You are on page 1of 50

prif swyddog ■

prif swyddog cynorthwyol ■


rheolwr tîm ■
swyddog prawf ■

GYRFAOEDD YN Y
GWASANAETH PROFIANNAETH
CENEDLAETHOL

gweithiwr hostel ■
arolygydd gwasanaeth cymunedol ■
gweinyddydd ■
swyddog prawf dan hyfforddiant ■
CYNNWYS

■ Rhagair — Eithne Wallis, Cyfarwyddydd Cenedlaethol

■ Gwasanaeth Profiannaeth Cenedlaethol Cymru a Lloegr . . . . . . . . . . . . . . . . . .1

■ Newid: yr unig elfen gyson . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .5

■ Beth sy’n Gweithio . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .7

■ Arolygiaeth yn y Gymuned . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .1 3

■ Gorchmynion Ailsefydlu Cymunedol a Gorchmynion Cosbi Cymunedol . . . . . . .1 4

■ Y Llysoedd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .2 1

■ Hosteli . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .2 4

■ Gorchymyn Trin a Phrofi Cyffuriau . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .2 8

■ Ailsefydlu: Arolygiaeth Cyn ac Wedi Rhyddhau o’r Ddalfa . . . . . . . . . . . . . . . .3 2

■ Gwaith Gyda Dioddefwyr . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .3 5

■ Cymru . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .3 8

■ Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .3 9

■ Amodau Gwasanaeth . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .4 2
Diolchir i’r aelodau canlynol o’r staff sydd wedi helpu i gyfrannu at y cyhoeddiad hwn.

George Barrow Mike Dewey Robert Stanbury Malcolm Large

George Barnes Kelly Egan Mark Warren Karen Roberts

Stephen Bailey Alison Foulds Joanne Hill Tom McQuillan

Paul Beaufond John Macgregor Cordell Pillay Ian Fox

Ed Church John Russell Susan Wildman Sheila Wright

Roger Davis Mark Slater Wendy Armour

Tynnwyd rhai o’r ffotograffau yn y cyhoeddiad hwn trwy ddefnyddio modelau.


Llun o Eithne Wallis gan Dave Lewis.
RHAGAIR

Mae’r gwasanaeth profiannaeth, gyda’n hymrwymiad i helpu i warchod y cyhoedd fel ein nod
craidd, yn gwneud gwaith hanfodol bwysig wrth arolygu troseddwyr yn y gymuned ac
ymwneud â dioddefwyr y troseddau treisgar mwyaf difrifol a throseddau rhywiol treisgar.
Rydym felly yn gweithredu mewn amgylchedd anodd, ac mae ein gwaith yn gymhleth ac
ymestynnol.

Mae creu Gwasanaeth Profiannaeth Cenedlaethol Cymru a Lloegr yn rhoi cyfle i’r staff
ymgyrraedd at fwy o gyfrifoldebau, ennill arbenigedd a gweithio mewn amrywiaeth o sefyll-
faoedd er mwyn cyrraedd eu potensial eu hunain yn llawn.

Rydym yn ceisio denu pobl gyda sgiliau amrywiol a phroffesiynoldeb, ac o gefndiroedd gwa-
hanol. Yr amrywiaeth o fewn ein staff yw un o’n prif gryfderau. Mae’r llyfryn hwn yn cynnig
golwg ar yr hyn yr ydym yn ei wneud.

Rwyf yn croesawu eich diddordeb mewn dymuno ymuno â’r gwasanaeth.

EITHNE WALLIS
Cyfarwyddydd Cenedlaethol
GWASANAETH PROFIANNAETH CENEDLAETHOL I GYMRU A LLOEGR

CEFNDIR

Mae’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys yn sefydlu


Gwasanaeth Profiannaeth Cenedlaethol i Gymru a Lloegr (NPS).
Amcanion yr NPS yw:

● Gwarchod y cyhoedd

● Lleihau ail-droseddu

● Cosbi troseddwyr yn briodol yn y gymuned

● Sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol o effeithiau trais ar ddioddefwyr


trais a’r cyhoedd
1
● Ailsefydlu troseddwyr

Mae’n gweithredu o fewn Fframwaith Polisi Cywirol y Llywodraeth, gan gyfrannu


yn bennaf at:

● Amcan 2 y Swyddfa Gartref: “Darparu cyfiawnder trwy ymchwilio, erlyn,


achosion llys a dedfrydu effeithiol ac effeithlon a thrwy gefnogi
dioddefwyr.” a

● Amcan 4 y Swyddfa Gartref: “Gweithredu dedfrydau’r Llysoedd yn effei-


thiol i leihau ail-droseddu a gwarchod y cyhoedd.”
BETH YW’R GWASANAETH PROFIANNAETH CENEDLAETHOL (NPS)
I GYMRU A LLOEGR?

Asiantaeth orfodi’r gyfraith yw’r NPS sy’n darparu cosbau cymunedol trwy
arolygu troseddwyr o fewn amodau a osodwyd gan y Llys neu’r Bwrdd Parôl.
Mae’n gweithio gyda throseddwyr i leihau ail-droseddu ac i warchod y
cyhoedd. Bydd methiant troseddwr i gydymffurfio â’r arolygiaeth yn arwain at
weithredu trwy’r Llysoedd ac fe all arwain at ddedfryd o garchar. Pan fydd y
troseddwr ar drwydded wedi bod yn y ddalfa, gall adroddiad o dorri profian-
naeth i’r Bwrdd Parôl olygu ei fod yn cael ei alw yn ôl i’r ddalfa.

Mae’r NPS yn wasanaeth cyfiawnder troseddol statudol allweddol sy’n cydwei-

2 thio i raddau helaeth iawn gyda’n cydweithwyr yn yr heddlu a’r carchardai, yn


ogystal ag awdurdodau lleol, iechyd, addysg, tai ac amrediad eang o bartneri-
aid annibynnol ac yn y sector gwirfoddol.

Lansiwyd yr NPS ar ei ffurf bresennol, sy’n cynnwys Cyfarwyddiaeth


Genedlaethol ganolog a 42 o ardaloedd profiannaeth lleol, ar 1 Ebrill 2001.
Mae’r Cyfarwyddydd Cenedlaethol a’r Gyfarwyddiaeth yn Llundain yn gyfrifol
am yr amcanion strategol a thargedau trosfwaol ar gyfer profiannaeth. Mae’r
Gyfarwyddiaeth yn cysylltu gydag adrannau eraill o’r Swyddfa Gartref a’r
Llywodraeth ac mae’n atebol i’r Ysgrifennydd Cartref ac i’r Senedd.

Mae’r 42 bwrdd profiannaeth lleol, sy’n rhannu yr un ffiniau â gwasanaethau’r


heddlu, yn gweithredu fel y cyflogwyr lleol ac mae gan bob un fwrdd o bobl
leol yn cyfarwyddo a chynllunio a rhedeg gwaith profiannaeth lleol o ddydd i
ddydd. Mae cadeiryddion ac aelodau’r byrddau profiannaeth lleol yn cael eu
penodi oherwydd fod ganddynt sgiliau a phrofiad perthnasol i waith profian-
naeth a cheisir sicrhau bod yr aelodaeth yn adlewyrchu natur y cymunedau y
mae’r staff profiannaeth lleol yn eu gwasanaethu.
BETH MAE’N EI WNEUD?

● Mae’r holl waith profiannaeth gyda throseddwyr yn cyfuno asesiad parhaus


a rheoli risg a pherygl â darparu rhaglenni arolygu arbenigol a gynlluniwyd
i leihau ail-droseddu. Mae gorfodi’r gorchymyn neu amodau trwydded yn
flaenoriaeth.

● Bob blwyddyn bydd profiannaeth yn cynorthwyo ynadon a barnwyr wrth


iddynt benderfynu ar eu dedfrydau trwy ddarparu tua 235,000 o adroddi-
adau cyn-dedfrydu.

● Bob blwyddyn mae’r gwasanaeth profiannaeth yn cychwyn arolygu tua


170,000 o droseddwyr. Mae tua 90% ohonynt yn wrywaidd a 10% yn
3
fenywaidd. Mae ychydig dros chwarter y troseddwyr ar orchmynion arolygu
rhwng 16 ac 20 oed ac ychydig llai na thri chwarter yn 21 a throsodd. Mae
tua 9% o’r rhai sy’n cychwyn ar orchmynion o grwpiau o leiafrifoedd ethnig.
Mae tua 5% yn ddu (gor gynrychiolaeth), tua 2% yn hanu o Dde Asia (tan
gynrychiolaeth) a 2% o grwpiau eraill.

● Bydd tua 70% o’r troseddwyr a arolygir ar orchmynion arolygu cymunedol


a 30% wedi eu carcharu gyda chyfnod o arolygiaeth trwydded statudol yn
y gymuned fel rhan annatod o’r ddedfryd.

● Bob blwyddyn bydd staff profiannaeth yn darganfod ac arolygu tua 8 mili-


wn o oriau o waith digyflog gan droseddwyr mewn cymunedau lleol, i
sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion cosbi a gwneud iawn yn eu gorch-
mynion cosbi cymunedol.
● Mae’r NPS yn gwneud cyfraniad hanfodol i benderfyniadau ynglŷn â rhyd-
dhau carcharorion yn gynnar trwy gynhyrchu adroddiadau sy’n cyfuno
asesiadau risg a pherygl gydag argymhellion ar gyfer cynllun arolygu.
Mae’r rhain o gymorth i lywodraethwyr carchardai a byrddau adolygu parôl
a charchar am oes, wrth iddynt benderfynu pryd i ryddhau carcharor ac ar
ba delerau ac amodau.

● Gan yr NPS y mae’r cyfrifoldeb statudol am ddwyn carcharorion a ryd-


dhawyd yn gynnar (sydd â dedfryd o fwy na blwyddyn) yn ddiogel yn ôl i’r
gymuned, gan gadw’r arolygiaeth trwy gydol y cyfnod penodedig. Bydd y
carcharor yn cael ei alw yn ôl i’r ddalfa os na fydd yn cydymffurfio ag

4
amodau’r rhyddhau neu os bydd ymddygiad y troseddwr yn gwneud i’r
swyddog sy’n arolygu feddwl bod y cyhoedd yn cael eu rhoi mewn perygl
annerbyniol.

● Pan fydd modd cysylltu â dioddefwyr y troseddau mwyaf difrifol, gan gyn-
nwys troseddau rhywiol treisgar, a lle mae’r dioddefwyr yn dymuno hynny,
mae effaith y trosedd a phryderon am eu diogelwch yn y dyfodol yn rhan
hanfodol o’r gwaith asesu risg cyn ac wedi carchariad a wneir gan staff
profiannaeth. Mae gwarchod y cyhoedd yn ganolog i gynllunio arolygiaeth.

● Mae nifer o staff profiannaeth yn cael secondiad i weithio ar dimau trosed-


dau ieuenctid, carchardai ac ystod eang o asiantaethau atal troseddau neu
asiantaethau sy’n bartneriaid i ni. Rhoddir gwerth mawr ar eu sgiliau wrth
asesu risg a pherygl.
NEWID: YR UNIG ELFEN GYSON

Cynlluniwyd y llyfryn hwn i gynnig cipolwg ar fyd ymestynnol, cymhleth a


chyfnewidiol gwaith profiannaeth. Mae’r Gwasanaeth Profiannaeth mewn sefyll-
fa unigryw a chanolog yn ein system gyfiawnder troseddol.

Mae ymyrraeth effeithiol gyda throseddwyr i leihau eu troseddau a gwarchod y


cyhoedd yn gofyn am ymagwedd tîm cyfan gan amrywiaeth eang o weithwyr
proffesiynol, pob un yn meddu ar set o sgiliau craidd, yn ogystal â pharodrwydd
i ddefnyddio, rhannu a datblygu’r rhain ymhellach ochr yn ochr â chwaraewyr
eraill yn y tîm. Mae asesu a rheoli risg, dylunio a darparu rhaglenni ymyrraeth a
sefydlu systemau rheoli achosion credadwy – gan gynnwys gorfodaeth – yn cyn-
rychioli rhai o nodweddion allweddol rôl y Gwasanaeth fel asiantaeth orfodi’r

5
gyfraith.

Mae Prydain yn gymdeithas aml-hiliol, aml-ddiwylliannol sy’n ymgorffori cyfoeth


amrywiol ac mae’r Gwasanaeth Profiannaeth wedi ymgyrraedd at adlewyrchu
hyn o fewn ei weithlu. Yn wir, i fod yn wirioneddol effeithiol, rhaid i’r gwasanaeth
fynnu a chynnal hyder llawn pob adran o’r gymuned a sicrhau bod yr holl
wasanaethau a ddarperir yn bodloni anghenion a gofynion y rhai sydd â did-
dordeb yn llawn.

Am y rhesymau hyn oll mae’r gwasanaeth yn haeddu’r staff gorau posibl, ac


mae’n rhaid iddo eu cael, a rhaid i sgiliau pawb gael eu gwella a’u diweddaru
trwy fuddsoddi mewn datblygu staff parhaus. Mae ystod o safonau galwedi-
gaethol yn cynnig fframwaith cyffredin – cyfiawnder cymunedol, rheolaeth,
gweinyddol, technoleg gwybodaeth a mwy. Mae’r rhain yn sicrhau dealltwriaeth
gyffredin a chysondeb mewn ymagwedd ym mhob cyfnod o’r prosesau datblygu
staff a gwerthuso perfformiad. Felly gellir proffilio swyddi unigol yn fanwl a gall
staff a’u rheolwyr ddynodi’r meysydd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad
proffesiynol.
Mae’r ymagwedd cymhwyso yn cynnig system agored, hygyrch a theg i bawb
ac ar bob lefel. Mae’n gymorth i ddatblygiad trefniadol, gan ddiffinio’r gofynion
o ran sgiliau ar gyfer tasgau penodol, yn ogystal â dysgu parhaus i unigolion a
thimau. Mae’r gwasanaeth hefyd wedi cydnabod gwerth cyfuno dysgu acade-
maidd a dysgu mewn gwaith (ymarferol). Mae canolfannau hyfforddi swyddo-
gion prawf ar y Diploma mewn Astudiaethau Profiannaeth (sy’n cyfuno gradd
israddedig ag NVQ, lefel 4 mewn cyfiawnder cymunedol) a’r Dystysgrif mewn
Cyfiawnder Cymunedol (a osodwyd ar NVQ lefel 3 a lefel blwyddyn gyntaf
gradd) yn cael eu datblygu.

Trwy ddiffinio a thynnu ar sgiliau a chryfderau niferus ac amrywiol ei staff, a

6
thrwy geisio datblygu’r rhain yn barhaus, mae’r gwasanaeth profiannaeth wedi
datblygu nodwedd unigryw o ran deall ac ysgogi troseddwyr i newid eu hymd-
dygiad. Harneisio hyn ar y cyd ag asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill a’r
gymuned ehangach, yw’r sylfaen y mae’r gwasanaeth yn medru cyflawni ei
thasg bennaf arni, sef gorfodi, ailsefydlu a gwarchod y cyhoedd.

Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw gwaith profiannaeth yn medru rhoi boddhad
mawr. Yn dâl am ymroddiad proffesiynol o’r radd flaenaf, gall staff weithio
gyda throseddwyr i ddeall effaith trais ar eu dioddefwyr, lleihau eu troseddau a
dod yn ddinasyddion mwy cyfrifol. Ac nid oes unrhyw berygl i’r gwaith fod yn
ddiflas nag yn undonog chwaith. Ni welwch chi ddau unigolyn sydd yn union yr
un fath byth. Mae hyn yn golygu bod sialensiau ac ysgogiadau cyson sy’n
newid o hyd. Ac mae hynny yn cynnig llawer o wobrwyon.

Yn wir newid yw’r unig elfen gyson. Newid parhaus yw holl hanes y gwasanaeth
– ac ochr yn ochr â hynny, dysgu parhaus. Fel y troseddwyr y mae’n gweithio
gyda hwy, mae’r gwasanaeth yn dysgu gan y gorffennol a thrwy brofiad. Dyma
sail ymarfer a arweinir gan dystiolaeth sy’n arwain at ymyrraeth effeithiol gyda
throseddwyr sydd yn eu tro yn hyrwyddo newid er gwell. Mae hynny yn hyr-
wyddo hyder yn y staff, yn y troseddwyr, ac yn bennaf oll, yn y cyhoedd yn ei
gyfanrwydd.
BETH YW "BETH SY'N GWEITHIO"

Bwriad y Strategaeth "Beth sy’n Gweithio" yw lleihau ail-droseddu trwy sicrhau


bod yr holl waith profiannaeth wedi ei seilio’n gadarn ar dystiolaeth o’r hyn sy’n
llwyddo. Rydym yn gweithio i ganolbwyntio ymarfer profiannaeth ar ymyrraeth
effeithiol sy’n:

● seiliedig ar dystiolaeth ddiweddar o’r wlad hon a thramor;


● yn cael eu darparu yn ôl safon gyson ar draws y wlad, ac
● yn hygyrch ac effeithiol i bob grŵp o droseddwyr yn y gymuned.

Trwy wneud hynny, mae’r Gwasanaeth Profiannaeth yn anelu at leihau ail-


droseddu ymhlith y rhai dan ei ofal o 5% erbyn 2004.

ELFENNAU ALLWEDDOL “BETH SY’N GWEITHIO”


7
Rhaglenni Patrwm Troseddu — Un o’r tasgau cyntaf oedd sefydlu set o raglen-
ni a achredwyd sydd wedi profi yn llwyddiannus. Trwy’r rhaglen beilot
Pathfinder mae’r Gwasanaeth Profiannaeth eisoes wedi datblygu wyth rhaglen
sydd wedi eu hachredu, ac mae mwy yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Mae’r
rhain yn cynnwys rhaglenni ymddygiad troseddol cyffredinol yn ogystal â rha-
glenni arbenigol a anelwyd at gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a throsed-
dau sy’n cynnwys trais.

Mae pob rhaglen yn cael ei chyflwyno i Gyd Banel Achredu y


Carchardai/Profiannaeth, corff arbenigol a sefydlwyd i gynnal a datblygu effei-
thiolrwydd gwaith gyda throseddwyr.
Asesu — Canfod y rhaglen briodol i’r troseddwr yw’r allwedd i lwyddiant wrth
leihau ail-droseddu. Mae system unigol ar gyfer asesu troseddwyr (a elwir yn
OASys) yn cael ei datblygu i’w defnyddio gan y Gwasanaethau Carchar a
Phrofiannaeth ledled Cymru a Lloegr. Bydd hyn yn golygu y bydd asesiadau ar
sail dadansoddiad trylwyr o’r ffactorau sy’n effeithio ar y tebygolrwydd y bydd
troseddwr yn ail-droseddu, a bydd yn cynhyrchu argymhellion cadarn ar yr
ymyrraeth sydd fwyaf tebygol o leihau’r risg hon.

Mae Ailintegreiddio Cymunedol yn hanfodol i weld newid tymor hir yn ymd-


dygiad troseddwyr. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod gwaith i ymdrin â
phroblemau fel digartrefedd, diffyg sgiliau sylfaenol, diweithdra a chamddefnyd-

8
dio sylweddau yn elfen hanfodol o unrhyw ymyrraeth effeithiol. Mae prosiectau
i sefydlu’r ffyrdd gorau o gefnogi ailintegreiddio ar fin cael eu cwblhau.
Cyflwynir rhaglenni newydd i helpu troseddwyr i wneud newidiadau ymarferol i
osgoi ail-droseddu, i ymwneud â pherthynas a gweithgareddau cymdeithasol
cadarnhaol, a sefydlu ffordd o fyw sefydlog yn 2002.

Mae’r cyrff sy’n bartneriaid i’r gwasanaeth yn chwarae rhan gref a sylweddol
wrth ddarparu rhaglenni profiannaeth a gwasanaethau ailintegreiddio
cymunedol, ac mae “Beth sy’n Gweithio” yn tanlinellu eu pwysigrwydd. Fe all
cyrff sy’n bartneriaid fod yn ymwneud â chyflwyno rhaglenni mwy arbenigol ar
gyfer camddefnyddio sylweddau, troseddwyr rhyw neu rai fu’n yfed a gyrru.
Gallent gyfrannu hefyd at gynnig gwasanaethau cefnogol, er enghraifft,
gwasanaethau triniaeth glinigol i gyd-fynd â rhaglenni camddefnyddio
sylweddau.
Mae’r gwaith hwn yn ategu mynychu rhaglenni ymddygiad troseddol. Mae’n
rhoi cyfle i droseddwyr ymarfer sgiliau a ddatblygwyd o’r newydd trwy eu
defnyddio i ymdrin â phroblemau y maent yn eu hwynebu – o ran diweithdra,
llety neu gydag arian.

Ymchwil a Gwerthuso — Comisiynwyd rhaglen ymchwil annibynnol eang i


werthuso’r rhaglenni Pathfinder, gan archwilio eu heffaith ar droseddwyr a’r
cyfraddau ail-gollfarnu.

PAM BOD HWN YN DDULL GWELL O WEITHREDU?

Mae’n golygu bod adnoddau, nid arian yn unig, ond sgiliau ac amser staff profi-
annaeth yn cael eu cyfeirio mewn ffyrdd y gwyddom eu bod cael canlyniadau
9
cadarnhaol gyda throseddwyr. Cyn “Beth Sy’n Gweithio” nid oedd gennym
unrhyw fodd o brofi canlyniadau na chofnodi manteision ymarfer da. Mae achre-
du rhaglenni llwyddiannus a’u defnyddio fel modelau prif-ffrwd yn sicrhau bod y
Gwasanaeth Profiannaeth cyfan yn dysgu ac yn cael budd o ymarfer da.

Trwy ganolbwyntio adnoddau ar ymyrraeth lwyddiannus fe fyddwn yn gweld


cymunedau, troseddwyr unigol a’u teuluoedd a chymunedau yn cael budd o’r
lleihad mewn ail-droseddu.
ENGHRAIFFT: MEDDWL YN GYNTAF

Mae hon yn rhaglen ddwys i newid ymddygiad troseddol trwy ddatrys proble-
mau. Mae’n diffinio ymddygiad troseddol, yn ogystal â ffactorau sydd â chysyll-
tiad agos ag ef, fel problemau i’w datrys. Mae’n dysgu sgiliau a dulliau datrys
problemau penodol, ac yn rhoi’r cyfle i ‘ymarfer’ ar gyfer bywyd go iawn trwy
eu defnyddio i ymdrin â phroblemau troseddu y mae’r troseddwyr eu hunain yn
eu nodi.

10
Meddwl yn Gyntaf...

● yn seiliedig ar dystiolaeth bod agwedd meddwl troseddwyr yn effeithio ar


yr hyn y maent yn ei feddwl a’r ffordd y maent yn ymddwyn

● wedi cael ei weld yn gweithio.

● nid yw’n anelu at ddatrys problemau pobl drostynt. Mae yn gwneud


ymdrech systematig i helpu pobl i feithrin y sgiliau a’r agweddau y bydd eu
hangen arnynt i ddatrys problemau yn fwy effeithiol

● yn cael ei gwblhau fesul cam, gyda digon o amser i ymarfer

● yn canolbwyntio ar ffactorau ym mywydau troseddwyr sy’n gysylltiedig â


throseddu, fel rhyngweithio cymdeithasol, diffygion sgiliau neu agweddau
anghymdeithasol.
MEDDWL YN GYNTAF: BARN RHAI FU’N CYMRYD RHAN

Mae Steve yn 28, gyda yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel "aml i flwyddyn o drosed-
du" tu ôl iddo. Mae wedi ei gael yn euog o ddwyn a cheisio dwyn.

Cychwynnodd Craig, sy’n 25 erbyn hyn, droseddu pan oedd yn 14 oed. Mae
ar hyn o bryd ar orchymyn profiannaeth am ddwyn a difrod troseddol.

Dechreuodd Jason, dorri i mewn i dai yn 11. Mae yn 27 erbyn hyn; mae wedi
bod yn troseddu am dros hanner ei oes.

Bu’r tri yn cymryd rhan yn y rhaglen Meddwl yn Gyntaf ym Manceinion am 22


11
sesiwn.

Teimlai’r tri fod rhan gyntaf y rhaglen yn anodd, a theimlent yn fwy cyfforddus
unwaith y daeth y grŵp i weithio gyda’i gilydd.

Steve: "Mae wedi bod yn anodd. Dwi erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r
blaen. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch pen lle nad oeddech o’r blaen – fe ALL-
WCH chi ei wneud o unwaith y byddwch chi’n arfer."

Jason: "Ryden ni yn dysgu pethau, er ei fod yn gallu bod yn ddiflas weithiau


pan fyddwn ni yn gwneud pethau yr ydym yn wybod yn barod.” Ond roedd
rhai sesiynau yn “hedfan heibio”.
Pan ofynnwyd iddynt am eu troseddu, dywedodd Craig – ar raglen methadôn –
nad oedd “ddim wedi bod yn troseddu llawer” ers iddo fod ar y rhaglen.
Cytunodd Jason; “Dwi ddim yn gwneud llawer o droseddu mewn gwirionedd.
Doeddwn i erioed wedi cael fy ngwneud am fyrgleriaeth o’r blaen, dim ond am
droseddau gyrru. Ond dwi wedi stopio gyrru rŵan.”

Disgrifiodd y sgiliau datrys problemau a ddysgir ar y rhaglen fel “aros a meddwl

12 beth yw’r broblem a beth i’w wneud am bethau.” Ychwanegodd Steve: “Rydym
wedi dysgu llawer, am broblemau yn bennaf a sut i drin pobl eraill. Mae wedi
ein dysgu i barchu barn pobl eraill.”

Mae’r tri yn gwybod ble yr hoffent fod yn y dyfodol. Roedd Jason – a nifer o
ddedfrydau o garchar o’i ôl – yn bendant: “Gartref.” Dywedodd Craig ei fod
eisiau bod “oddi ar methadôn, yn gweithio ac yn byw yn fy lle fy hun.”

Steve: "Dwi’n gobeithio mai’r rhaglen yma fydd yn gwneud y gwahaniaeth.


Dwi isio iddi wneud hynny.”
AROLYGIAETH YN Y GYMUNED

“Tra bod ein gwaith yn dod o’r llysoedd ac yn dibynnu ar yr hyder sydd gan y
llysoedd yn yr hyn yr ydym yn ei wneud, rôl ganolog y gwasanaeth yw’r hyn sy’n
digwydd ar ôl y llys.”

(Andrew Underdown, Gwasanaeth Profiannaeth Manceinion Fwyaf)

Mae’r Gwasanaeth Profiannaeth yn asiantaeth allweddol o ran gorfodi’r


gyfraith. Mae’r gwasanaeth yn darparu arolygiaeth agos a heriol i droseddwyr
ac yn cyflwyno rhaglenni effeithiol i ymdrin ag ymddygiad troseddol.

Y mae tri phrif fath o ddedfryd gymunedol:

● gorchmynion ailsefydlu cymunedol (gorchmynion profiannaeth gynt) sy’n ei 13


gwneud yn ofynnol i droseddwyr adrodd yn gyson wrth swyddog prawf i
gael ei arolygu’n fanwl. Gall gorchmynion gael eu teilwra fel ei bod yn
ofynnol i rai sydd â phroblemau penodol a phatrymau ymddygiad fynychu
rhaglenni addas neu wasanaethau trin;

● gorchmynion cosbi cymunedol (gorchmynion gwasanaeth cymunedol gynt)


sydd ar gael am droseddau y gellir eu cosbi â charchariad. Maent yn ei
gwneud yn ofynnol i droseddwyr wneud rhwng 40 a 240 o oriau o waith
di-dâl ar brosiectau cymunedol;

● gorchmynion cosbi ac ailsefydlu cymunedol (gorchmynion cyfun gynt) sy’n


cynnwys elfennau o waith di-dâl ac arolygiaeth profiannaeth.

Bydd tua 55,000 o orchmynion ailsefydlu cymunedol, 51,000 o orch-


mynion cosbi cymunedol a 20,000 o orchmynion cosbi ac ailsefydlu
cymunedol yn cychwyn bob blwyddyn.

Ym mhob agwedd ar waith profiannaeth mae set o safonau cenedlaethol


yn cael eu gweithredu i ddangos bod gwaith staff
profiannaeth yn gyson a chredadwy.
GORCHMYNION AILSEFYDLU CYMUNEDOL (GORCHMYNION PROFIANNAETH GYNT)

Mae gorchmynion ailsefydlu cymunedol yn nodwedd ganolog o arolygiaeth


gymunedol. Mae’n ofynnol i droseddwyr adrodd yn gyson wrth swyddog prawf
i ymdrin â’u hymddygiad troseddol a’u problemau ymarferol.

Yn gynyddol mae’r gwaith hefyd yn golygu rheoli’r cyfraniadau y mae


asiantaethau eraill yn eu gwneud, mewn meysydd fel hyfforddiant neu ddibyni-
aeth ar gyffuriau. Gall arolygiaeth glos a chyson gan swyddog prawf fod yn
ffordd effeithiol iawn o ymdrin ag ymddygiad troseddol.

14 Gall gorfod ymwneud â gweithiwr proffesiynol awdurdodol sy’n gyson yn


cwestiynu popeth am eich bywyd a gosod canlyniadau eich ymddygiad o’ch
blaen fod yn ymwthiol iawn.

Gall gorchymyn, yn aml yn cynnwys rhaglenni a anelwyd at broblemau penodol


y troseddwr, redeg am 6 - 36 mis ac fe ellir ei roi i unrhyw un 16 oed a
throsodd. Fel arfer bydd y cyswllt yn cael ei sefydlu o fewn pum diwrnod o
wneud y gorchymyn a bydd cynllun arolygu yn cael ei lunio: cytundeb rhwng y
swyddog prawf a’r troseddwr ynglŷn â’r ffordd y bydd gofynion y llys yn cael
eu gweithredu.
STORI DAVID

Cafwyd David yn euog o fyrgleriaeth a buasai ar brofiannaerth ers


deufis gan fyw ar ei ben ei hun mewn llofft fyw. Bob tro y ceisiai’r
swyddog prawf ymweld ag ef, roedd hi wedi methu. Roedd yn cadw’r
holl apwyntiadau yn y swyddfa ond roedd ganddo resymau bob
amser pam na ddylai hi ymweld ag ef gartref.

Fe fynnodd hi a llwyddo yn y diwedd. Fe welodd fod waliau ei ystafell


yn frith o bornograffi aflednais. Teimlai’r swyddog y dylai fynd i’r

15
afael â’r materion yr oedd yr hyn a welodd yn eu codi. Dywedodd
wrtho ei bod yn bryderus am y lluniau a pham – gan ofyn iddo feddwl
am yr hyn yr oedd wedi ei ddweud a dod yno’r diwrnod canlynol i
drafod. Ymateb David ar y pryd oedd gwylltio, gan ddweud y gallai
wneud fel y mynnai yn ei ystafell.

Ond erbyn y diwrnod wedyn roedd yn amlwg ei fod wedi bod yn


meddwl am y peth. Ymddiheurodd a dywedodd ei fod am dynnu’r llu-
niau i lawr. Yna bu’r ddau yn trafod y berthynas rhwng dynion a
merched, parch ac agweddau at bobl eraill. Arweiniodd hyn at drafo-
daeth ar effaith ei droseddau ar ei ddioddefwyr – y tro cyntaf i’r
swyddog lwyddo i gael David i feddwl am hyn.
STORI EDWIN

Cyhuddwyd Edwin, 31 oed , o fod yn feddw. Fe’i cafwyd yn euog a


rhoddwyd gorchymyn iddo yn cyfuno arolygiaeth am 12 mis a 100
awr o waith di-dâl. Roedd wedi cael ei ddedfrydu cyn hyn am
ymosod, niwed corfforol gwirioneddol ac ymddygiad afreolus. Roedd
cyswllt clir rhwng y troseddau hyn a gor-yfed. Roedd problemau
iechyd meddwl cysylltiedig ag alcoholiaeth hefyd yn amlwg. Roedd
yn ddi-waith.

Cychwyn gwael a gafodd dan y gorchymyn. Oherwydd ei yfed trwm


cafodd rybuddion gan arolygydd gwaith ac roedd yn cyrraedd yn

16
hwyr i apwyntiadau gyda’i swyddog prawf, yn bennaf oherwydd ei
fod wedi bod yn yfed y noson cynt. Cafodd fygythiad y byddid yn
mynd ag ef yn ôl i’r llys am dorri’r gorchymyn. Yna dechreuodd wella.
Roedd yn ystyried y gwaith, sef peintio ac addurno neuadd bentref
leol, yn gosb i raddau helaeth ond fe wnaeth yr oriau gofynnol yn fod-
dhaol.

Fe ddaeth yn fwy prydlon o ran ei apwyntiadau gyda’i swyddog


prawf, er ei fod yn cyrraedd weithiau mewn cyflwr gwael iawn. Er
gwaethaf ei ddibyniaeth amlwg nid oedd yn awyddus i gael ei gyfeirio
at y tîm alcohol lleol, ac oherwydd ei ddiffyg ysgogiad penderfynodd
y swyddog prawf wneud y gwaith cychwynnol ei hun. Llwyddodd i
gael Edwin i gadw dyddiaduron i fesur faint o alcohol yr oedd yn ei
yfed, a pha mor aml.
Yna aeth Edwin yn ei flaen i lunio graffiau i gymharu ei batrymau yfed
wythnosol. Roedd hyn yn ei orfodi i gydnabod pa mor ddychrynllyd o
aml yr oedd yn yfed i eithafion ac fe lwyddodd i osgoi yfed o ddydd
Llun i ddydd Iau bob wythnos. Y cam nesaf oedd trafod y math o
alcohol yr oedd yn ei yfed; roedd yn ei ystyried ei hun yn yfwr lager,
ond roedd yn cyfaddef ei fod yn cael whisgi bach wedyn yn aml.
Cytunodd i dorri i lawr ar yfed gwirodydd. Roedd ei yfed trwm dros y
penwythnos yn anos ei reoli, ond wedi peth amser fe lwyddodd i
gyfyngu yr yfed i ddydd Sadwrn.

Bu ei swyddog prawf hefyd yn ei annog i ddefnyddio ei amser mewn


ffordd adeiladol.
17
Wrth i’r yfed leihau fe dawelodd ei broblemau poen meddwl: roedd
yn medru gweld y cysylltiad rhwng y ddau beth, a rhoddodd hynny
hwb ychwanegol iddo stopio yfed. Dechreuodd drafod ac ymdrin ag
anawsterau teuluol eraill, ac yn y diwedd fe lwyddodd y swyddog
prawf i’w ddarbwyllo i fynychu’r tîm alcohol lleol.

Cwblhaodd Edwin y gorchymyn. Llwyddodd i gael swydd amser


llawn tua’r diwedd (yn gweithio fel ffriwr mewn siop chips) ac mae
wedi llwyddo i’w chadw. Mae ei yfed yn dal o dan reolaeth ac nid
yw wedi troseddu oddi ar hynny.
GORCHMYNION COSBI CYMUNEDOL (GORCHMYNION GWASANAETH CYMUNEDOL GYNT)

“Credaf nad yw holl botensial y gorchmynion hyn i newid ymddygiad troseddwyr


yn cael ei gydnabod yn llawn. Mae’n cael ei weld yn aml fel dim ond gwneud
pethau ymarferol ond mae’n llawer iawn mwy na hynny.”

(Derek Brierley, Gwasanaeth Profiannaeth Manceinion Fwyaf)

Mae cosb gymunedol yn fodd o gosbi troseddwyr trwy wneud gwaith cadarn-
haol a chaled yn ddi-dâl. Ar yr un pryd, fe allant ddechrau gwneud yn iawn am
yr hyn y maent wedi ei wneud a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Defnyddir

18 gorchmynion cosbi cymunedol ar gyfer llawer o wahanol fathau o droseddau ac


mae sawl math ohonynt, o glirio tir gwyllt a gwelliannau amgylcheddol i weithio
gyda phlant anabl.

Mae troseddwyr yn cyflawni tua wyth miliwn o oriau o waith di-dâl bob blwyd-
dyn.

Gall cosb gymunedol gynnig cyfle i weld modelau o ymddygiad cadarnhaol a


bod mewn cyswllt â chymysgedd o staff ar gyflog, gweithwyr elusen a gwirfod-
dol.
STORI BRIAN

Derbyniodd Brian, 18 oed, orchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl yn


y gymuned wedi iddo gael ei ddedfrydu am ymosod. Mewn llawer
ffordd mae’r achos hwn yn nodweddiadol o lawer sy’n wynebu staff bob
dydd. Ychydig iawn o sgiliau oedd gan Brian, roedd yn ddi-waith ac yn
ddiamcan i raddau helaeth. Rhoddodd ei swyddog waith iddo mewn
grŵp o chwech oedd yn addurno adeilad ysgol ac wedyn cwt i’r sgowti-

19
aid. Roedd y Safonau Cenedlaethol yn pennu ei fod i wneud lleiafswm
o bum awr yr wythnos. Yn sylfaenol roedd yn gorfod rhoi o’i amser ac
yn gorfod gweithio yn galed i dalu yn ôl am ei fyrbwylltra. Ond fe gre-
odd y teimlad o gyflawni rhywbeth a gafodd o gwblhau’r oriau effaith
ysgogol arno. Roedd Brian am ymuno â’r fyddin, ac o ganlyniad i
gyswllt rhwng y gwasanaeth profiannaeth a Swyddfa Recriwtio’r Fyddin,
ac yn arbennig y ffaith bod Brian wedi cadw at y gorchymyn, mae’r fyd-
din yn awr yn ystyried ei gais. Mae ar ei ffordd i’r cyfweliadau ac mae
ganddo bob gobaith o gael gyrfa wirioneddol.
STORI LUCY

Roedd Lucy yn 17 ac mewn trwbl o sawl math a fedrai fod wedi niwei-
dio ei bywyd yn barhaol. Roedd yn disgwyl ac wedi ei chael yn euog
o ddwyn o siop ac ymosod. Barn y llys oedd bod lle i orchymyn
cosbi cymunedol, gan osod 60 awr o waith iddi. Lleolwyd hi mewn
corff oedd yn darparu gwasanaeth prydau bwyd i’r henoed gan y
Staff Profiannaeth lle’r oedd hi’n gorfod coginio a golchi llestri.

Am ei bod yn disgwyl bu’n rhaid iddi gael egwyl fer i eni’r babi ond
roedd yn ôl yn y gwaith yn gyflym lle’r oedd gofyn iddi gwblhau’r

20 oriau yn llawn. Fe gynyddodd ei chymhelliad ac roedd ei gwaith yn


cael ei werthfawrogi gymaint fel bod y corff wedi ei chadw ar ddi-
wedd ei gorchymyn fel un o’r staff. Mae’r potensial yna iddi ddat-
blygu ei sgiliau ymhellach a chael swydd amser llawn.

Gwella Gobeithion Gwaith

Mae tystiolaeth yn dangos bod cael swydd yn lleihau’r tebygolrwydd o


ail-droseddu yn sylweddol iawn ac un fantais o orchymyn cosbi
cymunedol yw y gall fod yn gyflwyniad i waith posibl. Mae’r holl
ardaloedd profiannaeth yn gweithio gydag asiantaethau cyflogaeth a
hyfforddiant i wella rhagolygon troseddwyr di-waith a’u helpu i fyw
bywydau mwy cyfrifol a chynhyrchiol. Gellir defnyddio hyd at 10% o’r
oriau penodedig i gwblhau cyrsiau llythrennedd sylfaenol neu i
ddarparu cymwysterau sy’n gysylltiedig â’r gwaith a wneir o dan y
gorchymyn.
Y LLYSOEDD

“Mae’n rhaid i chi gydnabod amrywiaeth y gwasanaeth a gynigir i’r Llys ac a


gynigir i droseddwyr.”

(Sheila Wright, Uwch Swyddog Prawf, De Swydd Efrog)

Wrth graidd y system gyfiawnder troseddol y mae’r llysoedd – y cyntaf o “gws-


meriaid” y Gwasanaeth Profiannaeth. Y swyddogaeth bwysicaf yn llysoedd yr
ynadon a Llysoedd y Goron, yw, ar gais y llys, cynnig cyngor a gwybodaeth
annibynnol ynglŷn â:

● y trosedd
21
● amgylchiadau personol y rhai gafwyd yn euog

● y ddedfryd gymunedol fwyaf addas, os yw’n briodol

● y tebygolrwydd o ail-droseddu a’r risg i’r cyhoedd o droseddau eraill.

Mae’r wybodaeth yma fel arfer ar ffurf adroddiad cyn-dedfrydu (PSR). Mae
paratoi adroddiad cyn-dedfrydu yn rhan sylfaenol o waith swyddog prawf ac
mae’n golygu:
● barn ar gymhelliad y troseddwr

● ystyriaeth o effaith y trosedd ar y dioddefwr

● argymhelliad sy’n nodi’n glir sut y gall dedfryd gymunedol weithredu fel cosb
ac ymdrin â phroblemau’r troseddwr

● amlinelliad o gynllun arolygu.

Wrth gwrs mae’r materion a drafodir yn gymhleth, ond mae’r llysoedd angen
adroddiadau clir, cryno, perthnasol a gwrthrychol. Yn y llysoedd mwy, fe all yr

22
adroddiad cyn-dedfrydu gael ei ysgrifennu gan staff cyswllt arbenigol y llys,
swyddogion prawf sy’n cael secondiad i’r llysoedd am hyd at 5 mlynedd ac
sydd wedi perffeithio eu sgiliau cyfweld, ymchwilio i gefndir a chyflwyno i’r dim.

Mae profiad ymarferol yn y maes o help hefyd, fel y mae Sheila Wright yn
esbonio. Mae Sheila yn Uwch Swyddog Prawf yn Ne Swydd Efrog ac mae’n
ymdrin â throseddwyr o gymuned amrywiol iawn. Mae’r staff yn cydnabod yr
amrywiaeth hwn yn y gwasanaeth a roddir i’r llys ac a gynigir i’r troseddwyr.

“Mae nifer o ardaloedd yn Sheffield gyda phroblem camddefnyddio cyffuriau a


throseddau cysylltiedig â chyffuriau,” meddai “Mae pobl o’r tu allan yn dod i
mewn i brynu gan werthwyr lleol. Oherwydd eu bod yn gwybod hanes, adna-
bod daearyddiaeth, a ffurf gymdeithasol a gwleidyddol yr ardal a beth sydd ar
gael fel triniaeth, mae’r staff yn gwneud llawer iawn o waith wrth lunio
Adroddiad cyn-dedfrydu sydd yn ymestyn y wybodaeth sydd ar gael i’r dedfry-
dwr i raddau helaeth iawn.”

Paratowyd dros 237,000 Adroddiad Cyn-dedfrydu yn 1999.


SHAMIN KHAN. SWYDDOG PRAWF.
GWASANAETH PROFIANNAETH LLUNDAIN.
'Dwi’n hoffi’r amrywiaeth, a hefyd dwi’n hoffi strwythur y gwaith: natur y swydd,
mae’n ddiddorol iawn. Rydych yn cyfarfod pobl wahanol bob dydd.

Cychwynnodd Shamin Khan ar yrfa mewn gwaith cymdeithasol cyn gwneud


gradd mewn astudiaethau gwaith cymdeithasol ac yna penderfynodd dros-
glwyddo ei sgiliau i’r Gwasanaeth Profiannaeth. Ers ymuno ym 1990 mae hi
wedi cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol gan gynnwys arolygu trosed-
dwyr yn y gymuned a gwaith gyda charcharorion. Mae hefyd wedi cyd-arwain
nifer o raglenni trin dwys.

A hithau’n gweithio ar hyn o bryd mewn Llys y Goron mawr mae ei gwaith o
ddydd i ddydd yn cynnwys paratoi adroddiadau cyn-dedfrydu ar droseddwyr
23
sy’n ymddangos o flaen y llysoedd; rhoi gwybodaeth i ddedfrydwyr; cynnal
asesiadau risg; cysylltu â’r heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau
seiciatrig, asiantaethau cyffuriau/alcohol a chyfreithwyr.

Mae Shamin yn aelod gweithgar o NAAPS Cymdeithas Genedlaethol Staff


Profiannaeth Asiaidd lle mae’n Ysgrifennydd Cyffredinol iddi. Mae wedi cynry-
chioli NAAPS ar nifer o weithgorau gan gynnwys Grŵp Cyfeirio Ymchwil y
Swyddfa Gartref yn edrych ar raglenni gwaith gyda throseddwyr gyda chymhel-
liad hiliol. Roedd Shamin hefyd yn aelod o’r Grŵp Ymgynghorol fu’n gweithio
gyda HMPI (Arolygiaeth Profiannaeth Ei Mawrhydi) ar y rhaglen arolygu mewn
perthynas â chydraddoldeb hiliol, y cyhoeddwyd ei gasgliadau a’i argymhellion
yn yr Adroddiad Thematig.

"Mae hon yn yrfa werth chweil. Mae’n ddiddorol iawn ac amrywiol ac yn cyn-
nig nifer o arbenigeddau y gall rhywun fynd iddynt. Mae’n cynnig buddiannau
da a gwyliau da hefyd."
HOSTELI

“Fel cyflwyniad i waith profiannaeth, bydd swydd warden cynorthwyol mewn


hostel yn cynnig ystod o brofiadau o fewn cyfnod byr iawn.”

(Karen Roberts, Uwch Swyddog Prawf/Rheolwr Hostel,


Dyffryn Tafwys)

Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau profiannaeth yn rhedeg un neu fwy o hosteli


lle gall y llysoedd anfon pobl i fyw fel amod o’u gorchymyn ailsefydlu
cymunedol neu tra byddant ar fechnïaeth – a’r ddwy swyddogaeth yn aml yn

24 cael eu cyfuno mewn un adeilad. Fe allant hefyd weithredu fel “tŷ hanner
ffordd” i’r rhai sy’n gadael y carchar. Nid lle i fyw yn unig yw hostel. Mae yn
amgylchedd wedi ei strwythuro, gefnogol lle mae’r preswylwyr yn cael y cyfle i
ailadeiladu eu bywydau tra byddant dan arolygiaeth fanwl.

Y mae ffiniau ymddygiad pendant a disgwylir i’r preswylwyr gydymffufio â rhai


rheolau caeth iawn, gan gynnwys cyrffew dros nos. Mae’r rhai sy’n torri’r rheo-
lau yn cael eu hanfon yn ôl i’r llys i’w dedfryd gael ei hadolygu. Yn y rhan
fwyaf o hosteli, bydd y preswylwyr yn gwneud eu cyfran o’r gwaith tŷ, ymuno â
gweithgareddau grŵp ac, os yw hynny’n briodol, mynychu rhaglenni cysylltiedig
â’u trosedd sy’n herio a newid eu hymddygiad troseddol.
dywed Karen Roberts:

“Mae St Leonard’s yn Reading yn cynnig arolygiaeth, cefnogaeth a llety i 22 o


droseddwyr gwrywaidd o oedolion, sydd naill ai ar fechnïaeth, gorchmynion
profiannaeth neu drwyddedau wedi eu rhyddhau o’r ddalfa. Mae’r grŵp
preswylwyr yn cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau ac oedran
ac mae eu hanes troseddol yn amrywiol iawn. Rydym yn ymdrin â phreswylwyr
sydd ag amrywiaeth o broblemau er enghraifft, camddefnyddio cyffuriau/alco-
hol, teulu’n chwalu, diweithdra, a allai fod wedi cyfrannu at eu hymddygiad
troseddol.

Ein nod yw cynnig amgylchedd wedi ei strwythuro, ei rheoli, un gefnogol ac


25
ailsefydlol lle gall troseddwyr astudio eu hagweddau a’u hymddygiad troseddol,
a gwneud newidiadau a fydd yn lleihau’r perygl o ail-droseddu.

Mae St Leonard’s yn gwneud cyfraniad mawr at reolaeth risg troseddwyr a all


fod yn beryglus, trwy gynnig lefel uwch o arolygiaeth a monitro. Mae rheolau’r
hostel yn cael eu gweithredu’n gaeth ac mae’r staff yn barhaus yn asesu ymddy-
giad preswylwyr yn ddyddiol. Gan fod y troseddwyr yn cael eu gweld gan y
staff mor aml, gall unrhyw ddirywiad mewn ymddygiad, neu arwyddion bod
troseddwr yn debygol o greu niwed difrifol, gael eu canfod yn gyflym ac mae
tîm rheoli’r hostel yn medru gweithredu ar unwaith.
Mae gennym gyswllt clos gyda thîm gwybodaeth ein heddlu lleol, a gweithwyr
proffesiynol eraill a all fod yn ymwneud â gweithredu’r cynllun rheoli risg ynglŷn
â throseddwyr peryglus sy’n byw mewn Hostel.

Gofynnir yn aml am lety ac arolygiaeth yn St Leonard ar gyfer troseddwyr rhyw


sydd angen cael lle ymhell oddi wrth eu dioddefwyr. Ar ddiwedd eu cyfnod
arolygiaeth, ein gwaith ni yw gweithio gydag asiantaethau eraill i’w symud

26
ymlaen i fyw’n annibynnol gyda’r risg leiaf bosibl i’r gymuned.

Bydd y rhan fwyaf o gyswllt o ddydd i ddydd y preswylwyr gyda’r wardeniaid


cynorthwyol sydd hefyd yn rhoi arolygiaeth unigol fel gweithwyr allweddol i bob
preswyliwr. Trwy arolygiaeth gyson, hyfforddiant da a’r amrywiaeth o dasgau o
fewn y rôl, gellir casglu profiad a gwybodaeth sydd yn baratoad ardderchog ar
gyfer hyfforddiant fel swyddog prawf. Dros y tair blynedd diwethaf, mae tri
warden cynorthwyol o St Leonard’s wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i
ddod yn swyddogion prawf dan hyfforddiant.”
STORI MARTIN

Roedd Martin wedi ei gael yn euog o gyfres o droseddau yn


ymwneud â cheir ac ymddygiad bygythiol, ac roedd yn ei chael yn
anodd ymwneud â phobl. Roedd ganddo anhwylder personoliaeth a
phroblemau cysylltiedig gydag alcohol.

Rhoddwyd gorchymyn profiannaeth iddo (gorchymyn ailsefydlu


cymunedol erbyn hyn) gydag amod preswylio ac roedd yn ofynnol
iddo fynychu rhaglen o driniaeth arbenigol. Fe arhosodd ar hwn am
tua chwe mis ond fe aeth yn drech nag ef, felly gwnaed trefniadau
eraill iddo i gael sesiynau ar ei ben ei hun.

Gan fod ei sgiliau cymdeithasol yn brin roedd yn ei chael yn anodd yn


27
yr hostel; nid oedd neb o’r preswylwyr eraill yn ei hoffi.

Gan nad oedd ganddo sgiliau gwaith ac am fod ei allu i’w gyflwyno ei
hun yn ffafriol mewn cyfweliadau yn brin, roedd yn ymddangos na
ellid ei gyflogi. Ond wedi gwaith mawr iawn a mewnbwn gan staff yr
hostel, llwyddodd i gael swydd yng nghegin cadwyn o fwytai. Roedd
staff yr hostel ar bigau’r drain i weld a fyddai hyn yn parhau. Ac mae
wedi llwyddo!

Symudodd Martin o’r hostel rai misoedd yn ôl ac mae wedi llwyddo i


gadw ei yfed dan reolaeth ac mae’n byw yn annibynnol mewn llofft
fyw. Ni fyddai erioed wedi cyrraedd y fan hon heblaw am y math o
arolygiaeth ddwys y gellid ei roi mewn hostel.
Y GORCHYMYN TRIN A PHROFI CYFFURIAU

“Mae’r Gorchmynion Trin a Phrofi Cyffuriau yn cynnig modd i ni sy’n cyfuno


sicrwydd i’r dedfrydwr â chyfleoedd i’r troseddwr gael triniaeth. Canlyniad hyn
yw llai o droseddau a chymuned fwy diogel.

(Paul Hayes, cyn bennaeth yr ardal beilot ar gyfer Gorchmynion Trin


a Phrofi Cyffuriau)

28 Cyflwynwyd y Gorchymyn Trin a Phrofi Cyffuriau, dedfryd gymunedol newydd a


anelwyd at dorri’r cyswllt rhwng dibyniaeth ar gyffuriau a throseddu, i’r llysoedd
yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref 2000.

Prif nod y Gorchymyn yw cael troseddwyr i beidio â throseddu, gyda’r nod yn y


tymor hwy o’u cael i beidio â defnyddio cyffuriau byth eto. Y mae tystiolaeth yn
dod i’r golwg bod ychydig o gamddefnyddwyr cyffuriau yn gyfrifol am gyfran
helaeth iawn o droseddau. Anelwyd y Gorchymyn Trin a Phrofi Cyffuriau felly
at gamddefnyddwyr 16 oed neu hŷn sy’n troseddu i dalu am eu habit cyffuriau
ac yn dangos parodrwydd i gydweithredu gyda’r driniaeth ac sydd o flaen y llys
am drosedd sydd yn ddigon difrifol i gael ei chosbi gyda dedfryd gymunedol.
Mae i’r Gorchymyn Trin a Phrofi Cyffuriau dri o brif ofynion:

● Triniaeth — cael ‘triniaeth’ mewn man penodedig (canolfan breswyl neu fel
claf allanol tra’n byw yn y gymuned) am gyfnod penodedig o rhwng chwe
mis a thair blynedd;

● Profi — rhaid i droseddwr sydd dan Orchymyn Trin a Phrofi gael ei


‘brofi’ yn gyson am ddefnydd o gyffuriau ac mae’r canlyniadau, gydag
adroddiadau yr un sy’n rhoi’r driniaeth, yn arwydd clir o gynnydd; ac 29
● Adolygiad llys — am y tro cyntaf yng nghyfraith Cymru a Lloegr, mae gan y
llysoedd ran hanfodol mewn ‘adolygu’ cynnydd. Cynlluniwyd yr adoly-
giadau hyn i ysgogi’r troseddwr a rhoi hyder i’r llys fod y troseddwr yn
cydymffurfio â’r driniaeth.

Mae gwerthusiad yn dangos bod y Gorchmynion hyn yn cael effaith sylweddol


ar leihau’r gwariant ar gyffuriau anghyfreithlon a faint o droseddu a wneir gan
droseddwyr ar y gorchymyn.
ASTUDIAETH ACHOS: KEVIN

Roedd Kevin yn 25 pan roddwyd Gorchymyn Trin a Phrofi Cyffuriau


iddo yng Ngorffennaf 1999 am ymosod ar swyddog o’r heddlu.
Roedd wedi datgelu i staff profiannaeth fod ganddo hanes o ddefnyd-
dio cocâin a’i fod wedi defnyddio ‘Crac’ cocâin yn bennaf am y tair
blynedd diwethaf. Roedd hefyd yn cyfaddef ei (spacing) fod yn arian-
nu ei habit trwy ddelio. Cyn cychwyn ei orchymyn roedd Kevin yn
gwario £200 y dydd ar gyfartaledd ar Crac. Er bod Kevin wedi bod
dan arolygiaeth profiannaeth nid oedd ganddo brofiad o driniaeth cyf-
furiau cyn cychwyn y Gorchymyn Trin a Phrofi Cyffuriau.

30 I gychwyn, nid oedd Kevin yn mynychu’r grŵp na’r apwyntiadau


unigol yn gyson iawn ac roedd ei brofion cyffuriau yn gadarnhaol yn
gyson am dri mis cyntaf ei orchymyn, er ei fod yn dweud bod gostyn-
giad ym maint y cyffuriau yr oedd wedi bod yn eu defnyddio ers
dechrau ar y driniaeth. Yn raddol daeth i fynychu’n fwy cyson a
dechreuodd ddefnyddio strategaethau a nodwyd i gael dyddiau ‘di-
gyffuriau’. I gychwyn, roedd Kevin yn medru llwyddo i dreulio diwrn-
od neu ddau heb ddefnyddio cyffuriau, gan adeiladu ar hyn yn raddol
i gyrraedd tri neu bedwar diwrnod. Ond roedd yn teimlo yn rhwys-
tredig fod ei samplau yn dal yn gadarnhaol pan gaent eu profi (roedd
yn cael ei brofi dair gwaith yr wythnos).
Ar ddechrau Tachwedd 1999 rhoddodd Kevin y sampl gyntaf heb gyf-
furiau ynddi, wedi nodi ei fod wedi bod am bum diwrnod heb ddefny-
ddio cocâin. Ond yn ddiweddarach fe ddywedodd ei fod wedi dath-
lu’r achlysur trwy ddefnyddio cocâin! Cwblhaodd Kevin y rhaglen 12
wythnos yn llwyddiannus hefyd ar y pryd ond cytunodd i’w ail-wneud
gan ei fod yn cydnabod ei fod angen newid mwy a’i fod yn sylwed-
doli ei fod ar y cychwyn ynghlwm yn y cylch o ddefnyddio cyffuriau i’r
fath raddau fel nad oedd wedi dysgu dim o werth o’r sesiynau cyn-
haraf.

Wrth fynychu’r rhaglen am yr ail waith, dangosodd Kevin gynnydd ac


roedd yn adrodd ei fod yn medru dal heb ddefnyddio cyffuriau am
gyfnodau hwy, roedd hyn yn cael ei gadarnhau gan y samplau heb
31
olion cyffuriau. Erbyn i Kevin gwblhau ei orchymyn yng Ngorffennaf
2000, roedd wedi bod ‘heb gyffuriau’ ac mewn gwaith cyson am saith
mis. Yn Rhagfyr 1999 y cafwyd y sampl bositif olaf gan Kevin.

Teimlai Kevin fod y gefnogaeth a’r strategaethau a roddwyd iddo yn y


grŵp wedi ei alluogi i wneud y newidiadau yr oedd wedi ceisio eu
gwneud yn aflwyddiannus cyn cael y driniaeth. Roedd hefyd yn
cydnabod gwerth y ffaith bod y llys yn monitro ei gynnydd a ‘gonestr-
wydd gorfodol’ yr oedd y profi wrin yn ei roi fel y ffactorau gwaelodol
a’i hysgogodd i newid yng nghyfnod cynnar y driniaeth.
AILSEFYDLU: AROLYGIAETH CYN AC WEDI RHYDDHAU O’R DDALFA

“Ein gwaith yw rhoi’r arolygiaeth orau mewn modd diwnïad, cyn ac wedi rhyd-
dhau. Mae sefydliadau carcharu ac asiantaethau sy’n bartneriaid yn y gymuned
yn gweithio gyda’i gilydd i arolygu dedfryd barhaol, lle mae gwaith ar ymddy-
giad troseddol yn cael ei drin o fewn y Sefydliad a hefyd tra ar drwydded”

(Malcolm Large, Swydd Stafford, sy’n gysylltiedig â Werrington


Youth Offenders Institution)

32
Y mae rhai troseddau sydd mor ddifrifol a rhai troseddwyr mor anhydrin fel mai
carcharu yw’r unig ddewis sydd ar gael i’r llysoedd. Er hynny, mae’r
gwasanaeth profiannaeth yn parhau i gyfrannu at y gwaith. Mae staff profian-
naeth ar secondiad i’r carchardai yn helpu’r Gwasanaeth Profiannaeth i gynllu-
nio a rheoli dedfrydau. Maent hefyd yn gweithio gyda throseddwyr tra byddant
yn y carchar ac yn eu harolygu yn dilyn eu rhyddhau.

Arolygwyd dros 87,000 o garcharorion a chyn-garcharorion gan staff


profiannaeth yn 1999.
Mae pob carcharor a ddedfrydwyd i 12 mis neu fwy yn treulio cyfran o’u ded-
fryd yng ngharchar ac yna yn cael eu rhyddhau ar drwydded i’w harolygu yn y
gymuned. Bwriad arolygiaeth wedi rhyddhau yw gwarchod y cyhoedd, atal
rhagor o droseddu a gwneud yn siŵr bod y troseddwr yn ailsefydlu.

Dosrennir swyddogion arolygu i garcharorion yn ardal eu cartref sy’n cadw


cyswllt cyson â hwy tra eu bod yn y ddalfa. Mae’r swyddog arolygu yn trafod
cynlluniau’r carcharor ar erbyn y caiff ei ryddhau, fel ble y bydd yn byw, os
bydd angen lle mewn hostel, os oes ganddo unrhyw gynllun o ran gwaith neu
anghenion o ran hyfforddiant. Bydd staff profiannaeth o fewn y carchar hefyd
yn cynorthwyo i asesu unrhyw anghenion triniaeth neu ddatblygu, fel ymdrin â

33
throseddu cysylltiedig â chyffuriau neu alcohol.

Yn nes at yr amser rhyddhau mae’r swyddog prawf sy’n arolygu yn asesu


amgylchiadau cartref y carcharor ac yn ystyried pa drefniadau sydd eu hangen i
sicrhau y bydd y troseddwr yn medru cadw at amodau’r drwydded. Y swyddog
prawf cartref hefyd sy’n gyfrifol am argymell i lywodraethwr y carchar a ddylai’r
drwydded gynnwys amodau ychwanegol, fel gofyniad i fynychu rhaglen o drini-
aeth yn y gymuned neu i gadw draw oddi wrth bersonau neu leoedd penodol.
Cyn y rhyddhau bydd staff yn y carchar yn esbonio amodau’r drwydded fel bod
y troseddwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt.

Mae Malcolm Large, sy’n ymwneud â charcharorion y tu mewn a’r tu allan i’r
carchar, yn credu y dylai carchariad fod yn gyfle i droseddwyr ystyried sut y bu
iddynt dorri’r gyfraith. Cyfle hefyd iddynt ddefnyddio adnoddau’r carchar a’r
gymuned i ymdrin â’r materion hynny a’u newid er gwell. Fe all hyn olygu
wynebu camddefnyddio sylweddau, llety gwael, perthynas afiach neu ddiffyg
sgiliau i gael gwaith.
Mae Malcolm yn credu bod profiannaeth yn chwarae rhan allweddol o ran
cynorthwyo troseddwyr i wneud y newidiadau hyn. Ond rhaid i’r gwaith gael ei
wneud mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill yn y gymuned os yw’r
newid i fod yn sylweddol a pharhaol.

Gwaith y swyddogion arolygol yw gweithio gydag awdurdodau lleol, cyrff sy’n


bartneriaid ac asiantaethau eraill i gael gwared o unrhyw rwystrau a all atal ail-
sefydlu yn llwyddiannus yn y gymuned. Fe all hyn olygu helpu troseddwr i
ddod o hyd i rywle addas i fyw, ymdrin â’u hanghenion o ran cyflogaeth neu
hyfforddiant, neu ymdrin â phroblemau cyffuriau neu alcohol. Os bydd angen
gall y swyddog arolygol geisio gosod amodau ychwanegol ar y drwydded yn

34
ystod y cyfnod arolygu.

Os bydd carcharor yn torri unrhyw un o amodau’r drwydded, fe all fod angen


cymryd camau cyfreithiol. Mewn achosion lle mae’r swyddog prawf yn teimlo
bod risg i’r cyhoedd, gellir gosod amodau ychwanegol yn y drwydded.

Y troseddau mwyaf difrifol

Mae’r Gwasanaeth Profiannaeth yn ymwneud â gwarchod y cyhoedd rhag y


rhai a garcharwyd yn y lle cyntaf am y troseddau mwyaf difrifol. Llunnir cynllu-
niau rheoli risg ar gyfer y rhai sy’n creu’r bygythiad mwyaf i’r cyhoedd, yn dilyn
trafodaeth ar baneli gwarchod y cyhoedd aml-asiantaethol sy’n cynnwys yr
heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, ac amrywiol asiantaethau sy’n ymwneud
ag arolygu troseddwyr yn y gymuned. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnig system
hynod effeithiol o fonitro ymddygiad y troseddwr a’r risg bosibl i eraill. Gall
asesiad swyddog prawf o risg deiliad trwydded arwain at gychwyn camau tor-
trwydded a dychwelyd i’r ddalfa cyn i droseddau ddigwydd neu lle mae diogel-
wch y cyhoedd dan fygythiad.
GWAITH GYDA DIODDEFWYR

Mae’r Gwasanaeth Profiannaeth wedi gweithio gyda dioddefwyr ers 1991. Yn


gyntaf gyda dioddefwyr carcharorion am oes, ac yn ddiweddarach, gyda diod-
defwyr troseddwyr sydd yng ngharchar am bedair blynedd neu fwy am drosedd
rhywiol neu dreisgar. Fe fu’r gwaith yn hanfodol o ran helpu dioddefwyr yn eu
hymdrech i ailafael yn eu bywydau a thawelu eu pryderon am yr adeg y bydd y
troseddwr yn cael ei ryddhau, yn arbennig pan fydd gan ddioddefwr bryderon
gwirioneddol am ei dd/diogelwch neu’r posibilrwydd o ail-erlid. Mae cydnabod
manteision gwaith cyswllt gyda dioddefwyr, o safbwynt y rhai ddioddefodd, a’r
rhai sy’n gweithio gyda’r rhai fu’n gyfrifol am y trosedd, wedi arwain at
gyflwyno mesurau statudol newydd o dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a
Gwasanaethau Llys 2000. O 1 Ebrill 2001, bydd y gwasanaeth profiannaeth

35
dan ddyletswydd i ymgynghori â dioddefwyr a’u hysbysu am y trefniadau rhyd-
dhau i’r holl droseddwyr sydd yn y ddalfa am 12 mis neu fwy am drosedd rhy-
wiol neu dreisgar. Mae’r cam hwn yn un pwysig tuag at sicrhau hawliau diodde-
fwyr ac yn arwydd o’r pwyslais parhaus ar rôl y dioddefwyr yn y broses gyfi-
awnder troseddol.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud fel arfer gan y swyddog sy’n arolygu achos
arbennig, neu Uned Cyswllt Dioddefwyr arbenigol. Mae nifer o wasanaethau
profiannaeth erbyn hyn wedi sefydlu’r unedau arbenigol hyn. Mae rôl y swyd-
dog prawf yn ddeublyg, rhoi cyngor ac arweiniad am y broses gyfiawnder a
charcharu a thrafod cynlluniau rhyddhau’r troseddwr yn y pen draw gyda’r
dioddefwr.
Mae’r Safon Genedlaethol ar gyfer y gwaith hwn yn ei gwneud yn ofynnol i staff
profiannaeth gysylltu â dioddefwyr troseddau rhywiol neu dreisgar o fewn wyth
wythnos o’r dedfrydu i gynnig cwrdd â hwy. Yn y cyfarfod cyntaf hwn bydd y
staff profiannaeth yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i’r dioddefwr am ddedfrydau
o garchar a sut y gall carcharor fynd trwy’r system. Byddant hefyd yn gofyn i’r
dioddefwyr a ydynt yn dymuno i’r gwasanaeth gysylltu â hwy ar adegau allwed-
dol yn y broses cyfiawnder troseddol neu gael gwybod pan fydd rhyddhau’r

36
carcharor yn derfynol yn cael ei ystyried. Os byddant yn dymuno hynny, bydd y
cyswllt gyda’r dioddefwr yn cael ei gynnal nes bydd y troseddwr yn cael ei ryd-
dhau o’r carchar, fel arfer pan fydd rhyddhau’r troseddwr dros dro, lleoliad
gwaith neu symud i sefydliad llai caeth yn cael eu hystyried. Yn olaf, bydd y
Gwasanaeth Profiannaeth yn ymgynghori â’r dioddefwr a rhoi gwybod iddo/iddi
yn yr adolygiad parôl neu’r rhyddhau terfynol, i alluogi’r dioddefwr i gynnig
barn ar yr amodau a argymhellir fydd yn cael eu gweithredu yn y gymuned, a
sicrhau eu bod yn cael gwybod pan fydd y carcharor yn cael ei ryddhau yn y
pen draw.
STORI UN A DDIODDEFODD

Roedd gwraig Peter, Valerie, wedi cael ei llofruddio gan gariad eu merch.
Roedd y llofrudd, Tom, i fod i gael ei ryddhau a chysylltodd y
gwasanaeth profiannaeth â Peter i’w holi ynglŷn â’i deimladau ynglŷn â’r
cynllun rhyddhau.

Er bod Peter i’w weld yn dawel, wrth i’r cyfweliad fynd yn ei flaen, daeth
yn glir bod y teulu yn dal i fyw dan gysgod y llofruddiaeth. Roedd yn

37
bryderus iawn ynglŷn â’r ffordd y gallai’r newyddion am ryddhau Tom
effeithio ar ei blant. Roedd y ferch wedi profi nifer o anawsterau a dim
ond yn ddiweddar yr oedd wedi medru llunio perthynas â dyn arall. Nid
oedd y mab, a oedd yn blentyn ifanc iawn pan laddwyd ei fam, wedi
gallu trafod y llofruddiaeth na’r digwyddiadau ar y pryd gyda’i dad.

Oherwydd nad oedd yn hapus gyda’r syniad o gyfarfod Tom ar


ddamwain, cytunwyd, fel amod o’r drwydded, y byddai Tom yn cael ei
atal rhag cysylltu â’r teulu. Codwyd y mater o gefnogaeth barhaol i
Peter hefyd a rhoddwyd gwybodaeth iddo ynglŷn â sut i geisio cael cyn-
gor annibynnol.
WALES

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau statudol i ddatblygu a gwei-


thredu polisïau a strategaethau yn ymwneud â thai, addysg, cyffuriau ac alcohol,
plant a theuluoedd, yr Iaith Gymraeg a’r sector gwirfoddol – y cyfan yn effeithio
ar fywydau troseddwyr ac felly yn berthnasol i’r agenda Gwasanaeth
Profiannaeth proffesiynol yng Nghymru. Yn ychwanegol, mae Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn ymgynghorydd ffurfiol i ddibenion y Ddeddf Trosedd ac
Anhrefn a Throseddau Ieuenctid.

38 Mae’r Gyfarwyddiaeth Profiannaeth Genedlaethol felly yn ymwybodol o’r


angen i sicrhau bod gweithgareddau profiannaeth yng Nghymru yn cael eu cynl-
lunio, yn cael adnoddau, yn cael eu gweithredu a’u gwerthuso o fewn y cyd-
destun gwleidyddol a phroffesiynol unigryw hwn.

Mae testun y llyfryn hwn ar gael yn Saesneg.


SWYDDOGION PRAWF DAN HYFFORDDIANT

Amodau gwasanaeth a hyfforddiant

Datblygwyd Diploma mewn Astudiaethau Profiannaeth ac mae’n cael ei


ddarparu trwy gonsortia o ardaloedd profiannaeth yn gweithio gyda sefydli-
adau addysg uwch a chanolfannau asesu NVQ ers 1998. Y Diploma mewn
Astudiaethau Profiannaeth yw’r cymhwyster proffesiynol sy’n rhoi statws swyd-
dog prawf i hyfforddeion llwyddiannus, ar yr amod eu bod yn cael eu cyflogi
gan fwrdd profiannaeth lleol. Mae’r Diploma mewn Astudiaethau Profiannaeth
yn rhaglen integredig o addysg a hyfforddiant sy’n cyfuno gwaith a dysgu mewn
prifysgol trwy ddyfarniad NVQ lefel 4 mewn Cyfiawnder Cymunedol a gradd
israddedig. Penodir swyddogion prawf dan hyfforddiant i ardaloedd profian-

39
naeth yn dilyn proses recriwtio a dewis drylwyr a thelir cyflog hyfforddi iddynt.
Fel arfer bydd y rhaglenni sy’n arwain at Ddiploma mewn Astudiaethau
Profiannaeth yn cael eu cwblhau o fewn 24 mis.

Cymhwyster

Yr oedran ieuengaf i swyddogion prawf yw 22 oed.


Rhaid i ymgeiswyr am swyddi hyfforddi felly fod yn 20 oed erbyn y dyddiad y
rhagwelir eu penodi fel hyfforddeion. Nid oes cyfyngiad ar yr oedran hynaf.

Ni ddylai bodolaeth cofnod o gollfarnau blaenorol (neu rybuddion), ynddo ei


hun ddiarddel unrhyw ymgeisydd, ond rhaid datgelu pob collfarn, boed fel
oedolyn neu blentyn, a bydd pob achos yn cael ei ystyried ar ei rinweddau
ei hun.
Fel arweiniad cyffredinol yn unig, mae’r gofynion addysgol fel a ganlyn ond
dylid holi am fanylion y gofynion gan y consortia unigol:-

Ymgeiswyr dan 21 oed — llwyddiant mewn 2 lefel A a 3 TGAU neu 3 a’r lefel
A ac 1 TGAU
Ymgeiswyr dros 21 ond dan 25 oed — 5 llwyddiant TGAU
Ymgeiswyr dros 25 oed — gellir eu derbyn heb gymhwyster ffurfiol ond disg-
wylir iddynt ddangos potensial academaidd, yn aml trwy ddarparu darn o waith
ysgrifenedig a aseswyd.

Consortia
Ar gyfer dewis a recriwtio mae’r ardaloedd profiannaeth wedi eu rhannu yn
naw ardal consortia fel a ganlyn: -

London Probation Consortium


71/73 Great Peter Street,
London SW1P 2BN
ar gyfer Llundain

40 East of England Consortium


Crowland House,
Withersfield Road,
Haverhill
CB9 9LA
ar gyfer Swydd Bedford, Swydd Caer-grawnt, Essex, Swydd Hertford,
Norfolc, Suffolc

South East Region Probation Training Consortium


College House
Woodbridge Road
Guildford
GU1 4RS
ar gyfer Hampshire, Caint, Surrey, Sussex , Dyffryn Tafwys

Probation South West Training & Development Consortium


The Lonsdale Centre,
Blake Street,Bridgwater TA6 3NB
ar gyfer Avon & Gwlad yr Haf, Dyfnaint a Chernyw, Dorset, Swydd
Gaerloyw, Wilts
Wales Probation Consortium
33 Westgate Street,
Cardiff CF10 1JE
ar gyfer Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru, De Cymru

Midlands Probation Training , Assessment and Development Consortium


Tamworth Probation Centre,
Moor Street,
Tamworth,
Staffordshire,
B79 8QZ
ar gyfer Swydd Derby, Swydd Leicester a Rutland, Lincs, Swydd Northampton,
Swydd Nottingham, Swydd Stafford, Swydd Warwick, Gorllewin Mersia,
Gorllewin Canolbarth Lloegr

North East Probation Training & Development Consortium


Probation House,
2/3 Longdales Road,

41
Middlesborough,
Cleveland, TS4 2JL
ar gyfer Durham, Northumbria, Teeside

Probation North West Consortium


Sefton House,
1, Molyneux Way,
Old Roan,
Liverpool, L10 2JA
ar gyfer Swydd Caer, Cumbria, Manceinion Fwyaf, Swydd Gaerhirfryn,
Glannau Mersi

Yorkshire and Humberside Probation Consortium


38 York Place
Leeds
LS1 2ED
ar gyfer Humberside, Gogledd Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog,
De Swydd Efrog

Am ragor o wybodaeth a manylion pan fydd swyddi ar gael ar gyfer


hyfforddeion, ysgrifennwch at y consortiwm priodol.
AMODAU GWASANAETH

SWYDDOGION PRAWF DAN HYFFORDDIANT

● Mae’r swyddogion dan hyfforddiant yn weithwyr i fyrddau profiannaeth lleol ac fe’u penodir
i wneud cyfnod o ddwy flynedd o hyfforddiant a fydd yn arwain at Ddiploma mewn
Astudiaethau Profiannaeth. Bydd cyfnod cytundeb y swyddog dan hyfforddiant yn cyfateb
i hyd y rhaglen hyfforddi.

BETH YW’R CYFLOG?

● Mae’r cyflogau i swyddogion prawf dan hyfforddiant ar y raddfa o £12,000 - £13,000 (yn
ddibynnol ar adolygiad blynyddol). Bydd swyddogion dan hyfforddiant a gyflogir gan
fwrdd perthnasol yn derbyn taliadau Lwfans Llundain Fewnol neu Allanol fel sy’n briodol, yn
ychwanegol. Bydd swyddogion dan hyfforddiant mewn ardaloedd ymylol yn derbyn tali-
adau ychwanegol lle bydd y rhain fel arfer yn cael eu talu gan fwrdd.

● Mae’r cyflogau ar gyfer y swyddogion prawf prif raddfa yn amrywio o £17,000 - £23,000
(yn ddibynnol ar adolygiad blynyddol) gan ddibynnu ar oedran a phrofiad. Y mae grisiau
cyflog ar gyfer graddfeydd uwch swyddogion prawf. Mae Lwfans Llundain yn berthnasol fel

42
uchod.

SALWCH A MAMOLAETH

● Mae gan swyddogion dan hyfforddiant hawl i wyliau mamolaeth a thâl salwch.

BETH AM HYFFORDDIANT?

● Mae gan y bwrdd sy’n cyflogi gyfrifoldeb am sicrhau bod y swyddogion dan hyfforddiant yn
cael profiad priodol yn y gweithle ac amser digonol i astudio’n breifat i’w galluogi i gael eu
cymhwyster o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.

CWYNION A DISGYBLU

● Bydd y swyddogion dan hyfforddiant yn ddarostyngedig i amodau trefniadau cwyno a dis-


gyblu y bwrdd sy’n cyflogi. Pan fydd swyddog dan hyfforddiant yn tynnu yn ôl o gwrs astu-
dio, neu am gael ei dynnu allan yn unol â’r trefniadau perthnasol, bydd y cytundeb hyfforddi
rhwng y swyddog dan hyfforddiant a’r bwrdd yn cael ei ddirwyn i ben, er y gwneir pob
ymdrech i ddarganfod gwaith arall o fewn y gwasanaeth y bydd yr unigolyn yn addas i
ymgymryd ag ef.
CWBLHAU HYFFORDDIANT

● Wedi iddynt gwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus, bydd y bwrdd sy’n cyflogi yn


gwneud pob ymdrech i gynnig gwaith addas i’r rhai dan hyfforddiant o fewn yr ardal yn
fras, er na ellir rhoi gwarant bendant y bydd gwaith ar gael. Lle nad oes gwaith addas,
bydd y byrddau yn ymgynghori â’r hyfforddeion, yn eu cynorthwyo a’u hannog i chwilio am
waith mewn rhan arall o’r gwasanaeth.

● Disgwylir i hyfforddeion dderbyn cynnig o waith addas gan y bwrdd sy’n cyflogi wedi cwbl-
hau’r hyfforddiant yn llwyddiannus. Lle nad oes gwaith addas o fewn ardal y bwrdd sy’n
cyflogi, disgwylir i’r hyfforddai dderbyn cynnig rhesymol o waith gydag unrhyw un o’r byrd-
dau o fewn yr ardal Gonsortiwm berthnasol neu mewn rhan arall o’r Gwasanaeth.

SWYDDOGION A SWYDDOGION CYNORTHWYOL Y GWASANAETH PROFIANNAETH

● Mae’r graddau hyn yn cael eu recriwtio yn lleol a hysbysebir swyddi yn y wasg yn lleol, y
wasg i leiafrifoedd ethnig a chanolfannau gwaith fel bydd angen. Mae’r niferoedd yn cael
eu cynyddu yn fawr a byddant yn cymryd mwy o waith gan swyddogion prawf yn eu

43
dyletswyddau llinell flaen. Bydd ymgeiswyr yn dangos tystiolaeth o lwyddiant academaidd i
safon lefel A o leiaf ac yn dangos parodrwydd i astudio am dystysgrif NVQ lefel 3 mewn
cyfiawnder troseddol. Mae'r cyflog o £12,744 i fyny.

● Yn yr un modd bydd swyddi mewn cefnogaeth weinyddol a TG yn cael eu hysbysebu yn


lleol.

MENYWOD YN Y GWASANAETH PROFIANNAETH

● Mae gan y Gwasanaeth Profiannaeth record ardderchog o ran recriwtio, cadw a dyrchafu
menywod.

● Ym 1989 roedd swyddogion prawf benywaidd yn cyfrif am 44% o’r cyfanswm. Tyfodd y
gyfran hon i 50% erbyn 1993 a 56% erbyn Mehefin 2000. Ymhlith y swyddogion prawf
uwch na’r Brif Raddfa mae’r gyfran sy’n fenywaidd wedi codi yn gynt na hynny o 27% yn
1989 i 44% ym Mehefin 2000. Roedd rhyw 71% o’r swyddogion prawf dan hyfforddiant
mewn swydd ar ddiwedd Mehefin 2000 yn fenywaidd ac mae 18 o’r 41 prif swyddog a
benodwyd yn dilyn yr ad-drefnu yn fenywod.

● Mae’r Gwasanaeth yn cyflogi llawer o ‘ddychweledigion’ y mae oriau gwaith hyblyg yn


gymorth iddynt.
STAFF O LEIAFRIFOEDD ETHNIG YN Y GWASANAETH

● Mae gan y Gwasanaeth Profiannaeth hefyd record dda am recriwtio staff o leiafrifoedd eth-
nig ac ar hyn o bryd mae tua 9% o’r staff o grwpiau o leiafrifoedd ethnig. Gosodwyd
targedau rhanbarthol ar gyfer recriwtio, cadw a dyrchafu.

● Darperir cyllid a chefnogaeth i Gymdeithas Swyddogion Prawf Du ac i Gymdeithas


Genedlaethol Staff Asiaidd i gynorthwyo’r cyrff hyn i chwarae rhan lawnach mewn hyrwyd-
do cydraddoldeb hiliol a chefnogi staff o leiafrifoedd ethnig o fewn y gwasanaethau profian-
naeth.

STAFF ANABL YN Y GWASANAETH

● Mae’r Gwasanaeth Profiannaeth yn ymroddedig i ddatblygu a gweithredu ymarfer da yn


bositif o ran materion anabledd a rhoddir anogaeth i bobl anabl ymgeisio. Bydd y
Gwasanaeth yn sicrhau bod gweithwyr anabl yn ymwybodol o’u hawliau o dan y Ddeddf
Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

44
Cyhoeddwyd gan y Gyfarwyddiaeth Brofiannaeth Genedlaethol 2001

You might also like