe’i defnyddir felly:

33 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


(i) fel amser cefndirol i ddisgrifio rhywbeth a oedd yn mynd ymlaen eisoes pan ddigwyddodd rhywbeth arall:

Ro’n i’n dod adre pan welais i nhw : (Yo) Volvía a casa cuando los vi

Pan gyrhaeddon ni, ’doedd hi ddim yno bellach : Cuando llegamos ya no estaba

Ro’n nhw eisiau ei weld, ond gwrthododd e ddod allan : Querían verlo pero no quiso salir

(ii) i ddisgrifio digwyddiadau arferiadol:

Ro’n i’n (arfer) ysgrifennu iddi bob pythefnos : Le escribía cada quince días

Ym mha ysgol ro’ch chi’n (arfer) dysgu? : ¿En qué colegio enseñaba usted?

O’ch chi’n (arfer) dod yma’n aml? : ¿Veníais aquí a menudo?

Mae’r amherffaith Sbaeneg felly yn cwmpasu digwyddiadau a gweithrediadau y gall y Gymraeg eu mynegi
mewn gwahanol ffyrdd, yn ôl y cyd-destun a’r cywair a ddefnyddir:

lo veíamos = ro’n ni’n (gallu) ei weld e

NEU arferem ei weld NEU fe’i gwelem

Weithiau, wrth ddisgrifio rhywbeth a oedd yn mynd ymlaen pan digwyddodd rhywbeth arall (gweler (i) uchod),
mae’r Sbaeneg yn defnyddio’r amherffaith parhaol (sef estaba + gerwnd y ferf dan sylw), gan roi’r syniad o
fod ar ganol gwneud rhywbeth (B&B, 14.5.5):

Ro’n i wrthi’n golchi’r llestri pan alwodd hi : Estaba lavando los platos cuando me llamó

Roedd hi ar ganol darllen y papur : Estaba leyendo el diario

Gweler hefyd yr uned nesaf: ‘Amseroedd y gorffennol – gorffennol syml neu amherffaith?’

Amseroedd y gorffennol – gorffennol syml neu amherffaith?


(Butt & Benjamin, pennod 14)

Tra bod yr amherffaith yn disgrifio gweithrediadau neu sefyllfaoedd sy’n digwydd p’un ai’n barhaus neu dro ar
ôl tro yn y gorffennol, mae’r gorffennol syml yn disgrifio gweithrediadau neu sefyllfaoedd sydd wedi dod i ben
yn y gorffennol, sef rhai nad ydynt yn dal i ddigwydd.

34 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Roedd hi’n dwym y diwrnod hwnnw : Hacía calor aquel día

Dechreuodd hi fwrw glaw : Empezó a llover

Roedd hi’n arfer dod gyda ni bob dydd Gwener : Venía con nosotros todos los viernes

Gwrthododd hi ddod gyda ni ddoe : Ayer no quiso acompañarnos

Roedd e’n gweithio fel saer gyda’i dad : Trabajaba de carpintero con su padre

Ar ôl i’w dad farw, fe werthodd y gweithdy : Cuando murió su padre vendió el taller

Mae’r amherffaith a’r gorffennol syml yn cael eu defnyddio’n aml yn yr un frawddeg – mae’r amherffaith yn
paratoi’r llwyfan, fel petai, trwy ddisgrifio’r hyn a oedd yn mynd ymlaen fel gweithgarwch cefndirol, tra bod y
gorffennol syml yn disgrifio digwyddiad sydyn gorffenedig:

Roedd Eleri’n cysgu pan gyrhaeddon ni : Eleri dormía cuando llegamos

Ro’n i’n gwisgo pan ddaeth e i mewn : Me estaba vistiendo cuando entró

Ro’n ni’n byw ym Mharis pan ddechreuoedd y rhyfel : Vivíamos en París cuando estalló la guerra

Ar adegau, mae dewis defnyddio’r amherffaith yn hytrach na’r gorffennol syml yn cyfleu amheuaeth a
ddigwyddodd rhywbeth penodol neu beidio (B&B, 14.4.6, 14.5.10):

Cyrhaeddodd y trên am wyth o’r gloch : El tren llegó a las ocho

OND

Roedd y trên i fod i gyrraedd am wyth o’r gloch : El tren llegaba a las ocho

(ond nid oes sicrwydd ei fod wedi dod)

Aethon nhw allan gyda’r wawr : Salieron al amanecer

OND

Ro’n nhw i fod i fynd allan gyda’r wawr : Salían al amanecer

(ond nid oes sicrwydd eu bod wedi gadael)

35 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Amseroedd y gorffennol: y gorberffaith
(Butt & Benjamin, pennod 14)

Ffurfiau’r amser gorberffaith

Defnyddir amser amherffaith y ferf gynorthwyol haber (había, habías ayyb) + rhangymeriad gorffennol y brif
ferf i ffurfio’r amser gorberffaith:

había hablado / comido / vivido / sido / dicho ayyb

habíamos estado / bebido / salido / visto / hecho ayyb

NB: Weithiau, mewn cywair llenyddol neu newyddiadurol, defnyddir amser amherffaith y modd dibynnol (e.e.
hablara, comiera, viviera) mewn is-gymalau i gyfleu ystyr yr amser gorberffaith – gweler B&B, 14.10.2.

e.e. la casa donde pasara su niñez yn lle la casa donde había pasado su niñez

Ystyr yr amser gorberffaith (B&B, 14.10.01)

Defnyddir y gorberffaith yn Sbaeneg i ddisgrifio gweithrediadau a digwyddiadau a ragflaenodd weithrediadau a


digwyddiadau eraill yn y gorffennol. Mae ei ystyr yn cyfateb i’r gystrawen Gymraeg:

amser amherffaith bod + yn + berfenw amser amherffaith haber + rhangymeriad gorffennol

Ro’n i wedi ei weld e yn barod : (Yo) Ya lo había visto

O’t ti wedi’i ddarllen? : ¿Lo habías leído?

Ro’n nhw wedi anghofio fy enw i : Habían olvidado mi nombre

Roedd hi wedi gadael pan alwais i : Ya se había ido cuando llamé

Roedd e wedi marw cyn imi gyrraedd : Había muerto antes de mi llegada

NB: Weithiau, mewn cywair llenyddol yn Sbaen, defnyddir y goffennol blaenorol (pretérito anterior) – gorffennol
syml y ferf gynorthwyol haber (hube, hubiste ayyb) + rhangymeriad gorffennol y brif ferf – yn lle’r amherffaith i
ddisgrifio gweithrediadau sydd wedi digwydd ychydig cyn gweithrediad neu ddigwyddiad arall yn y gorffennol
(gweler B&B, 14.10.4):

Cyn gynted ag yr oedd e wedi gorffen, aethon ni allan : En cuanto hubo terminado, salimos

36 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Cyfieithu ymadroddion ya, ya no, todavía, todavía no
(Butt & Benjamin pennod 31)

ya, ya no (B&B, 31.7.1)

Ystyr sylfaenol yr adferf ya yw: eisoes, yn barod:

Mae gen i sawl un yn barod : Ya tengo varios

Mae hi wedi cyrraedd yn barod : (Ella) Ya ha llegado

Maen nhw wedi cynilo canpunt eisoes : Ya han ahorrado cien libras

Mewn cwestiwn, gall ya olygu eto:

Wyt ti wedi’i ddarllen eto? : ¿Ya lo has leído?

Ydyn nhw’n gwybod eto beth ddigwyddodd? : ¿(Ellos) Ya saben lo que pasó?

Y gwir yw bod i’r gair bach ya lu o arliwiau a all wneud gwahaniaeth trwch blewyn i ystyr y frawddeg. Mae’n
werth astudio’r enghreifftiau sydd ar dudalen 435-6 yn B&B a mewn geiriaduron Sbaeneg dibynadwy. Rhoddir
isod enghreifftiau o ystyron mwyaf cyffredin ya.

Os defnyddir ya gyda’r amser dyfodol gall gyfleu ystyr ‘tybiaethol’:

Maen nhw’n siwr o fod wedi cyrraedd Jaén erbyn hyn : Ya habrán llegado a Jaén

Mae’n debyg dy fod yn gwybod pwy oedd e : Ya sabrás quién era

Gall ya gydag amser dyfodol y ferf gyfleu’r syniad o addewid, gobaith, bygwth:

Fe ddyweda i wrthi hi pan ddaw hi : Ya se lo diré cuando venga

Fe gei di wybod pan fyddi di’n ddyn : Ya lo sabrás cuando seas hombre

Fe gaiff e wybod gyda phwy mae’n delio! : ¡Ya sabrá con quien trata!

Defnyddir ya yn aml i gryfhau pwyslais y ferf mewn gwahanol ffyrdd gan awgrymu e.e. diffyg amynedd,
rhwystredigaeth, sicrwydd, anghrediniaeth a rhychwant o emosiynau cryf eraill. Mae’r cyfieithiad Cymraeg yn
dibynnu’n drwm ar y cyd-destun:

37 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


– Juan! – Iawn, dw i’n dod! : – ¡Juan! – ¡Ya voy!

– Trowch i’r dde. – Dw i’n gwybod! : – A la derecha. – ¡Ya!

Iawn, ond beth am yfory? : Ya, pero ¿y mañana?

Mae’n hen bryd hefyd! : ¡Ya era hora!

Ond dw i’n dweud wrthyt ti nad oedd e ddim yn gwybod : Ya te digo que él no lo sabía

Jyst cau dy ben, wnei di? : ¡Pero cállate ya!

Ti’n gweld? Beth ddywedais i? : ¿Ya ves?

Man a man iti roi’r swper mas, dyn ni wedi aros am ddigon : Sirve ya la cena, que hemos esperado
bastante

ya + cymal adferfol amser = erbyn

Ro’n nhw wedi gorffen erbyn 8 o’r gloch : A las ocho ya habían terminado

erbyn diwedd mis Mawrth : ya a fines de marzo

Byddwn ni’n gwybod erbyn dydd Llun : El lunes ya lo sabremos

ya no = ddim bellach

Dydyn ni ddim yn gweld ein gilydd bellach : Ya no nos vemos

Dydyn nhw ddim yn byw yma rhagor : Ya no viven aquí

’Dyw hi ddim yn gallu cerdded hyd yn oed erbyn hyn : Ya no puede ni caminar

todavía (B&B, 31.7.3)

Prif ystyr todavía (sy’n gyfystyr ag aún) yw o hyd:

Mae hi’n gwrthod fy ngweld i o hyd : Todavía se niega a verme

Ydych chi’n dal yn y gwely? : ¿Todavía estáis en la cama?

38 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Wyt ti’n dal i’w charu hi? : ¿La quieres todavía?

Gall todavía olygu er hynny hefyd, gan gyflwyno syniad nad yw’n dilyn yn naturiol yr hyn a ddywedwyd eisoes:

Prynais i sgidiau iddi, a (serch hynny) mae hi’n dal i gwyno : Le compré zapatos y todavía se queja

Defnyddir todavía i bwysleisio cymariaethau:

Mae’n ddrutach fyth nag yr o’n i’n meddwl : Es todavía más caro de lo que pensaba

Roedd e’n fwy na’ch tŷ chi hyd yn oed : Era más grande todavía que vuestra casa

todavía no = [d]dim eto

– Wyt ti wedi gorffen? – dim eto : – ¿Lo has terminado? – Todavía no

’Dyw hi ddim wedi cyrraedd eto : No ha llegado todavía

Y goddefol
(Butt & Benjamin, pennod 28)

Y stad weithredol (la voz activa) a’r stad oddefol (la voz pasiva)*

Yn y frawddeg isod mae’r ferf yn y stad weithredol:

Gwerthodd Elfed y tŷ : Elfed vendió la casa

(Yma, Elfed – sy’n cyflawni’r gweithrediad – yw goddrych y ferf gwerthu; y tŷ – sy’n ‘dioddef’ y gweithrediad –
yw’r gwrthrych)

Mewn brawddegau lle mae’r ferf yn y stad oddefol, y person/peth sy’n ‘dioddef’ gweithrediad y ferf yw goddrych
y ferf honno:

*
Cyfeirir at y rhain yn dechnegol fel ‘y cyflwr gweithredol’ a’r ‘cyflwr goddefol’.

39 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Gwerthwyd y tŷ : La casa fue vendida

Se vendió la casa

(Yr un ‘gweithrediad’ a ddisgrifir yn y brawddegau uchod ag yn yr un gyntaf, er bod ffurfiau’r ferf yn wahanol.)

Yn Gymraeg mae ffurfiau’r wir oddefol ‘amhersonol’ (megis cynhelir, darllenid, addaswyd) yn arfer perthyn i
gywair ffurfiol neu ysgrifenedig:

Fe’i hagorwyd ym 1990 : Fue inaugurado en 1990

Fe’i hurddwyd yn farchog : Fue armado caballero

Ni chaniateir parcio yma : Se prohíbe estacionar

Mewn cyweiriau llai ffurfiol ac yn yr iaith lafar mae’n well gennym osgoi’r ffurfiau hyn yn Gymraeg gan droi at
gystrawennau eraill sy’n cyfleu’r un syniad mewn ffordd amgen:

Cafodd ei agor.... / Agoron nhw fe....

Cafodd ei urddo....

Chewch chi ddim parcio yma / Dyn nhw ddim yn gadael ichi barcio yma

Mae’r Sbaeneg ar y llaw arall yn tueddu i ddefnyddio cystrawennau goddefol yn amlach na’r Gymraeg, hyd yn
oed mewn cyweiriau cymharol anffurfiol, er nad pob tro yn ei ffurf draddodiadol (gweler isod).

Ffyrdd o fynegi’r goddefol

1) ser + rhangymeriad gorffennol

Y ffordd draddodiadol o gyfleu ystyr goddefol yw defnyddio’r ferf ser + rhangymeriad gorffennol y brif ferf.
Mae’n rhaid i’r rhangymeriad gytuno (concordar) o ran nifer a chenedl â goddrych y ferf:

Cynhyrchwyd y sgriw yma yn yr Eidal : Este tornillo fue fabricado en Italia

Cafodd ei llofruddio gan ei thad : Fue asesinada por su padre

Maent yn cael eu casglu â pheiriannau : Son recogidos por máquina

Cafodd eu merched eu halltudio : Sus hijas fueron enviadas al exilio

Defnyddir y gystrawen hon yn aml mewn ysgrifen, ond mae’n llai cyffredin yn yr iaith lafar. Gellir dangos y
gweithredydd, rhywbeth na ellir ei wneud gyda’r cystrawennau lle defnyddir se.

Achubwyd y ci gan ei feistr : El perro fue salvado por su dueño

40 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


NID “*El perro se salvó por su dueño”

2) goddrych dealledig yn y trydydd person lluosog

Cafodd y sgriw yma ei gwneud yn yr Eidal : Fabricaron este tornillo en Italia

Cafodd ei llofruddio : La asesinaron

Cawsant eu halltudio : Las enviaron al exilio

3) dyblygu’r rhagenw gwrthrychol uniongyrchol (reduplicación del OD)

Mynegir y goddefol hefyd trwy ddyblygu’r rhagenw gwrthrychol uniongyrchol (h.y. mynegi’r gwrthrych unwaith
ar ffurf enw ac wedyn eto ar ffurf rhagenw) a’i roi o flaen y ferf. Yn aml mae hyn yn ychwanegu pwyslais i elfen
benodol:

Yn yr Eidal y cafodd y sgriw yma ei gwneud : Este tornillo lo fabricaron en Italia

Borges ysgrifennodd y llyfr hwn : Este libro lo escribió Borges

Ym marchnad Camden maen nhw’n gwerthu’r pethau hyn : Estas cosas las venden en el mercadillo de
Camden

4) y goddefol â se (pasiva con se / se pasivo)

Efallai mai trwy gyfrwng cystrawennau sy’n cynnwys y rhagenw se y mynegir syniadau goddefol amlaf yn
Sbaeneg. Ond mae angen gwahaniaethu rhwng sawl math o is-gystrawen. (Gweler yr uned ‘Ymadroddion sy’n
defnyddio se’: adrannau a) La pasiva refleja [y goddefol atblygol] a b) se + berf anghyflawn + a.)

Fe ddefnyddir y goddefol â se mewn brawddegau lle nad yw’n amlwg neu lle nad oes angen gwybod pwy neu
beth sydd yn cyflawni’r gweithrediad (yn rhai o’r enghreifftiau hyn byddai’r Ffrangeg yn defnyddio on):

a) se yn lle gweithredydd y ferf gyda goddrychau nad ydynt yn fyw.

goddrych nad yw’n byw + se + berf anghyflawn

Os yw’r goddrych yn lluosog, defnyddir ffurf luosog y ferf hefyd. (Cymharer se amhersonol.)

Ffurfir hyn gan ddefnyddio berfau anghyflawn yn y trydydd person (unigol neu luosog):

Cyhoeddwyd y llyfr : Se publicó el libro


41 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).
Cyhoeddwyd y llyfrau : Se publicaron los libros

Dinistriwyd llawer o dai : Se destruyeron muchas casas

Trafodwyd nifer o broblemau : Se debatieron varios problemas

Mae llawer o westai wedi cael eu codi : Se han construido muchos hoteles

Siaredir Sbaeneg yma : Aquí se habla español

Bara ar werth : Se vende pan

Tai ar log : Se alquilan casas

Defnyddir y gystrawen hon yn aml ar lafar. Ni ellir ei defnyddio ond gyda thrydydd person y ferf, a hynny fel
arfer gyda goddrychau (enwau neu ragenwau) nad ydynt yn byw.

Os crybwyllir gweithredydd y gweithrediad, ni ddylid defnyddio’r goddefol â se:

Cyhoeddwyd y llyfr : Se publicó el libro

OND:

Cyhoeddwyd y llyfr gan Y Lolfa : El libro fue publicado por Y Lolfa

Trafodwyd nifer o broblemau : Se debatieron varios problemas

OND:

Trafodwyd nifer o broblemau gan y tîm : Varios problemas fueron debatidos por el equipo

NEU El equipo debatió varios problemas

NB: Pe defnyddid y gystrawen uchod gyda goddrychau byw, gallai ystyr y frawddeg fod yn amwys [gweler
adran b) isod]. Mae’r gystrawen ‘goddrych byw + se + berf anghyflawn’ yn debygol o gael ei deall fel
gweithrediad atblygol (... ei hun/eu hunain) neu ddwyochrog (...ei gilydd) yn hytrach na brawddeg ag ystyr
goddefol, e.e.:

Se ha matado el Presidente = Mae’r Arlywydd wedi’i ladd ei hun

(NID: Mae’r Arlywydd wedi cael ei ladd = Se ha matado al Presidente)

Mi tía se ha envenenado = Mae fy modryb wedi’i gwenwyno ei hun

(NID: Mae fy modryb wedi cael ei gwenwyno = Se ha envenenado a mi tía)

42 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Se envidian las tres = Mae’r tair ohonyn nhw’n cenfigennu wrth ei gilydd

(NID: Cenfigennir wrth y tair ohonynt = Se envidia a las tres)

Gweler sut i wahaniaethu rhwng y gwahanol ystyron hyn yn B&B, 28.5.2.

b) se yn lle gweithredydd y ferf gyda goddrychau byw:

b.1) goddrych byw + se + berf anghyflawn + a personol + gwrthrych y ferf

Os yw goddrych y ferf yn fyw, yna defnyddir se + trydydd person unigol y ferf a’r arddodiad a cyn gwrthrych y
ferf (B&B, 28.5):

Oddi yma, gwelir y merched ar y sgwâr : Desde aquí se ve a las chicas en la plaza

Derbyniwyd y llysgenhadon : Se recibió a los embajadores

Carcharwyd miloedd o weriniaethwyr : Se encarceló a miles de republicanos

Dyma lle cafodd fy chwiorydd eu lladd : Aquí se mató a mis hermanas

Edmygir Silvio’n fawr : Se admira mucho a Silvio

b.2) goddrych byw + se + rhagenw goddrychol + berf anghyflawn

Os mai rhagenw nid enw yw goddrych y ferf mewn cystrawen o’r math hwn, yna cedwir y rhagenw goddrychol
ar ôl se (B&B, 28.5.2):

Oddi yma, fe’u gwelir ar y sgwâr : Desde aquí se las ve en la plaza

Fe’u derbyniwyd : Se los recibió

Fe’u carcharwyd : Se los encarceló

Dyma lle cawson nhw eu lladd : Aquí se las mató

Fe’i hedmygir yn fawr : Se lo admira mucho

c) se amhersonol. Fe’i defnyddir gyda berfau cyflawn i fynegi syniadau nad ydynt yn wir oddefol eu hystyr:

Gellir byw yn well yma : Se vive mejor aquí

Mae’n amlwg ei bod hi wedi chwarae o’r blaen : Se nota que ha jugado antes

Ydy’n amlwg iawn? : ¿Se nota mucho?

Dywedir y bydd y Prif Weinidog yn ymddiswyddo yfory : Se comenta que el Primer Ministro
renunciará mañana
43 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).
Credir bod bywyd ar blanedau eraill : Se cree que hay vida en otros planetas

Ni ddylid dweud hynny! : ¡Eso no se dice!

Fe’i defnyddir hefyd gyda berfau anghyflawn lle nad oes gwrthrych amlwg:

Maen nhw’n bwyta’n dda yn Sbaen : En España se come bien

5) cyfleu ystyr goddefol trwy gyfrwng y berfenw

Mae’n bosibl i’r berfenw gyfleu ystyr goddefol (gweler 28.2.4):

llyfrau heb eu darllen : libros sin leer

pethau heb eu gwneud/nas gwnaethpwyd/ : cosas sin hacer

sy’n aros i gael eu gwneud ayyb

Gwelais i ddau garcharwr yn cael eu saethu : Vi fusilar a dos presos

Bod: SER neu ESTAR? 2


(Butt & Benjamin, pennod 29)

estar + rhangymeriad y ferf

Defnyddir y gystrawen estar + rhangymeriad presennol y brif ferf ar brydiau i gyfleu’r syniad o weithrediad
parhaus, sy’n digwydd ar y foment y mae’r siaradwr yn sôn amdano:

Dw i’n cael cawod : Me estoy duchando

All hi ddim dod mas, mae hi’n gorffen ei gwaith cartref : No puede salir, está terminando sus deberes

Mae hi wrthi’n ceisio datrys y broblem : Está tratando de encontrar una solución

Ond ni ddylid gor-ddefnyddio’r gystrawen hon yn Sbaeneg – nid yw’n cyfateb yn union i’r gystrawen Saesneg
to be + rhangymeriad presennol na’r gystrawen beriffrastig Gymraeg bod + yn + berfenw. Mae Sbaeneg yn fwy
tebygol o ddefnyddio amserau syml y ferf yn hytrach nag estar + rhangymeriad presennol, hyd yn oed pan
fydd y gweithrediad yn digwydd ar yr un foment â’r datganiad:

44 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


What’s he doing? Beth mae e’n wneud? ¿Qué hace?

I’m wondering what to wear Dwi’n ceisio penderfynu beth i’w Me pregunto qué debería
wisgo ponerme

What were you singing just now? Beth o’t ti’n ganu gynnau fach? ¿Qué cantabas ahora?

What was she wearing when she Beth oedd hi’n wisgo pan ¿Qué llevaba al llegar?
arrived? gyrhaeddodd hi?

Where will you be going? Ble byddwch chi’n mynd? ¿Adónde pensáis ir?

Gan fod y Gymraeg a’r Saesneg yn defnyddio’r ffurfiau periffrastig yn aml i gyfeirio at weithrediadau a fydd yn
digwydd yn y dyfodol, mae’n bwysig gochel rhag defnyddio estar + rhangymeriad presennol wrth gyfieithu’r
fath syniadau i Sbaeneg, sy’n defnyddio’r amser presennol syml neu’r dyfodol (B&B, 15.1.2):

I’m going to Rhyl tomorrow Dw i’n mynd i’r Rhyl yfory Mañana voy/iré a Rhyl

They’re showing a film later Maen nhw’n dangos ffilm yn nes Van a poner una película más
ymlaen tarde

ser de neu estar de

Defnyddir ser de i ddisgrifio nodweddion digyfnewid megis tarddiad a sylwedd (gweler B&B, 29.2.4 a’r uned
‘Bod: SER neu ESTAR? 1’):

Mae wedi’i wneud o sidan : Es de seda

Roedd y blwch wedi’i wneud o dun : La caja era de hojalata

Dw i’n dod o Segovia : Soy de Segovia

O Iwerddon roedd ei rieni’n dod : Sus padres eran de Irlanda

Defnyddir estar de ar y llaw arall i ddisgrifio nodweddion dros dro megis hwyliau person, cyflogaeth
byrhoedlog neu sefyllfa dros dro (B&B, 29.3.2):

Mae e mewn hwyliau da heddiw : Hoy está de buen humor

Mae e’n gweithio fel gweinydd caffé : Está de camarero

Maen nhw’n teithio o gwmpas : Están de viaje

Ro’n i ar fy ngwyliau : Estaba de vacaciones

Dyn ni’n cael clonc : Estamos de charla

45 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


estar con + enw

Er mai enw a ddefnyddir yn y gystrawen hon, mae’n cyfleu cyflwr neu sefyllfa dros dro (B&B, 29.3.3):

Mae’r ffliw arna i : Estoy con gripe

Roedd golwg sur arni : Estaba con cara de pocos amigos

estar + adferf

Gellir defnyddio estar o flaen adferf (neu ansoddair a ddefnyddir fel adferf) i ddisgrifio cyflwr newidiadwy (B&B,
29.3.4):

Wyt ti’n iawn? : ¿Estás bien?

Mae’r cyfrinair yma’n anghywir : Esta contraseña está mal

Mae e’n waeth heddiw : Hoy está peor

Roedd pethau’n well arnon ni o’r blaen : Estábamos mejor antes

Mae’r ecónomi mewn cyflwr ofnadwy : La economía está fatal

estar que

Defnyddir estar que ar lafar gwlad i ddisgrifio sefyllfa, hwyliau ayyb a ystyrir yn rhai eithafol gan y siaradwr
(B&B, 29.3.5):

Mae dy dad di mewn hwyliau uffernol : Tu papá está que muerde (h.y. gellir ei ddychmygu’n brathu pobl)

Mae’r gwres yma’n annioddefol : El calor aquí está que mata

Rwyt ti’n fwrn heddiw! : ¡Hoy estás que no hay quien te aguante!

estar gydag ymadroddion amser

Defnyddir estar yn aml (yn yr amser presennol fel rheol, a chan ddefnyddio’r person cyntaf lluosog yn amlach
na pheidio) i sôn am y diwrnod neu’r dyddiad:

Beth yw’r dyddiad heddiw? : ¿A cuántos estamos?

Pa ddydd yw e heddiw? : ¿A qué día estamos?

Tua diwedd mis Mawrth oedd hi.... : Estábamos a fines de marzo....

Mae’n haf lle mae hi nawr : Ella está en verano ahora

46 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


estar yn cyfleu argraff neu newid cyflwr

Fel yr esbonir yn yr uned ‘Bod: SER neu ESTAR? 1’ ac yn B&B, 29.4.3, defnyddir estar yn lle ser i awgrymu
natur fyrhoedlog nodweddion person neu beth:

Mae hi’n brydferth iawn : Es muy guapa

Mae golwg bert iawn arni heddiw : Está muy guapa hoy

Rwyt ti’n Gymreig iawn : Eres muy galesa

Rwyt ti’n edrych/ymddwyn yn Gymreigaidd iawn : Estás muy galesa

Mae’r cawl yn oer : La sopa es fría (e.e., gazpacho)

Mae’r cawl wedi oeri : La sopa está fría

NB: Sylwer serch hynny eithriadau yn B&B, tudalen 416.

ser/estar gydag ansoddeiriau

Ceir nifer o ansoddeiriau a rhangymeriadau gorffennol ag ystyr ansoddeiriol lle mae dewis ser neu estar yn
newid yr ystyr:

Mae hi wedi diflasu : Está aburrida

Mae hi’n ddiflas : Es aburrida

Mae e’n effro : Está despierto

Un siarp iawn yw e : Es despierto

Mae rhestr o’r rhai mwyaf cyffredin i’w gweld yn B&B, 29.4.4.

Y modd dibynnol
(Butt & Benjamin, pennod 16)

47 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Ffurfiau’r modd dibynnol: y presennol (B&B, 13.1.9)

Mae terfyniadau’r amser hwn yn hawdd i’w cofio: mae berfau -ar (hablar ayyb) yn ‘benthyg’ terfyniadau amser
presennol mynegol berfau -er rheolaidd (comer ayyb), heblaw am y person cyntaf unigol sy’n terfynu gydag -e:

yo hable nosotros/-as hablemos

tú hables vosotros/-as habléis

usted, él, ella hable ustedes, ellos, ellas hablen

Mae berfau -er (comer ayyb) ac -ir (vivir ayyb) yn ‘benthyg’ terfyniadau amser presennol mynegol berfau -ar
rheolaidd (hablar ayyb), heblaw am y person cyntaf unigol sy’n terfynu gydag -a:

yo coma / viva nosotros/-as comamos / vivamos

tú comas / vivas vosotros/-as comáis / viváis

usted, él, ella coma / viva ustedes, ellos, ellas coman / vivan

Yn achos y rhan fwyaf o ferfau, atodir y terfniadau hyn i’r bôn a geir wrth dynnu’r terfyniad -o o ffurf person
cyntaf unigol yr amser presennol mynegol:

Presennol mynegol Bôn Presennol dibynnol

hablo habl- hable

como com- coma

vivo viv- viva

me siento (sentarse) sient- me siente

me siento (sentirse) sient- me sienta

vuelvo vuelv- vuelva

hiervo hierv- hierva

salgo salg- salga

tengo teng- tenga

pongo pong- ponga

Mae sawl berf gyffredin iawn sy’n defnyddio bôn afreolaidd yn y presennol dibynnol:

48 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


dar > dé ir > vaya

estar > esté saber > sepa

haber > haya ser > sea

Dangosir rhediad llawn y berfau afreolaidd hyn ar B&B, tud. 169-170. Gweler hefyd dormir, morir (B&B,
13.3.18).

Ffurfiau’r modd dibynnol: yr amherffaith (B&B, 13.1.10)

Mae dau set o derfyniadau rhyng-gyfnewidiol i’r amser hwn:

Berfau -ar Berfau -er ac -ir

yo -ara NEU -ase yo -iera NEU -iese

tú -aras NEU -ases tú -ieras NEU -ieses

usted, -ara NEU -ase usted, -iera NEU -iese


él, ella él, ella
nosotros/-as -áramos NEU -ásemos nosotros/-as -iéramos NEU -iésemos

vosotros/-as -arais NEU -aseis vosotros/-as -ierais NEU -ieseis

ustedes, -aran NEU -asen ustedes, -ieran NEU -iesen


ellos, ellas ellos, ellas

Defnyddir y ffurfiau -ara yn amlach na’r rhai -ase.

Ffurfiau’r modd dibynnol: y perffaith a’r gorberffaith

I ffurfio’r amserau hyn sy’n defnyddio’r ferf ategol haber, newidir presennol mynegol haber (he hablado ayyb)
i’r presennol dibynnol (haya hablado ayyb), a’r amherffaith mynegol (había hablado ayyb) i’r amherffaith
dibynnol (hubiera hablado ayyb).

Pryd dylid defnyddio’r modd dibynnol?

49 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Anaml y defnyddir y modd dibynnol yn Gymraeg heddiw, ar wahân i nifer o ymadroddion sydd wedi goroesi
mewn cyd-destunau ffurfiol, llenyddol, litwrgaidd neu ystrydebol, e.e.:

Boed a fo am hynny.... : Sea como sea....

Deued a ddelo.... : Pase lo que pase....

Y Nefoedd a’m helpo! : ¡Que el Cielo me ayude!

Caiff fynd lle y mynno : Que se vaya adonde quiera

Duw a’th fendithio : Que Dios te bendiga

Yr Arglwydd a fo gyda chwi : El Señor esté con vosotros

Canaf i’m Duw tra fyddwyf : Mientras yo exista, celebraré a mi Dios

Tra bo dau.... : Mientras haya (h.y. seamos) dos....

Fel y gellir gweld o’r enghreifftiau uchod, mae tebygrwydd yn aml rhwng y cyd-destunau lle’r arferai’r Gymraeg
ddefnyddio’r modd dibynnol gynt, a’r mathau o gystrawennau lle mae’r Sbaeneg yn parhau i’w ddefnyddio. Y
gwahaniaeth yw mai nid rhywbeth esoterig mo’r modd dibynnol mewn Sbaeneg cyfoes, eithr offeryn a
ddefnyddir yn naturiol bob dydd ym mhob cywair i gyfleu syniadau penodol.

Gan nad yw’r Gymraeg bellach yn manteisio cymaint ar bosibiliadau mynegol y modd dibynnol, gall fod yn
anodd dirnad pa sail resymegol sydd i’r angen i ddefnyddio’r modd dibynnol yn Sbaeneg. Mae llawer wedi
ceisio diffinio’r amgylchiadau lle defnyddir y modd dibynnol, e.e. ei fod yn “disgrifio sefyllfaoedd sy’n groes i’r
ffeithiau”, neu fod ganddo ystyr a gysylltir ag “amheuaeth” neu “ansicrwydd”. Mae rhywfaint o wirionedd mewn
honiadau o’r fath weithiau (e.e. quiero/prefiero/siento/temo que ayyb). Ond ar y llaw arall ceir enghreifftiau dirif
o gystrawennau lle mae’r digwyddiad neu’r gweithrediad y mae’r ferf yn y modd dibynnol yn cyfeirio ato yn
ffaith (e.e. El hecho de que sea alemán...., Acepto que no quieras ir etc).

Y dasg sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg felly yw ymgyfarwyddo â’r gwahanol amgylchiadau lle mae’n rhaid
defnyddio’r modd dibynnol yn Sbaeneg, ynghyd â’r amgylchiadau hynny lle mae dewis y modd dibynnol yn lle’r
modd mynegol yn gallu newid ystyr y frawddeg. Mae B&B, pennod 16 yn disgrifio’r gwahanol gyd-destunau
hyn yn drylwyr iawn.

Sut mae cyfieithu ystyr y modd dibynnol i’r Gymraeg

Mae yna un math o gystrawen yn arbennig lle mae angen defnyddio’r modd dibynnol, sef berfau sy’n mynegi
ystyron penodol + que + modd dibynnol yn yr is-gymal sy’n dilyn.

Mae’r ‘ystyron penodol’ hyn yn cynnwys berfau sy’n mynegi ymateb (bodlonrwydd, tristwch, siom, ofn,
amheuaeth neu dybiaeth negyddol ayyb) i weithrediad neu ddigwyddiad (B&B, 16.6), e.e.:

Mae hi’n falch dy fod di yn ôl : Se alegra de que hayas vuelto

50 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Mae’n ddrwg iawn gen i ei bod hi wedi mynd : Siento mucho que se haya ido

Mae ofn arnom na fydd yn gallu cerdded eto : Tememos que no vuelva a caminar

Dw i’n amau a fydd yn bosib : Dudo que sea posible

Mae’r ‘ystyron penodol’ hyn yn cynnwys berfau sy’n mynegi tybiaeth neu ganfyddiaeth negyddol, e.e.:

’Doedd e ddim yn credu y byddai hi’n dod : No creía que ella viniera

Dw i ddim yn siŵr y bydd yr haul yn codi yfory : No estoy seguro de que mañana vaya a salir el sol

Chlywson ni mohonyn nhw’n curo’r drws : No oímos que tocaran a la puerta

Mewn ymadroddion tebyg i’r rhain lle mynegir cred gadarnhaol, yna defnyddir y modd mynegol yn yr is-gymal:

Roedd e’n credu y byddai hi’n dod : Creía que ella vendría

Dw i’n siŵr y bydd yr haul yn codi yfory : Estoy seguro de que mañana va a salir el sol

Clywson ni nhw’n curo’r drws : Oímos que tocaron a la puerta.

Weithiau mae’r ffin rhwng posibilrwydd a thebygrwydd yn niwlog, a gellir dangos y gwahaniaeth main hwn trwy
ddewis y modd mynegol neu’r modd dibynnol:

Mae’n debyg y daw hi yfory : Probablemente vendrá mañana

Mae’n eithaf posibl y daw hi yfory : Probablemente venga mañana

Mae’r categori hwn yn gyffredin iawn, a felly hefyd berfau + que sy’n mynegi dymuniad, gwrthwynebiad,
gwadiad, gorchymyn, gobaith, perswad ayyb bod rhyw weithrediad yn digwydd/wedi digwydd/yn mynd i
ddigwydd (B&B, 16.7), e.e.:

Mae hi am iti fynd i’w weld : Ella quiere que vayas a verlo

Ydych chi eisiau imi ei gadael ar agor? : ¿Quieren (ustedes) que la deje abierta?

Byddai’n well gen i pe na fait ti’n sgrifennu imi eto : Prefiero que no me vuelvas a escribir

Dywedais i wrthi am fy ngalw : Le dije (a ella) que me llamara

Dw i’n gorchymyn iti aros : Te ordeno que te quedes

Roedd e’n gobeithio y byddem yn dychwelyd yn fuan : Esperaba que volviéramos pronto

Ceisiais i ei pherswadio hi i ddod yn ôl : Traté de convencerla de que volviera

51 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Dim ond rhai enghreifftiau a roddir uchod o’r llu o gategorïau o ferfau + que lle mae’n rhaid defnyddio’r modd
dibynnol. Dylid darllen B&B, pennod 16 yn astud er mwyn ymgyfarwyddo â’r rhychwant eang o amgylchiadau
eraill lle mae’n rhaid ei ddefnyddio.

Mae categori eang o ymadroddion hefyd y gellir eu disgrifio’n fras fel rhai ag amgylchiadau lle nad yw’r sefyllfa/
y digwyddiad/ y person neu’r peth a grybwyllir yn yr is-gymal lle defnyddir y modd dibynnol yn bodoli, neu nad
yw wedi cael ei adnabod hyd yn hyn (B&B, 16.14):

Dw i’n chwilio am rywun a allai fy helpu gyda hyn : Busco alguien que me ayude con esto

Does neb yn gallu ei dioddef hi : No hay quien la aguante

Gwna fel y mynni di : Haz lo que quieras

Does dim un gymuned bellach lle siaredir y dafodiaith honno : No queda ninguna comunidad donde se
hable ese dialecto

Mewn ymadroddion tebyg i’r rhain lle nad oes amheuaeth ynghylch bodolaeth y person/digwyddiad ayyb, yna
defnyddir y modd mynegol yn yr is-gymal:

Dw i’n chwilio am y ferch sy’n fy helpu gyda hyn : Busco a la chica que me ayuda con esto

Gwna fel y dywedais i : Haz lo que te dije

Erys dim ond un gymuned bellach lle siaredir y dafodiaith : Queda una sola comunidad donde
honno se habla ese dialecto

Mae B&B yn sôn am gategori mwy cyffredinol o’r enw ‘berfau sy’n mynegi dylanwad’ (16.5), sy’n cwmpasu rhai
o’r enghreifftiau a roddir uchod. Berfau yw’r rhain sy’n ‘ceisio dylanwadu ar ganlyniad’ y ferf yn yr is-gymal, naill
ai drwy fynegi dymuniad neu farn (e.e. desear que, pedir que, preferir que, insistir en que, querer que ayyb),
neu drwy gyfrwng gweithred sy’n hyrwyddo neu’n ceisio rhwystro sefyllfa benodol (e.e. causar que, lograr que,
evitar que, tratar de que ayyb):

Gofynnais i iddo ddod : Le pedí que viniera

Mynnodd fy nhad fy mod i’n aros gyda fy mam : Mi padre insistió en que me quedara con mi madre

Llwyddodd i’w perswadio i’w rhoi yn ôl iddo : Logró que se la devolvieran

Ceisia sicrhau y bydd hi’n bihafio : Trata de que se porte bien

Llwyddon ni i osgoi cael ein gweld : Evitamos que nos vieran

52 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Dim ond os yw’r goddrych yn yr is-gymal yn wahanol i’r goddrych yn y prif gymal y defnyddir y modd dibynnol
mewn cystrawennau fel y rhain. Os mai’r un yw’r goddrych, yna gellir defnyddio’r berfenw ar ôl y brif ferf yn lle
is-gymal (B&B, 16.5.2):

Hoffech chi imi ddod â rhywbeth ichi? : ¿Desean que les traiga algo?

OND

Hoffech chi eistedd yma? : ¿Desean sentarse aquí?

Byddai’n well gen i petai ti’n ymadael : Prefiero que te vayas

OND

Byddai’n well gen i ymadael : Prefiero irme

Mynnodd fy nhad fy mod i’n aros gyda fy mam : Mi padre insistió en que me quedara con mi madre

OND

Mynnodd fy nhad aros gyda fy mam : Mi padre insistió en quedarse con mi madre

Ceisia sicrhau y bydd hi’n bihafio : Trata de que se porte bien

OND

Ceisia fihafio : Trata de portarte bien

Llwyddon ni i osgoi cael ein gweld : Evitamos que nos vieran

OND

Llwyddon ni i osgoi ei gweld hi : Evitamos verla

Dw i eisiau iti brynu geiriadur : Quiero que compres un diccionario

OND

Dw i eisiau prynu geiriadur : Quiero comprar un diccionario

Mae nifer o ymadroddion cyffredin iawn hefyd lle defnyddir y modd dibynnol yn y prif gymal, sef:

1) rhai sy’n mynegi posibilrwydd neu dybiaeth (B&B, 16.3.2), e.e.:

Efallai y daw dy rieni yfory : Quizá vengan tus padres mañana

53 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Byddi di’n ei esbonio imi efallai pan gei di gyfle : Tal vez me lo expliques cuando puedas

Roedd hi wedi anghofio galw o bosib : Posiblemente hubiera olvidado llamar

Yn yr enghreifftiau uchod i gyd mae elfen o amheuaeth yn y datganiad; petai’r siaradwr yn fwy sicr, byddai’n
defnyddio’r modd mynegol:

Efallai y gwnei di ei esbonio imi pan gei di gyfle : Tal vez me lo explicarás cuando puedas

2) rhai sy’n mynegi dymuniadau a dyheadau (B&B, 16.15.2), e.e.:

Bydded i Dduw dy wobrwyo! : ¡Dios te lo pague!

Cymru am byth! : ¡Viva Gales!

Gobeithio na fydd hi’n bwrw glaw heddiw! : ¡Ojalá no llueva hoy!

Er mai prif gymalau yw’r enghreifftiau uchod i gyd heddiw, yr hyn sy’n gyffredin iddynt yw mai is-gymalau
oeddent yn wreiddiol o frawddegau lle’r mynegid y dymuniad neu’r amheuaeth yn echblyg gan y siaradwr, e.e.:

Quizá vengan tus padres mañana  = Es posible que vengan tus padres mañana

¡Dios te lo pague!  = (Dios quiera que) Dios te lo pague

¡Viva Gales!  = (Dios quiera que) Viva Gales

¡Ojalá no llueva hoy!  = Dios quiera que no llueva hoy

Yn B&B, 16.12 disgrifir hefyd y defnydd o’r modd dibynnol ar ôl cysyllteiriau sy’n cyflwyno is-gymalau
(‘darostyngwyr’). Maent yn cynnwys cuando pan mae’n cyfeirio at ddigwyddiad neu weithrediad nad yw/nad
oedd wedi digwydd eto o safbwynt y siaradwr:

Fe ddyweda i wrthyt ti pan ddoi di yn ôl : Te lo diré cuando vuelvas

Ro’n i’n bwriadu dweud wrthyt ti ar ôl iti ddod yn ôl : Pensaba decírtelo cuando volvieras

Yn yr un modd defnyddir y modd dibynnol yn yr is-gymal ar ôl cysyllteiriau sy’n mynegi pwrpas neu amod
megis para que, con tal (de) que, a no ser que, antes de que, después de que, mientras, ayyb:

Caeodd y ffenest i rwystro’r clêr rhag dod i mewn : Cerró la ventana para que no entraran las moscas

Cyhyd â’ch bod chi gartref erbyn tri o’r gloch.... : Con tal (de) que volváis a casa antes de las tres....

Oni fyddi di’n ei rybuddio mewn pryd... : A no ser que le avises a tiempo....

54 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Os nad wyt ti’n cau dy ben fe gei di dy daflu mas : Como no te calles te van a echar

Rhaid imi ei orffen cyn iddi ddod adref : Tengo que terminarlo antes de que vuelva

Fe’i gorffenais cyn iddi ddod adref : Lo terminé antes de que volviera

Roedd e eisiau dy weld di ar ôl iti ganu : Quería verte después de que cantaras

Cyhyd â’th fod yn pasio’r arholiad, fe gei di : Mientras apruebes el examen, puedes hacer con tu
wneud beth fynni di â’th amser tiempo lo que quieras

NB: Gellir dweud bod y categori hwn yn y pair o ran y rheidrwydd i ddefnyddio’r modd dibynnol, gan nad oes
consensws llwyr bellach yn achos rhai cystrawennau a rhai berfau a ddylid defnyddio’r modd dibynnol neu
beidio:

Fe’m gwahoddodd i fynd gyda hi : Me convidó a acompañarla NEU

Me convidó a que la acompañara

Gorchmynnodd iddo ei wneud : Le mandó hacerlo NEU

Le mandó que lo hiciera

Gadawodd e imi ei gweld : Me permitió verla NEU

Me permitió que la viera

Dylid darllen 16.12 yn ofalus i gael eglurhad ynghylch hyn.

Weithiau hefyd mae’r dewis rhwng y modd dibynnol a’r modd mynegol yn effeithio ar ystyr y frawddeg, e.e.
cystrawennau sy’n cynnwys aunque (gweler B&B, 16.12.9):

Arhosa i hyd yn oed os nad yw’n fy ngharu i : Me quedaré aunque no me quiera

OND

Arhosa i er nad yw’n fy ngharu i : Me quedaré aunque no me quiere

NB: Mae’r un dewis hefyd i fod i effeithio ar esperar que (B&B, 16.11.3):

 esperar = gobeithio → esperar que + dibynnol:

Gobeithio y bydd e’n talu inni : Espero que nos pague

Ro’n i’n gobeithio y byddai fe’n ein talu inni : Esperaba que nos pagara

 esperar = disgwyl → esperar que + mynegol:


55 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).
Rwy’n disgwyl iddo dalu inni : Espero que nos pagará

Ro’n i’n disgwyl iddo dalu inni : Esperaba que nos pagaría

Serch hynny, anaml iawn y defnyddir ‘esperar que + mynegol’, a fydd yn swnio’n anghywir i’r rhan fwyaf o
siaradwyr iaith gyntaf.

Cystrawennau tybiaethol a chymariaethol

Defnyddir y modd dibynnol mewn datganiadau tybiaethol sy’n cymharu’r sefyllfa wirioneddol â sefyllfa
ddamcaniaethol neu’n datgan dyhead, megis:

Oni bai am dy fam, byddwn i wedi marw : Si no fuera por tu mamá, hubiera muerto

O na bawn i fel y nant! : ¡Ojalá fuera yo como el arroyo!

Ar ôl yr ymadroddion como si / igual que si / lo mismo que si, mae’n rhaid i’r ferf ddefnyddio’r amser
amherffaith dibynnol:

Edrychodd arna i fel pe na bai hi’n fy ’nabod : Me miró como si no me conociera

Cytundeb o ran amser y ferf rhwng y prif gymal ac is-gymalau wrth ddefnyddio’r modd dibynnol

Fel y gellir gweld wrth astudio rhai o’r enghreifftiau a roddir uchod, mae angen gofalu bod amserau’r berfau yn
y prif gymal a’r is-gymalau’n cytuno (h.y., bod dilyniant rhyngddynt) wrth ffurfio ymadroddion lle defnyddir que
+ modd dibynnol. Er nad oes rheolau llym ynghylch hyn, mae yna batrymau i’w dilyn. Trafodir hyn yn fanylach
yn B&B, 16.6, ond dyma’r prif bosibiliadau:

1. Presennol mynegol yn y prif gymal

Amser berf y prif gymal Amser berf yr is-gymal

Presennol mynegol (B&B, 16.16a) a) Presennol dibynnol

b) Perffaith dibynnol

c) Amherffaith dibynnol

Enghreifftiau:

a) Dydyn ni ddim am iti ddod : No queremos que vengas

Dw i’n falch ei fod e’n siarad : Me gusta que hable

56 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


b) Dw i’n falch ei fod e wedi siarad : Me gusta que haya hablado

c) → defnyddir y cyfuniad hwn wrth wneud sylwadau am rywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol:

Mae’n amhosibl ei fod wedi siarad : Es imposible que hablara

2. Dyfodol mynegol yn y prif gymal

Amser berf y prif gymal Amser berf yr is-gymal

Dyfodol mynegol (B&B, 16.16b) Presennol dibynnol

Fydda i byth yn gadael iddo ddod i’m tŷ i! : ¡Nunca dejaré que entre en mi casa!

3. Amodol neu Amodol perffaith mynegol yn y prif gymal

Amser berf y prif gymal Amser berf yr is-gymal

Amodol neu Amodol perffaith mynegol Amherffaith dibynnol


(B&B, 16.16c)

Hoffwn i petaet ti yma : Me gustaría que estuvieras aquí

Buasai’n well gen i petaet ti’n ei wneud fel hyn : Habría preferido que lo hicieras así

4. Perffaith mynegol yn y prif gymal

Amser berf y prif gymal Amser berf yr is-gymal

Perffaith mynegol (B&B, 16.16d) a) Presennol dibynnol

b) Perffaith dibynnol

c) Amherffaith dibynnol

a) Dw i wedi dweud wrthyt ti am eistedd : Te he dicho que te sientes

b) Roedd yn wyrth nad yw e wedi dy weld di : Ha sido un milagro que no te haya visto

c) Roedd yn wyrth nad oedd e wedi dy weld di : Ha sido un milagro que no te viera

57 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


5. Amherffaith, Gorffennol neu Orberffaith mynegol yn y prif gymal

Amser berf y prif gymal Amser berf yr is-gymal

Amherffaith, Gorffennol neu Orberffaith a) Amherffaith dibynnol


mynegol (B&B, 16.16e)

b) Gorberffaith dibynnol

c) Presennol dibynnol

a) Do’n ni ddim am iti ddod : No queríamos que vinieras

Dywedais i wrthi am fy ngalw : Le dije que me llamara

Ro’n i wedi dweud wrtho am ddod : Le había dicho que me llamara

b) Ro’n i’n synnu ei bod hi wedi dod yn ôl : Me sorprendía que hubiera vuelto

c) Galwodd e fi ddoe i ofyn imi ddod heddiw : Me llamó ayer para pedirme que venga hoy

6. Modd gorchmynnol yn y prif gymal

Amser berf y prif gymal Amser berf yr is-gymal

Modd gorchmynnol (B&B, 16.16f) Presennol dibynnol

Dywedwch wrthi am ddod yfory : Dígale que venga mañana

Cystrawennau amodol

Trafodir y mathau o frawddegau amodol lle dylid defnyddio’r modd dibynnol, ynghyd â’r mathau lle defnyddir y
modd mynegol, yn yr uned ‘Ymadroddion amodol Sbaeneg’ (gweler hefyd B&B, pennod 25).

Cyflwyniad yn unig a roddir uchod i rai o’r amgylchiadau lle defnyddir y modd dibynnol yn Sbaeneg, ac felly
bydd rhaid i’r myfyriwr ddod yn gyfarwydd â’r llu o amgylchiadau eraill lle mae’n cael ei ddefnyddio’n naturiol
bob dydd ym mhob cywair gan holl siaradwyr yr iaith. Yr unig ffordd sicr o wneud hyn yw trwy astudio’r rheolau
a mynnu clywed, gweld a siarad Sbaeneg ar bob cyfle. Fel yr esbonia B&B ar ddechrau pennod 16, mae’n
fuddiol inni ddysgu pryd dylid defnyddio’r modd dibynnol ar ben astudio rheolau a rhesymeg ei ddefnydd.

58 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Y gorchmynnol (cadarnhaol a negyddol)
(Butt & Benjamin, pennod 17)

Gorchmynion cadarnhaol i’r 2il berson unigol (tú) a lluosog (vosotros/-as)

Rhoddir manylion trwyadl ynghylch sut i ffurfio gorchmynion gyda berfau rheolaidd ac afreolaidd yn B&B,
17.2.2 a B&B, 17.2.4.

Gorchmynion i tú

Ar gyfer bron pob berf (heblaw am wyth*) mae gorchmynion cadarnhaol i tú yn cael eu ffurfio trwy dynnu’r –s
oddi ar derfyniad ail berson unigol yr amser presennol mynegol, e.e.:

-ar: hablas > ¡habla! contestas > ¡contesta!

-er: comes > ¡come! bebes > ¡bebe!

-ir: abres > ¡abre! sirves > ¡sirve!

Ateba! : ¡Contesta!

Bwyta’r afal’na! : ¡Come esa manzana!

Yfa dy sudd! : ¡Bebe tu zumo!

Agor y drws! : ¡Abre la puerta!

*Rhestrir yr wyth eithriad yn B&B, 17.2.2. Maent yn cynnwys rhai o’r berfau a ddefnyddir amlaf:

Berfenw Gorchymyn i tú Berfenw Gorchymyn i tú

decir di salir sal

hacer haz ser sé

ir ve tener ten

poner pon venir ven

Dwed y gwir wrthyf! : ¡Dime la verdad!

59 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Cer i chwilio amdani! : ¡Ve a buscarla!

Bydd yn dda! : ¡Sé buena!

Dere i ’ngweld i! : ¡Ven a verme!

Gorchmynion i vosotros/-as

Mae gorchmynion cadarnhaol i vosotros/-as yn cael eu ffurfio trwy osod -d yn lle’r -r sydd ar derfyniad y
berfenw. Mae’r pwyslais yn aros ar y sill olaf:

hablar > ¡hablad! hacer > ¡haced!

contestar > ¡contestad! poner > ¡poned!

comer > ¡comed! ser > ¡sed!

beber > ¡bebed! tener > ¡tened!

abrir > ¡abrid! decir > ¡decid!

servir > ¡servid! salir > ¡salid!

venir > ¡venid!

Atebwch! : ¡Contestad!

Bwytewch bopeth sydd! : ¡Comed todo lo que hay!

Agorwch y drysau! : ¡Abrid las puertas!

Gwnewch yr un fath â fi! : ¡Haced como yo!

Dywedwch y gwir wrthyf! : ¡Decidme la verdad!

Dewch yma! : ¡Venid acá!

Heblaw am ‘irse’, mae gorchmynion cadarnhaol berfau atblygol i vosotros/-as yn cael eu ffurfio trwy osod -os
yn lle’r -rse sydd ar derfyniad y berfenw:

Eisteddwch! : ¡Sentaos! (sentarse)

Gwisgwch heb ffysan! : ¡Vestíos sin chistar! (vestirse)

NB: Ceir yn ‘irse’ cyfuniad o’r ddau, sef gosod –d + -os yn lle’r -r sydd ar derfyniad y berfenw: ¡Idos!

60 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Gorchmynion cadarnhaol i usted (3ydd person unigol) ac ustedes (3ydd person lluosog)

Mae pob gorchymyn i usted a ustedes, boed gadarnhaol neu negyddol, yn ‘benthyg’ ffurfiau amser presennol
y modd dibynnol:

Dewch yma! : ¡Venga (usted) acá!

NEU ¡Vengan (ustedes) acá!

Peidiwch â’m ffonio yn y gwaith : ¡No me llame (usted) en el trabajo!

NEU ¡No me llamen (ustedes) en el trabajo!

Gorchmynion cadarnhaol i’r 3ydd person unigol a lluosog

Mae pob gorchymyn i’r 3ydd person, boed unigol neu luosog, yn ‘benthyg’ ffurfiau amser presennol y modd
dibynnol. Bydd y cyfieithiad i’r Gymraeg o’r ffurfiau gorchmynnol hyn yn dibynnu ar y cyd-destun. Awgrymiadau
yn unig yw’r fersiynau Cymraeg o’r enghreifftiau isod:

Dw i am i Juan ddod i’m gweld i : Que venga Juan a verme

Ddylai neb darfu arni : Que no la estorbe nadie

Dwed wrth dy gefndryd am ddod yfory : Que vengan tus primos mañana

Gobeithio na fyddan nhw’n gwneud gormod o sŵn y tro’ma : Que no hagan demasiado ruido esta vez

Gorchmynion cadarnhaol i’r person 1af lluosog (nosotros/-as)

Mae pob gorchymyn i’r person 1af lluosog, boed gadarnhaol neu negyddol, yn ‘benthyg’ ffurfiau amser
presennol y modd dibynnol:

Gadewch inni ddechrau ar unwaith : Empecemos ahora mismo

Awn ni adref : Volvamos a casa

Gadewch inni wisgo lan fel mor-ladron : Disfracémonos de piratas

Peidiwn â chweryla eto : No nos peleemos más

Defnyddio rhagenw goddrychol i ychwanegu pwyslais neu gryfhau nerth gorchymyn

Gellir rhoi naws mwy taer neu awdurdodus i orchymyn trwy ychwanegu’r rhagenw goddrychol (B&B, 17.2.1).
Bydd y cyfieithiad Cymraeg yn amrywio yn ôl y cyd-destun:

Dere lawr o fan’na, wnei di? : ¡Tú bajate de ahí!

A chithau, byddwch yn dawel! : ¡Vosotros callaos!

61 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Weithiau hefyd fe ddefnyddir yr amser presennol yn lle’r modd gorchmynnol er mwyn rhoi naws ‘dim lol’ i
orchymyn (B&B, 17.10):

Cyn gynted ag y byddi di yn ôl, cer ati’n syth i lanhau dy ystafell : En cuanto vuelvas, limpias tu cuarto

Rhaid iti ei alw y funud hon i ymddiheuro : Le llamas ahora mismo para pedirle perdón

Gweler hefyd yn B&B, 17.11 y gwahanol gystrawennau y gellir eu defnyddio i feddalu effaith gorchymyn neu i
wneud iddo swnio’n llai awdurdodus.

Gorchmynion negyddol

Newid ffurfiau berfol

Gan fod pob un o’r personau heblaw am yr 2il berson unigol (tú) a lluosog (vosotros/-as) (usted, él, ella,
nosotros/-as, ustedes, ellos/-as) eisoes yn defnyddio ffurfiau’r modd dibynnol mewn gorchmynion
cadarnhaol, nid yw ffurf y ferf yn newid wrth inni droi’r gorchymyn yn negyddol:

Siaradwch â hi! : ¡Hable (usted) con ella!

Peidiwch siarad â hi! : ¡No hable (usted) con ella!

Gad i Dadi siarad â hi : Que hable Papá con ella

Mae’n well i Dadi beidio siarad â hi : Que no hable Papá con ella

Gadewch inni siarad â hi! : ¡Hablemos con ella!

Peidiwn siarad â hi! : ¡No hablemos con ella!

Siaradwch â hi! : ¡Hablen (ustedes) con ella!

Peidiwch siarad â hi! : ¡No hablen (ustedes) con ella!

Gad i’w rhieni siarad â hi : Que hablen sus padres con ella

Mae’n well i’w rhieni beidio siarad â hi : Que no hablen sus padres con ella

Dim ond yn achos yr 2il berson unigol (tú) a lluosog (vosotros/-as) y gwelir newid yn y ffurfiau berfol os
newidir gorchymyn cadarnhaol yn orchymyn negyddol (B&B, 17.3):

62 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Siarada â hi! : ¡Habla con ella!

Siaradwch â hi! : ¡Hablad con ella!

Paid siarad â hi! : ¡No hables con ella!

Peidiwch siarad â hi! : ¡No habléis con ella!

h.y. newidir o’r ffurfiau gorchmynnol i ffurfiau amser presennol y modd dibynnol wrth droi gorchymyn yn
negyddol.

Crynodeb y modd gorchmynnol

cadarnhaol √ negyddol X

tú gorchmynnol benthyg oddi


wrth y dibynnol

Ud. (usted) benthyg oddi benthyg oddi


wrth y dibynnol wrth y dibynnol

vosotros gorchmynnol benthyg oddi


wrth y dibynnol

Uds. (ustedes) benthyg oddi benthyg oddi


wrth y dibynnol wrth y dibynnol

comprar comer vivir levantarse

√ X √ X √ X √ X

tú compra no come no vive no despiértate no te


compres comas vivas despiertes

Ud. compre no coma no viva no despiértese no se


compre coma viva despierte

vosotros comprad no comed no vivid no despertaos no os


compréis comáis viváis despertéis

Uds. compren no coman no vivan no despiértense no se


compren coman vivan despierten

63 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Newid lleoliad rhagenwau gwrthrychol
(B&B, 17.4)

Ym mhob gorchymyn uniongyrchol cadarnhaol i’r person 1af lluosog (nosotros/-as) neu i’r 2il berson unigol neu
luosog (tú, vosotros/-as, usted, ustedes), lleolir unrhyw rhagenwau gwrthrychol (gan gynnwys rhagenwau
atblygol) ar ôl y ferf orchmynnol gan ffurfio un gair (B&B, 17.4a):

Gadewch inni rho’r losin iddo : Démosle los caramelos

Gadewch inni eu rhoi iddo : Démoselos

Rho’r losin imi : Dame los caramelos

Rho nhw iddo : Dáselos

Rhowch nhw iddo : Dádselos (vosotros,-as)

Rhowch nhw iddo : Déselos (usted)

Rhowch nhw iddo : Dénselos (ustedes)

Mae’r ffaith mai un gair yw’r gorchymyn + rhagenw(au) yn golygu y bydd yn rhaid ychwanegu acen
ysgrifenedig yn aml uwchben sill acennog y gorchymyn er mwyn cadw’r pwyslais lle dylai fod:

Rho’r baban ar ei eistedd yno! : ¡Sienta al bebé ahí!

Rho fe ar ei eistedd yno! : ¡Siéntalo ahí!

Eistedda! : ¡Siéntate!

Rho’r bêl imi : Dame la pelota

Rho hi imi : Dámela

Golcha’r afalau! : ¡Lava las manzanas!

Golcha nhw! : ¡Lávalas!

Golcha dy ddwylo! : ¡ Lávate las manos!

Bydd yn barod! : ¡Está listo!

Cadwa’n llonydd! : ¡Estáte quieto!

64 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Dangoswch eich traethodau imi! : ¡Mostradme los ensayos!

Dangoswch nhw imi! : ¡Mostrádmelos!

Rhowch ei sgidiau iddo : Denle sus zapatos

Rhowch nhw iddo : Dénselo

Ym mhob gorchymyn uniongyrchol negyddol i’r person 1af lluosog (nosotros/-as) neu i’r 2il berson unigol neu
luosog (tú, vosotros/-as, usted, ustedes), adleolir unrhyw rhagenwau gwrthrychol cyn y ferf orchmynnol,
mewn geiriau ar wahân (B&B, 17.4b):

Peidiwn â rhoi’r losin iddo : No le demos los caramelos

Peidiwn â’i rhoi iddo : No se los demos

Paid â rhoi’r losin imi : No me des los caramelos

Paid â’u rhoi iddo : No se los des

Peidiwch â’u rhoi iddo : No se los deis (vosotros,-as)

Peidiwch â’u rhoi iddo : No se los dé (usted)

Peidiwch â’u rhoi iddo : No se los den (ustedes)

Ym mhob gorchymyn uniongyrchol negyddol i’r 3ydd person unigol neu luosog mae unrhyw rhagenwau
gwrthrychol yn cadw eu lleoliad cyn y ferf orchmynnol, mewn geiriau ar wahân (B&B, 17.4b, 17.6):

Gad i Santiago roi’r losin iddi : Que Santiago le dé los caramelos

Gwell i Santiago beidio rhoi’r losin iddi : Que no le dé los caramelos Santiago

Gad i Santiago eu rhoi iddi : Que se los dé Santiago

Gwell i Santiago beidio eu rhoi iddi : Que no se los dé Santiago

Gad i’r merched roi’r losin iddi : Que las chicas le den los caramelos

Gwell i’r merched beidio rhoi’r losin iddi : Que no le den los caramelos las chicas

Gad i’r merched eu rhoi iddi : Que se los den las chicas

Gwell i’r merched beidio eu rhoi iddi : Que no se los den las chicas

65 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Trefn rhagenwau gwrthrychol mewn gorchmynion

Mewn unrhyw orchymyn, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, os oes mwy nag un rhagenw sy’n wrthrych i’r
ferf, dilynir yr un drefn ag arfer (B&B, 17.4b). Gweler B&B, pennod 11 a’r uned ‘Cyfuno rhagenwau gwrthrychol
uniongyrchol (O.D.) ac anuniongyrchol (O.I.)’.

Yr amodol
(Butt & Benjamin, pennod 13)

Ffurfiau’r modd amodol (modo condicional)

Yr amodol syml

Yr un terfyniadau a ddefnyddir gan bob berf yn yr amodol syml (B&B, 13.5.2):

(yo) -ía (nosotros,as) -íamos

(tú) -ías (vosotros,as) -íais

(él, ella, usted) -ía (ellos, ellas, ustedes) -ían

Byddwn i’n siarad : (Yo) Hablaría

Byddet ti’n bwyta : Comerías

Byddai fe/hi’n mynd : Iría (él/ella)

Byddech chi’n gweld : Vería (usted)

Byddem yn canu : Cantaríamos

Byddech chi’n yfed : Beberíais

Bydden nhw’n ymadael : Se irían (ellos/ellas)

Byddech chi’n priodi : Se casarían (ustedes)

66 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Yn debyg i ddyfodol y mynegol, atodir y terfyniadau hyn i’r berfenw gyda phob berf ac eithrio y 12 o ferfau
afreolaidd a restrir yn B&B, 13.1.8, e.e.:

Byddwn i’n gwneud : Yo haría

Byddet ti’n gosod : Tú pondrías

Byddai hi’n dweud : Ella diría ayyb.

Mae’n rhaid ymgyfarwyddo â’r gwreiddiau afreolaidd hyn gan eu bod yn cynnwys rhai o’r berfau a ddefnyddir
amlaf megis hacer, decir, salir, tener.

Perffaith yr amodol

O ran perffaith yr amodol (condicional compuesto), gellir ffurfio’r amser hwn mewn dwy ffordd (B&B, 14.7.5):

1) amser amodol y ferf gynorthwyol haber + rhangymeriad gorffennol y brif ferf:

Buasai wedi bod yn well : Habría sido mejor

2) amser dibynnol amherffaith haber + rhangymeriad gorffennol y brif ferf:

Buasai wedi bod yn well : Hubiera sido mejor

Ystyr y modd amodol

Defnyddir y modd amodol mewn prif gymalau i gyfleu syniadau sy’n ddamcaniaethol neu’n dybiadol, h.y.
gweithrediadau neu ddigwyddiadau a allai gael eu gwireddu dan amodau penodol. Gall tebygrwydd yr amodau
amrywio o’r hyn sy’n bosibl/newidiadwy, e.e.

Petai e’n gweithio’n fwy selog.... : Si (él) trabajara con más diligencia....

i'r hyn sydd i bob pwrpas yn amhosibl, e.e.:

Petai e’n eliffant.... : Si (él) fuera elefante....

Yn ogystal â’r modd amodol a ddisgrifir uchod, ceir yn Sbaeneg ymadroddion amodol, a drafodir yn yr uned
‘Ymadroddion amodol Sbaeneg’ ac yn B&B, pennod 25.

67 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Ymadroddion amodol Sbaeneg
(Butt & Benjamin, pennod 25)

Yn fras, mae ymadroddion amodol yn rhai lle gosodir amod yn yr is-gymal, a chanlyniad tybiedig yr amod
hwnnw yn y prif gymal. Yn y math mwyaf cyffredin, defnyddir y cysylltair si (= os, pe) ar ddechrau’r is-gymal
amodol, ond ar adegau ceir e.e. a no ser que / a menos que (= oni, onid, onis, os na(d) ayyb), ynghyd ag
ymadroddion eraill llai cyffredin:

Os gwela i fe, fe ddyweda i wrtho : Si lo veo, se lo diré

Petawn i’n ei weld, byddwn yn dweud wrtho : Si lo viera, se lo diría

Os na wela i fe, alla i ddim dweud wrtho : Si no lo veo, no podré decírselo

Onis gwelaf, ni allaf ddweud wrtho : A no ser que lo vea, no podré decírselo

Petawn i wedi’i weld, buaswn wedi dweud wrtho : Si lo hubiera visto, se lo hubiera dicho

Cyhyd â’m bod i yn ei weld, fe ddyweda i wrtho : Con tal que lo vea, se lo diré

Hyd yn oed os na wela i fe, fe ddyweda i wrtho rywsut : Aunque no lo vea, se lo diré de alguna manera

Mae’r enghreifftiau uchod i gyd yn frawddegau amodol, ond mae amrywiaeth sylweddol yn y cyfuniad o
amserau a moddau berfol a ddefnyddir, yn unol â natur yr amod a fynegir. Rhennir ymadroddion amodol
Sbaeneg yn dri brif gategori yn ôl natur yr amod:

(1) amodau agored (B&B, 25.2) – yn cyfeirio fel arfer at sefyllfaoedd yn y presennol neu’r dyfodol sy’n bosibl
neu’n debygol hyd yn oed:

Si + presennol y mynegol + presennol/dyfodol y mynegol (neu eraill)

Os daw e, fe arhosa i : Si viene, me quedaré

Os yw hi’n dod yn y bore, dyn ni’n arfer cael cinio yn y tŷ : Si viene por la mañana, solemos almorzar en casa

Os gwelwn ni ein gilydd yfory, fe drafodwn ni fe : Si nos vemos mañana, lo charlaremos

Os galwi di fi, fe ddof i ar unwaith : Si me llamas, vendré en seguida

(2) amodau annhebygol (remote conditions) (B&B 25.3) – yn cyfeirio at sefyllfaoedd y gellir eu dychmygu’n cael
eu cyflawni, hyd yn oed os yw’r amgylchiadau’n eu gwneud yn annhebyg iawn neu’n ymarferol amhosibl; nid oes
unrhyw sicrwydd y bydd hyn yn digwydd er nad yw’n amhosibl. Defnyddir amser amherffaith y modd dibynnol yn
yr is-gymal:

Si + amherffaith y dibynnol + amodol syml

68 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Petai car gen i, byddwn yn mynd i Bariloche : Si yo tuviera coche, iría a Bariloche

Petawn i’n hŷn, gallwn i fynd gyda ti : Si fuera mayor, podría acompañarte

Petawn i’n fenyw, byddwn yn gwisgo mini-sgert : Si fuera mujer, llevaría minifalda

Petawn i yr un oedran â ti eto.... : Si tuviera tu edad de nuevo....

(3) amodau heb eu cyflawni (unfulfilled conditions) (B&B, 25.4) – yn cyfeirio at sefyllfaoedd yn y gorffennol nad
oes modd eu newid bellach. Defnyddir amser gorberffaith y modd dibynnol yn yr is-gymal:

Si + gorberffaith y dibynnol + perffaith yr amodol

Petaech chi wedi cyrraedd mewn pryd, : Si hubiérais llegado a tiempo, habríais

byddech chi wedi cael lle conseguido sitio

Petaem wedi cwrdd ynghynt, byddwn i : Si nos hubiéramos conocido antes, me


wedi priodi â ti habría casado contigo

Pe na baent wedi oedi cymaint, bydden : Si no hubieran demorado tanto, habrían


nhw wedi cyrraedd y sinema mewn pryd llegado al cine a tiempo

Ceir yn B&B, pedwerydd categori, sef amodau wedi’u cyflawni (B&B, 25.7) – yn cyfeirio fel arfer at sefyllfaoedd
yn y gorffennol:

Os oedd arian gynnon ni, ro’n ni’n arfer mynd i’r theatr : Si teníamos dinero, íbamos al teatro

Os ydw i wedi bod yn lwcus, nid arna i y mae’r bai : Si he tenido suerte, la culpa no es mía

Nid gwir amodau a fynegir yma, eithr esboniad o’r rhesymau dros rywbeth sydd wedi digwydd.

Ni ddefnyddir y modd amodol ym mhob ymadrodd amodol. Yn achos yr hyn a elwir yn (2) amodau annhebygol
a (3) amodau heb eu cyflawni, defnyddir amseroedd gorffennol y modd dibynnol yn Sbaeneg, yn debyg i’r arfer
cyfoes yn Gymraeg. Yn wahanol i (2) a (3), yn achos yr hyn a elwir yn (1) amodau agored (open conditions),
defnyddir y modd mynegol yn yr is-gymal.

Nid oes rhaid i ymadroddion gynnwys cysyllteiriau megis si neu a no ser que er mwyn iddynt fynegi syniad
amodol. Ac nid yw pob ymadrodd sy’n cynnwys si o angenrhaid yn defnyddio’r amser amodol na’r modd
dibynnol chwaith. Mwyaf annhebygol yn y byd yw’r amod a osodir, mwyaf tebyg yw hi y bydd rhaid defnyddio’r
ffurfiau amodol hyn.

Defnyddir y berfenw hyd yn oed weithiau i gyfleu syniad amodol, os mai’r un yw’r goddrych yn y prif gymal a’r
is-gymal, ond anaml y defnyddir y gystrawen hon:

69 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Petai hi’n fyw o hyd, byddai’n 100 mlwydd oed erbyn hyn : De estar viva, ya tendría 100 años

Os bydd hi’n bwrw, bwrw’n drwm a wna : De llover, lloverá mucho

Onibai imi ei weld mewn pryd, fyddwn i ddim : De no haberlo visto a tiempo, no se wedi
dweud wrtho lo hubiera dicho

Dylid hefyd astudio mathau mwy anghyffredin o fynegi syniad amodol hefyd, a’r gwahanol ffyrdd o’u cyfieithu,
yn B&B, 25.8.3, 25.9 a 25.10, e.e.:

Petawn i yn dy le di, byddwn yn dweud wrtho : Yo que tú, se lo diría

Os oes modd, dere yfory : Si es posible, ven mañana

Ymadroddion sy’n defnyddio ‘se’


(Butt & Benjamin, penodau 11, 26, 28)

Defnyddir y rhagenw personol gwrthrychol se mewn sawl ffordd i gyfleu gwahanol ystyron. Mae’n hanfodol inni
allu wahaniaethu rhyngddynt, gan fod se yn elfen mor ganolog o’r iaith gyffredin.

Defnyddio ‘se’ mewn ymadroddion goddefol (Gweler hefyd yr uned ‘Y goddefol’)

a) Y goddefol â se (B&B, 28.4)

Defnyddir sawl cystrawen i gyfleu’r goddefol yn Sbaeneg. Efallai mai’r un a ddefnyddir amlaf, i ddisgrifio
gweithrediadau sy’n digwydd i oddrychau nad ydynt yn byw, yw’r ‘goddefol â se’ (‘la pasiva refleja’ = goddefol
atblygol, B&B, 28.4). Ffurfir hyn gan ddefnyddio berfau anghyflawn yn y trydydd person (unigol neu luosog):

Cyhoeddwyd y llyfr : Se publicó el libro

Dinistriwyd llawer o dai : Se destruyeron muchas casas

Siaredir Sbaeneg (yma) : Se habla castellano

Mae llawer o westai wedi cael eu codi : Se han construido muchos hoteles

(CAR) AR WERTH : SE VENDE (COCHE)

(TŶ) AR LOG : SE ALQUILA (CASA)

TAWELWCH OS GWELWCH YN DDA : SE RUEGA SILENCIO

Defnyddir y gystrawen hon yn aml ar lafar. Ni ellir ei defnyddio ond gyda’r trydydd person.

70 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Pethau difywyd yw goddrych y ferf yn yr enghreifftiau uchod i gyd. Y rheswm pam y dylid defnyddio’r
gystrawen hon gyda goddrychau (enwau neu ragenwau) nad ydynt yn byw YN UNIG yw hyn: fe fyddai’r
ymadrodd yn amwys ei ystyr, petai’r goddrych yn greadur ymdeimladol (person neu anifail) a allai wneud
pethau iddo/iddi ei hun. Er enghraifft, gallai’r frawddeg Se mataron dos pasajeros olygu:

Lladdwyd dau deithiwr NEU Lladdodd dau deithiwr eu hunain

gan ei bod hi’n hollol bosibl i ddau deithiwr eu lladd eu hunain (neu ei gilydd). Ar y llaw arall nid yw gwestai yn
gallu eu codi eu hunain. Disgrifir cystrawen amgen isod yn b) y gellir ei defnyddio mewn ymadroddion goddefol
lle mae’r goddrych yn fod byw.

Cadwch mewn cof felly fod y rhagenw se yn gallu golygu pethau gwahanol hefyd – yn ôl y cyd-destun – os yw
goddrych y ferf yn lluosog:

a. 1) ysytyr atblygol: eu hunain

Bob tro maen nhw’n gweld eu hunain yn y drych.... : Cada vez que se ven en el espejo....

a. 2) ystyr cilyddol: ei gilydd

Maen nhw’n gweld ei gilydd yn aml : Se ven a menudo

Maen nhw’n siarad Sbaeneg â’i gilydd : Se hablan castellano (= entre sí)

Os crybwyllir gweithredydd y gweithrediad, ni ellir defnyddio y ‘goddefol â se’:

Cyhoeddwyd y llyfr : Se publicó el libro

OND:

Cyhoeddwyd y llyfr gan Y Lolfa : El libro fue publicado por Y Lolfa

Trafodwyd nifer o broblemau : Se debatieron varios problemas

OND:

Trafodwyd nifer o broblemau gan y tîm : Varios problemas fueron debatidos por el equipo

NEU El equipo debatió varios problemas

b) se + berf anghyflawn + a (B&B, 28.5)

Os mai i oddrych byw y mae gweithrediad y ferf yn digwydd, yna defnyddir se + 3ydd person unigol y ferf, a’r
arddodiad a cyn gwrthrych y ferf:

71 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Lladdwyd dau deithiwr : Se mató a dos pasajeros

Mae’r Prif Weinidog wedi cael ei arestio : Se ha detenido al primer ministro

Oddi yma, gwelir y merched ar y sgwâr : Desde aquí se ve a las chicas en la plaza

Derbyniwyd y llysgenhadon : Se recibió a los embajadores

Mae’r iâr wedi cael ei gwenwyno : Se ha envenenado a la gallina

Fe gyflogir miloedd o bobl : Se contratará a miles de personas

Carcharwyd miloedd o weriniaethwyr : Se encarceló a miles de republicanos

Byddai Se encarcelaron miles de republicanos yn golygu bod y gweriniaethwyr wedi’u carcharu eu hunain.

Os mai rhagenw nid enw yw goddrych y ferf mewn cystrawen o’r math hwn, yna gosodir y rhagenw
gwrthrychol sy’n disodli’r enw (el primer ministro, las chicas, los embajadores ayyb) ar ôl se ac mae’r
arddodiad personol a yn diflannu (B&B, 28.5.2):

Mae e wedi cael ei arestio : Se lo ha detenido

Oddi yma, fe’u gwelir ar y sgwâr : Desde aquí se las ve en la plaza

Fe’u derbyniwyd : Se los recibió

c) se amhersonol

c.1) se amhersonol gyda berfau anghyflawn di-wrthrych:

Gellir defnyddio’r gystrawen hon i fynegi syniad goddefol lle na chrybwyllir pwy yw gwrthrych y ferf (B&B,
28.6.3). Sylwer hefyd nad yw hunaniaeth goddrych y gweithrediad a ddisgrifir yn cael ei hegluro chwaith yn y
brawddegau hyn. Rhyw “nhw” amhendant, tebyg i’r on Ffrangeg, yw’r gweithredwr tybiedig. Mae hyn yn golygu
bod peth hyblygrwydd yn bosibl wrth gyfieithu’r math hwn o ymadrodd, yn ôl y cyd-destun a’r cywair a
ddefnyddir:

Yfir llawer yn Sbaen : Se bebe mucho en España

NEU e.e. Mae pobl yn arfer yfed cryn dipyn yn Sbaen

NEU e.e. Maen nhw’n yfed lot yn Sbaen

Siaredir llawer, ond ychydig a wneir : Se habla mucho pero se hace poco

NEU e.e. Mae lot yn cael ei ddweud ond ychydig sy’n cael ei wneud

NEU e.e. Maen nhw’n siarad lot, ond ’does dim llawer yn cael ei wneud

72 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Honnir ei fod wedi marw : Se dice que (él) ha muerto

NEU e.e. Maen nhw’n dweud ei fod e wedi marw

NEU e.e. Mae e wedi marw yn ôl pob sôn

Pwrpas y cyfieithiadau amrywiol uchod yw dangos na ddylid ystyried y gystrawen oddefol se + berf o
angenrhaid yn ymadrodd cymharol ffurfiol ar yr un lefel â ffurfiau Cymraeg megis siaredir, cyhoeddwyd, credid
ayyb. Y cyd-destun a ddylai benderfynu sut y cyfieithir se + berf.

c.2) se amhersonol gyda berfau cyflawn:

Yn y gystrawen hon lle nad oes gwrthrych sy’n ‘dioddef’ y gweithrediad, trydydd person unigol y ferf a
ddefnyddir bob tro (B&B, 28.6.2). Tueddir i’w defnyddio mewn cyd-destunau cymharol ffurfiol (e.e. arwyddion
sy’n cynghori neu’n gorchymyn, ieithwedd swyddogion mewn awdurdod, adroddiadau newyddion a chyd-
destunau ysgrifenedig eraill ayyb):

Ni chaniateir mynd i mewn : No se permite entrar

NEU Chewch chi ddim mynd i mewn

Dylech chi fynd allan trwy’r drws hwnnw : Se sale por esa puerta

Oni chynhelir refferendwm, fe fydd rhyfel cartref : O se va a referéndum, o habrá guerra civil

Rwyf wedi cael fy hysbysu fod nifer o bobl wedi cael eu hanafu : Se me informa que hay varios heridos

Ond hefyd ar gyfer cyd-destunau rhai ffurfiol (e.e., wrth esbonio ‘rholau bywyd’ i blant):

Chewch chi ddim siarad a’r geg yn llawn : No se habla con la boca llena.

Chewch chi ddim dweud hynny : ¡Eso no se dice!

d. defnyddio se (a’r rhagenwau atblygol eraill) i ddwysáu ystyr y ferf neu newid ei phwyslais

Mae nifer o ferfau anghyflawn a chyflawn y gellir ‘ychwanegu arlliw o ystyr’ iddynt trwy ddefnyddio’r rhagenwau
personol ‘atblygol’ (me, te, se, nos, os). Gelwir hyn weithiau yn se de matización. Weithiau mae’r dewis rhwng
defnyddio’r ferf gyda -se neu hebddo yn adlewyrchu gwahaniaeth mwy neu lai main yn y cywair neu’r arddull;
weithiau mae’n gwneud y gwahaniaeth rhwng gweithrediadau damweiniol neu fwriadol, rhai di-feddwl neu
benderfynol ayyb. Dylid astudio B&B, 26.5-6-7-8 i weld y gwahanol bosibiliadau, ond dyma rai enghreifftiau:

ir/irse

Aeth e i Zaragoza a Teruel : Fue a Zaragoza y Teruel

Aeth hi i ffwrdd i Zaragoza : Se fue a Zaragoza

73 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Mae’r bws wedi gadael yn barod : Ya se ha ido el autobús

Cer i ffwrdd! : ¡Vete!

Bacha hi! : ¡Vete de aquí!

Rhaid imi fynd : Me voy

saltar/saltarse

Neidiodd e o’r trydydd llawr : Saltó del tercer piso

Aeth e trwy olau coch : Se saltó un semáforo

caer/caerse

Syrthiodd hi’n farw : Cayó muerta

Dere lawr, rwyt ti’n mynd i gwympo : Bájate de ahí, te vas a caer

salir/salirse

Pryd rwyt ti’n dod allan? : ¿Cuándo sales?

Mae’r tap yn gollwng dŵr : El grifo se sale

decidir/decidirse

Mae hi wedi penderfynu dysgu Eidaleg : Ha decidido aprender italiano

Penderfyna, wnei di! : ¡Decídete!

parar/pararse

’Dyw’r tren yma ddim yn stopio yn Sitges : Este tren no para en Sitges

Stopiodd yr injan yn sydyn : Se paró el motor repentinamente

temer/temerse

Mae ar bawb ei hofn hi : Todo el mundo le teme

Dw i’n ofni y bydda i’n ei siomi : Temo decepcionarla

74 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Mae e wedi mynd yn barod, mae arna i ofn : Me temo que ya ha salido

Dw i’n amau na ddaw e yn ôl : Me temo que no volverá

Trafodir lleoliad a threfn se a rhagenwau eraill yn yr uned ‘Cyfuno rhagenwau gwrthrychol uniongyrchol (O.D.)
ac anuniongyrchol (O.I.)’ ac yn B&B, 11.13 ac 11.14.

Cyfieithu ymadroddion negyddol yn Sbaeneg


(Butt & Benjamin, pennod 23)

no

Lleolir yr adferf no yn union cyn y ferf fel arfer mewn ymadroddion negyddol eu hystyr yn Sbaeneg, ond mae’n
rhaid iddynt sefyll cyn unrhyw ragenwau gwrthrychol o flaen y ferf a reolir gan y ferf honno:

Fwyton ni mo’r brechdanau : No comimos los bocadillos

Fwyton ni mohonyn nhw : No los comimos

Dwyt ti ddim wedi anfon y llythyr at Sam : No le has enviado la carta a Sam

Dwyt ti ddim wedi ei anfon iddo : No se la has enviado

Anfonodd e mo’r llyfr imi : No me envió el libro

Anfonodd e mohono imi : No me lo envió

Dw i ddim eisiau gweld dy fam : No quiero ver a tu mamá

Dw i ddim eisiau ei gweld hi : No quiero verla

NEU No la quiero ver

Peidiwch â gweiddi! : ¡No gritéis!

Peidiwch â rhoi’r allwedd iddo : No le deis la llave

Peidiwch â’i roi iddo : No se la deis

Does dim afalau : No hay manzanas

75 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Does dim siwgr ar ôl : No queda azúcar

Ymadroddion negyddol gyda phwyslais ar elfen benodol

Mewn ymadroddion fel hyn, arferir gosod no o flaen yr elfen sydd i’w phwysleisio (e.e. gwrthrych, goddrych,
adferf ayyb):

Nid pawb sy’n gallu ei glywed : No todos son capaces de oírlo

Nid dydd Llun, eithr dydd Mawrth : No el lunes sino el martes

NEU Dim dydd Llun, dydd Mawrth

Twm wnaeth e, dim fi : No fui yo sino Twm

NB: Cofiwch mai ar ddiwedd y cymal y tueddir i osod yr elfen sydd i’w phwysleisio yn Sbaeneg, nid ar y
dechrau fel yn Gymraeg:

Mefus mae hi’n eu hoffi, nid mafon : Lo que le gusta son las fresas, no las frambuesas

Nid Sais mohono, eithr Sgotyn : No es inglés sino escocés

no heb y ferf

Gall no sefyll heb ferf, e.e. yn yr ail elfen o bâr o ymadroddion sy’n mynegi cyferbyniad:

Dych chi’n gallu nofio? : - ¿Sabéis nadar?

Dw i yn, ond ’dyw e/yntau ddim : - Yo sí, pero él no

Mae hi’n yfed cwrw, ond dim gwin : Bebe cerveza, pero no vino

Pe rhoddid no ar y diwedd yn y frawddeg uchod, byddai mwy o bwyslais ar y cyferbyniad:

Mae hi’n yfed cwrw, ond gwin – byth!: Bebe cerveza, pero ¡vino no!

Gwelir yr un ymadrodd pwysleisiol mewn sloganau negyddol:

Dim toriadau! : ¡Recortes no!

Dim traffordd! : ¡Autopista no!

76 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Pan fydd dim yn awgrymu absenoldeb rhywbeth, gellir defnyddio sin i’w gyfieithu, neu no hay yn ôl y cyd-
destun:

Dim siwgr, os gwelwch yn dda : Sin azúcar, por favor

‘DIM DIESEL’ : ‘NO HAY GAS-OIL’

‘DIM LLE’ : ‘NO HAY HABITACIONES’

NEU ‘COMPLETO’

Pan fydd dim yn mynegi gorchymyn negyddol, arferir defnyddio prohibido neu se prohibe(n):

‘DIM YSMYGU’ : ‘PROHIBIDO FUMAR’

‘DIM PLYMIO’ : ‘PROHIBIDO TIRARSE AL AGUA’

‘DIM ARFAU’ : ‘SE PROHIBEN LAS ARMAS’

Dim gweiddi! : ¡Sin gritar!

I’r gwely â chi, a dim cecru! : ¡A la cama y sin chistar!

Negyddion dwbl

Yn wahanol i Saesneg safonol, yn Sbaeneg mae negyddion dwbl (neu driphlyg hyd yn oed) yr un mor gyffredin
ag yn Gymraeg (B&B, 23.3):

(Ni) Welais i neb : No vi a nadie

(Ni) Wnaethon ni ddim byd : No hicimos nada

(Ni) Wela i mohoni byth eto : No la veré nunca más

(Ni) Ddaeth neb chwaith : Tampoco vino nadie

Dw i ddim erioed wedi ei gweld hi gyda neb : No la he visto nunca con nadie

Mewn cywair llenyddol neu emosiynol gwelir y gwrthrychau nadie a nada yn cael eu gosod weithiau cyn y ferf
(B&B, 23.5.1):

Nid wyf yn adnabod neb mwy caredig : A nadie conozco más amable

Yn yr un modd gellir gosod nada a nadie fel goddrych fel arfer cyn y ferf, ond heb fod hyn yn aruchelu’r cywair:

’Does neb yn credu hynny bellach : Nadie cree eso ya

77 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


’Does dim sy’n glanhau’n well! : ¡Nada limpia mejor!

Mae’r rhagenw ninguno/-a yn arfer sefyll o flaen y ferf hefyd os yw’n oddrych:

Welodd neb o’r rhai a ddaeth mohoni : Ninguno de los que vinieron la vio

no fel tag ar ddiwedd cwestiwn

Defnyddir no yn aml fel ‘tag’ ar ddiwedd cwestiwn, pan ddisgwylir cael ateb cadarnhaol:

Rwyt ti’n siarad Saesneg, on’d wyt ti? : Hablas inglés, ¿no?

Mae’n oer, on’d yw hi? : Hace frío, ¿no?

Gwell hwyr na hwyrach, yntê : Más vale tarde que nunca, ¿no?

Byddan nhw’n dod yfory, na fyddan’? : Vendrán mañana, ¿no?

Daeth hi yn ôl neithiwr, naddo? : Volvió anoche, ¿no?

ninguno/-a

Ystyr yr ansoddair ningún/-una yw ‘dim un’:

Does dim caffe yn y pentre’ma : No hay ningún café en este pueblo

Byddai’r ymadrodd: Ches i’r un ateb : No recibí ninguna respuesta

yn gryfach ei bwyslais, felly, na: Ches i ddim ateb : No recibí respuesta

Ffordd arall o gyfleu’r un pwyslais fyddai gosod alguno/-a ar ôl yr enw y mae’n ei ddisgrifio:

Ches i’r un ateb : No recibí respuesta alguna

’Does dim perygl o gwbl : No hay peligro alguno

’Does dim gobaith yn y byd.... : No hay posibilidad alguna....

no....nada i gryfhau pwyslais

Defnyddir no....nada er mwyn cryfhau datganiad negyddol (B&B, 23.5.2):

Dw i ddim yn ei hoffi o gwbl : No me gusta nada

78 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Chysgon ni’r un winc : No dormimos nada

’Dyw hi ddim yn neis o gwbl : No es nada simpática

nada, nadie, nunca ayyb mewn brawddegau cadarnhaol eu hystyr

Gall negyddion megis nadie, ninguno ayyb ymddangos mewn brawddegau lle mae gofyn am gyfieithiad
cadarnhaol weithiau yn Gymraeg (B&B, 23.4). Mae hyn yn digwydd er enghraifft ar ôl cymhariaeth:

Mae’n fwy deallus nag unrhywun : Es más inteligente que nadie

Mae’n costio llai na’r un car arall o’r un faint : Cuesta menos que ningún otro coche de ese tamaño

Daeth e ’nôl yn fwy hyll nag erioed : Volvió más feo que nunca

apenas

Prin mae gen i ddigon i dalu : Apenas tengo lo suficiente para pagar

O’r braidd y gall hi ddarllen : Apenas sabe leer

Cyfieithu ymadroddion negyddol

Dyma rai enghreifftiau cyffredin o ymadroddion negyddol a allai fod yn her i’w cyfieithu, gan gynnwys rhai lle
mynegir ystyr negyddol er nad oes geiriau negyddol i’w gweld:

1) Dw i ddim yn hoffi ffilmiau arswyd o gwbl, na rhai ingol chwaith

2) Dw i ddim yn credu mewn dim

3) Dw i ddim yn deall dim byd am drigonometreg

4) ’Does gen i ddim clem am beth rydych chi’n fy nghyhuddo i ohono

5) Dw i ddim erioed wedi bod mor nerfus

6) Ddywedodd neb air wrtho erioed

7) Mae arna i dy angen yn fwy nag erioed

8) ’Doedd neb wedi dweud dim mor bert wrthi erioed

9) Welais i erioed y fath beth!

10) Fydd dim byd i’w wneud pan fyddwn ni ar wyliau

11) ’Does arna i ddim ofn hedfan o gwbl


79 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).
12) ’Does a wnelo hynny ddim â’r hyn a ofynnais i iti

13) Dw i ddim eisiau gwybod hyd yn oed am beth dych chi wedi’i wneud

Cyfieithiadau

1) Dw i ddim yn hoffi ffilmiau arswyd o gwbl, na rhai ingol chwaith No me gustan nada las películas de
terror, ni tampoco las de suspenso

2) Dw i ddim yn credu mewn dim No creo en nada

3) Dw i ddim yn deall dim byd am drigonometreg No entiendo nada de trigonometría

4) ’Does gen i ddim clem am beth rydych chi’n fy nghyhuddo i ohono No tengo ni idea de lo que me
acusáis

5) Dw i ddim erioed wedi bod mor nerfus Jamás he estado tan nerviosa

6) Ddywedodd neb air wrtho erioed Nadie jamás le dijo nada

7) Mae arna i dy angen yn fwy nag erioed Te necesito más que nunca

8) ’Doedd neb wedi dweud dim mor bert wrthi erioed Nunca nadie le había dicho algo tan bonito

9) Welais i erioed y fath beth! ¡En mi vida he visto tal cosa!

10) Fydd dim byd i’w wneud pan fyddwn ni ar wyliau No habrá nada que hacer cuando estemos de
vacaciones

11) ’Does arna i ddim ofn hedfan o gwbl No tengo miedo alguno de viajar en avión

12) ’Does a wnelo hynny ddim â’r hyn a ofynnais i iti Eso no tiene nada que ver con lo que te pregunté

13) Dw i ddim eisiau gwybod hyd yn oed am beth dych chi wedi’i wneud Ni quiero enterarme de lo que
habéis hecho

80 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Tablau ag amseroedd berfau cyffredinol
Presente/Present/Presennol: I speak/Dw i’n siarad

hablo como vivo


hablas comes vives
habla come vive
hablamos comemos vivimos
habláis coméis vivís
hablan comen viven
modo indicativo / indicative mood / modd mynegol

Pretérito/Simple Past/Gorffennol syml: I spoke/Siaradais i

hablé comí viví


hablaste comiste viviste
habló comió vivió
hablamos comimos vivimos
hablasteis comisteis vivisteis
hablaron comieron vivieron

Perfecto/Perfect/Perffaith: I have spoken/Dw i wedi siarad

he hablado
he comido he vivido
has hablado
has comido has vivido
ha hablado
ha comido ha vivido
hemos hablado
hemos comido hemos vivido
habéis hablado
habéis comido habéis vivido
han hablado
han comido han vivido

Pluscuamperfecto/Pluperfect (=Past Perfect)/Gorberffaith: I had spoken


Roeddwn i wedi siarad/Siaradaswn i

había hablado había comido había vivido


habías hablado habías comido habías vivido
había hablado había comido había vivido
habíamos hablado habíamos comido habíamos vivido
habíais hablado habíais comido habíais vivido
habían hablado habían comido habían vivido

*Nid yw’r daflen yn cynnwys amseroedd parhaol (continuous) megis, er enghraifft, estoy/estaba/estuve/
estaré hablando/comiendo/viviendo, ayyb.

Imperfecto/Imperfect/Amherffaith: I was speaking, I used to speak


indicativo / indicative

Roeddwn i’n siarad / Siaradwn i


/ mynegol

hablaba comía vivía


hablabas comías vivías
hablaba comía vivía
hablábamos comíamos vivíamos
hablabais comíais vivíais
hablaban comían vivían

81 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Futuro/Future/Dyfodol: I will speak, I shall speak
Bydda i’n siarad / Siaradaf i

hablaré comeré viviré


hablarás comerás vivirás
hablará comerá vivirá
hablaremos comeremos viviremos
hablaréis comeréis viviréis
hablarán comerán vivirán

Presente/Present/Presennol: n/a (should, may, might; were; etc.)


subjuntivo / subjunctive

siaradwyf, -dych, -do, -dom, -doch, -dont


/ dibynnol

hable coma viva


hables comas vivas
hable coma viva
hablemos comamos vivamos
habléis comáis viváis
hablen coman vivan

Condicional simple/Simple Conditional Mood/Amodol Syml: I would speak


conditional / amodol

Siaradwn i / Byddwn i’n siarad


condicional /

hablaría comería viviría


hablarías comerías vivirías
hablaría comería viviría
hablaríamos comeríamos viviríamos
hablaríais comeríais viviríais
hablarían comerían vivirían
imperativo / imperative /

Imperativo/Imperative Mood/Modd Gorchmynnol: Siarada! / Siaradwch!


gorchmynnol

tú habla come no hables no comas


usted hable coma no hable no coma
vosotros hablad comed no habléis no comáis
ustedes hablen coman no hablen no coman

82 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


Geirfa termau gramadegol

CYMRAEG SBAENEG SAESNEG

a personol a personal personal a

acen (uwchben llafariad): á, é, í, acento, tilde accent


ó, ú

aceniad (pwyslais ar sillaf) acento tónico stress

adferf adverbio adverb

amherffaith (amser) (tiempo) imperfecto imperfect (tense)

amod agored condición abierta open condition

amod annhebygol condición improbable remote condition

amod heb ei gyflawni condición incumplida unfulfilled condition

amod wedi’i gyflawni condición cumplida fulfilled condition

amodol syml (amser) condicional simple (tiempo) simple conditional (tense)

amodol perffaith (amser) condicional compuesto (tiempo) perfect conditional (tense)

amser tiempo tense

amser amherffaith el (tiempo) imperfecto imperfect tense

amser dyfodol el (tiempo) futuro future tense

amser gorberffaith el (tiempo) pluscuamperfecto pluperfect tense

amser gorffennol el pasado past tense

amser gorffennol syml el préterito preterite tense

amser perffaith el perfecto perfect tense

amser presennol el presente present tense

ansoddair adjetivo adjective

arddodiad preposición preposition

atblygol reflexivo reflexive

benywaidd femenino feminine

berf verbo verb

berf anghyflawn verbo transitivo transitive verb

83 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


berf atblygol verbo reflexivo reflexive verb

berf ddiffygiol verbo defectivo defective verb

berf gyflawn verbo intransitivo intransitive verb

berf gyfyngedig/ wedi ei rhedeg verbo conjugado finite verb

berf gynorthwyol verbo auxiliar auxiliary verb

berf ragenwol verbo pronominal pronominal verb

berfenw infinitivo infinitive

brawddeg oración sentence

brawddeg amhersonol oración impersonal impersonal sentence

cenedl género gender

cilyddol recíproco reciprocal

cymal cláusula clause

cymal perthynol cláusula relativa relative clause

cymharol comparativo comparative

cysylltair conjunción conjunction

cytundeb concordancia agreement

dangosol demostrativo demonstrative

cytuno (o ran cenedl a nifer) concordar to agree

darostyngydd conjunción subordinante subordinator

dyfodol (amser) (tiempo) futuro future (tense)

enw sustantivo noun

gerwnd (cyflwr berfenwol) gerundio gerund

y goddefol la (voz) pasiva the passive (voice)

goddrych sujeto subject

gofynnol interrogativo interrogative

gorberffaith (amser) (tiempo) pluscuamperfecto pluperfect (tense)

gorchmynnol imperativo imperative

gorffennol blaenorol (amser) (tiempo) pretérito anterior anterior preterite (tense)

84 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


gorffennol syml (amser) (tiempo) pretérito preterite (tense)

gwrthrych anuniongyrchol complemento indirecto indirect object

gwrthrych uniongyrchol complemento directo direct object

gwrywaidd masculino masculine

lluosog plural plural

meddiannol posesivo possessive

modd modo mood

modd amodol modo condicional conditional mood

modd dibynnol modo subjuntivo subjunctive mood

modd mynegol modo indicativo indicative mood

nifer número number

ôl-ddodiad sufijo suffix

penderfynydd determinante determiner

perffaith (amser) (tiempo) perfecto present perfect (tense)

person persona person

presennol presente present

presennol parhaol presente continuo present continuous

rhagenw dangosol pronombre demostrativo demonstrative pronoun

rhagddodiad prefijo prefix

rhagenw goddrychol pronombre sujeto subject pronoun

rhagenw gwrthrychol pronombre de objeto, object pronoun


pronombre de complemento

rhagenw gwrthrychol objeto directo, O.D. direct object


uniongyrchol

rhagenw gwrthrychol objeto indirecto, O.I. indirect object


anuniongyrchol

rhagenw personol pronombre personal personal pronoun

rhagenw perthynol pronombre relativo relative pronoun

rhangymeriad participio participle

rhangymeriad gorffennol participio pasado past participle

85 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).


rhangymeriad presennol participio presente present participle

rhedeg berf conjugar un verbo conjugate a verb

rhediad conjugación conjugation

se amhersonol se impersonal impersonal se

se goddefol/goddefol â se se pasivo/pasiva con se passive se

se sy’n ‘ychwanegu arlliw o se de matización 'se that adds a shade of


ystyr’ meaning'

y stad oddefol, y cyflwr la (voz) pasiva the passive (voice)


godddefol, y goddefol

y stad weithredol, y cyflwr voz activa active voice


gweithredol

unigol singular singular

y fannod amhendant el artículo indeterminado the indefinite article

y fannod bendant el artículo determinado the definite article

ymadrodd frase, locución phrase, expression

86 Haines, Meic a Geraldine Lublin, Llyfryn Gramadeg Sbaeneg (Abertawe, 2012).

You might also like