Cyflogwr Prifysgol Bangor – Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
Teitl y swydd Interniaeth Haf i RE-Connect
Dyddiad cau 16/04/2019
Cyflog £8.50 yr awr
30 awr yr wythnos am hyd at 4 wythnos, Mehefin / Gorffennaf 2019
Cyfnod
Swydd- Bydd yr intern yn ennill sgiliau rhwydweithio, ymchwilio, rheoli, dylunio
ddisgrifiad gwe, a gweinyddiaeth gyffredinol, yn ogystal â chael gwybodaeth werthfawr iawn am arferion addysgu ar lefelau addysg bellach ac addysg uwch. Byddai'r interniaeth hwn yn arbennig o fuddiol i nifer o fyfyrwyr sy'n ystyried gyrfa dysgu ar ddiwedd eu hastudiaethau ym Mangor, neu sy'n awyddus i gyfoethogi eu CV gyda sgiliau trosglwyddadwy pwysig.
Bydd yr intern yn gynorthwyydd clercyddol ac yn cyfrannu at y project
dwyieithog, RE-Connect: rhwydwaith addysgeg ar gyfer addysg grefyddol ar draws gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr (project £75K, a ariennir gan yr All Saints Educational Trust). Gan hynny, byddai'r intern yn gallu cynnwys ar eu CV y ffaith eu bod wedi gweithio ar broject ymchwil y brifysgol a ariannwyd yn allanol. Mae'r project wedi cael sylw yn y wasg genedlaethol, ac fe'i cymeradwywyd gan y cyn Archesgob, yr Arglwydd Rowan Williams. Amcan y project yw cynyddu nifer yr athrawon addysg grefyddol ar draws gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr. Bydd yn darparu deunyddiau addysgiadol, rhyngweithiol wedi eu diweddaru i athrawon lefel A presennol i'w helpu gyda'u haddysgu, digwyddiadau datblygiad proffesiynol parhaus, a deunyddiau adolygu a gweithdai adolygu i fyfyrwyr lefel A presennol. Bydd hefyd yn sefydlu digwyddiadau profiad gwaith a modiwl newydd i fyfyrwyr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor sy'n ystyried bod yn athrawon eu hunain. Prif dasg yr intern fydd gweithio gydag uwch aelod o'r tîm wrth oruchwylio rhaglenni allgymorth y project, a'r rhwydwaith sydd eisoes wedi ei sefydlu rhwng yr ysgol ac ysgolion uwchradd lleol a cholegau addysg bellach. Bydd hyn yn golygu bod yr intern/interniaid yn cyflawni nifer o dasgau, fel a ganlyn.
1) Cysylltu ag aelodau'r tîm RE-Connect yn Athroniaeth a Chrefydd ym
Mhrifysgol Bangor, ac athrawon astudiaethau crefyddol presennol mewn ysgolion yn yr ardal leol, sydd eisoes yn rhan o'r project. Yma bydd yr intern yn lledaenu gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod, a gwahanol syniadau sydd ar y gweill. 2) Casglu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i lywio neu gynhyrchu deunyddiau addysgu ar gyfer gwefan y project. (Bydd gan yr intern y dewis o weithio ar ddeunyddiau i fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu - gallai hyn helpu'r intern i werthfawrogi gwerth a chyd-destun addysgeg ehangach eu cynllun cefnogi dysgu penodol eu hunain.) 3) Gweinyddu diwrnodau adolygu Lefel A (a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor). Rydym yn falch o allu cynnig i'r intern(au) y posibilrwydd o hwyluso addysgu grwpiau bach o fyfyrwyr lefel A (bydd hyn yn cael ei arwain a'i oruchwylio gan aelodau staff). 4) Gweinyddu ar gyfer cynllunio digwyddiad datblygiad proffesiynol parhaus yn y dyfodol ar gyfer athrawon astudiaethau crefyddol (i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2019) 5) Mynd gydag aelodau'r tîm i ymweld ag ysgolion yn y rhanbarth i drafod eu profiadau eu hunain fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Bangor .
Gofynion Sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu a threfnu.
personol Aelod da o dîm Diddordeb mewn marchnata a rheoli digwyddiadau. Gallu da i gasglu gwybodaeth a datblygu deunyddiau addysgeg. Sgiliau dadansoddi da Sgiliau TG medrus a sgiliau gweinyddu da. Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol. Mae diddordeb mewn addysg grefyddol a'r proffesiwn addysgu yn ddymunol Mae diddordeb mewn ymchwil yn ddymunol
Sut i wneud Cewch ymgeisio am hyd at 3 interniaeth.
cais Gofynnir i chi e-bostio CV a llythyr cyflwyno, yn nodi pa interniaethau y mae gennych ddiddordeb ynddynt (yn nhrefn blaenoriaeth) at: targetconnect@bangor.ac.uk
Cynhelir y cyfweliadau: I'W GADARNHAU
Rhoddir gwybod i ymgeiswyr a roddir ar restr fer i gael cyfweliad a bydd cyngor ar gael i unrhyw ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer y cyfweliad, neu unrhyw addasiadau rhesymol y bydd angen eu gwneud i'ch galluogi i gwblhau eich interniaeth.
Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogaeth
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2UW ffôn:+44 (0) 1248 388521 | e-bost: targetconnect@bangor.ac.uk